Lleoliad: Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel, Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni /
Llywodraethwyr Meirionnydd), Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni /
Llywodraethwyr Dwyfor) a’r Cynghorydd Menna Jones (Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. |
|
ADDYSG CYD-BERTHYNAS A RHYWIOLDEB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Beca Brown Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, ac ail-graffu’r mater pan yn amserol. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn ymateb i gais gan aelodau’r Pwyllgor am gyfle i edrych yn fanylach ar addysg
cydberthynas a rhywioldeb, sydd yn elfen fandadol o Fframwaith Cwricwlwm i
Gymru o Fedi 2022. Eglurwyd bod yr elfen
hon yn fandadol ym mhob un o ysgolion cynradd y sir ers Medi 2022, ac yn 6 o’r
ysgolion uwchradd sydd wedi dewis cyflwyno’r cwricwlwm i Flwyddyn 7 ym Medi
2022. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r
adroddiad, gan nodi:- ·
Ei
bod yn ddyddiau cynnar ar daith y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ond bod
yr adborth o’r ysgolion wedi bod yn dda a bod cyfathrebu cadarnhaol wedi bod yn
digwydd rhwng ysgolion a rhieni. ·
Bod
ganddi bob ffydd yn y proffesiwn i gyflwyno’r addysg plwralistig a chynhwysol
yma sy’n addas i ddatblygiad y plentyn, yn ogystal â’i oed. ·
Ei
bod yn hynod falch bod plant yn mynd i dderbyn addysg fydd yn eu cadw’n ddiogel
ac yn hapus wrth iddyn nhw fynd drwy fywyd. ·
Bod
y Cod wedi derbyn dipyn o sylw, a’i bod hithau wedi derbyn llawer o ohebiaeth
gan ddioddefwyr camdriniaeth rywiol sydd bellach yn oedolion, gan rieni i
ddioddefwyr a gan bobl sy’n gweithio gyda dioddefwyr, gyda phawb ohonynt yn
dweud eu bod mor falch o weld yr addysg yma’n cael ei ffurfioli. ·
Ei
bod yn mawr obeithio y bydd yr addysg yma’n mynd lawer o’r ffordd at sicrhau na
fydd yr un plentyn yn cael ei fwlio a’i sarhau am fod yn wahanol i’r hyn sy’n
cael ei ystyried fel norm, a dyna pam ei bod mor bwysig bod yr addysg yma’n
cael ei weithredu’n effeithiol ar draws y sir. Ategodd y Pennaeth Addysg sylwadau’r Aelod
Cabinet gan nodi:- ·
Bod
penaethiaid ysgolion yn adrodd eu bod wedi derbyn ymateb cadarnhaol i’r Cod gan
y rhan helaethaf o rieni a gofalwyr, a bod ganddo yntau bob ffydd bod
arweinyddion a staff yr ysgolion yn ymdrin â’r mater yn ddoeth. ·
Gan
fod y maes yn cael ei gyflwyno’n blwralistig, mae yna wahanol safbwyntiau yn
cael eu cyflwyno fel bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddod i farn
annibynnol eu hunain yn seiliedig ar ffeithiau. ·
Ei
bod yn bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod mai datblygiad neu
aeddfedrwydd neu berthnasedd datblygiadol sydd wrth wraidd y cwricwlwm. Gan hynny, byddai’r ysgolion yn cyflwyno’r
addysg yn sgil eu hadnabyddiaeth hwy o’u dysgwyr o ran eu haeddfedrwydd a’u
gallu i ddeall ac ymdrin â’r mater. Yna cyfeiriodd y Pennaeth at baragraff
4(iii) o’r adroddiad oedd yn nodi, “wrth
ddatblygu Cwricwlwm i Gymru cefnogir ysgolion Gwynedd gan GwE”, gan nodi, o
ran cywiriad, ac i wneud y sefyllfa’n fwy eglur, bod y 6 awdurdod ar draws y
Gogledd wedi comisiynu unigolyn i gydweithio gyda’r mudiad Ysgolion Iach er
mwyn cefnogi ysgolion yn y maes yma, a bod Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE
yn y broses o gefnogi’r holl ysgolion i ddilyn y Cod. Rhoddwyd cyfle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD AR Y DAITH DDIWYGIO YN YSGOLION GWYNEDD Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Beca Brown Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet
Addysg ar gais y Pwyllgor hwn ar baratoadau ysgolion Gwynedd i waith Cwricwlwm
i Gymru. Croesawyd cynrychiolwyr GwE i’r cyfarfod. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Ei
bod yn galonogol gweld bod holl ysgolion Gwynedd yn sicrhau bod hyrwyddo’r
Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru wedi’i blethu’n glir yn nyluniad y
cwricwlwm. ·
Ei
bod yn hanfodol nad ydym yn colli golwg ar bwysigrwydd y disgyblaethau
academaidd traddodiadol, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau tegwch mewn cymdeithas. ·
Ei
bod yn hanfodol sicrhau cysondeb safon o ysgol i ysgol er mwyn sicrhau tegwch,
nid yn unig rhwng cymunedau, ond ar lefel y disgybl unigol hefyd. ·
Bod
un dudalen, yn arbennig, o’r adroddiad yn frith o gyfeiriadau at ‘ychydig’, ‘llawer’ neu ‘rai’
ysgolion’, sy’n gwbl ddi-ystyr heb y tabl, ac y dylid cynnwys y canrannau
perthnasol ym mhob achos. ·
Y
croesawir y cwricwlwm newydd, ond bod prinder staff, yn arbennig cymorthyddion,
yn broblem enfawr. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
O
ran y trefniadau hyfforddi, bod rhaglen yn cael ei chreu, yn drawsranbarthol ac
ar draws Cymru, er mwyn gosod y fframwaith o ran dyluniad y cwricwlwm, gan
ystyried beth yw’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r math o ymddygiad lleol mae
ysgol neu gymuned leol yn dyheu tuag ati o gwmpas y 4 diben. Roedd GwE wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r
Athro Graham Donaldson ac wedi creu rhwydwaith rhanbarthol a rhwydweithiau
lleol a phenodol yng Ngwynedd yn edrych ar feysydd dysgu a phrofiad yn unigol,
ac wedyn yn oed berthnasol i’r meysydd dysgu a phrofiad. Yna, roedd cyfres o glystyrau wedi’u creu a
chyfres o gynghreiriau, ac roedd yr hyfforddiant yn mynd i lawr i lefel y
clystyrau. Roedd yn bwysig nodi hefyd,
wrth i’r fwydlen fynd yn ei blaen, bod ysgolion yn dysgu oddi wrth y naill a’r
llall ac yn rhannu profiadau. ·
Mai
asesu a chynnydd oedd yr heriau mwyaf i’r proffesiwn. Roedd yna ddarlun llawer mwy holistig o’r
plentyn erbyn hyn, yn ogystal â’r ochr academaidd. Crewyd modelau a systemau i rannu hefo’r
ysgolion, yn enwedig o ran yr asesu ffurfiannol, ac roedd gwaith ar droed hefyd
o ran y pontio cynradd/uwchradd yng nghyd-destun cwricwlwm lleol. Nodwyd ymhellach mai un o’n harfau pwysicaf
yn sgil datblygiad y cwricwlwm newydd fyddai’r ffocws amlwg ar gwricwlwm
lleol/ardal, a chredid bod hynny’n fodd o gryfhau’r pontio mewn modd sy’n
berthnasol i gwricwlwm sy’n wirioneddol adlewyrchu gofynion lleol. Hyderid hefyd y gallai fod o gymorth i gael
gwared â’r canfyddiad gan rai bod yna gyfnod addysg yn dod i ben ar ddiwedd
blwyddyn 6, a chyfnod arall yn cychwyn ym mlwyddyn 7. · O safbwynt hyrwyddo’r diwylliant Cymreig ar draws yr ysgolion, bod y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm Cymreig, ac yn gwricwlwm sy’n gynyddol yn arddel a datblygu’r iaith Gymraeg. Gan hynny, roedd yr elfennau hynny yn yr arlwy hyfforddiant mewn gwahanol ffyrdd, a nodwyd y byddai GwE yn hapus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD GWEITHGOR ADOLYGU FFORDD GWYNEDD Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Menna Jones Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r
Ymgynghorydd Ffordd Gwynedd i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyflwyno casgliadau Gweithgor Adolygu Ffordd
Gwynedd ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd i holiadur a gylchredwyd i’r
penaethiaid er mwyn:- ·
cael
trosolwg o sut mae egwyddorion Ffordd Gwynedd yn gwreiddio o fewn yr adrannau;
a ·
galluogi
datblygu cynllun Ffordd Gwynedd fydd yn sicrhau’r gefnogaeth briodol ar gyfer y
tair blynedd i ddod. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Diolchwyd
i’r Timau Tacluso newydd am eu gwaith clodwiw. ·
Nodwyd
y dymunid i Ffordd Gwynedd weithio, ond na ellid rhannu brwdfrydedd y
swyddogion ynglŷn â sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd. ·
Nodwyd
bod deall gwir anghenion y cwsmer yn ganolog i’r adroddiad, ond os nad oedd
Ffordd Gwynedd yn ymwneud â hynny, nid oedd pwrpas iddo. ·
Awgrymwyd
bod yr adroddiad yn rhy gyffredinol, gwlanog ac amwys, e.e. cyfeirir droeon at
‘gryn gynnydd’, ‘lle i wella’, ayb, ond ni cheir diffiniad o
hynny. Yn yr un modd, cyfeirir at e.e. ‘rai
adrannau / timau’, ac awgrymwyd y dylid enwi’r adrannau sy’n llwyddo neu’n
tangyflawni, yn fewnol o fewn y Cyngor.
Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi bod timau yn gweithio’n arloesol, ond
byddai’n fuddiol gwybod pa dimau oedd yn gwneud hynny, a beth oedd yr ymarfer
da. ·
Er
derbyn bod yna lawer o ffordd i fynd, awgrymwyd bod Ffordd Gwynedd, fel
delfryd, yn rhywbeth i anelu ato, a llongyfarchwyd y weledigaeth. ·
Nodwyd
bod diffyg ymateb gan rai staff/adrannau i ymholiadau gan aelodau etholedig ac
aelodau o’r cyhoedd yn broblem fawr, a bod angen blaenoriaethu hyn yn y tymor
byr, Ffordd Gwynedd neu beidio, gan enwi a chodi cywilydd ar y rhai sy’n
tramgwyddo. ·
Pwysleisiwyd,
os cael Ffordd Gwynedd i weithio, bod angen i bawb brynu i mewn i’r diwylliant,
a mynegwyd siomedigaeth na lwyddwyd i ddod â’r gweithlu ymlaen gyda hyn, yn
enwedig ar yr ochr Priffyrdd. ·
Nodwyd
y dylid rhannu egwyddorion Ffordd Gwynedd gyda chwmnïau allanol sy’n cyflawni
contractau i’r Cyngor. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: ·
Ei
fod yn siomedig iawn o glywed rhai o’r sylwadau, ond yn llawn dderbyn bod yr
aelodau yn awyddus i gael mwy o fanylion, ac yn fwy na bodlon rhannu’r
wybodaeth. Roedd hefyd yn derbyn y pwynt
ynglŷn ag amlygu lle mae angen canolbwyntio ymdrechion. · Bod y Prif Weithredwr ac yntau yn cydweithio ar ddarn o waith ynglŷn â diffyg ymateb prydlon i ymholiadau gan rai gwasanaethau, a bod yna gamau eisoes wedi’u cymryd, gyda’r sefyllfa bellach wedi gwella mewn nifer o wasanaethau lle bu trafferthion yn y gorffennol. Gofynnodd i’r aelodau gysylltu os oedd ganddynt unrhyw enghreifftiau o ddiffyg ymateb. Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn â’r mater hwn, nododd y Cyfarwyddwr ei fod yn amau bod y dystiolaeth yn awgrymu bod yna gyswllt rhwng diffyg ymateb i ymholiadau a diffyg ymroddiad i egwyddorion Ffordd Gwynedd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2022/23 I gyflwyno
rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r flaenraglen ar gyfer 2022-23. Cofnod: Cyflwynwyd – blaenraglen
waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022-23 i’w mabwysiadu. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r flaenraglen ar gyfer 2022-23. |