Ail
gyflwyniad o gais i newid defnydd yr uned swyddfa B1 bresennol i ddefnydd
cymysg sy'n cynnwys uned cleifion allanol feddygol (dosbarth defnydd D1) a
gofod swyddfa (B1).
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: CANIATÁU yn
groes i’r argymhelliad
AMODAU:
Cofnod:
Ail gyflwyniad o gais i newid defnydd uned
swyddfa B1 bresennol i ddefnydd cymysg
sy'n cynnwys uned gleifion allanol feddygol (dosbarth defnydd D1) a gofod
swyddfa (B1).
Tynnwyd sylw at y Ffurflen
Sylwadau Hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog
Cynllunio bod y cais yn ail-gyflwyniad o gais a wrthodwyd yn mis Tachwedd 2025 ar
gyfer newid defnydd o swyddfa i ddefnydd cymysg Swyddfa ac Uned Cleifion
Allanol Feddygol o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc Menai, Bangor. Amlygwyd
mai newidiadau mewnol i’r llawr gwaelod yn unig fyddai’r bwriad gyda chynllun
safle ar gyfer 13 lle parcio wrth ymyl yr uned, a 13 llecyn ychwanegol cyfagos,
fyddai’n rhoi cyfanswm o 26 lle parcio ar gyfer yr uned.
Saif yr uned o fewn Parc Menai a ddynodwyd yn
y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fel Prif Safle Busnes
y Ganolfan Isranbarthol; sy’n cael ei warchod ar gyfer defnyddiau cyflogaeth
benodol. Eglurwyd mai dim ond mewn
achosion eithriadol y ceir defnyddiau amgen, a bod polisïau’r cynllun yn hyrwyddo
datblygiadau canol tref er mwyn gwella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi.
Nodwyd, yn arferol byddai’r cais yn cael ei
benderfynu o dan hawliau dirprwyedig, ond derbyniwyd gohebiaeth gan ddau aelod
lleol i Fangor yn galw’r cais i
bwyllgor.
Cyfeiriwyd at Polisi CYF 5 sy’n nodi mai mewn
achosion arbennig yn unig y gellid caniatáu cynigion i ryddhau tir yn Nefnydd
Dosbarth B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod
yn unol a Pholisi CYF1 ar gyfer defnyddiau amgen. Yn seiliedig ar y wybodaeth a
gyflwynwyd nid oedd achos arbennig wedi ei brofi. Yn ogystal, nid oedd yr
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi’i argyhoeddi nad oedd safleoedd amgen addas o
fewn y ffin datblygu ar gyfer y defnydd arfaethedig.
Nodwyd bod yr asiant wedi cyflwyno gwybodaeth
ychwanegol ynghylch eiddo nad oedd ar gael ar adeg cwblhau’r asesiad
dilyniannol, ynghyd â chadarnhad o’r rhesymau pam nad oeddynt yn addas. Roedd
hefyd wedi amlygu sefyllfaoedd lle nad yw’n briodol ystyried eiddo sydd yn
methu diwallu anghenion masnachol y datblygwr, ac o ganlyniad, mai dim ond
safleoedd sydd ar gael i’w rhentu sy’n berthnasol yn yr achos yma. Er bod yr
asiant yn parhau i farnu nad oedd unrhyw eiddo addas arall ar gael, roedd yr
Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau o’r farn bod y cynnig yn groes i Bolisi CYF5
o’r CDLl.
Amlygwyd bod polisïau PS15 a MAN 1 o'r CDLl yn gwrthsefyll datblygiadau fyddai’n tynnu oddi ar
fywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a’r ardaloedd manwerthu, gwneud y mwyaf i
ailddefnyddio adeiladau addas mewn canol trefi, a gwrthsefyll ymestyn
datblygiadau manwerthu a hamdden y tu allan o ganol trefi, oni bai eu bod yn
cael eu cefnogi gan dystiolaeth o'r angen am ddarpariaeth ychwanegol, a
bodloni'r dull dilyniannol sydd wedi ei nodi mewn polisi cynllunio
cenedlaethol. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau o’r farn y gallai’r
bwriad arwain at danseilio prysurdeb, swyddogaeth a hyfywedd canol Dinas Bangor
ac felly ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda polisi PS 15 a MAN 1
o’r CDLl.
