Agenda item

Cais ar gyfer gweithredu gwaith ailgylchu, sgrinio ac adfer deunyddiau gwastraff anadweithiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r canlynol:

 

1.         Datblygiad i ddechrau o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd.

2.         Daw'r gweithrediadau i ben erbyn 31/12/2028. Adfer y safle erbyn 30/06/2029 (i gyfateb i ganiatâd mwynau cyfeirnodC24/1126/34/AC).

3.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

4.         Marcio ffiniau ardal y caniatâd ac adeiladu pwynt casglu dŵr wyneb gan gynnwys bwnd i'w gadw ar y safle cyn dechrau ar y datblygiad. 

5.         Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, codi strwythurau, ffyrdd, llifoleuadau a ffensys.

6.         Ni fydd unrhyw beth heblaw deunyddiau gwastraff anadweithiol yn cael eu mewnforio i'r safle (Codau Gwastraff wedi eu nodi yn yr Asesiad Cynllunio Gwastraff).  Dylai archwiliad o'r deunydd fod ar gael ar gais.

7.         Ni chaniateir cludo mwy na 50,000 tunnell o ddeunyddiau gwastraff anadweithiol i'r safle fesul blwyddyn. Ni fydd mwy na 20,000 tunnell yn cael ei storio ar y safle ar unrhyw un amser.

8.         Oni chytunwyd fel arall yn ysgrifenedig, bydd manylion lleoliad a manylebau unrhyw lifoleuadau yn cael eu cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff cyn y gwaith gosod.

9.         Oriau Gweithio. (yn cyd-fynd â'r presennol).

10.       Cyfyngiadau sŵn (yn cyd-fynd â'r presennol).

11.       Cynllun Rheoli Sŵn i'w gyflwyno cyn pen 3 mis o gael caniatâd.

12.       Bydd yr holl gerbydau, offer a pheiriannau a weithredir yn y safle yn cael eu cynnal yn y fath fodd fel ag i gyfyngu uchafswm lefelau allyriadau sŵn i'r rhai a nodir ym manyleb y gweithgynhyrchwr.  Ni fydd unrhyw gyfarpar, offer na pheiriannau yn cael eu gweithredu ar y safle oni bai eu bod wedi eu gosod gyda sgriniau atal sŵn, 'casework', caeadau a distewyddion.

13.       Ni fydd unrhyw weithrediadau yn digwydd ar y safle yn y fath fodd fel ag i achosi i lwch dihangol godi a bydd system chwistrellu dŵr neu system atal llwch yn cael ei chynnal ar y safle bob amser ynghyd â chyflenwad digonol o ddŵr. Bydd deunyddiau stoc gaiff eu pentyrru a'r ardaloedd ble mae cerbydau olwynion yn teithio arnynt neu ble mae'r gwaith o drin neu symud deunyddiau yn digwydd yn cael eu dyfrio neu fel arall yn cael eu trin ar adegau neu gyfnodau fel sydd angen i atal llwch o'r fath rhag codi. 

14.       Dylid sicrhau bod arwyneb y fynedfa i'r ffordd gyhoeddus yn cael ei chadw yn rhydd rhag llaid a malurion eraill a'i bod yn cael ei chadw bob amser mewn cyflwr derbyniol i'r Awdurdod Cynllunio Gwastraff gan sicrhau bod llaid yn cael ei atal rhag cael ei ddyddodi ar y ffordd gyhoeddus. 

15.       Gosodir gorchuddion ar loriau sy'n gadael ac yn cyrraedd y safle gyda cherrig neu ddeunydd sy'n llai na 500mm.

16.       Cyfyngu ar fynediad cerbydau i'r trefniadau mynediad presennol.

17.       Bydd copi o'r penderfyniad hwn â'r cynlluniau a gymeradwyir sy'n dangos y dull a chyfeiriad y gweithio a'r gwaith adfer yn cael ei ddangos yn swyddfa gweithredwr y safle a thrwy'r amser yn ystod oes y safle.

18.       Bydd y modd ymarferol gorau a/neu larymau gwrthdroi 'sŵn gwyn' yn cael eu gosod ar beiriannau symudol a cherbydau a ddefnyddir ar y safle.

19.       Bydd olew, tanwydd a chemegau yn cael eu cadw ar leoliad anhydraidd gyda bwndiau.

20.       Bydd y gweithredwr yn monitro'r safle ar gyfer presenoldeb rhywogaethau planhigion ymledol nad ydynt yn gynhenid, yn ystod pob gwedd o'r datblygiad, gan ganolbwyntio ar Lysiau'r Dial a gweithredu mesurau rheoli fel sy'n briodol.

21.       Adfer ac Ôl-ofal (yn cyfateb i'r presennol).

Cofnod:

Cais ar gyfer gweithredu gwaith ailgylchu, sgrinio ac adfer deunyddiau gwastraff anadweithiol

 

Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr oedd yn nodi nad oedd gan AHNE wrthwynebiad.

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Mwynau mai’r bwriad oedd ailgylchu ac adfer gwastraff anadweithiol drwy brosesau ffisegol megis sgrinio, i gynhyrchu agregau eilaidd yn unol â safonau WRAP. Byddai’r gweithgareddau’n digwydd ar y llain galed bresennol ac yn debyg eu natur i waith presennol y safle. Bydd deunyddiau’n cael eu cludo drwy’r rhwydwaith ffyrdd presennol, a bydd dŵr yn cael ei ailgylchu ar y safle drwy system lagŵn, heb ei ollwng oddi ar y safle. Bydd yr oriau a’r amodau gweithredu yn aros fel y rhai sydd eisoes wedi’u sefydlu ar gyfer y chwarel.

 

Eglurwyd bod y cais wedi ei sgrinio o dan reoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol ac ystyriwyd nad yw’r datblygiad yn debygol o gael effeithiau sylweddol, ac felly nid oedd angen cyflwyno Datganiad Amgylcheddol.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y cais nodwyd bod y safle eisoes wedi’i ddynodi ar gyfer rheoli gwastraff dan Bolisi GWA 1, ac felly’n dderbyniol. Bydd y bwriad yn cynnwys trin hyd at 50,000 tunnell y flwyddyn drwy brosesau ffisegol yn unig, er mwyn cynhyrchu agregau a deunyddiau wedi’u hailgylchu; asesiadau wedi dangos na fydd effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd na mwynder lleol. Nodwyd bod polisïau cenedlaethol a lleol yn cefnogi rheoli gwastraff cynaliadwy, ar yr amod nad oes effeithiau andwyol ar yr amgylchedd na mwynder trigolion. Yn yr achos hwn, mae’r asesiadau yn dangos na fydd effeithiau arwyddocaol o ran y dirwedd, yr amgylchedd na mwynder. Ategwyd bod y cais yn cael ei gefnogi gan Asesiad Cynllunio Gwastraff oedd yn amlygu’r angen am y cyfleuster, yn enwedig i brosesu deunydd o waith carthu, ac  yn galluogi’r safle i arallgyfeirio ei weithgareddau. Yn gyffredinol, y bwriad yn cefnogi’r economi gylchol trwy leihau gwastraff a’r angen am ddeunyddiau newydd, ac felly fe’i hystyriwyd yn ffurf gynaliadwy o ddatblygiad sy’n cydymffurfio â pholisïau perthnasol  PS 21, GWA 1 o’r CDLl a Nodyn Cynllunio Technegol 21.

 

Yng nghyd-destun Mwynderau Gweledol a’r dirwedd, nodwyd bod y cais wedi’i asesu yn erbyn polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4, sy’n ymwneud ag effaith datblygiadau ar gymeriad y dirwedd a mwynder gweledol, ynghyd â pholisïau MWYN 3 a MWYN 9, sy’n ymwneud â datblygiadau mwynau a’u hadfer. Yn yr achos hwn, nodwyd bod y datblygiad yn cael ei leoli o fewn chwarel weithredol a'r ardal brosesu bresennol, heb unrhyw estyniad i ôl-troed y safle ac mai’r unig  newid ffisegol yw bwnd cymharol isel ar hyd ffiniau’r safle. Ategwyd bod y peiriannau prosesu eisoes yn bresennol ac yn llai o ran graddfa na’r gweithgarwch mwynau presennol, ac felly ni fyddant yn cyflwyno effaith weledol newydd arwyddocaol. Mynegwyd bod yr asesiadau yn cadarnhau na fydd effaith annerbyniol ar y dirwedd ehangach nac ar ddynodiadau sensitif cyfagos, yn ogystal á’r datblygiad yn cael ei gyfyngu i oes y chwarel ac yn cael ei adfer yn unol â gofynion polisi MWYN 9 ac felly effeithiau gweledol a thirweddol y bwriad yn gyfyngedig ac yn dderbyniol, ac yn cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3, PCYFF 4, MWYN 3 a MWYN 9.

 

Wrth ystyried Mwynderau Cyffredinol a Phreswyl, adroddwyd bod y bwriad yn ymwneud â gweithgarwch ailgylchu a sgrinio gwastraff anadweithiol sy’n debyg iawn i weithrediadau presennol safle Cefn Graianog ac sydd wedi bod yn destun rheolaeth trwy amodau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol. Er nad yw’r polisïau mwynau yn uniongyrchol berthnasol, nodwyd eu bod yn rhoi canllawiau clir y dylid osgoi effeithiau annerbyniol ar drigolion o ran sŵn, llwch a mwynder cyffredinol. Yn yr achos yma, nid oes unrhyw eiddo sensitif o fewn 100 metr, ac mae’r safle eisoes yn gweithredu dan drefniadau rheoli llym; y bwriad yw gosod yr un mesurau rheoli gweithredu ac nid oedd gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau lleol, ac felly yn cydymffurfio â pholisïau PCYFF 2 a GWA 1.

 

Yng nghyd-destun Materion Traffig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Thir Comin, eglurwyd nad oedd y bwriad yn cynnwys unrhyw newidiadau i’r mynediad presennol, ac ni ddisgwylid cynnydd yn nifer y symudiadau trafnidiaeth, gan y bydd y traffig yn debygol o fantoli’r gweithgarwch mwynau presennol. Ystyriwyd bod y rhwydwaith ffyrdd lleol yn addas i ymdopi â’r llif traffig, ac ni ragwelir unrhyw effaith andwyol ar hawliau tramwy cyhoeddus; y cynnig yn dderbyniol o safbwynt trafnidiaeth ac yn cydymffurfio â pholisïau PS 4 a TRA 4.

 

O ran materion ecolegol, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Isadeiledd Gwyrdd sy’n dilyn dull fesul cam i leihau effaith ar fioamrywiaeth. Nid oedd yr Uned Bioamrywiaeth yn gwrthwynebu’r cais ac roeddynt yn ystyried y datganiad yn dderbyniol. Aseswyd y datblygiad o dan Reoliadau Cynefinoedd ac er bod y safle yn agos at Ardal Cadwraeth Arbennig Corsydd Eifionydd a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cyfagos, nodwyd bod y gwaith wedi ei leoli y tu allan i’r safleoedd hyn heb gysylltiad hydrolegol na ffisegol, ac felly ni fydd colled uniongyrchol o gynefinoedd ac mi fyddai’r mesurau rheoli dŵr a llwch yn lleihau unrhyw risgiau pellach. O ganlyniad, ac yn unol â chyngor CNC, ystyriwyd na fydd effaith andwyol ar gyfanrwydd yr ACA a’r cynnig yn cydymffurfio gyda PS 19, AMG 3, AMG 5 a GWA 1.

 

Wrth ystyried Hydroleg a Hydroddaeareg amlygwyd bod rhan fechan o’r safle mewn parth risg llifogydd, ond hefyd bod system lagŵn gaeedig wedi’i dylunio i reoli pob dŵr ar y safle fel system hunangynhaliol fydd yn cefnogi’r trefniadau presennol. Ni ystyriwyd y bydd defnydd o’r system yn cael effaith sylweddol ar y risg llifogydd. Ategwyd nad oedd CNC na’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol wedi codi pryderon, ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cynyddu’r risg llifogydd ac felly’n cydymffurfio â Nodyn Cynllunio Technegol 15.

 

Yng nghyd-destun materion treftadaeth, gan y bydd y datblygiad yn defnyddio arwyneb caled presennol o fewn yr iard brosesu ac ni fydd  effaith ar dir heb ei ymyrryd o’r blaen, ni ddisgwylid unrhyw effaith ar fuddiannau archeolegol. Er bod henebion rhestredig o fewn 350m, i’r safle, nid oedd gan Cadw unrhyw wrthwynebiad ac felly’r bwriad yn cydymffurfio â Pholisi PS 20.

 

Yn unol â Pholisi PS 1, cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg. Disgwylid i’r cais gynnal y gweithlu lleol presennol a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac ar sail natur y datblygiad, ni ystyriwyd y bydd effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg. Ategwyd bod yr Uned Iaith a Chraffu wedi cyflwyno sylwadau yn cytuno gyda’r asesiad hyn, ac felly’n cydymffurfio â Pholisi PS 1 a’r canllawiau perthnasol.

 

Amlygwyd bod Nodyn Cynllunio Technegol 23 yn pwysleisio bod angen ystyried manteision economaidd pob datblygiad a chefnogi twf cynaliadwy yn y lleoliadau priodol. Bydd y cynnig i ehangu gweithrediadau yn Chwarel Cefn Graianog, fydd yn cynnal ac o bosib gwella cyflogaeth leol, yn cefnogi’r Gymraeg a hyfywedd y gymuned. O ganlyniad, ystyriwyd bod y datblygiad yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi’r ardal ac yn cydymffurfio â pholisïau PS 5, PS 13 a NCT 23.

 

Roedd y swyddog yn nodi, yn gyffredinol, nid oedd materion cynllunio sylweddol yn cyfiawnhau gwrthod y cais, ac ystyriwyd bod y datblygiad yn cyfrannu’n gadarnhaol i economi’r ardal ac yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais – yn cadw gwaith yn yr ardal

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r canlynol:

 

1.     Datblygiad i ddechrau o fewn 12 mis o ddyddiad y caniatâd.

2.     Daw'r gweithrediadau i ben erbyn 31/12/2028. Adfer y safle erbyn 30/06/2029 (i gyfateb i ganiatâd mwynau cyf. C24/1126/34/AC).

3.     Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

4.     Marcio ffiniau ardal y caniatâd ac adeiladu pwynt casglu dŵr wyneb gan gynnwys bwnd i'w gadw ar y safle cyn dechrau ar y datblygiad. 

5.     Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, codi strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys.

6.     Ni fydd unrhyw beth heblaw deunyddiau gwastraff anadweithiol yn cael eu mewnforio i'r safle (Codau Gwastraff wedi eu nodi yn yr Asesiad Cynllunio Gwastraff).  Dylai archwiliad o'r deunydd fod ar gael ar gais.

7.     Ni chaniateir cludo mwy na 50,000 tunnell o ddeunyddiau gwastraff anadweithiol i'r safle fesul blwyddyn. Ni fydd mwy na 20,000 tunnell yn cael ei storio ar y safle ar unrhyw un amser.

8.     Oni chytunwyd fel arall yn ysgrifenedig, bydd manylion lleoliad a manylebau unrhyw lifoleuadau yn cael eu cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff cyn y gwaith gosod.

9.     Oriau Gweithio. (yn cyd-fynd â'r presennol).

10.  Cyfyngiadau sŵn (yn cyd-fynd â'r presennol).

11.  Cynllun Rheoli Sŵn i'w gyflwyno cyn pen 3 mis o gael caniatâd.

12.  Bydd yr holl gerbydau, offer a pheiriannau a weithredir yn y safle yn cael eu cynnal yn y fath fodd fel ag i gyfyngu uchafswm lefelau allyriadau sŵn i'r rhai a nodir ym manyleb y gweithgynhyrchwr.  Ni fydd unrhyw gyfarpar, offer na pheiriannau yn cael eu gweithredu ar y safle oni bai eu bod wedi eu gosod gyda sgriniau atal sŵn, 'casework', caeadau a distewyddion.

13.  Ni fydd unrhyw weithrediadau yn digwydd ar y safle yn y fath fodd fel ag i achosi i lwch dihangol godi a bydd system chwistrellu dŵr neu system atal llwch yn cael ei chynnal ar y safle bob amser ynghyd â chyflenwad digonol o ddŵr. Bydd deunyddiau stoc gaiff eu pentyrru a'r ardaloedd ble mae cerbydau olwynion yn teithio arnynt neu ble mae'r gwaith o drin neu symud deunyddiau yn digwydd yn cael eu dyfrio neu fel arall yn cael eu trin ar adegau neu gyfnodau fel sydd angen i atal llwch o'r fath rhag codi. 

14.  Dylid sicrhau bod arwyneb y fynedfa i'r ffordd gyhoeddus yn cael ei chadw yn rhydd rhag llaid a malurion eraill a'i bod yn cael ei chadw bob amser mewn cyflwr derbyniol i'r Awdurdod Cynllunio Gwastraff gan sicrhau bod llaid yn cael ei atal rhag cael ei ddyddodi ar y ffordd gyhoeddus. 

15.  Gosodir gorchuddion ar loriau sy'n gadael ac yn cyrraedd y safle gyda cherrig neu ddeunydd sy'n llai na 500mm.

16.  Cyfyngu ar fynediad cerbydau i'r trefniadau mynediad presennol.

17.  Bydd copi o'r penderfyniad hwn â'r cynlluniau a gymeradwyir sy'n dangos y dull a chyfeiriad y gweithio a'r gwaith adfer yn cael ei ddangos yn swyddfa gweithredwr y safle a thrwy'r amser yn ystod oes y safle.

18.  Bydd y modd ymarferol gorau a/neu larymau gwrthdroi 'sŵn gwyn' yn cael eu gosod ar beiriannau symudol a cherbydau a ddefnyddir ar y safle.

19.  Bydd olew, tanwydd a chemegau yn cael eu cadw ar leoliad anhydraidd gyda bwndiau.

20.  Bydd y gweithredwr yn monitro'r safle ar gyfer presenoldeb rhywogaethau planhigion ymledol nad ydynt yn gynhenid, yn ystod pob gwedd o'r datblygiad, gan ganolbwyntio ar Lysiau'r Dial a gweithredu mesurau rheoli fel sy'n briodol.

21.  Adfer ac Ôl-ofal (yn cyfateb i'r presennol).

 

Dogfennau ategol: