Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
1. Mabwysiadu'r egwyddorion caffael arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd
Cymru.
2. Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos busnes y prosiectau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
1. Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran
5 yr adroddiad.
2. Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi'i nodi'n glir law yn llaw ag
achosion busnes y prosiectau er mwyn
i'r Bwrdd eu hystyried.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
1. Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar
ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol
ar gyfer y cynllun gweithredu.
2. Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y
cynllun gweithredu drafft.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
1. Mabwysiadu'r datganiad sefyllfa arfaethedig
yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau'r Cynllun Twf yn cyflawni
yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:-
·
Diwygio’r
ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”.
·
Diwygio’r
trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”.
·
Dileu’r
frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa
Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad
fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”.
2. Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau'r Cynllun
Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa
ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo'r achos
busnes.
3. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio
bennu'r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd
angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa
wrth gefn a glustnodir.
2. Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd
2025/26 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.
3. Cyllido'r Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar
gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd Uchelgais ac Arianwyr y
Prosiectau.
4. Gofyn yn ffurfiol i bob un o'r chwe awdurdod
lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid
refeniw i'r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi'i ddynodi
i'r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni cyfalaf
a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i'r Cynllun Twf i ariannu
eu heitemau math refeniw.
5. Gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau'r prosiectau yn ystod y flwyddyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i'r costau nas ragwelwyd sydd bellach wedi'u hadnabod yn y gyllideb refeniw. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o'r gwariant hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/03/2021
Effective from: 18/03/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/03/2021
Effective from: 23/03/2021
Penderfyniad:
Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones- Williams yn Is-gadeirydd
y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/03/2021
Effective from: 23/03/2021
Penderfyniad:
Ail-ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/03/2021
Effective from: 23/03/2021
Penderfyniad:
Nodi a derbyn
yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Gohirio er mwyn cynnal traofdaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglyn a deunyddiau amgen ar gyfer y to a’r waliau allanol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran
yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais materion a gadwyd yn ol yn ddarostyngedig i:-
Amodau:-
1. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
2. Cydymffurfio
a gofynion y Caniatâd Draenio Tir Cwrs Dwr Cyffredin.
Nodyn i’r ymgeisydd parthed cyngor
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud a thir halogedig.
THE RESULT OF THE VOTE
In favour |
8 |
Against |
3 |
Abstentions |
3 |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Caniatáu
Amodau
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda cynlluniau
3. Tirlunio
4. Cyfyngu i ddefnydd gwyliau
5. Cyfyngu defnydd lleiniau/cynllun adfer
6. Cyfyngu niferoedd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
wrthod y cais.
Rhesymau
1. O ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni
ystyrir y byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal
leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r
cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n
or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir
bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2. Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu
sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw
ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio
Lleol yn ystyried y bwriad yn dderbyniol. O ganlyniad, credir bod y bwriad yn
methu cyfarfod gofynion polisiau TAI 1, TAI 8 a TAI 15 o fewn Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ynghyd a chyngor perthnasol a roddir o fewn
Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Cymysgedd Tai.
3. Er y cyflwynwyd dogfen a nodir fel Datganiad Cymunedol a Ieithyddol fel
rhan o’r cais, nid yw’n cynnwys gwybodaeth ddigonol ac o ganlyniad, ni chredir fod
digon o wybodaeth ar gael i asesu os yw’r bwriad yn unol â maen prawf 1c o
Bolisi PS1 sydd yn gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai
datblygiadau arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y
sail yma, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r
bwriad yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun
4. Ni chredir fod gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno sydd yn cyfiawnhau colli’r gyfleuster ar sail
gofynion perthnasol polisi ISA 2 yn ogystal â chyngor a roddir yn y Canllaw
Cynllunio Atodol: Newid defnydd
cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol,
safleoedd cyflogaeth ac unedau
manwerthu; sydd yn nodi'r angen i gadarnhau
trwy dystiolaeth bod ymdrechion wedi bod i farchnata’r eiddo’n addas.
5. Mae'r safle yn gorwedd o fewn ardal mewn risg o lifogydd dŵr wyneb
ag oherwydd na gyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fyddai wedi ystyried
datblygu diogel y safle ynghyd a dangos na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
disodli dŵr wyneb tuag at eiddo eraill ni chredir fod y bwriad yn
dderbyniol ar sail risg llifogydd a’i fod o ganlyniad yn groes i faen prawf 8
polisi PS 5, maen prawf 4 polisi PS 6 ynghyd a chyfarwyddyd a roddir yn
mharagraff 11.1 o Nodyn Cyngor Technegol 15.
6. Ni gyflwynwyd arolwg rhagarweiniol ar gyfer rhywogaethau wedi eu
gwarchod o fewn y safle a’r adeiladau ac nid oes gwelliannau bioamrywiaeth yn
ffurfio rhan o’r bwriad. O ganlyniad, ni ellir sicrhau gwarchodaeth a
gwelliannau i fioamrywiaeth leol ac o ganlyniad credir fod y bwriad yn
annerbyniol o safbwynt gofynion meini prawf polisi AMG 5 ynghyd a chyngor a
roddir o fewn NCT 5.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo’r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i dderbyn ymateb ffafriol gan Dwr Cymru ac i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan
Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol a
chyfraniad llecyn agored.
Amodau
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r
dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Llechi
naturiol.
4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a
manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL.
5. Amodau
Priffyrdd.
6. Tirlunio
meddal a chaled.
7. Amodau
Bioamrywiaeth a Choed
8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
9. Manylion
Llwybr
10. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi
allan y safle.
11. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.
12. Tynnu hawliau
datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.
13. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio
cerbydau’r adeiladwyr.
14. Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn
iddynt gael eu gosod
15. Amod mesurau
lliniaru archeolegol.
16. Diogelu’r
llecyn agored ar gyfer y dyfodol
Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio
cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor
Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos
gyhoeddus yn croesi’r safle
Nodyn: Enwau Cymraeg
i’r tai yn ogystal a’r Stad/ffyrdd o fewn y stad ei hun
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/03/2021
Effective from: 18/03/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/03/2021
Effective from: 15/03/2021
Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/03/2021 - Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/03/2021
Effective from: 12/03/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a
mabwysiadu’r Canllaw.