Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r
opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac
Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:
·
Bod Cyngor Gwynedd yn
caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).
·
Bod Cyngor Gwynedd yn
caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn
unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
·
Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).