Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y drosedd ac amgylchiadau
personol yr ymgeisydd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad ·
sylwadau ei gynrychiolydd
/ darpar gyflogwr ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd yn Rhagfyr 2012 oddi wrth Heddlu
Gogledd Cymru ar un cyhuddiad o fod mewn meddiant delweddau
pornograffig eithafol, yn dangos cyfathrach
rywiol neu ryw geneuol
(oral sex) rhwng person ac anifail,
trosedd yn groes i adran
63(1)(7)(D) o’r
Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008. Adroddwyd nad
oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau na rhybuddion eraill. Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau
bod “materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion. Amlygwyd bod rhan 7 o’r Polisi yn cyfarch troseddau rhyw ac anwedduster. Ym mharagraff 7.1, nodir y mabwysiadir agwedd lem tuag at ymgeiswyr sydd â chollfarnau am droseddau rhyw neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â hynny oherwydd bydd gyrwyr trwyddedig yn aml yn cludo teithwyr sy’n teithio ar eu pen eu hunain ac sy’n ddiamddiffyn. Nodir y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn neu fater i’w ystyried yn gysylltiedig â’r troseddau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Gwahoddwyd yr ymgeisydd
a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a chynnig
eglurhad am y drosedd. Gan nad oedd gan yr ymgeisydd
bellach yr hawl i fudd-dal na chredyd pensiwn roedd angen swydd
arno. Ategodd y darpar gyflogwr bod ganddo swydd
16 awr ar gyfer yr ymgeisydd
a'i fod yn
ymddiried ynddo i gyflawni’r gwaith, wedi ei adnabod
ers dros 50 mlynedd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad ·
sylwadau ei ddarpar
gyflogwr ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan
Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Tachwedd 2017) am gyhuddiad
o dwyll gan nad oedd hysbysu
newid amgylchiadau fyddai yn effeithio
ar ei hawl i fudd-dal (Chwefror 2014). Roedd y drosedd yn groes i
adran 111A(1A) Deddf Gweinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1992 a derbyniodd yr ymgeisydd
ddirwyo £180.00 a gorchymyn
i dalu costau
o £85.00 a gordal dioddefwr
o £30.00. Amlygwyd nad oedd ganddo gollfarnau na rhybuddion pellach Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu
beidio. Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod, neu drwydded bresennol yn cael ei hatal neu ei dirymu os bydd collfarn yn erbyn yr ymgeisydd / ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |