Gwasanaethau
ger ymyl ffordd a gwaith cysylltiedig.
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
Cofnod:
Gwasanaethau
ger ymyl ffordd a gwaith cysylltiedig.
Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld
â’r safle ar yr 8fed o Orffennaf 2026.
a)
Amlygodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer gorsaf gwasanaethau fyddai’n
darparu tanwydd i gerbydau gan gynnwys siop gysylltiedig ar safle ger cylchfan Meifod. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli’n union ger rhwydwaith
ffordd strategol A487 ac y byddai
mynediad i’r safle oddi ar y gylchfan ar Ffordd Pwllheli. Ategwyd bod y
safle tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir yn y CDLl;
er nad yw’r safle yn eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir eraill, mae o fewn
parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith
Ffosfforws ac oddeutu 300m i ffwrdd o Safle Bywyd Gwyllt.
Ystyriwyd
na fydd y datblygiad yn rhwystro symudiad traffig strategol a derbyniwyd
cadarnhad bod y fynedfa yn ddiogel o ran diogelwch y briffordd. Yn ogystal,
byddai’r siop sydd wedi ei lleoli o fewn yr un adeilad a’r man talu ar gyfer
tanwydd yn elfen atodol i’r prif bwrpas o ddarparu tanwydd a seibiant wrth
deithio ac felly ni ystyriwyd y byddai’r siop yn debygol o danseilio
darpariaeth manwerthu canolfannau agos; yn cydymffurfio gyda Polisi TRA 1 y CDLl.
Ategwyd
bod rhesymeg swyddogaethol a lleoliadol clir dros y safle arfaethedig, ac nad
oedd safleoedd mwy priodol o fewn y ffiniau datblygu. Ystyriwyd bod y cynnig yn
dderbyniol mewn egwyddor o dan ofynion Polisi PCYFF 1 – y safle yn cynnig lleoliad addas o fewn y
tirlun i ddarparu’r datblygiad, gan gyfyngu ei effaith weledol a pharchu’r
dirwedd a’r amgylchedd lleol; o ganlyniad, yn cydymffurfio â gofynion
perthnasol polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 y CDLl.
Nid
oedd disgwyl i’r cynnig ychwanegu’n sylweddol at yr aflonyddwch presennol
nac amharu ar fwynderau preswyl i raddau
annerbyniol, yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd
bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda pholisïau PCYFF 2 a 3 y CDLl yn sgil materion cyffredinol a phreswyl.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nid oedd gan yr Uned
Trafnidiaeth bryderon o ran lefelau traffig i mewn ac allan o’r safle, nac o
ran y trefniadau mewnol. Ategwyd bod Uned Cefnffyrdd y Llywodraeth hefyd yn
fodlon gyda’r cynnig. Adroddwyd y bydd amodau yn cael eu gosod i sicrhau bod y
dŵr wyneb yn cael ei reoli’n briodol ac i warchod y ddarpariaeth rhannu
ceir.
Yng
nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod safle’r bwriad wedi ei leoli o
fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith
Ffosfforws, ac yn benodol oherwydd bod bwriad cysylltu i’r brif garthffos
(Safle Trin Gwastraff sy’n gwasanaethu’r ardal yw safle Llanfaglan sy’n allyrru
i’r Afon Gwyrfai). Ategwyd bod
gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn cadarnhau bod bwriad
cysylltu i Safle Trin Gwastraff Caernarfon yn lle Llanfaglan, ac roedd sylwadau
Dŵr Cymru yn cadarnhau bod hynny yn dderbyniol, yn ddarostyngedig i
gysylltu i bwynt penodol fydd angen ei sicrhau drwy amod cynllunio.
Lleolir y safle oddeutu 4.5km i ffwrdd o rannau
agosaf Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Glynllifon. Ystyriwyd y wybodaeth a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais ynghyd a sylwadau CNC oedd yn awgrymu bod yr
Asesiad Effaith Goleuo a'r Cynllun Tirlunio Meddal a Gwella Bioamrywiaeth yn
darparu sail ddigonol i ystyried effeithiau posibl y cynllun ar rywogaeth yr
ystlum pedol leiaf fel nodwedd o'r ACA.
O ran
gwella bioamrywiaeth, roedd y datblygiad yn darparu ystod eang o fesurau i greu
cynefinoedd newydd ac i gynyddu amrywiaeth ecolegol ar y safle. Ar y cyfan,
roedd y cynllun yn mynd tu hwnt i liniaru effaith, gan ddarparu gwelliant net i
fioamrywiaeth drwy gynyddu maint ac ansawdd cynefinoedd ar y safle o’i gymharu
â’r cyflwr presennol. Cydnabuwyd y byddai effaith gychwynnol ar fioamrywiaeth o
ganlyniad i’r datblygiad, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu, ond o ystyried
natur a maint y gwelliannau bioamrywiaeth a gynigiwyd
oedd yn cynnwys creu cynefinoedd newydd, plannu coed a gwrychoedd brodorol gan
ddarparu nodweddion penodol ar gyfer bywyd gwyllt, ystyriwyd bod y datblygiad
yn arwain at welliant net i fioamrywiaeth yn y tymor hir.
Eglurwyd
bod safle’r bwriad yn dir amaethyddol gradd 3b ac felly nid oedd yn cael ei
ystyried fel y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Ystyriwyd mai derbyniol
fyddai defnyddio’r safle ar gyfer y datblygiad ac felly’n cydymffurfio gyda
gofynion maen prawf 6 Polisi PS6 o'r CDLl.
Cyfeiriwyd
at sylwadau pellach roedd yr asiant wedi eu darparu ar faterion egwyddor y
cais, ymgynghoriad cyhoeddus, angen ar gyfer y datblygiad, ecoleg, tir
amaethyddol a dogfennau nad oeddynt wedi eu cofnodi oedd yn golygu bod rhai
amodau a gynigiwyd wedi derbyn sylw. Er hynny, nid
oedd y sylwadau yn newid cynnwys yr adroddiad – yr holl ddogfennau a gyflwynwyd
wedi derbyn sylw a'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cadarnhau y bydd angen
diwygio rhai o'r dogfennau fydd yn cael sicrhad drwy amodau cynllunio.
Ystyriwyd
bod yr holl faterion cynllunio dilys a godwyd yn ystod yr ymgynghoriadau
cyhoeddus wedi’u hystyried yn llawn gyda’r datblygiad yn cydymffurfio â’r
polisïau perthnasol, yn benodol Polisi TRA 1 sy’n ymwneud ac egwyddor y bwriad - nid yw’r polisi yn gofyn bod angen penodol am y datblygiad,
ond yn hytrach yn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion gyrwyr.
Gellid dod i gasgliad bod y cynnig ar gyfer datblygiad gorsaf danwydd a’r
gwaith cysylltiedig yn dderbyniol, gan nad yw’n arwain at effaith annerbyniol
ar yr ardal na’i hamgylchedd. O ystyried y mesurau lliniaru a’r rheolaeth
briodol drwy amodau cynllunio, gellid sicrhau na fydd effaith negyddol yn sgil
y bwriad. Roedd y Swyddogion Cynllunio yn argymell caniatáu'r datblygiad gydag
amodau priodol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod rhaid
i’r penderfyniad gael ei wneud ar sail tystiolaeth, y CDLl
a chyngor y swyddogion proffesiynol ac nid ar sail buddiannau masnachol
ymgeiswyr cystadleuol sydd wedi methu cyflwyno cais cyflawn o’r safon uchaf
·
Bod Polisi
TRA 1 yn cefnogi datblygiadau gwasanaeth ochr ffyrdd sydd wedi ei lleoli ar y
A487 - y diben yw gwasanaethu cerbydau sydd eisoes yn defnyddio'r A487 - y
Llywodraeth wedi datgan angen dirfawr am wasanaethau ochr ffordd fel hyn.
·
O ran
traffig, Uned Trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi'r datblygiad -
asesiad trafnidiaeth fanwl yn cadarnhau na fydd effaith annerbyniol ar y ffyrdd
·
Er yn parchu
pryderon lleol, cynnig i wasanaethu
traffig presennol fydd y datblygiad
·
Bod pob cais
am wybodaeth ychwanegol gan ymgynghorwyr
wedi derbyn ymateb gan arbenigwyr - siom nad oedd yr ymatebion yn cael
eu hadlewyrchu yn yr adroddiad
·
Llu o
asesiadau wedi eu cyflwyno ar ecoleg,
ystlumod, adar, ymlusgiaid, ansawdd aer, goleuo draenio ayyb - y cynllun yn darparu gwelliant net
sylweddol i fioamrywiaeth ac yn mynd tu hwnt i ofynion Polisi Cynllunio Cymru
·
Y cynllun
wedi esblygu yn sylweddol ers y dechrau - bellach wedi ei haneru o ran maint
a'r elfen manwerthu wedi lleihau - elfen
ategol i’r gwasanaeth ochr ffordd yw’r siop ac nid uned manwerthu annibynnol
·
Yn darparu 11 pwynt gwefru car o’r
safon gorau
·
Cyswllt a’r
grid wedi ei gymeradwyo gan SPN Energy
·
Bydd
arwyddion dwyieithog yn hyrwyddo’r Gymraeg ar y safle - yn ddatblygiad
blaenllaw a pwysig i Ogledd Cymru
·
Dros 100 o
bobl wedi mynychu’r cyfarfod cyhoeddus; dosbarthwyd 850 o lythyrau, ac wedi i’r
cynllun gael ei egluro’n llawn, derbyniwyd oddeutu 10 llythyr o wrthwynebiad
gan y cyhoedd
·
Bod y cynnig
yn un sydd wedi ei ddatblygu yn ofalus, yn cydymffurfio yn llawn gyda pholisïau
cynllunio; yn darparu seilwaith trafnidiaeth bwysig i’r ardal a Gogledd Cymru;
yn gwella bioamrywiaeth a dod a manteision economaidd
·
Bod y Polisi yn cefnogi’r defnydd. Y
datblygiad wedi ei gynllunio yn ofalus yn y
tirlun. Nid oedd gwrthwynebiadau technegol. Roedd yn cynnig gwelliant
clir i fioamrywiaeth a’r datblygiad yn dod a buddion gwirioneddol i’r ardal
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor ddilyn
argymhelliad y Swyddogion a chymeradwyo’r cais
c)
Yn manteisio
ar yr hawl i siarad, nododd yr aelod lleol, Y Cynghorydd Menna Trenholme y
sylwadau canlynol
·
Ei bod yn dymuno gwrthwynebu'r cais ac
annog y Pwyllgor i'w wrthod.
·
Yn cwestiynu os yw'r datblygiad, yn y
lleoliad yma, yn cydymffurfio â'r CDLl a'r polisïau
cynllunio perthnasol. Yn ei barn hi, nid
oedd yn gwneud hynny.
·
Y safle wedi'i leoli tu allan i'r ffin
ddatblygu, mewn cefn gwlad agored; Polisi PCYFF 1 yn gosod rhagdybiaethau clir
yn erbyn datblygiadau o'r fath oni bai bod cyfiawnhad cryf. Nid oedd yn credu
bod yr ymgeisydd wedi profi'r angen hwnnw. Gofyn cwestiwn sylfaenol felly, a’i
hwn mewn gwirionedd yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygiad o'r fath?
·
Os yw’r ymgeisydd yn ceisio dibynnu ar Polisi
TRA 1 – Datblygiadau Rhwydwaith Cludiant, mae’r polisi yn gosod amodau clir -
yn mynnu bod ardaloedd y gwasanaeth ger ochr ffordd yn cael yr effaith lleiaf
posib ar amgylchedd naturiol a thirwedd, yn peidio rhwystro symudiad traffig
strategol ac yn peidio tanseilio darpariaethau manwerthu mewn canolfannau
presennol. Nid oedd o’r farn ei fod yn bodloni’r meini prawf hynny.
·
A fyddai datblygiad o'r natur yma yn
fwy addas ar safle tir llwyd neu dir a ddatblygwyd eisoes, lle mae'r isadeiledd
angenrheidiol eisoes yn bodoli? Er enghraifft, mae safleoedd fel ardal Cibyn
yng Nghaernarfon yn dangos bod tir sydd eisoes â chysylltiadau ffordd,
gwasanaethau ac isadeiledd masnachol ar gael. Bydd defnyddio safle o'r fath yn
osgoi colli tir gwyrdd, yn lleihau'r effaith ar y dirwedd ac yn cyd-fynd yn
well ag egwyddorion cynllunio cynaliadwy. Nid yw'r cais wedi dangos pam mai
safle cefn gwlad newydd yw'r dewis gorau pan fo dewisiadau eraill mwy priodol
yn bodoli.
·
Byddai colli
tir gwyrdd ar gyfer datblygiad masnachol yn gam difrifol, yn enwedig pan fo
dewisiadau eraill ar gael. Mae gorsafoedd tanwydd eisoes yng Nghaernarfon,
Dolydd, Bangor, Pwllheli, Porthmadog a Caeathro a nifer o bwyntiau gwefru
cerbydau trydan ar gael eisoes, ynghyd â digonedd o gaffis, bwytai a siopau.
Nid yw'r cais yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth; mae'n debygol o dynnu busnes
oddi wrth ddarparwyr lleol sydd eisoes yn gwasanaethu'r ardal. Yn ogystal mae
gorsafoedd tanwydd yn bodoli o fewn pellter rhesymol ar hyd y A487 - o’r safle
yma mae gorsaf yng Nghlynnog - 8 milltir i ffwrdd,
Llys y Gwynt -10 milltir ac Y Ffor 16 milltir. O ystyried hyn ochr yn ochr â
darpariaeth ym Mhwllheli, Caernarfon, Bangor a
Porthmadog mae rhwydwaith gynhwysfawr
eisoes yn gwasanaethu’r ardal. Nid yw’r cais yn ymateb i ddiffyg lleol nac yn
darparu gwasanaeth nad yw eisoes ar gael.
·
Yn groes i amcanion y CDLl, sy'n ceisio cynnal bywiogrwydd canol trefi. Bydd
datblygiad masnachol mawr ar gyrion Caernarfon yn denu gwariant oddi wrth
fusnesau lleol ac yn tanseilio'r gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau canol y
dref. Yn groes hefyd i PS15 –
Datblygiadau Canol Trefi a Manwerthu sy’n ceisio diogelu bywiogrwydd a hyfywdra
canol trefi. Yn hytrach na denu pobl i ganol Caernarfon a’u busnesau, byddai’r
datblygiad yma yn cipio gwariant pobl cyn cyrraedd y Dref
·
Pryderon
difrifol ynghylch traffig a diogelwch ffyrdd. Adeiladwyd ffordd osgoi
Bontnewydd i dynnu traffig oddi ar y pentref, gwella diogelwch a sicrhau gwell
llif ar y rhwydwaith ac nid ar gyfer denu datblygiadau masnachol newydd a
fyddai’n cynhyrchu mwy o deithiau i gerbydau. A oes ystyriaeth ddigonol wedi ei
roi i effaith ar y gylchfan sydd eisoes yn brysur iawn? Rhesymol yw disgwyl i
gerbydau arafu a chiwio wrth droi i mewn i’r orsaf danwydd gan effeithio ar lif
y traffig a chynyddu'r risg o dagfeydd a
gwrthdrawiadau ar y rhwydwaith strategol. Bydd y datblygiad yn tanseilio diben y ffordd osgoi.
·
Yr effaith
amgylcheddol yn peri pryder - bydd adeiladu ar safle gwyrdd yn golygu colli tir
amaethyddol, newid y dirwedd yn barhaol a chynyddu allyriadau oherwydd mwy o
draffig. Bioamrywiaeth hefyd yn destun pryder - er y gellid cynnig mesurau
lliniaru bydd datblygiad o’r maint hwn yn arwain at golli cynefin wledig ac yn
cyflwyno mwy o olau artiffisial, mwy o sŵn, mwy o weithgarwch i ardal sydd
ar hyn o bryd yn gymharol dawel, ac effaith ar y dirwedd a bywyd gwyllt lleol.
·
Yn tynnu sylw at fater sbwriel, sy'n
aml yn cael ei ddiystyru. Tystiolaeth gan Keep Britain Tidy a National Highways yn dangos bod sbwriel sy'n gysylltiedig â bwyd a
diod "wrth fynd" yn broblem sylweddol ar hyd prif ffyrdd. Nid yw'r
broblem yn aros o fewn ffiniau'r safle – mae profiad ledled y DU yn dangos bod
pecynnau bwyd, cwpanau coffi, poteli a chaniau yn aml yn cael eu taflu ar
ymylon ffyrdd, mewn gwrychoedd ac ar dir amaethyddol ymhell o'r man prynu. Er
gall yr ymgeisydd ddarparu biniau ar y safle, ni all reoli ble mae defnyddwyr
yn dewis taflu eu gwastraff ar ôl gadael. Mewn ardal wledig fel hon, byddai
hynny'n effeithio ar gefn gwlad Bontnewydd a'r ardal gyfagos.
·
Polisi MAN6
- Manwerthu yng nghefn gwlad yn rhagdybio yn erbyn datblygiadau manwerthu o’r
fath oni bai y bydd yn bodloni pob un o’r meini prawf perthnasol. Nid oes
busnes presennol ar y safle, safleoedd masnachol gwag ar gael yng Nghaernarfon
ac amlwg byddai’r datblygiad yn cael effaith ar siopau lleol
·
Pryder am effaith y datblygiad ar
drigolion lleol. Byddai safle masnachol o'r maint yma yn cyflwyno mwy o
oleuadau, sŵn, symudiadau cerbydau a gweithgarwch i ardal sydd ar hyn o
bryd yn gefn gwlad agored.
·
Cyngor
Cymuned Bontnewydd wedi gwrthwynebu'r cais yn unfrydol, ac wedi cyfeirio yn
fanwl at Polisi CYFF1, TRA1, PS15 MAN 6 a MAN7 fel sail gwrthwynebiadau; Cyngor
Cymuned Llanwnda a Chyngor Tref Caernarfon hefyd wedi gwrthwynebu’r cais, felly
tri Cyngor Cymuned / Tref yn unfrydol yn lleol yn erbyn y datblygiad. Er nad yw nifer y gwrthwynebiadau ynddo'i hun yn sail i wrthod cais, mae'n amlygu yn glir fod
y gymuned yn gweld y datblygiad fel un fydd yn newid natur yr ardal er gwaeth.
·
O ystyried y
broses, bod cryn amser wedi mynd heibio ers yr ymgynghoriad cyhoeddus a
chwestiwn teg yn codi os yw’r wybodaeth a gasglwyd ar yr adeg hynny yn parhau
yn gwbl gyfredol o ystyried yr amser sydd wedi pasio
·
Siomedig bod
y cais gerbron y Pwyllgor ar gyfnod mor hwyr yn y dydd. Fel Aelod Lleol byddai
wedi croesawu mwy o amser i ystyried yr adroddiad terfynol a’r wybodaeth cyn
gwneud penderfyniad ar ddatblygiad sydd â goblygiadau sylweddol i’r ardal.
·
Bod dyletswydd ar y Pwyllgor i wneud penderfyniad yn unol â'r CDLl oni bai bod rhesymau cynllunio cryf dros wyro oddi
wrtho.
·
A oes gwir angen y safle hwn? Nid yw’r
ymgeisydd wedi profi’r angen amdano. Mae'r safle y tu allan i'r ffin ddatblygu.
Bydd y datblygiad yn niweidio cefn gwlad, yn tanseilio busnesau lleol ac yn
codi pryderon gwirioneddol ynghylch traffig, diogelwch ac effaith amgylcheddol.
Yn syml, nid yw'r buddion honedig yn gorbwyso'r niwed.
·
Yn gofyn yn barchus i'r Pwyllgor wrthod
y cais.
Nid oedd gan y Cynghorydd Cai Larsen
sylwadau pellach i’w cynnig
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn groes
i’r argymhelliad
Rhesymau:
·
Nad oedd y bwriad yn gwbl cyd-fynd ag
egwyddorion cynaliadwyedd polisi PS6
·
Byddai’n cael effaith andwyol ar
fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos a hynny yn groes i faen prawf 7 polisi
PCYFF 2
·
Byddai’r bwriad yn cael effaith weledol
andwyol a hynny yn groes i bolisi PCYFF 3
·
Nid yw’r cynnig ar gyfer lliniaru
effaith y bwriad o ran bioamrywiaeth na’r gwelliannau bioamrywiaeth yn ddigonol
ac felly yn groes i ofynion polisi PS19.
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod
ystadegau’r Llywodraeth yn y galw am danwydd ffosil yn amlygu llai o ddefnydd
yn dilyn rheoliadau carbon i’r dyfodol a chynnydd mewn defnydd ceir trydan –
felly dim yn gweld yr angen yn ôl Polisïau PCYFF5, PS4, PS5 a PS6. Os bydd
angen, adnodd gwefru yn unig fydd ei angen.
·
Cydnabod y
bydd gorsaf o’r fath yn creu sbwriel ar hyd y lonydd ac yn mynd i achosi costau
i’r Cyngor
·
Dim yn cytuno gyda’r datganiad ‘ymateb
i’r galw presennol’ – bod gorsafoedd a busnesau lleol ar hyd y ffordd fyddai’n
falch o’r busnes, felly onid y dylid
annog a hyrwyddo’r busnesau lleol sydd yn darparu’r gwasanaeth presennol -
rhain yn orsafoedd mewn cymunedau lleol sydd yn cymryd balchder o’u busnesau -
angen annog yn hytrach nag adeiladu o’r newydd
·
Byddai’n creu effaith weledol ar
fwynderau trigolion cyfagos
·
Yr orsaf yn
debygol o gael ei labelu fel yr un olaf ar y ffordd ac felly yn atal pobl rhag
defnyddio gorsafoedd eraill
·
Bod yr angen yn cael ei ddiwallu gan yr
hyn sydd yn bodoli yn barod
·
Gorsafoedd
EV yn cael eu datblygu gan y Cyngor ac yn parhau i gael problemau isadeiledd
- sut felly fyddwn yn gwybod os bydd y rhain am lwyddo?
·
Bod gorsaf
gymunedol wedi ei datblygu yng Nghlynnog - yr orsaf
wedi adfywio’r pentref - byddai’r datblygiad yma yn cael effaith ar yr orsaf
honno ac eraill yn lleol.
·
Bod y
Cynghorau Cymuned perthnasol yn unfrydol wedi gwrthwynebu yn chwyrn a’r
rhesymeg dros eu gwrthwynebiadau yn deg
·
PCYFF1 - y
bwriad wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu -nid yw’n lleoliad ‘eithriadol’
·
PCYFF1 - bod
digon o ddarpariaeth yn yr ardal felly angen herio’r angen ac ystyried yr
effaith gronnol
·
Polisi
Manwerthu 6 - byddai’r uned manwerthu a’r orsaf danwydd yn fygythiad i fusnesau
lleol
·
Polisi
Manwerthu 7 - bydd cynnydd mewn sbwriel a sŵn ar ochr y lonydd a chynnydd
mewn sŵn a llygredd golau
·
Bod angen
gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol - y bwriad yn groes i Bolisi 19 -
effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth - y mesurau lliniaru a'r gwaith gwella yn
annigonol
·
Yn creu effaith annerbyniol ar
fwynderau gweledol yr ardal - yn groes i PCYFF3
·
Pam gwrthod cais Muriau Park ond
caniatáu Meifod? Ymddengys bod swyddogion wedi troi pob carreg i wrthod cais
Muriau Park, ond yn gwneud pob ymgais i droi pob carreg i ganiatáu Meifod
·
O ystyried
costau byw a thanwydd presennol, a’i teg yw caniatáu safle ble mae tanwydd yn
ddrytach na gorsafoedd lleol?
·
Effaith
ymwthiol ar y dirwedd leol - nid yw'r lleoliad yn addas i’r datblygiad
·
Bod y
lleoliad a’r gylchfan eisoes yn un prysur - sut gellid cyfiawnhau ychwanegu mwy
o draffig?
·
Wedi ei leoli ar dir amaeth defnyddiol
a da – dim eisiau colli tir da
·
Bod offer
pweru EV yn ymddangos ymhob man bellach - nid oes angen iddynt fod mewn gorsaf
danwydd - gellid eu gosod yn unrhyw le.
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y bwriad yn
cynnwys cymysgedd o gynigion megis darpariaeth tanwydd ffosil, gwefru EV,
darpariaeth parcio a theithio, ac felly anodd fyddai tystiolaethu yn groes i
hyn gan fod y bwriad yn darparu ar gyfer yr angen ar hyn o bryd. Ategodd bod
ymgynghorwyr wedi ymateb yn ddiwrthwynebiad i’r bwriad yng nghyd-destun yr
angen, ond bod rhai materion yn rai o farn - effaith weledol ac effaith ar
fwynderau. Nodwyd nad oedd unrhyw un o’r polisïau yn gofyn i brofi’r angen ar
gyfer y datblygiad. Ategodd bod Polisi TRA1 yn addas os yw’r datblygiad yn agos
i briffordd sydd yn darparu ar gyfer gyrwyr, a PS 4 yn addas os yw’r datblygiad
yn darparu gwasanaeth cludiant ac adnabod cyfleoedd teithio gwahanol - yn
awgrymu i’r Pwyllgor ystyried y lleoliad
yn hytrach na’r angen.
Nododd nad oedd Polisi PCYFF 1 yn gwrthwynebu
datblygiadau tu allan i’r ffin, oni bai y bydd yn cydymffurfio â pholisïau
eraill, e.e., yng nghyd-destun y cais yma, ystyriwyd addasrwydd y datblygiad yma tu allan i’r ffin oherwydd bod
gofynion Polisi TRA1 yn nodi’r angen i’r datblygiad fod yn agos i briffordd ac
yn darparu gwasanaeth ar gyfer gyrwyr y briffordd hynny. O ganlyniad, bydd yn
cydymffurfio a Polisi PCYFF1. O ran effaith ar ganolfannau lleol eraill,
ystyriwyd nad oedd maint y siop yn
berthnasol gan ei fod yn atodol i’r datblygiad ac felly ni fyddai’n cael
effaith ar fusnesau'r dref a’r pentrefi cyfagos; yn awgrymu i’r Pwyllgor i
beidio ystyried y mater yma fel gwrthwynebiad, oni bai bod tystiolaeth
berthnasol i gefnogi hynny.
PENDERFYNWYD:
Gwrthod yn groes i’r argymhelliad
Rhesymau:
1. Nid yw’r bwriad yn gwbl cyd-fynd
gydag egwyddorion cynaliadwyedd - yn
unol â Polisi PS6
2. Bod
y bwriad yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos
- yn groes i faen prawf 7 polisi PCYFF 2
3. Bod y bwriad yn cael effaith weledol
andwyol - yn groes i bolisi PCYFF 3
4. Nid yw’r cynnig ar gyfer lliniaru
effaith y bwriad o ran bioamrywiaeth na’r gwelliannau bioamrywiaeth yn ddigonol
- yn groes i ofynion polisi PS19.
Dogfennau ategol: