Agenda item

Dymchwel adeiladau presennol yr ysgol ac adeiladu ysgol a chanolfan gymunedol newydd ynghyd â'r holl dirlunio allanol, ffordd fynediad a maes parcio. Gosod strwythurau ategol gan gynnwys canopïau sy'n sefyll yn rhydd, llochesi beicio, ardal ysbwriel a thanciau chwistrellu a'r holl offer chwarae allanol yn ôl yr angen i gefnogi adeilad newydd yr ysgol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1. Amser (5 mlynedd)

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol

4. Amodau trafnidiaeth

5. Amodau archeolegol.

6. Amod tirlunio a choed.

7. Amod bioamrywiaeth

8. Amodau cytuno golau allanol o flaen llaw

9. Amodau Gwarchod y Cyhoedd

10. Amodau Dŵr Cymru

11. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru

12. Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu

13. Enw Cymraeg i’r ysgol.

14. Arwyddion Cymraeg

 

Nodiadau

1. Dŵr Cymru

2. Cyfoeth Naturiol Cymru

3. Priffyrdd

4. SUDS

5. Nodyn Cais Mawr

 

Cofnod:

Dymchwel adeiladau presennol yr ysgol ac adeiladu ysgol a chanolfan gymunedol newydd ynghyd â'r holl dirlunio allanol, ffordd fynediad a maes parcio. Gosod strwythurau ategol gan gynnwys canopïau sy'n sefyll yn rhydd, llochesi beicio, ardal ysbwriel a thanciau chwistrellu a'r holl offer chwarae allanol yn ôl yr angen i gefnogi adeilad newydd yr ysgol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y byddai’r datblygiad yn cynnwys ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer 210 o ddysgwyr a chanolfan gymunedol, darpariaethau ar gyfer Cylch Meithrin, dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd â neuadd gymunedol a mannau newid llawn. Bydd yr adeilad yn ddau lawr ac wedi’i ddylunio gydag egwyddorion cynaliadwy i leihau’r galw am ynni.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal yn bennaf anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Gwasanaeth Bontnewydd fel y dangosir ym Mapiau Mewnosod y CDLl.  Mae rhan ddwyreiniol y safle oddi fewn i ardal Cadwraeth Bontnewydd gyda nifer o adeiladau rhestredig i’r dwyrain gyferbyn.  Mae'r safle wedi ei leoli ar gyrion Ardal Cadwraeth Arbennig Ffosfforws (ACA) (SAC) Afon Gwyrfai; o fewn Parth B Mapiau Cyngor Datblygu, fel y cyfeiriwyd yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN 15): Datblygiad a Risg Llifogydd (2004); ac yn rhannol o fewn parthau llifogydd 2 a 3 (Afonydd ac Mor, a Dŵr wyneb a chyrsiau dwr) a Pharth amddiffynnol (Afonydd) yn ôl Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.  

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn adeilad yn mesur dros 1000 medr sgwâr.

 

Nodwyd bod Polisi ISA 2 Cyfleusterau Cymunedol y CDLl yn gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd. Ystyriwyd bod y cynnig yn cyfarch pum maen prawf y polisi gan fod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bontnewydd ar safle hygyrch yr Ysgol bresennol, a’i fod yn rhesymol ceisio codi adeilad newydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer gofynion addysgol ac amgylcheddol cyfoes o ystyried cyflwr yr adeilad presennol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y datblygiad yn cynyddu arwynebedd llawr yr adeilad ysgol o tua traean, ond bydd defnydd mwy effeithlon o ofod drwy ddisodli dau adeilad unllawr ag un adeilad deulawr. Cydnabuwyd y bydd rhywfaint o effaith weledol, ond ystyriwyd y bydd y datblygiad yn parchu cyd-destun ei safle yn unol â gofynion Polisi PCYFF 3, ac ni fyddai’n effeithio’n andwyol ar yr ardal gadwraeth ac felly’n cydymffurfio a gofynion perthnasol polisi AT 1.

 

Yng nghyd-destun mwynderau Cyffredinol a Phreswyl adroddwyd nad oedd y datblygiad yn newid defnydd y safle na nifer y dysgwyr, ac er bod yr adeilad yn fwy, bydd pellteroedd rhwng yr ysgol a thai cyfagos yn parhau’n rhesymol; nid oedd disgwyl felly gweld cynnydd arwyddocaol mewn gor-edrych nac effaith dominyddu. Ategwyd y bydd mesurau lliniaru sŵn a goleuo’n cael eu cynnwys yn y dyluniad i leihau effeithiau ar drigolion lleol ynghyd ac amodau ar gyfer cytuno unrhyw olau ychwanegol. Bydd defnydd cymunedol o gyfleusterau allanol megis y cwrt Ardal Gemau Aml Ddefnydd yn gyfyngedig i oriau golau dydd oherwydd nid oes goleuadau allanol pwrpasol yn rhan o’r cais, ac felly’n gyfystyr a defnydd o’r ardal yma yn bresennol fel caeau chwarae.

 

Disgwylid rhywfaint o aflonyddwch dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu, ond bydd hyn yn gallu cael ei reoli trwy amod i dderbyn Cynllun Rheoli Effaith Amgylcheddol o flaen llaw fydd yn gosod allan mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw aflonyddwch; ni ystyriwyd y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau lleol, a’i fod yn cydymffurfio â pholisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Wrth ystyried materion Trafnidiaeth a Mynediad nodwyd bod problemau traffig presennol yn yr Ysgol oedd yn cynnwys mynediad cul, diffyg lle parcio a gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr, yn enwedig ar adegau prysur. Eglurwyd bod y datblygiad yn cyflwyno system unffordd newydd gyda llwybr stacio ar y safle i leihau tagfeydd a gwella diogelwch.  Bydd cerddwyr a cherbydau’n cael eu gwahanu’n well drwy lwybrau troed penodol, a darperir mannau parcio a gollwng oddi ar y brif ffordd. Bydd Cynllun Teithio'r bwriad yn hyrwyddo teithio cynaliadwy, ac nid oedd gan yr Adran Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cais yn cwrdd â gofynion polisïau PS 4, TRA 2 & TRA 4 sy’n anelu at sicrhau darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth sy’n gynaliadwy ac yn ddiogel ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.

 

Cyflwynwyd Datganiad Seilwaith Gwyrdd, Arolygon Ecolegol a Chynllun Tirlunio fel rhan o’r cais. Nid oes presenoldeb ystlumod ar y safle. Nid oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth unrhyw bryderon ecolegol ynglŷn â’r datblygiad a nodwyd bod y cynllun plannu coed yn gyffredinol addas, ond awgrymwyd newidiadau i ddewis rhywogaethau i weddu’n well i’r ardal leol.

 

Er bod y safle yn ffinio â safle gwarchodedig (ACA Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn), mae’r gwaith yn gyfyngedig i’r ôl troed presennol ynghyd a chysylltiad i’r brif garthffos ac yn cael eu trin gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanfaglan sy’n gollwng i Afon Gwyrfai.

 

Cydnabuwyd bod capasiti’r Ysgol newydd yn cynyddu o ganlyniad i’r bwriad, ond ni fydd y nifer o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn cynyddu (er y gellid newid yn naturiol o flwyddyn i flwyddyn) ac nid oes newid i’r dalgylch. Amlygwyd bod dalgylch yr ysgol yn cyd-fynd gyda’r ardal a phentrefi sy’n cael eu gwasanaethu gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanfaglan, ac felly byddai unrhyw gynnydd mewn plant yn yr ysgol yn dod o’r ardaloedd yma. Mae defnydd cymunedol o’r ysgol yn bodoli’n barod, ac er y byddai’r adeilad newydd yn golygu mwy o ddefnydd cymunedol, mae hyn o ganlyniad i wella cyfleusterau a fyddai wedi bod yn bosib ar y safle presennol drwy greu gofodau mwy addas o fewn yr adeiladau presennol. Golygai hyn na fydd unrhyw ddefnyddwyr ychwanegol o ganlyniad i’r bwriad yma, a bod y defnyddwyr yn byw o fewn yr ardal a wasanaethir gan Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanfaglan yn barod, boed yn eu cartrefi neu yn yr ysgol/canolfan gymunedol. I’r perwyl hyn, mae’r datblygiad yn dangos niwtraliaeth ffosfforws o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol ac felly nid oes unrhyw effaith ychwanegol neu andwyol ar yr ACA sy’n methu â chyrraedd targedau ansawdd dŵr ar gyfer ffosfforws ar hyn o bryd.

 

Ystyriwyd y gellid delio gydag unrhyw lygredd adeiladu a dŵr wyneb drwy fesurau atal llygredd a rheolaeth briodol. Ni fydd effaith andwyol ar yr ardal gadwraeth arbennig a bod y datblygiad yn cwrdd gyda gofynion Polisïau PS19, AMG 5 ac AMG 6 y CDLl ynghyd a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd) sy’n annog cynhigion i warchod, a lle bo’n briodol, gwella bioamrywiaeth yr ardal ac yn sicrhau nad oes effaith andwyol ar safleoedd wedi eu gwarchod yn rhyngwladol.

 

Roedd materion Llifogydd, Draenio, Archeolegol/ Treftadaeth Cynaliadwyedd yr Iaith Gymraeg a’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus wedi derbyn asesiad llawn ac ystyriwyd bod y materion yma yn dderbyniol yn ddarostynedig i amodau perthnasol. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei bod yn gefnogol i’r cais

·        Bod Ysgol Bontnewydd yn un o dair ysgol sydd yn rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy 2023 (menter gan Lywodraeth Cymru i ddylunio ac adeiladu ysgolion sy'n sero-net ac yn cynnwys adnoddau cymunedol o'r radd flaenaf)

·        Bod Ysgol Bontnewydd yn cynnig ei hun fel lleoliad cyfleus ynghanol y pentref, gyda llwybrau cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus yn pasio’r ysgol fydd yn hybu teithio llesol

·        Y safle yn agos at fyd natur gyda gardd a choedwig ar y safle fydd yn cyfoethogi profiadau’r disgybl

·        Yr adeilad newydd yn darparu amgylchedd modern, diogel ac addas i’r dyfodol gan wella profiadau dysgu a lles disgyblion o ddydd i ddydd

·        Y capasiti yn debyg i’r hyn sydd yno yn barod sef lle i 210 o ddysgwyr blwyddyn derbyn  i flwyddyn 6, 30 meithrin a gofod ar gyfer cylch meithrin - yn creu llwybr addysg barhaus o’r blynyddoedd cynnar ymlaen

·        Bod y disgyblion wedi bod yn rhan weithredol o’r broses gan gyfrannu syniadau ar ail ddefnyddio deunyddiau adeiladau ac ennill dealltwriaeth ymarferol o adeilad cynaliadwy, yr economi gylchol a phynciau STEM - hyn wedi rhoi cyfleoedd dysgu da  i’r plant drwy eu galluogi i deimlo’n rhan o’r prosiect o’r dechrau

·        Trigolion wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori

·        Bydd yr adeilad newydd yn eco cyfeillgar ac wedi ei adeiladu i’r safonau diweddaraf gyda charbon ymgorfforedig isel fydd yn cyfrannu at darged carbon sero-net 2030 -  hyn yn anfon neges gref i blant ofalu am yr amgylchedd a chymryd cyfrifoldeb dros eu dyfodol

·        Bydd y ganolfan gymunedol yn fywiog i drigolion y pentref a’r ardal ehangach

·        Yn fuddsoddiad cadarnhaol yn ein plant, yn ein cymuned ac ein dyfodol

·        Fel rhiant i blant sydd yn yr ysgol, yn edrych ymlaen at weld y cyfleoedd a ddaw gyda’r adeilad yma

 

Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Hapus i gefnogi gwelliant mewn safonau ysgolion

·        Y gofod yn well ac yn un hygyrch i blant

·        Adeilad pwrpasol ar gyfer arbed ynni

·        Arwain at wario llai ar gynnal a chadw, tanwydd a gwresogi

·        Croesawu’r buddsoddiad – o fudd i’r pentref

·        Y datblygiad o ddyluniad cyfoes, priodol

·        Bod y ‘timber cladding’ yn edrych yn raenus ar y dechrau ond buan iawn mae’n ymddangos yn ddi-raen

·        Bod nifer o ysgolion newydd wedi eu hadeiladu yng Ngwynedd ac er cystal yw’r adeiladau, a oes gwersi wedi eu dysgu fesul datblygiad?

 

Mewn ymateb i sylw bod nifer o’r ysgolion newydd sydd yn cael eu hadeiladu yn y Sir yn rhannol gyda thoeau fflat sydd yn fyr eu hoes, ac os oedd mecanwaith yn ei le, neu gyllideb i ail doi ymhen rhyw 20 mlynedd, nodwyd nad oedd materion cyllideb yn ystyriaeth cynllunio berthnasol, ond yn sicr bydd cynllun mewn lle i gynnal yr adeiladau yn briodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gosod pwynt gwefru ceir /bws mini trydan ar y safle, fyddai yn cyd-fynd a’r egwyddorion arbed ynni, nodwyd nad oedd hynny yn rhan o’r cais ond gall fod yn ystyriaeth i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb ei sylw mai da fyddai gweld crynodeb o ymateb staff, disgyblion a llywodraethwyr i’r cais a bod lle i ystyried cynnwys hyn mewn adroddiadau i’r dyfodol, nodwyd bod sylwadau gan y cyhoedd wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad a bod cyfleoedd i 3ydd parti gyflwyno sylwadau yn y pwyllgor, ond yn derbyn y sylw gyda chais o’r math yma.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1. Amser (5 mlynedd)

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol

4. Amodau trafnidiaeth

5. Amodau archeolegol.

6. Amod tirlunio a choed.

7. Amod bioamrywiaeth

8. Amodau cytuno golau allanol o flaen llaw

9. Amodau Gwarchod y Cyhoedd

10. Amodau Dŵr Cymru

11. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru

12. Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu

13. Enw Cymraeg i’r ysgol.

14. Arwyddion Cymraeg

 

Nodiadau

1. Dŵr Cymru

2. Cyfoeth Naturiol Cymru

3. Priffyrdd

4. SUDS

5. Nodyn Cais Mawr

 

Dogfennau ategol: