Cynnig i dynnu'r wal derfyn bresennol er mwyn darparu mynediad gwell i Gob Crwn, a chreu llwybr troed newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Nia Jeffreys
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau -
1. 5 mlynedd
2. Cwblhau’r bwriad yn unol â’r Cynlluniau
3. Cwblhau’r bwriad yn unol â’r mesurau lliniaru ac osgoi
rhesymol, a mesurau osgoi llygredd a gynhwysir o fewn yr Asesiad Amgylcheddol
Cychwynnol a’r mesurau diogelu coed a gynhwysir o fewn yr Arolwg Cynllunio
Coed.
4. Amod gwelliannau Bioamrywiaeth
Cofnod:
Cynnig i dynnu'r wal derfyn presennol er mwyn
darparu mynediad gwell i Gob Crwn, a chreu llwybr troed newydd ar gyfer cerddwyr
a beicwyr
Tynnwyd sylw at y Ffurflen
Sylwadau Hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog
Cynllunio nad oedd y llwybr presennol (un anffurfiol ac yn cynnwys ardal o
laswellt ac wyneb anwastad) yn cydymffurfio â safonau Teithio Llesol a Safonau
Hygyrchedd Cyfoes. Byddai’r gwelliant yn disodli rhannau o arwyneb glaswelltog
presennol gyda llwybr cadarn, gwastad a hygyrch.
Adroddwyd bod y safle ar bwys maes parcio
Llyn Bach mewn ardal a ddynodwyd ym Mharth 3 Llifogydd o dan bolisi TAN 15, tu
allan i ffin datblygu y CDLl ac o fewn dynodiad Ardal
o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Cafwyd cadarnhad gan yr Uned Draenio Tir
bod elfen o’r cais sydd yn ymwneud â’r system ddraenio gynaliadwy wedi ei
gymeradwyo. Cyfeiriwyd at sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth oedd yn datgan nad
oedd gwelliannau bioamrywiaeth wedi eu cynnwys fel rhan or cais, ond byddai
modd gosod amodau.
Ystyriwyd mai Polisi ISA 2: Cyfleusterau
Cymunedol oedd prif ystyriaeth y cais
yma, sydd yn nodi pwysigrwydd cyfleusterau hamdden a chymunedol lleol i
anghenion iechyd, cymdeithasol, addysgol, ieithyddol a diwylliannol ardal y
Cynllun, yn ogystal â’i les economaidd.
Nodwyd mai cynllun am lwybr cyhoeddus gyda llecynnau eistedd efo byrddau
picnic i fwynhau'r awyr agored oedd y bwriad gyda mynediad posib i bawb.
Ystyriwyd bod y bwriad a'r lleoliad arfaethedig yn briodol i'r safle ac yn
hygyrch i’r gymuned leol; y bwriad yn cwbl dderbyniol ar sail gofynion polisi
ISA 2 CDLl
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol fwy na’r hyn sydd mewn
bodolaeth yn bresennol ar fwynderau gweledol yr ardal. Tynnwyd sylw at
wrthwynebiad oedd wedi ei dderbyn ar sail colli defnydd hamddena y safle, ond
ni ystyriwyd y byddai’r llwybr yn cael effaith andwyol sylweddol ar ddefnyddwyr
presennol y safle o ran hynny; y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi PCYFF 2 a
PCYFF 3.
Gyda mynediad at y safle ar ffurf llwybr
troed a’i leoliad yn hwylus o dref Porthmadog byddai hyn yn ei wneud yn hygyrch
o ran gallu cyrraedd ato trwy lwybrau a ffyrdd presennol yn ogystal â thrwy
ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus (arosfan bysiau
parhaol gerllaw) yn ogystal â maes parcio o faint safonol ar gychwyn y llwybr.
Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi perygl na ellid ei reoli ac
felly yn dderbyniol ar sail gofynion perthnasol polisi PS 4.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod y safle wedi ei
leoli oddeutu 220m i ffwrdd o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llyn a’r
Sarnau ac ar sail y mesurau osgoi rhesymol sy’n ymwneud â dyfrgwn, ynghyd â
mesurau osgoi llygredd yn ystod y cyfnod gweithio, ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr ACA ac felly yn dderbyniol o
ran gofynion Rheoliadau Cynefinoedd a pholisi PS19.
Saif hefyd o fewn Parth Llifogi
3 (Afonydd a Môr) ynghyd a Pharthau wedi eu gwarchod. Fel rhan o’r cais,
cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd oedd yn nodi, gyda’r llwybr wedi ei godi
yn uwch na’r tir presennol, byddai yn gweithredu fel haen ychwanegol i
amddiffyn rhag llifogydd. Ni dderbyniwyd ymateb gan CNC, ond disgwylir y
byddai’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 11 o’r Nodyn Cyngor
Technegol.
Nid oedd gan y Gwasanaeth Priffyrdd wrthwynebiad
i’r bwriad a derbyniwyd sylwadau a chyngor cyffredinol gan Dwr Cymru.
Yng nghyd-destun materion ieithyddol, gyda’r
bwriad yn darparu cyfleuster ar gyfer y gymuned leol ac yn golygu bydd mwy o
bobl yn gallu mwynhau’r ardal, ni
ystyriwyd y byddai’n debygol o gael
effaith andwyol ar yr Iaith ac felly’n cydymffurfio gyda Polisi PS1.
Gyda’r bwriad yn cydymffurfio gyda polisïau
Cynllunio perthnasol, roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag
amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
Aelod Ward Gyffiniol ar ran yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Bod Cob Crwn yn rhan o
fywyd pob dydd trigolion Porthmadog
·
Y llwybr troed yn cael
llawer o ddefnydd – cerddwyr, beicwyr a gwylwyr adar
·
Y cynllun yn un da – yn
llesol i’r meddwl ac i’r corff
·
Nad oedd angen cau y
llwybr presennol
·
Yn croesawu’r gwariant
·
Yn gefnogol i’r cais
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu
gydag amodau -
1. 5 mlynedd
2. Cwblhau’r bwriad
yn unol â’r Cynlluniau
3. Cwblhau’r
bwriad yn unol â’r mesurau lliniaru ac osgoi rhesymol, a mesurau osgoi llygredd
a gynhwysir o fewn yr Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol a’r mesurau diogelu coed
a gynhwysir o fewn yr Arolwg Cynllunio Coed.
4. Amod
gwelliannau Bioamrywiaeth
Dogfennau ategol: