Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2018/19 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y
Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
Gadeirydd ar gyfer 2018/19 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorydd
Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw), Mr Martin Parouty (Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw) a Mr Mike
Ellis (Pwyllgor Ras y Tri Chopa) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau
isod am y rhesymau a nodir: (a)
Cyng. Gethin Williams – aelod
o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (b)
Mrs Wendy Ponsford – aelod o’r Clwb
Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (c)
Cyng. Rob Triggs – aelod o’r Ymddiriedolaeth
Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio Ni fu
i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd
yn ymwneud â’u buddiant personol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
6.03.18 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2018, fel
rhai cywir. Dymunwyd ymddeoliad hapus i Glynda O’Brien (Swyddog Cefnogi Aelodau) am
ei chefnogaeth a’i gwasanaeth i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd. Materion
yn codi o’r cofnodion: (a)
Cynnal a Chadw (b)
Digwyddiadau Adroddwyd
bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â digwyddiad Motorcross yn gwrthdaro
gyda gwyliau Hanner Tymor Gwynedd a’r diffyg cyfathrebu rhwng y trefnwyr
a Chyngor Tref Abermaw. Nodwyd bod Mr Arnold (trefnwr y Motorcross) angen
cadarnhad o ddyddiadau 2019 cyn mis
Rhagfyr er mwyn trefnu’r digwyddiad. Ategwyd nad oedd modd newid y dyddiad ar gyfer 2018
gan fod rhaglen digwyddiadau
Motorcross ar draws y wlad eisoes wedi ei chyhoeddi. Gwnaed awgrym y dylid osgoi penwythnosau hanner tymor mis Hydref
(Gwynedd) a hefyd rhoi
ystyriaeth i ddyddiad Sul y Cofio.
(c) Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog Amlygwyd, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i gyfleu i’r Aelod Cabinet
perthnasol i waredu'r ffonau gwasanaethau brys
oherwydd diffyg defnydd, nad oedd hyn wedi digwydd. Awgrymwyd, cyn gwaredu, y
dylid ymgynghori ymhellach gyda Gwylwyr y Glannau a Mudiad y Bad Achub o
ddefnydd y ffonau. (ch) Gweithgareddau FLAG (Fisheries Local Action
Group) Adroddwyd bod y gweithgareddau
wedi bod yn llwyddiannus a bod bwriad cynyddu'r fenter i’r dyfodol.
Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau. Nododd y Cynghorydd Tref nad oedd
wedi gallu mynychu cyfarfodydd Grwp FLAG yn yr ardal ac awgrymodd y dylid cynnig yr
aelodaeth i rywun arall. Cadarnhawyd mai cynrychiolaeth gan unrhyw un o aelodau Cyngor Tref Abermaw oedd dymuniad y Grwp FLAG (d) Clirio
Tywod Mewn datganiad nad oedd modd
gweld y môr o Abermaw, nodwyd yn dilyn cyfarfodydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd nad
oedd modd symud tywod. Er hynny, amlygwyd bod datganiadau positif wedi
eu cynnwys mewn cylchgrawn yn mynegi bod y traeth yn adnodd bendigedig, y
morglawdd yn boblogaidd a’r sianel yn
glir. (dd) Carthu Rhagwelir mai Doc Fictoria a
Harbwr Pwllheli yn unig fydd yn cael ei
carthu (e) Cyngor Cymuned Arthog - rheoli mewn
llifiad traffig Gyda mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth i’r ardal adroddwyd er bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Adran Trafnidiaeth ymddengys nad oedd pethau yn symud ymlaen i ymateb i’r cynnydd. Amlygwyd bod Cyngor Cymuned Arthog yn cydweithio gyda Grŵp yn Y Friog i geisio adfer rhai o'r materion oedd yn cynnwys camau gweithredu i atal parcio dros nos. Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn derbyn copi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DIOGELWCH HARBWR I ystyried unrhyw faterion diogelwch yr Harbwr Cofnod: Nodwyd nad oedd
unrhyw fater o ran diogelwch harbwr wedi ei gyflwyno o fewn y cyfnod ond
tynnwyd sylw at bryder bod plant ifanc yn dringo ar hyd yr adeiladau, cychod,
cewyll ac offer pysgota yn Aberdyfi. Gwnaed sylw bod angen sicrhau bod y safle
yn ddiogel a gwneud cais i berchennog unrhyw offer gwblhau asesiad risg. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETH YR HARBWR I ystyried adroddiad yr Harbwrfeistr Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar
faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2018 a Hydref 2018. Yn dilyn Haf arbennig
gyda chynnydd sylweddol mewn niferoedd yn ymweld a’r ardal, adroddwyd nad oedd yr adnoddau’r
Gwasanaeth yn ddigonol i ymateb i’r holl
faterion ac amlygwyd
hyn fel risg uchel. Ategwyd bod un ddamwain angheuol wedi digwydd a bod ymateb i’r crwner wedi ei
weithredu. Nodwyd hefyd bod y staff yn gorfod delio gyda sefyllfaoedd anodd iawn ac mewn ymateb i
hyn amlygwyd bod cyfarfod wedi ei drefnu
gyda Gwylwyr y Glannau i drafod y sefyllfa ymhellach. Adroddwyd bod y Gwasanaeth dan bwysau. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer yr angorfeydd yn lleihau, adroddwyd bod hyn
yn batrwm sydd i’w weld mewn harbyrau naturiol. Ategwyd bod y diwydiant ei hun yn dioddef, ond er y
lleihad nid oedd yn cael effaith ar y budd economaidd wrth edrych ar y sefyllfa yn ei
gyfanrwydd e.e., gwelwyd cynnydd positif mewn niferodd cychod pŵer. Nododd yr Harbwr Feistr mai newid
mewn diwylliant yw un rheswm dros
leihad yn y nifer o gychod hwylio gyda’r angen am bŵer a chyflymdra yn cynyddu. Ategwyd
bod cwsmeriaid angen ‘prynu adnodd’, megis angorfeydd, fel eitem ac mai
proses hirwyntog yw’r broses sydd yn bodoli ar hyn o bryd. I
gyfarch hyn, awgrymwyd gwasanaeth hwyluso taliadau a gwnaed cais am adroddiad
i’r cyfarfod nesaf yn rhestru’r opsiynau posib. Ategodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod adolygiad yn cael ei wneud gan
y Gwasanaeth yn holi pam bod perchnogion angorfeydd wedi ymadael ac y byddai
adroddiad ar y canfyddiadau yn cael ei gyflwyno (i bob Pwyllgor Harbwr ) ym mis Mawrth 2019. Yng
nghyd-destun, gosod angorfeydd, amlygwyd bod Cyngor Tref Abermaw wedi ystyried
cyllido costau angorfeydd a bod bwriad ganddynt i godi arian ar gyfer pontwns. Amlygwyd yr angen i gadarnhau trefniadau
perchnogaeth ac awgrymwyd y
dylai’r Cynghorydd Tref gyfarfod gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr
i drafod ymhellach.
O ran carthu, byddai angen trwydded i weithredu. Gyda chyllidebau'r Cyngor yn dynn ac yn
wynebu toriadau pellach ni fyddai modd i’r Cyngor
ariannu carthu’r Harbwr. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Tref ymgynghori
gyda Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i gydsynio i ysgrifennu llythyr at CNC i
gael gweithredu. Awgrymwyd bod y gymuned yn barod i godi’r arian. Canmolwyd
cymuned Abermaw am eu parodrwydd i gydweithio a cheisio’r gorau i’r dref
yn wyneb toriadau i gyllidebau Cyngor Gwynedd. Dylid eu cymeradwyo a’u llongyfarch
am eu gwaith da. Adroddwyd bod archwilwyr yr
Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau i ailymweld a’r gwasanaeth fis Hydref eleni fel
dilyniant i’r adolygiad a gynhaliwyd 2017. Oherwydd amgylchiadau annisgwyl nodwyd
y byddai rhaid gohirio’r ymweliad tan fis Mawrth 2019. Bydd gwahoddiad
i holl Aelodau’r Pwyllgorau Ymgynghorol fynychu cyfarfod ym Mhorthmadog. Tynnwyd sylw'r Aelodau at fwriad y Gwasanaeth i gyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser i weithio yn Harbyrau Abermaw, Aberdyfi a Porthmadog. Mewn ymateb y dylai’r gwasanaeth ystyried yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL ·
I
ystyried cynrychiolydd o’r Fairbourne Amenities Trust fel aelod cyfetholedig ar y Pwyllgor Cofnod: (a) Ystyried cynrychiolydd o Ymddiriedolaeth
Mwynderau'r Friog fel aelod cyfetholedig ar y Pwyllgor. Cyfeiriodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at Gylch Gorchwyl y Pwyllgorau Harbwr gan gadarnhau’r Aelodaeth ·
hyd at 4 aelod lleol o Gyngor
Gwynedd ·
Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am
bortffolio awdurdod harbwr ·
Un aelod o Gyngor Tref ·
Hyd at 7 aelod arall i gynrychioli gwahanol fuddiannau
defnyddwyr yr harbwr Gyda Aelodaeth bresennol
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw yn gyflawn byddai cais
ychwanegol yn mynd tu hwnt i fframwaith gorfodaeth y Cyngor. Amlygwyd bod sedd wag
gan Cyngor Cymuned Arthog ac awgrymwyd y gellid penodi un
cynrychiolydd fyddai yn cynrychioli dau gorff. Nodwyd bod cynrychiolydd
Grŵp Mynediad Traphont Abermaw wedi ymddiswyddo ac mai cyfrifoldeb y Gymdeithas
oedd ethol cynrychiolydd newydd. Nodwyd bod cynrychiolydd
Ras y Tri Chopa hefyd yn dymuno ymddiswyddo ac mai cyfrifoldeb y Pwyllgor hwnnw fyddai
ethol cynrychiolydd newydd Pwysleisiwyd bod
cyfrifoldeb ar y cyrff uchod i roi gwybod i’r Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig neu’r Swyddog Cefnogi Aelodau o’r enwebiadau newydd. Diolchwyd i Mr Mike
Ellis (Pwyllgor Ras y Tri Chopa) am ei gyfraniad arbennig
i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 26 o Fawrth 2019
Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal ar 26ain Mawrth, 2019. |