Ategwyd y dylid sicrhau fod y bwriad yn
cydymffurfio â holl feini prawf Polisi ISA 2 o’r CDLl
ac er yn cydnabod yr holl wybodaeth gefndirol a gyflwynwyd yn egluro natur
arbenigol a gweddol unigryw'r cyfleuster arfaethedig, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol ar sail egwyddor gan nad yw'r cyfleuster cymunedol arfaethedig wedi
ei leoli o fewn ffin datblygu, yn ymyl y ffin datblygu, nac o fewn clwstwr; y
bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF1 ac ISA2 o'r CDLl.
Adroddwyd bod materion mwynderau gweledol,
mwynderau cyffredinol a phreswyl, materion trafnidiaeth a mynediad, materion
ieithyddol, a materion bioamrywiaeth, wedi derbyn sylw ac asesiad llawn, yn
ogystal â sylwadau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr.
Wedi ystyried yr holl ystyriaethau Cynllunio,
ystyriwyd nad oedd y cynnig fel a gyflwynwyd, yn dderbyniol nac yn bodloni
gofynion polisïau perthnasol. Roedd y Swyddogion yn argymell gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:
·
Bod ganddo wybodaeth
leol gadarn a dealltwriaeth broffesiynol a busnes o'r cynnig gerbron
·
Bod argymhelliad y
swyddog i wrthod yn un cadarn ynghyd ag ail adroddiad gan ymgynghorydd
cynllunio annibynnol.
·
Bod dau Aelod lleol i
Fangor wedi galw'r cais i mewn, gan gredu bod sail gadarn i wneud hynny. Ei rôl
oedd tynnu sylw at sail ddiffygiol eu penderfyniad a diddymu rhinweddau ffug y
cynnig: Yr Aelodau'n credu mai'r cyfiawnhad
dros y cynnig oedd,
·
Defnydd addas a chydnaws
Parc Menai
·
Cynsail o ddefnyddiau
cymharol ym Mharc Menai
·
Diwallu angen yn yr
ardal
·
Dim lleoliad arall -
angen casglu/gollwng cleifion y tu allan i'r drws
·
Cyflwynodd sylwadau
personol oedd yn diddymu'r safbwyntiau uchod.
1. Polisïau PS13 a CYF1 – bod Parc Menai
wedi'i ddynodi'n Brif Safle Cyflogaeth, ac felly wedi'i ddiogelu, yn bennaf ar
gyfer Defnyddiau Cynllunio B1. Er bod Polisi CYF5 yn caniatáu ystyriaeth at
ddefnyddiau amgen ar safleoedd dynodedig o'r fath, byddai hyn yn amodol ar
gyfres o feini prawf. Nid yw'r cynnig yn bodloni'r amgylchiadau eithriadol sy'n
ofynnol i gyfiawnhau Dosbarth Defnydd nad yw'n Ddosbarth Defnydd B1 yn y
lleoliad yma, felly byddai natur ddiogel y safle yn cael ei beryglu.
2. Polisïau PS15 a MAN1 - rhaid i ddefnydd
sy'n fwy priodol i leoliad canol tref, ac sy'n cael eu cynnig y tu allan i'r
lleoliad hwnnw gael eu cyfiawnhau gan angen tystiolaethol a rhaid profi'r
safleoedd sydd ar gael yn olynol. Yn yr achos yma, bydd y defnydd arfaethedig
yn fwy priodol mewn lleoliad canol tref, lle mae safleoedd addas ar gael, ac mi
fyddai’n cyfrannu at fywiogrwydd, hyfywedd ac adfywio canol Dinas Bangor. Mae'r
model busnes a'r hyn a ymddengys fel ‘angen’ yn y lleoliad yma yn cael ei herio'n
gryf. Nid oes gofyniad penodol i leoli’r
busnes yn y lleoliad penodol hwn, na ger Ysbyty Gwynedd.
3. Polisi ISA2 – diffinnir y defnydd
arfaethedig fel cyfleuster cymunedol, sydd rhaid ei leoli o fewn ffin ddatblygu
ddiffiniedig. Yn yr achos yma, mae'r defnydd a'r lleoliad arfaethedig yn groes
i bolisi ac yn peryglu egwyddorion lleoli cyfleusterau cymunedol mewn
lleoliadau cynaliadwy.
4. Polisïau PS4, PS5 a TRA4 - yr egwyddor
allweddol yw lleoli datblygiadau, a ddefnyddir yn bennaf gan y cyhoedd, mewn
lleoliad cynaliadwy, sy'n hygyrch trwy ddulliau trafnidiaeth eraill, gan
gynnwys cerdded a beicio. Yn yr achos yma, mae safbwynt cefnogaeth y Swyddog,
ynghyd â safbwynt yr Uned Drafnidiaeth, yn destun dadl sydd yn seiliedig ar
wybodaeth allweddol:
·
bod y gofynion parcio a
nodwyd ar gyfer y defnydd arfaethedig wedi ei dan amcangyfrifo’n fawr.
·
Nid yw gwasanaeth bws
Arriva 5A yn un 'rheolaidd' fel y cyfeirir ato, yn ymarferol. Bod gwasanaeth
bws i'r lleoliad yma wedi'i ddylanwadu'n fawr gan duedd cyflogaeth Parc Menai,
felly gwasanaeth bws bore a gyda'r nos yn unig sy'n cael ei ddarparu ar gyfer
staff swyddfa sy'n cyrraedd ac yn gadael busnesau Parc Menai.
Wrth grynhoi nododd,
·
Nad oedd unrhyw
gyfiawnhad rhesymegol dros leoli'r cynnig ym Mharc Menai.
·
Am yr ail dro, nid oedd
amgylchiadau eithriadol wedi'u profi i fynd yn groes i bolisi cynllunio
sefydledig
·
Bod safleoedd
eraill mwy priodol ar gael mewn
lleoliadau canol tref
·
Bod adroddiad yr Uned
Priffyrdd yn wallus ac yn ffeithiol anghywir.
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor
gydnabod argymhelliad y Swyddog a gwrthod y cais
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Byddai’r busnes yn
darparu gwasanaeth iechyd arbenigol i gleifion lleol mewn ymateb i argyfwng
gofal iechyd Gogledd Cymru sydd gyda rhestrau aros i weld arbenigwr yn gallu
bod hyd at 4 mlynedd
·
Yn 2023, bu i’r busnes,
ar draws ei safleoedd, roi mynediad am ddim i 12,000 o gleifion a arweiniodd at
adnabod 53 achos cynnar o gancr
·
Bod yr uned ym Mharc
Menai wedi bod yn wag ers tro. Er bod yr uned wedi ei farchnata am 20 mis, dim
diddordeb ar gyfer defnydd swyddfa wedi bod ac felly, hyn yn amlygu’n glir nad
oes galw i ddefnydd B1
·
Pryderon yn awgrymu y
dylid blaenoriaethu lleoliad yng nghanol Dinas Bangor, ond i greu canolfan
iechyd mae angen awyrgylch amgylcheddol tawel, mynediad cyfleus i gleifion
bregus, cyfleusterau da, man gollwng wrth y drws a pharcio diogel cyfagos. Yn
realistig, Parc Menai yw’r unig safle
sy’n bodloni'r gofynion hyn
·
Bod yr unedau sydd yng
nghanol Dinas Bangor yn anaddas oherwydd maint,
diffyg parcio ac amgylchedd i gleifion bregus
·
Bod Cyngor Gwynedd
eisoes wedi derbyn yr egwyddor - unedau
meddygol deintydd ac optegydd eisoes yn gweithredu o dan yr un dosbarth defnydd
ym Mharc Menai, pam felly nad yw’n dderbyniol i’r cynnig yma?
·
Dylai polisïau cynllunio
wasanaethau’r bobl nid rhwystro gwelliannau a mynediad i ofal iechyd pobl. Yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y
darlun ehangach a chydnabod yr argyfwng a chefnogi’r cais er budd y gymuned
·
Nid penderfyniad ar
gyfer adeilad yn unig sydd yma, ond penderfyniad fydd yn rhoi mynediad at ofal
ac achub bywydau
ch) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd un
o’r Aelodau oedd wedi galw’r cais i mewn y sylwadau canlynol;
·
Bod statws Parc Menai
fel Parc Busnes yn weithredol ddiystyr ers blynyddoedd; caniatawyd busnes orthodonteg gan y Pwyllgor, ac fe
chwalwyd y cysyniad yn llwyr gyda chais Coleg Menai - er bod swyddogion wedi
argymell gwrthod y cais hwnnw cafodd ei ganiatáu ar apêl, ac felly yn wahanol
i’r swyddogion cynllunio ni wnaeth PCAC (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd
Cymru – PEDW) arddel statws y Parc fel Parc Busnes.
·
Bod y cais a ganiatawyd
gan y Pwyllgor am fusnes orthodonteg wedi ei ganiatáu yn bennaf oherwydd
mynediad cyfleus at wasanaeth. Bod rhesymeg i ganiatáu busnes orthodonteg,
oherwydd mynediad hygyrch, pam felly dim caniatáu hwn?
·
Ni fyddai lleoli’r
busnes yng nghanol y ddinas yn rhesymol i lawer
·
Busnes ymgynghorol ydyw
yn y bôn gydag ystafelloedd triniaeth i gefnogi’r agwedd ymgynghori. Pa mor wahanol ydy hyn o fynd i
gael cyngor gan gyfreithiwr neu gyfrifydd? - mae unedau busnesau cyfreithiol a
chyfrifeg wedi eu lleoli yn y Parc. Beth yw’r gwahaniaeth?
·
Bod cleifion yn methu a
chyrraedd at y gwasanaeth yng nghanol y ddinas
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor
ganiatáu’r cais
d) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad
Rheswm: Bod ‘amgylchiadau arbennig’ yma ac
felly’r cais yn cydymffurfio â pholisi B1. Anodd fyddai i bobl fregus fynychu
gwasanaeth o’r fath yng nghanol y ddinas
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y lleoliad yn addas
a chyfleus i gleifion
·
Nad yw canol Dinas
Bangor yn addas i’r math yma o wasanaeth - angen mynediad cyfleus i gleifion
bregus
·
Gwella canol Dinas
Bangor ynteu wella gwasanaeth i gleifion? - mynediad at ganol y Ddinas yn anodd
- angen hybu Gwasanaethau Iechyd Gogledd Cymru
·
Pwysig gofalu am
gleifion.
·
Newid arferion siopa
pobl sydd ei angen i adfywio canol y Ddinas.
·
Pryder eto nad oedd sylwadau
wedi eu derbyn gan Cyngor Dinas Bangor - beth all y Pwyllgor wneud i hwyluso
hyn?
·
Bod angen adnodd o’r
fath, ond a’i dyma’r lle mwyaf addas?
·
Cyngor yn derbyn
beirniadaeth am symud busnesau / gwasanaethau o’r stryd fawr
·
Bod datblygiad canolfan
feddygol i ganol y Ddinas fydd wedi ei lleoli gerllaw'r orsaf bysiau ar droed
·
Byddai caniatáu yn tynnu
oddi ar adfywiad canol Dinas Bangor – byddai’n gosod cynsail
Mewn ymateb i gwestiwn a
oedd unedau gwag eraill ym Mharc Menai, cadarnhawyd bod unedau gwag yno, a bod
hyn wedi cael ei gyflwyno fel rhan o’r cais gan yr asiant
PENDERFYNWYD: CANIATÁU
yn groes i’r argymhelliad
AMODAU:
1. 5
mlynedd
2. Unol
a’r cynlluniau
3. Pan ddaw’r defnydd a ganiateir drwy hyn i
ben, rhaid adfer y defnydd yn ôl i ddefnydd B1,B2 neu B8
Dogfennau ategol: