Agenda item

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio. 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau:

  1. Ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.
  2. Mae’r prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyniad i’w leoliad, y dystiolaeth fod ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal a bod y bwriad yn amharu ar y gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
  3. Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na polisi PS6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

  1. Mae'r safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon ynghylch y datblygiad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i drydydd parti. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

  1. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

  1. Nid yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy'n sicrhau fod cynigion a'r cynlluniau tirweddu yn parchu eu cyd-destun a'i leoliad yn y dirwedd leol.

Cofnod:

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, creu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio. 

 

 Roedd rhai o Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r safle 8fed o Orffennaf 2026.

 

Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais, oedd wedi ei gefnogi gan lythyr, wedi dod i law gan asiant cais 5.4 yn gofyn i gais 5.4 a chais 5.5 gael eu gohirio oherwydd bod rhai materion angen sylw pellach.  Mewn ymateb i’r cais, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Priffyrdd bellach wedi cyflwyno sylwadau yn cadarnhau nad oeddynt yn gwrthwynebu'r cais a bod y bwriad felly yn cydymffurfio gyda maen prawf 3 o Polisi TRA 1 ynghyd a Polisi TRA 4 o safbwynt diogelwch ffyrdd. O ganlyniad, roedd rheswm gwrthod rhif 1 (fel roedd yn ymddangos yn yr adroddiad) yn cael ei ddileu. Ategwyd bod gwrthwynebiadau'r Awdurdod Cynllunio Lleol i’r cais yn amlygu nad oedd y lleoliad yn addas a bod gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno i’r Aelodau wneud penderfyniad ar y ddau gais.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys rheswm gwrthod ychwanegol i adlewyrchu effaith ymwthiol y datblygiad. Amlygwyd bod y rheswm yn nodi nad oedd y datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio ac yn ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun; nid oedd felly yn cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 sy'n sicrhau fod cynigion a'r cynlluniau tirweddu yn parchu eu cyd-destun a'i leoliad yn y dirwedd leol.

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu gorsaf gwasanaethu fyddai’n darparu tanwydd i gerbydau ac yn cynnwys hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu ynghyd a chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.

 

Adroddwyd bod y safle yn eistedd tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir yn y CDLl ac er nad yw’n eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir arbennig, nodwyd bod y safle o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwyrfai ar sail effaith Ffosfforws. Fe’i lleolir yn union ger yr A487, sef rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol, gyda natur y datblygiad yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i ddefnyddwyr y ffordd yma. Aseswyd egwyddor y datblygiad drwy Polisïau TRA 1 ac PCYFF1 y CDLl.

 

Eglurwyd bod yr elfen siop wedi ei leoli o fewn yr un adeilad a’r man talu ar gyfer tanwydd ac o’r wybodaeth a gyflwynwyd bydd maint yr ardal manwerthu yn cael ei ddiffinio fel ‘siop fechan’, o fewn y CDLl. Ystyriwyd felly y byddai siop o’r maint yma yn elfen atodol i’r prif bwrpas o ddarparu tanwydd a seibiant wrth deithio, ac felly ni ystyriwyd y byddai’n debygol o danseilio darpariaeth manwerthu canolfannau cyfagos.

 

Mynegwyd y  gall datblygiadau arfaethedig sy’n arwain at gynnydd yn y llwyth ffosfforws o fewn y dalgylch arwain at effeithiau andwyol ar ansawdd dŵr ac felly ar gyflwr ecolegol yr ACA. Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais yn cadarnhau bod bwriad cysylltu â Safle Trin Gwastraff Caernarfon gyda sylwadau Dwr Cymru yn cadarnhau bod hynny yn dderbyniol; ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael unrhyw effaith ar lefelau ffosfforws Afon Gwyrfai ac felly'r bwriad yn dangos niwtraliaeth o ran hyn.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol - yn groes i faen prawf 7  Polisi PCYFF 2 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol. Nid yw’r safle yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer datblygiad o’r natur yma, yn enwedig o ystyried ei amlygrwydd yn y dirwedd a’r methiant i leihau’r effaith weledol.

 

Yn ychwanegol, gall y bwriad achosi effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma (tystiolaeth bod ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal ac y byddai’r bwriad yn amharu ar y gwrychoedd y maent yn ei ddefnyddio). Adroddwyd nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i’r Awdurdod gwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma ac felly daethpwyd i’r casgliad na ellid cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA. Ategwyd nad oedd datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais oedd yn arwain at ansicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.

 

Yng nghyd-destun materion Draenio Tir, Dŵr Tir a Llifogydd, nodwyd bod y safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) a phryderon ynghylch y datblygiad a risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i drydydd parti. Nodwyd nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon; heb y wybodaeth berthnasol yma, ystyriwyd na ellid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi PS6.

 

Ategwyd nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn nid oedd modd cadarnhau y byddai’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na Polisi PS6.

 

Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i amlygu bod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas ac felly ystyriwyd bod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Yn ogystal, derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r tanciau petrol ac ail ymgynghorwyd gyda CNC. Hyd yma, nid oedd ymateb wedi ei dderbyn i'r ymgynghoriad pellach ac felly addaswyd rheswm gwrthod 5 i adlewyrchu hyn.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn y ffurf fel y cyflwynwyd gan ei fod yn methu bodloni gofynion y polisïau a’r canllawiau perthnasol.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·        Ei bod yn berchennog gwesty cyfagos Muriau Park ers 38 o flynyddoedd ac wedi wynebu nifer o sialensiau yn y cyfnod hynny. Hwn yn sialens newydd

·        Bod tir y safle yn dir amaethyddol, cyfoethog mewn lleoliad llawn harddwch – byddai’r bwriad yn difetha’r amgylchedd

·        Nad oedd Cwmni Cadnant wedi ystyried y polisïau lleol – y ddogfen yn trafod ei gwesty ac ni all ddychmygu’r fath ddatblygiad ar ei stepen drws

·        Bod gorsafoedd tanwydd yn Dolydd, Caeathro a Chaernarfon yn cyflogi yn lleol - beth fyddai’r effaith ar y busnesau hyn? Colli swyddi? Cau? - rhaid ystyried yr economi leol

·        Yr ardal yn ardal werdd - pam dewis y lleoliad yma gyda chynllun o’r fath?

·        Byddai’r fynedfa yn mynd o’r hen lôn - a oes bwriad cynnal asesiad traffig i fonitro gwir ystyr prysurdeb y sefyllfa – risg o ddamweiniau?

·        Yn gofyn i’r Pwyllgor gadw o fewn polisïau a deddfwriaethau a gwrthod y cynllun.

 

c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Y cais wedi ei gyflwyno yn gynamserol a hynny oherwydd bod materion heb eu datrys yn llawn

·        Bod pryder sylfaenol wedi ei godi am yr effaith weledol a’r rheswm gwrthod ar gyfer hwnnw wedi ei gyflwyno i’r ymgeisydd am y tro cyntaf yn y sylwadau hwyr

·        Bod effaith dwr daear ac afon gyfagos yn parhau i gael eu trafod gan CNC

·        Nad oedd gan CNC wrthwynebiad ar sail effaith ar yr ystlumod

·        Nad oedd bwriad codi ffens acwstig 4m fel oedd wedi ei nodi; y cynllun tirlunio yn amlygu ffens 3m a gwrych sylweddol ar hyn y ffin ogleddol  – yr ymgeisydd yn hapus i edrych ymhellach i hyn a thrafod gyda swyddogion a’r cymydog

·        Nid yw sylw at dir amaethyddol yn sail i wrthwynebiad – hyn wedi ei wneud yn glir yn y cyfnod ymgynghori

·        Yn cyfeirio at Achos Llys Horncastle; Wrth drafod dau gais tebyg, ochr yn ochr mewn pwyllgor rhaid eu hystyried gyda'i gilydd ar ôl iddynt gael eu hadolygu yn briodol a chyflawn - ar sail cyfarfod y Pwyllgor heddiw bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn agored i’r posibilrwydd o adolygiad barnwrol - cynllun cyflawn wedi ei gyflwyno yma gan ei fod wedi sicrhau Motor Fuel Group (MFG) ar gyfer y cyfleusterau gwefru a’r orsaf betrol

·        Bod y cwmni eisoes yn gweithredu gorsaf danwydd Morrisons yng Nghaernarfon - nid oedd bwriad ganddynt gau'r orsaf honno os byddai’r cais yn cael ei ganiatáu

·        MFG yn gwneud cais i’r Pwyllgor ohirio penderfyniad ar y ddau gais er tegwch i gyflogwr yn y dref ac un sydd wedi buddsoddi yn sylweddol

 

ch)  Nid oedd gan yr Aelodau Lleol sylwadau i’w cynnig

 

d)      Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

dd)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Bod digon o ddarpariaeth tanwydd yn y Dref

·        Byddai’r bwriad yn arwain ar golled tir amaethyddol da

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod

Rhesymau:

1.     Ystyriwyd fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.

 

2.     Mae’r prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyniad i’w leoliad, y dystiolaeth fod ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal a bod y bwriad yn amharu ar y gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

 

3.     Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.

 

4.     Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na Polisi PS6 y CDLl Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

5.     Mae'r safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon ynghylch y datblygiad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i drydydd parti. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi PS6  CDLl Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

6.     Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 CDLL Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

7.     Nid yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 y CDLl Gwynedd a Môn 2011-2026 sy'n sicrhau fod cynigion a'r cynlluniau tirweddu yn parchu eu cyd-destun a'i leoliad yn y dirwedd leol.

 

 

Dogfennau ategol: