Gweithrediad
dros dro o fast meteorolegol a strwythurau ategol am gyfnod o hyd at bum
mlynedd
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elwyn Edwards
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod;
Amodau
Dylai hyn gynnwys:
a) Manylion unrhyw
offer adeiladu a strwythurau dros dro sydd â chyfanswm uchder o 50 metr neu fwy
(uwchben lefel y ddaear) a fydd yn cael eu defnyddio yn ystod adeiladu’r mast
meteorolegol, ynghyd â manylion unrhyw oleuadau rhybudd hedfan a fydd yn cael
eu gosod arnynt; a
b) Lleoliad ac uchder
pob mast meteorolegol o fewn y datblygiad, gan nodi’r rhai a fydd yn cael
goleuadau rhybudd hedfan, lleoliad y goleuadau ar y mast, y math o oleuadau a
fydd yn cael eu defnyddio, a manylebau perfformiad y goleuo.
Wedyn, rhaid i’r
datblygwr osod y goleuadau fel y nodir yn y cynllun goleuo hedfan a
gymeradwywyd, a bydd y goleuadau yn parhau’n weithredol drwy oes y datblygiad.
a) dyddiad dechrau
codi’r mast(iau) meteorolegol;
b) uchder mwyaf
unrhyw offer adeiladu a ddefnyddir wrth godi’r mast;
c) dyddiad y daw
unrhyw fast meteorolegol i ddefnydd;
d) lledred, hydred ac
uchder uchaf pob mast meteorolegol.
12. Rhaid hefyd hysbysu’r Weinyddiaeth
Amddiffyn am unrhyw newidiadau i’r
wybodaeth hon ac ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.
Cofnod:
Gweithrediad dros dro o fast meteoroleg a
strwythurau ategol am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) yn cytuno gyda chasgliad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio - Mwynau a Gwastraff bod y cais yn ymwneud â chodi a gweithredu mast anemometreg dros dro am gyfnod o bum mlynedd ar ucheldir
ger copa Pen y Bwlch Gwyn. Bydd y mast yn strwythur delltog dur hyd at 100m o
uchder, wedi’i gynnal gan wifrau tynhau ac wedi’i gyfarparu ag offer monitro
meteoroleg, gan gynnwys anemomedrau a cheiliogod gwynt. Nodwyd bod nifer o
ddynodiadau tirwedd a chadwraeth bwysig yn gymharol agos - Parc Cenedlaethol
Eryri, ffin arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr ac AHNE Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy; y safle hefyd o fewn cyffiniau sawl safle Ewropeaidd dynodedig,
megis ACA, AGA a safleoedd RAMSAR - Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid, Migneint-Arenig-Dduallt a’r Berwyn.
Yng nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd nad oedd polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud â mastiau meteoroleg. Fodd bynnag, pwrpas y
mast arfaethedig oedd casglu data meteoroleg i asesu hyfywedd datblygiad ynni
gwynt posibl yn y dyfodol, ac felly ystyriwyd y cynnig fel math o seilwaith
cysylltiedig i ddatblygiad ynni adnewyddadwy yn erbyn Polisi Strategol PS 7 y CDLl; polisi sy’n cefnogi technolegau ynni adnewyddadwy,
ynghyd â Polisi ADN 1 sy’n ymwneud â datblygiadau ynni gwynt ar y tir.
Adroddwyd, ers mabwysiadu’r CDLl, bod yr
Ardaloedd Chwilio Strategol a nodwyd yn TAN 8 wedi cael eu disodli gan yr
Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw a nodir yn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun
Cenedlaethol 2040. Cyfeiriwyd at Polisi 17 o Cymru’r Dyfodol sydd yn sefydlu
rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr o fewn yr ardaloedd
hynny, tra bod Polisi 18 yn darparu’r meini prawf perthnasol ar gyfer asesu
cynigion o’r fath.
Ategwyd bod y safle dan sylw wedi’i leoli y tu allan i’r Ardal a Aseswyd
Ymlaen Llaw agosaf ar gyfer ynni gwynt. Fodd bynnag, nid yw Cymru’r Dyfodol na
Polisi Cynllunio Cymru yn gwahardd datblygiadau ynni gwynt neu seilwaith
cysylltiedig y tu allan i’r ardaloedd hynny. Yn hytrach, mae’r Ardaloedd a
Aseswyd Ymlaen Llaw yn nodi lle mae Llywodraeth Cymru wedi asesu y gellid
derbyn datblygiadau gwynt ar raddfa fawr mewn egwyddor, heb rwystro ystyriaeth
i gynigion mewn lleoliadau eraill.
Yn ychwanegol, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod prosiectau
cynhyrchu ynni ar y tir â chapasiti rhwng 10MW a
350MW yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru drwy’r broses Datblygiadau o
Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC/DNS) ac yn cael eu hasesu yn erbyn polisïau
Cymru’r Dyfodol. Yn hyn o beth, nodwyd bod hysbysiad o fwriad wedi’i gyflwyno i
Weinidogion Cymru ar gyfer fferm wynt bosibl ar yr un safle. Serch hynny, nid
yw’r cais presennol yn ymwneud â’r fferm wynt ei hun ac ni ellid rhoi pwysau i
egwyddor y datblygiad hwnnw wrth asesu’r cais. Rhaid ystyried y mast anemometreg ar ei rinweddau ei hun.
Pwysleisiwyd bod y cynnig yn ymwneud â strwythur dros dro am gyfnod o
bum mlynedd yn unig. Bydd amodau cynllunio yn sicrhau bod y mast, y gwifrau
tynhau a’r holl seilwaith cysylltiedig yn cael eu tynnu o’r safle a’r tir yn
cael ei adfer i’w gyflwr blaenorol ar ddiwedd y cyfnod. O ganlyniad, ystyriwyd
nad oedd y datblygiad yn debygol o arwain at effeithiau parhaol neu hirdymor ar
y safle. Ystyriwyd hefyd bod yr egwyddor o osod mast anemometreg
dros dro at ddibenion casglu data meteoroleg yn dderbyniol mewn polisi, yn
amodol ar ystyriaeth fanwl o’r effeithiau perthnasol, gan gynnwys tirwedd,
gwelededd, bioamrywiaeth, treftadaeth, mwynderau a materion technegol eraill.
Yng nghyd-destun materion gweledol, nodwyd bod polisïau PCYFF 3, AMG 2
ac AMG 3 y CDLl yn berthnasol wrth asesu effaith y
datblygiad ar gymeriad y dirwedd a mwynderau gweledol. Bydd y safle wedi’i
leoli ar dir uchel o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ‘Cefnwlad y Bala’, ac mewn
lleoliad sydd i’w weld o rannau o Barc Cenedlaethol Eryri. Cyflwynwyd Asesiad
Tirwedd ac Effaith Weledol (LVA) i gefnogi’r cais, ynghyd â gwybodaeth
ychwanegol ar bwyntiau golygfa. Yn dilyn adolygu’r wybodaeth, adroddwyd bod CNC
yn fodlon bod digon o dystiolaeth wedi’i darparu i asesu’r effeithiau ar y
dirwedd a’r mwynderau gweledol, ac yn casglu na fyddai’r datblygiad yn niweidio
cymeriad y dirwedd, amwynder gweledol na rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol
Eryri. Cydnabuwyd y byddai’r mast 100m o uchder yn weladwy dros ardal eang ac y
bydd yn cyflwyno elfen o waith dynol mewn rhai golygfeydd agored. Fodd bynnag,
roedd yr asesiad yn dangos mai effeithiau bach neu isel fyddai’n codi yn y
mwyafrif o safbwyntiau, gyda rhai effeithiau cymedrol neu gymedrol-isel mewn
nifer gyfyngedig o leoliadau sensitif; byddai adeiladwaith delltwaith main y
mast, ynghyd â’i natur dros dro, yn lleihau ei effaith weledol gyffredinol.
O ystyried barn CNC, canfyddiadau’r Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol,
a natur dros dro’r datblygiad, ystyriwyd na fyddai’r cynnig yn arwain at
effeithiau annerbyniol ar y dirwedd na mwynderau gweledol ac y byddai’n
cydymffurfio â gofynion polisïau PCYFF 3, AMG 2 ac AMG 3 y CDLl.
Yng nghyd-destun Mwynderau Preswyl ac o ystyried y pellter rhwng y safle
a’r eiddo preswyl agosaf, ynghyd â natur gymharol syml y datblygiad, dyluniad
cul y mast a dylanwad topograffi’r tir, ni ystyriwyd y byddai’n yn cael effaith
annerbyniol ar amwynder gweledol na mwynderau preswyl cyffredinol. O ganlyniad,
ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio â gofynion Polisi PCYFF 2 y CDLl, sy’n ceisio sicrhau nad yw datblygiadau’n cael
effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch na mwynderau deiliaid eiddo cyfagos.
Mewn perthynas â goleuadau awyrennau arfaethedig, nodwyd mai goleuadau
is-goch dwysedd isel fydd y goleuadau ac felly ni ystyriwyd y byddant yn cael
effaith weledol sylweddol nac yn achosi llygredd goleuni annerbyniol i eiddo
cyfagos.
Derbyniwyd sylwadau ynghylch posibilrwydd sŵn, ond gan fod y mast
yn cynnwys ychydig iawn o rannau symudol, ni ddisgwylid iddo gynhyrchu sŵn
gweithredol sylweddol. Yn ogystal, byddai unrhyw aflonyddwch dros dro yn ystod
y cyfnod adeiladu yn gyfyngedig o ran ei hyd ac yn cael ei reoli drwy arferion
adeiladu safonol. Ar y sail yma, ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol o
safbwynt mwynderau ac yn cydymffurfio â Polisi PCYFF 2.
Wrth ystyried Materion Trafnidiaeth nodwyd nad oedd y datblygiad
arfaethedig yn cynnwys unrhyw newidiadau i’r trefniadau mynediad presennol ac
ni ragwelwyd y byddai’n arwain at gynnydd sylweddol mewn symudiadau traffig yn
ystod y cyfnod gweithredu. O ganlyniad, ni fyddai’r cynnig yn cael effaith
andwyol ar ddiogelwch na gweithrediad y rhwydwaith ffyrdd lleol ac felly o
safbwynt trafnidiaeth, yn cydymffurfio â gofynion Polisïau PS 4 a TRA 4 y CDLl.
Yng nghyd-destun Materion Ecolegol adroddwyd bod y safle wedi’i leoli yn
gymharol agos at nifer o safleoedd Ewropeaidd dynodedig, gan gynnwys ACA Afon
Dyfrdwy a Llyn Tegid, ACA/AGA Migneint–Arenig–Dduallt, safle RAMSAR Llyn Tegid ac ACA/AGA Berwyn. Roedd
CNC yn nodi mai’r prif risgiau fyddai’n codi yn ystod y cyfnod adeiladu, yn
enwedig mewn perthynas â llygredd, fydd gwaddodiad a tharfu ar gyrsiau
dŵr. Fodd bynnag, ystyriwyd y gellid rheoli’r risgiau hyn drwy sicrhau
amod Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP). Roedd CNC yn cadarnhau, yn
ddarostyngedig i weithredu mesurau lliniaru priodol, na fyddai’r datblygiad yn
cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd dynodedig. Ni ystyriwyd chwaith
fod y datblygiad yn debygol o arwain at effeithiau sylweddol o ran maethynnau
neu ansawdd dŵr yn ystod y cyfnod gweithredol.
O safbwynt ecolegol, er bod pryderon wedi’u codi ynghylch adar sy’n
nythu, yn benodol y posibilrwydd y gallai’r mast weithredu fel man gorffwys i
ysglyfaethwyr, ystyriwyd y gellid rheoli’r mater hwn drwy Gynllun Diogelu Adar
sy’n Magu (BBPP). Roedd CNC ac Ecolegydd y Cyngor yn fodlon nad oedd y
datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar rywogaethau gwarchodedig nac
ar gynefinoedd sensitif, gyda cholled gynefin gyfyngedig iawn yn deillio o’r
cynnig. Roedd yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi dod i’r casgliad y gellid
rheoli’r prif risgiau i safleoedd Ewropeaidd, sy’n ymwneud yn bennaf â’r cyfnod
adeiladu ac adar sy’n nythu, drwy amodau cynllunio priodol gan gynnwys Cynllun
Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) a Chynllun Diogelu Adar sy’n Magu (BBPP). O
ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar
gyfanrwydd unrhyw safle Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun nac ar y cyd â
chynlluniau neu brosiectau eraill. Yn ddarostyngedig i amodau priodol sy’n
sicrhau gweithredu’r mesurau lliniaru a’r gwelliannau bioamrywiaeth
arfaethedig, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â
Pholisïau PS 19, AMG 3, AMG 5 a GWA 1 y CDLl.
Nid oedd unrhyw ddynodiadau treftadaeth ger y safle a bu i CADW
gadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r datblygiad. Ystyriwyd na fyddai’r
mast yn cael effaith ar asedau treftadaeth dynodedig gan fod topograffi’r tir
yn cyfyngu ar y cysylltiad gweledol rhyngddo a’r asedau hynny; y cynnig yn
cydymffurfio â gofynion Polisi PS 20 y CDLl.
Amlygwyd bod y safle wedi’i leoli o fewn ardal hyfforddi hedfan isel Low Flying Area
7. Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r
datblygiad, yn amodol ar osod amodau safonol sy’n ymwneud â goleuadau rhwystr i
awyrennau, siartio hedfan a gofynion diogelwch perthnasol. Ystyriwyd bod yr
amodau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na fyddai’r mast yn effeithio’n
andwyol ar ddiogelwch hedfan na gweithrediadau hedfan isel milwrol ac felly yn
cydymffurfio â gofynion Polisi PCYFF 2 y CDLl.
Gan nad yw’r datblygiad yn cyrraedd y trothwy sy’n gofyn am Ddatganiad
Iaith Gymraeg, ac oherwydd ei natur dros dro a chyfyngedig, ni ystyriwyd y
byddai’n cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg ac felly yn cydymffurfio â
Polisi PS 1 y CDLl a’r CCA Cynnal a Chreu Cymunedau
Nodedig a Chynaliadwy.
Ystyriwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol fel seilwaith
cysylltiedig i ynni adnewyddadwy ac na fyddai’n arwain at effeithiau hirdymor
gan y bydd y mast yn cael ei dynnu, a’r safle’n cael ei adfer ar ddiwedd cyfnod
5 mlynedd. Ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith annerbyniol ar y dirwedd,
mwynderau, bioamrywiaeth, safleoedd Ewropeaidd dynodedig, treftadaeth,
diogelwch hedfan, yn amodol ar osod amodau priodol; y datblygiad yn
cydymffurfio â’r polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol a’r argymhelliad yn
un i ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau.
b) Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn cytuno gyda’r argymhelliad
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu’r cais
d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod amodau digonol i
sicrhau rheolaeth
·
Un mast sydd yma i
gasglu data am gyflymder gwynt - be ddaw yn ei sgil? Fferm wynt a pheilonau
hyll fydd yn ceisio cysylltu â’r grid cenedlaethol
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod;
1.
Rhaid i’r datblygiad ddechrau o fewn
pum mlynedd i ddyddiad y penderfyniad
2.
Rhaid i’r datblygiad gael ei gyflawni
yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau cymeradwy a ganlyn.
3.
Rhaid tynnu’r mast a ganiateir drwy hyn
a rhaid adfer y tir i’w gyflwr blaenorol o fewn 5 mlynedd i ddyddiad ei
gomisiynu. Rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r Awdurdod Cynllunio Lleol o ddyddiad y
comisiynu o fewn 3 mis i’r dyddiad hwnnw.
4.
Cyn dechrau’r datblygiad (gan gynnwys
gwaith tir a chlirio llystyfiant), rhaid cyflwyno Datganiad Dull manwl sy’n
disgrifio sut y caiff y safle ei ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol i’r Awdurdod
Cynllunio Lleol, a rhaid ei gymeradwyo’n ysgrifenedig. Rhaid cadw at a
gweithredu’r mesurau a gymeradwywyd yn llawn.
5.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad, gan gynnwys
clirio’r safle, yn dechrau nes bod Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP)
wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig
ganddo.
6.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad na cham o’r
datblygiad yn dechrau nes bod Cynllun Diogelu Adar sy’n Magu (BBPP) wedi’i
gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo.
7.
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad hyd
nes y bydd cynllun gwella bioamrywiaeth wedi ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio
lleol a'i gytuno'n ysgrifenedig ganddo. Bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn
unol â'r manylion a gymeradwywyd.
8.
Ni chaniateir unrhyw glirio
llystyfiant, gwaith tir na gweithgareddau adeiladu yn ystod tymor nythu adar (1
Mawrth i 31 Awst yn gynhwysol) oni bai bod hynny wedi’i gytuno’n ysgrifenedig
ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Pan fo angen cynnal gwaith yn
ystod y cyfnod hwn, rhaid cynnal arolwg o’r safle gan ecolegydd cymwys dim mwy
na 48 awr cyn dechrau’r gwaith. Rhaid gweithredu unrhyw argymhellion a roddir
yn llawn, ac os canfyddir nythod gweithredol, rhaid sefydlu parth gwarchod
priodol a’i gynnal hyd nes i’r cywion ffoi.
9.
Rhaid gosod
dyfeisiau gwyro adar ar bob gwifren gynhaliol allanol y mast ar bellter nad
yw’n fwy na 2 fetr ar hyd eu hyd gyfan cyn i’r mast ddod yn weithredol. Rhaid
cadw a chynnal y dyfeisiau hyn drwy gyfnod bywyd y datblygiad. Rhaid disodli
unrhyw ddyfeisiau sydd wedi’u difrodi, wedi’u symud neu wedi datgysylltu o fewn
un mis i’w canfod.
10.
Cyn dechrau
adeiladu unrhyw fastiau meteoroleg, neu ddefnyddio unrhyw offer adeiladu neu
strwythur(au) dros dro 50 metr neu fwy o uchder
(uwchben lefel y ddaear), rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun goleuo hedfan
i’w gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan nodi
sut y bydd y datblygiad yn cael ei oleuo drwy gydol ei oes er mwyn cynnal
gofynion diogelwch hedfan sifil a milwrol fel y penderfynir yn angenrheidiol
gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dylai
hyn gynnwys:
a) Manylion unrhyw offer adeiladu a strwythurau
dros dro sydd â chyfanswm uchder o 50 metr neu fwy (uwchben lefel y ddaear) a
fydd yn cael eu defnyddio yn ystod adeiladu’r mast meteoroleg, ynghyd â
manylion unrhyw oleuadau rhybudd hedfan a fydd yn cael eu gosod arnynt; a
b) Lleoliad ac uchder pob mast meteoroleg o fewn y
datblygiad, gan nodi’r rhai a fydd yn cael goleuadau rhybudd hedfan, lleoliad y
goleuadau ar y mast, y math o oleuadau a fydd yn cael eu defnyddio, a manylebau
perfformiad y goleuo.
Wedyn,
rhaid i’r datblygwr osod y goleuadau fel y nodir yn y cynllun goleuo hedfan a
gymeradwywyd, a bydd y goleuadau yn parhau’n weithredol drwy oes y datblygiad.
11. Rhaid i’r datblygwr
hysbysu’r Weinyddiaeth Amddiffyn, o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau’r gwaith, yn
ysgrifenedig, o’r wybodaeth ganlynol:
a) dyddiad dechrau codi’r mast(iau) meteoroleg;
b)
uchder mwyaf unrhyw offer adeiladu a ddefnyddir wrth godi’r mast;
c) dyddiad y daw unrhyw fast
meteoroleg i ddefnydd;
d) lledred, hydred ac uchder uchaf pob mast
meteoroleg.
12. Rhaid hefyd hysbysu’r
Weinyddiaeth Amddiffyn am unrhyw newidiadau i’r
wybodaeth hon ac ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.
Dogfennau ategol: