PENDERFYNIAD
· Gofyn i’r aelod cabinet gysylltu gyda Llywodraeth
Cymru i nodi pryder a siom nad yw gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol
newydd ar gyfer Rhan 5 yn adlewyrchu nac yn mynd i'r afael yn llawn â'r
newidiadau argymhellwyd yn adroddiad CTED ac argymell eu bod yn cael eu
diwygio.
·
Ychwanegu ymateb i ymgynghoriad ad-drefnu
llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru i flaen raglen waith y pwyllgor pan yn
amserol.
·
Yn amodol ar dderbyn sêl bendith ac adnoddau gan y
Fforwm Craffu a sicrwydd nad yw’n amharu na dyblygu gwaith Llywodraeth Cymru ar
y pwnc, datgan cefnogaeth i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar y
drefn llywodraethu ysgolion presennol, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ymateb
i’r ymgynghoriad arfaethedig ar ad-drefnu llywodraethu ysgolion yn seiliedig ar
ddata a thystiolaeth.