Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Dim i’w nodi
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
-
Derbyn yr adroddiad gan ddatgan
diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod
-
Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn
datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob
amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad
ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol.
-
Ysgrifennu llythyr
at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams
-
Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol
sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/11/2020
Effective from: 12/11/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y
Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 10/11/2020
Effective from: 10/11/2020
Penderfyniad:
Awdurdodi gwneud Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) mewn
perthynas â Chynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496.
Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad ag
Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i gaffael yr
holl fuddiannau angenrheidiol yn y tir a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad i
gyflawni Cynllun Gwella Ffordd Llanbedr yr A496 a, lle bo angen cymryd yr holl
gamau angenrheidiol i gaffael y buddion hynny trwy gyfrwng CPO gan gynnwys
dilyn ei gadarnhad gyda Gweinidogion Cymru pe bai'r Cyngor yn methu â dod i
setliad wedi'i negodi ar gyfer prynu'r buddion hynny o fewn amserlenni'r
cynllun.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2020 - Pwyllgor Safonau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2020
Effective from: 09/11/2020
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno
i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, yn ddarostyngedig i ychwanegu:-
·
paragraff yn nodi bod rôl gan bob cyngor, a phob
aelod o bob cyngor, i arddel a hyrwyddo safon uchel o ymddygiad yn llygaid y
cyhoedd, ac i herio ymddygiad amhriodol, boed yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r mater
ai peidio.
·
cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog
Monitro.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/11/2020
Effective from: 05/11/2020
Penderfyniad:
Bod y pwyllgor craffu o’r
farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r
trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb
Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020
Effective from: 03/11/2020
Penderfyniad:
Cytunwyd i danysgrifennu’r
gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer yr Adran Amgylchedd am
gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd
i recriwtio cyn gynted ag y bo modd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020
Effective from: 03/11/2020
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel
cyflogwr.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020
Effective from: 03/11/2020
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020
Effective from: 03/11/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd
na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol
y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol
ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel
penderfyniad terfynol.