Mater - penderfyniadau

24/09/2026 - NORTH WALES POPULATION NEEDS ASSESSMENT 2027 DRAFT REPORT

 

  1. Derbyn yr adroddiad.
  2. Argymell i’r Aelod Cabinet i ychwanegu ‘gofal a chefnogaeth’ i deitl yr adroddiad i sicrhau gwell eglurder.
  3. Rhoi mwy o sylw yn yr adroddiad i broblemau efo cyffuriau, yr angen am becynnau gofal i ofalwyr ifanc a gofalwyr di-dâl, gan roi sylw penodol i rieni sydd yn gofalu am eu plant, a gofal lliniarol dros y penwythnos, safon gofal mewn cartrefi gofal preifat, ac anawsterau cael apwyntiadau iechyd.
  4. Gofyn a oes modd i flaen graffu'r cynllun gweithredu ardal pan fydd hwnnw yn barod a chael sicrwydd bod bob adran y Cyngor yn cyfrannu at hwnnw yn ogystal â’r partneriaid perthnasol eraill.