Mater - penderfyniadau
Cytunwyd:
- Fod Cynllun Lleol Cyngor
Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2026 yn parhau fel ag yr oedd yn
ystod 2025/26. Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr
elfennau disgresiwn yn parhau:
- gweithredu diystyrwch o
100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer
pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.
- Peidio cynyddu’r cyfnodau
estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair
wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.
- Peidio cynyddu’r cyfnod
ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd
wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.
- Lle’n briodol, dirprwyo’r
grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros
Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2026/27, ar yr amod na fydd
yn newid sylwedd y cynllun.