Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2023
Effective from: 16/06/2023
Penderfyniad:
1.
Nodi’r
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23.
2.
Cymeradwyo
cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23 i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdod lleol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2023
Effective from: 16/06/2023
Penderfyniad:
Penodi’r Cynghorydd Mark Pritchard yn Is-gadeirydd ar
gyfer 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2023
Effective from: 16/06/2023
Penderfyniad:
Penodi’r
Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd ar gyfer 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr addasiadau i
Adran 13 (3) o’r Cyfansoddiad Cynllun Dirprwyo Swyddogion a ddangosir yn
Atodiad 1.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD 1.1 Nodwyd
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23. 1.2 Cymradwywyd
symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad
yn Atodiad 1), sef:
1.3 Cymeradwywyd
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn
Atodiad 2): ·
Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau
ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn
yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion
unigol. ·
Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r
Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau
ychwanegol yn y maes Digartrefedd. ·
Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a
Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n
Iach. ·
Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i
dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario
‘mlaen gan yr Adran i £100k: a.
£3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant b.
£2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol ·
Ar gyllidebau Corfforaethol: a.
Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net
Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23. b.
Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn
cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf c.
Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar
gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i
gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3
yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i
ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn
2022/23. |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau
unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4
o’r Adroddiad.
2.
Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes
gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a
gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud
defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1.
2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol;
c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol.
3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4
ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan
dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr
o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er
caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad.
4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
1. Derbynwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2023) o’r
rhaglen gyfalaf.
2. Nodwyd
gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol
2022/23, fydd yn cael ei gynnwys yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2022/23.
3. Cymeradwyo’r
ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
£68,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau
·
£30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf
·
£701,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw
·
£797,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y Model Llywodraethu
yn Atodiad 1 ar gyfer paratoi y Cynllun Datblygu Lleol i’w cynnwys yn y
Cytundeb Cyflawni Drafft.
Cytunwyd i sefydlu Gweithgor
Polisi Cynllunio 15 aelod gyda’r Cylch Gorchwyl (Atodiad 2) i gefnogi’r gwaith
o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth
Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
wneud addasiadau ieithyddol a man gywiriadau golygyddol i’r Cylch Gorchwyl.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/06/2023
Effective from: 13/06/2023
Penderfyniad:
Cymeradwywyd ymateb y Cyngor i’r
ymgynghoriad Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, Llywodraeth
Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2023 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2023
Effective from: 12/06/2023
Penderfyniad:
Yn unol a’r
Deddf Drwyddedu 2003, argymhellir fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais
yn ddarostyngedig i,
·
Gydymffurfio
gyda gofynion yr Heddlu
·
Cytundeb gan yr ymgeisydd i gydymffurfio gyda mesurau
rheoli niwsans a argymhellir gan Gwarchod y Cyhoedd
·
Ymgorffori'r
materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau
ar y drwydded.
·
Derbyn
caniatâd Cynllunio am newid defnydd a chaniatâd i weithredu o dan unrhyw amodau
cynllunio parthed amseroedd agor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Penodi y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor
hwn am 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Penodi y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y pwyllgor hwn
am 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a chael diweddariad
ar y mater ymhen tua blwyddyn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/06/2023
Effective from: 08/06/2023
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.