Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Elin Hywel a’r Cynghorydd
Rheinallt Puw (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y
Cynghorydd Cai Larsen (oedd
yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 (C22/0256/13/LL) ar y rhaglen
oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd ADRA Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y cais. . |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 27 Chwefror 2023 yn ddarostyngedig ar nodi: ·
bod y Cyng. Louise
Hughes yn bresennol ·
bod rheswm gwrthod
Saesneg cais cynllunio C21/1038/41/LL Tŷ'n
Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX yn cyfateb i’r rheswm gwrthod Cymraeg ·
bod pleidlais
gofrestredig i gynnig caniatáu cais cynllunio C21/1038/41/LL Tŷ'n
Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX wedi ei gofnodi Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:- O blaid
(6) Y Cynghorwyr:- Louise Hughes, Elwyn Jones, Huw Wyn Jones, Anne Lloyd
Jones, Edgar Owen, John Pughe Roberts Yn erbyn (7) Y Cynghorwyr:- Elwyn Edwards,
Delyth Lloyd Griffiths, Gareth Morris Jones, Cai Larsen, Gareth Anthony
Roberts, Huw Rowlands, Gruffydd Williams Atal (0) Nododd
y Cadeirydd fod y cynnig i ganiatáu wedi disgyn. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C18/0238/11/LL Cyn Iard gychod Dickies, Beach Road, Bangor, LL57 2SZ Cais llawn ar gyfer ail-ddatblygu safle gwag er mwyn adeiladu
55 uned byw ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad a llwybrau
cysylltiedig, mannau parcio a thirlunio. AELODAU LLEOL: Cynghorydd Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw
Wyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL GAN
YR ASIANT CYN Y PWYLLGOR
CYNLLUNIO Cofnod: Cais llawn ar gyfer ail-ddatblygu safle gwag er mwyn adeiladu
55 uned byw ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad a llwybrau
cysylltiedig, mannau parcio a thirlunio. Y CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL GAN YR ASIANT CYN Y
PWYLLGOR CYNLLUNIO |
|
Cais Rhif C22/0950/11/LL 340 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YA Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely Aelod Lleol: Cynghorydd Nigel
Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GOHIRIO
ER MWYN CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR Cofnod: Newid
defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu'r cais bellach wedi ei
ddiwygio i ohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf (17-04-23) oherwydd bod
gohebiaeth wedi ei dderbyn gan drydydd parti yn nodi nad oeddynt yn ymwybodol
o’r cais a hwythau yn denant ar lawr gwaelod adeilad y cais. Amlygwyd mai siop
wag oedd llawr gwaelod yr adeilad. Argymhellwyd gohirio fel bod modd ail
ymgynghori. Ategodd
y Swyddog Monitro mai priodol fyddai gohirio er mwyn ymgynghori yn llawn. a)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gohirio y cais PENDERFYNWYD: GOHIRIO ER MWYN
CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR |
|
Cais Rhif C22/0256/13/LL Brig Y Nant, Coetmor New Road, Bethesda, LL57 3LU Codi 18 tŷ,
ffordd newydd a thirlunio. Aelod Lleol: Cynghorydd Rheinallt Puw Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GOHIRIO
ER MWYN CYNNAL YMWELIAD SAFLE Cofnod: Codi 18 tŷ, ffordd newydd a
thirlunio a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy, ffordd stad newydd
a thirlunio ar safle segur ym Methesda. Rhannwyd y
cais i’r elfennau canlynol: - ·
Darparu 18 uned breswyl deulawr fforddiadwy i gynnwys 12 tŷ
2-lofft; 4 tŷ 3-llofft a 2 dŷ 4-llofft - yn amrywio mewn arwynebedd
llawr ac i ofynion Dylunio Llywodraeth Cymru. ·
Darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil bob tŷ ac oddi ar y
ffordd. ·
Mynedfa i’r safle yn fynedfa gyfrannol gyda chynllun mwy
traddodiadol ar gyfer ffordd y stad ei hun. ·
Tirlunio a thirweddu o fewn ac ar ymylon y safle. ·
Cynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys blychau/clwyd fannau i
ystlumod a phlannu coed a llwyni ar gyfer cefnogi bioamrywiaeth leol. ·
Defnyddio deunyddiau sy’n adlewyrchu deunyddiau lleol ar gyfer
edrychiadau allanol y tai i gynnwys llechi naturiol, gwaith cerrig, rendr wedi ei baentio ynghyd a ffenestri effeithiolrwydd
ynni. ·
Gosod paneli solar ar y toeau. ·
Y tai wedi ei dylunio ar sail egwyddorion diogelu trwy ddyluniad. Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli ar lwyfandir ar ymylon gogleddol y dref ac oddi fewn
ffin datblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Bethesda fel y’i cynhwysir yn y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 (CDLl).
Byddai’r safle yn cael ei wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth III gyfagos
(Coetmor New Road) gan ddefnyddio’r fynedfa bresennol. Eglurwyd, bod yr
egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei
selio ym Mholisi CYFF 1, CYFF 2, TAI 2, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL. Dywed Polisi
PCYFF1 y byddai cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn cael eu caniatáu yn unol
â pholisïau a chynigion eraill y CDLl, polisïau
cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill. Gyda
Chanolfan Gwasanaeth Lleol Bethesda wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig ar
safleoedd ar hap trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i 2021,
cyflwynwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd yn amlinellu sut byddai’r
bwriad yn cyfarch anghenion y gymuned leol: ·
Bod cymysgedd yr unedau yn seiliedig ar ffigyrau galw am anghenion
lleol ar gyfer yr ardal leol ac yn hyblyg eu daliadaeth. Er na fydd y
datblygiad yn destun Grant Cymdeithasol Tai Llywodraeth Cymru nac yng Nghynllun
Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn bresennol, mae’r angen am y math yma o dai yn
parhau’n gryf o fewn y gymuned leol. ·
Bod dogfen Asesiad Marchnad Dai Lleol yng Ngwynedd (2018) yn nodi
bydd galw am 707 uned fforddiadwy ychwanegol rhwng 2018 a 2023 er mwyn cyfarfod
a’r angen am y fath yma o lety. Bydd y cymysgedd tai yn ymateb i ffactorau fel nodweddion y safle, yr angen am
dai cymdeithasol ym Methesda a demograffeg leol. ·
Darparu 18 uned breswyl 100% fforddiadwy ar safle tir llwyd
hygyrch oddi fewn i’r ffin datblygu gyda’r unedau yn cael eu dylunio i ofynion
Ansawdd Datblygu Cymru – Mannau a Chartrefi Prydferth, (2021). · Uned Strategol Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |