Mater - penderfyniadau

05/11/2020 - TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU

Bod y pwyllgor craffu o’r farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 


23/10/2020 - CYTUNDEB TERFYNOL

¾    Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.

¾    Cytundwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

¾    Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

¾    Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.