Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais
Rhesymau:
Cofnod:
Codi tŷ annedd newydd
a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais wedi
ei gyflwyno gerbron Pwyllgor Cynllunio 15fed Mehefin 2026, lle gohiriwyd
penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle ar yr
8fed o Orffennaf 2026.
Nodwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
annedd deuluol o ddyluniad deulawr ar wahân, gyda thalcen yr eiddo yn wynebu’r
ffordd gyhoeddus; y tŷ arfaethedig o ddyluniad to brig modern wedi ei
adeiladu i mewn i’r llethr. Byddai’n mesur oddeutu 7.2m o uchder i fan uchaf y
to, gyda balconi ar deras sylweddol yn cael ei osod i gefn yr eiddo fydd yn
ymestyn allan oddeutu 2.5m ac yn gwasanaethu'r llawr.
Gwrthodwyd cais am eiddo unigol ar y safle
hwn (26.02.2026) o dan gyfeirnod C25/0927/15/LL. Er bod rhai newidiadau wedi’u
gwneud i gynlluniau’r cais presennol, gan gynnwys dileu dau agoriad llawr
cyntaf oedd yn wynebu’r eiddo drws nesaf a lleihau maint y balconi fel nad yw’n
ymestyn allan heibio edrychiad ochr y tŷ, roedd maint a gosodiad yr eiddo
yn parhau yn gyffredinol yr un fath o ran maint a graddfa.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio am
benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol.
Cyfeiriwyd at Polisi TAI 15 o'r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) sy’n datgan y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel
briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Dau neu fwy o unedau tai yw'r
trothwy, ond gan mai dim ond un uned sydd yn cael ei gynnig yn yr achos hwn,
nid yw Polisi TAI 15 yn berthnasol ac nid yw’n angenrheidiol darparu elfen
fforddiadwy.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd
bod Polisi PCYFF 3 yn ei wneud yn ofynnol i ddatblygiadau fod o ddyluniad o
ansawdd uchel sy’n parchu a chyd-fynd â chymeriad a chyd-destun yr ardal. Yn yr
achos hwn, ystyriwyd nad yw’r tŷ arfaethedig yn adlewyrchu dyluniad
traddodiadol y tai teras cyfagos ar Stryd Warden. Er bod y dyluniad wedi cael
ei addasu rhywfaint ers y cais blaenorol, mae ei swmp, ei uchder a’i nodweddion
mwy cyfoes yn parhau i ymddangos yn anghymesur ac allan o gymeriad gyda’r amgylchedd
lleol. Yn ogystal, oherwydd bod y safle ar lethr, byddai’r annedd yn eistedd yn
uwch na’r tai cyfagos ac felly’n sefyll allan yn y dirwedd. O ganlyniad,
ystyriwyd y byddai’r adeilad yn creu effaith ormesol ac ni fyddai’n ymdoddi’n
naturiol i’r strydwedd na’r dirwedd o’i gwmpas. Nid yw’r bwriad felly yn
ychwanegu na gwella cymeriad na golwg yr ardal, ac mae’n groes i ofynion polisi
PCYFF 3. Er bod rhai deunyddiau’n ceisio cyfeirio at y dirwedd hanesyddol,
ystyriwyd y gallai dyluniad mwy sensitif i’r safle gael ei gyflwyno.
O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl,
cyfeiriwyd at bryderon sylweddol ynghylch effaith y datblygiad ar eiddo
cyfagos. Er bod y balconi arfaethedig, wedi’i leihau, mae’n parhau’n nodwedd
amlwg ar gefn yr eiddo ac yn debygol o achosi problemau gor-edrych a
phreifatrwydd - y risgiau hyn yn effeithio’n benodol ar drigolion y capel
cyfagos a Rhif 10 Stryd Warden.
Yn ogystal, ystyriwyd bod lleoliad a gosodiad
yr eiddo yn golygu y bydd symudiadau i mewn ac allan o’r tŷ newydd yn
digwydd mewn bwlch cul ger Rhif 10, yn hytrach na thuag at y stryd fel gweddill
y tai. Byddai hyn yn creu ymdeimlad gormesol ac yn effeithio’n negyddol ar
fwynderau preswyl yr eiddo hwnnw. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynnig yn cael
effaith annerbyniol ar drigolion cyfagos ac felly’n groes i ofynion Polisi
PCYFF 2.
Ystyriwyd bod y mesurau gwella bioamrywiaeth
a gynigiwyd, oedd yn cynnwys plannu coed a gosod blychau adar ac ystlumod, yn
bodloni gofynion polisïau PS 19 ac AMG 5. Yng nghyd-destun materion draenio,
cyflwynwyd a chymeradwywyd cais SUDS - y
bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion NCT 15.
Er na dderbyniwyd sylwadau gan yr Uned
Drafnidiaeth, gan mai un annedd yn unig oedd yma, ni ystyriwyd y byddai’r
datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch na gweithrediad y
rhwydwaith ffyrdd; y cais yn darparu tri lle parcio ar gyfer yr eiddo, ac
felly’n cydymffurfio â gofynion polisïau
TRA 2 a TRA 4 y CDLl.
Eglurwyd y byddai’r eiddo yn darparu tŷ
teuluol i berson lleol o’r pentref ac felly ni ystyriwyd y byddai’n niweidiol
i’r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod modd gosod amod, pe byddai’r cais yn cael ei
ganiatáu, i sicrhau enw Cymraeg i’r annedd, i gydymffurfio a gofynion polisi PS
1.
Roedd y Swyddogion Cynllunio yn argymell
gwrthod y cais gan nad oedd y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol yn ei ffurf
bresennol. Er bod rhai agweddau o’r cynllun yn dderbyniol, ystyriwyd bod
effaith y datblygiad ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal, ynghyd â’i effaith
ar fwynderau eiddo cyfagos, yn golygu nad oedd y cynnig yn bodloni gofynion y
polisïau perthnasol yn llawn.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y dyluniad yn edrych
yn rhy fawr i’r safle
·
Bod angen dyluniad cywir
i’r safle
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Rhesymau:
1. Nid yw dyluniad modern yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r
drysau/ ffenestri gwydr ar y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai
cyfagos na’r hyn sydd yn y cyffiniau a byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni
fyddai’r bwriad yn ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r
ardal. Nid yw’r bwriad wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’w gyd-destun hanesyddol ac
adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r
driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac
estron nad ydynt yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyrir fod y
bwriad felly, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3: Dylunio a siapio lle, Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026).
2. Oherwydd lleoliad, maint ac uchder y balconi a blaen yr annedd
arfaethedig sy’n wynebu’r eiddo drws nesaf, ystyrir y byddai’r bwriad yn
gor-edrych a chael effaith ddominyddol a gormesol ac effaith andwyol ar
fwynderau’r trigolion cyfagos o ran sŵn ac aflonyddwch. Am y rheswm hwn,
ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF2 o'r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy’n ymwneud a diogelu mwynderau
trigolion a’r ardal leol.
Dogfennau ategol: