Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024-25 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn
Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/25 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/25. |
|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Angela Russell,
Gareth Coj Parry ac Anwen Jane Davies. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan y Cynghorydd Rheinallt Puw ar eitem 7, yn benodol y
drafodaeth am Iechyd Meddwl. Fe adawodd y cyfarfod am y drafodaeth hon yn unig.
Nid oedd y buddiant yn un a oedd yn rhagfarnu ar weddill y drafodaeth. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unryyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a
gynhaliwyd ar y 21 Tachwedd 2024, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2024 fel rhai cywir. |
|
|
AROLYGAETH GOFAL CYMRU A SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU ARCHWILIAD AR Y CYD - HYDREF 2024 I gyflwyno
canfyddiadau yr archwiliad ac ymateb y Cyngor i’r Pwyllgor Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiadau a gofyn am adroddiadau cynnydd. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant gan dynnu sylw at
bresenoldeb llawn tîm rheoli’r Adran Oedolion yn y cyfarfod heddiw. Diolchwyd
iddynt am eu hamser gan fynegi bod eu presenoldeb yn dangos cryfder ac
ymroddiad yr Adran i’w cyfrifoldebau. Eglurwyd bod archwiliad ar y cyd rhwng
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi ei gynnal ym mis Hydref 2024 ar y
gwasanaethau yn yr Adran Oedolion. Credwyd felly ei bod yn addas cyflwyno’r
ddau adroddiad o fewn yr un eitem i’r Pwyllgor Craffu Gofal. Ychwanegwyd yn ystod yr un
cyfnod bod arolygiaeth o waith yr Adran oedd wedi ei gomisiynu gan yr Adran
drwy’r CLlLC wedi ei gynnal a hefyd y gwaith ar y
cynllun Llechen Lan. Mynegwyd bod bwriad i ddod a chanfyddiadau’r holl arolygon
at ei gilydd a chreu un cynllun gweithredu manwl ar gyfer yr Adran. Eglurwyd y
bydd y cynllun hwn mewn amser yn dod ger bron y Pwyllgor Craffu Gofal er mwyn
derbyn ei fewnbwn, sydd wastad yn cael ei werthfawrogi gan yr Adran. Diolchwyd i swyddogion AGC a
SAC am y cyd-weithio cyson efo’r Adran Oedolion a mynegwyd gwerthfawrogiad am
eu mewnbwn. Amlygwyd bod canran uchel iawn o’r materion sy’n cael eu nodi yn
faterion sy’n heriol yn genedlaethol neu’n faterion sydd eisoes wedi eu
hadnabod a’r Adran yn ceisio darganfod datrysiadau ar eu cyfer. Cyflwynodd cynrychiolydd
Arolygiaeth Gofal Cymru'r adroddiad gan fanylu ar y canfyddiadau. Diolchwyd i
Uwch Swyddogion yr Adran am eu gwaith o ragbaratoi cyn mis Hydref ac am y
gwaith a’r gefnogaeth yn ystod yr archwiliad. Tynnwyd sylw at y llythyr sydd wedi
ei gynnwys yn y Rhaglen (tudalen 16) gan egluro mai’r llythyr hwn yw canlyniad
yr ymweliad. Amlygwyd rhai
materion sydd wedi eu cynnwys yn y llythyr megis y ganmoliaeth am y cynnydd
sydd wedi ei wneud yn y maes gofal cartref er bod gwelliannau pellach i’w
gwneud. Credwyd bod angen cysoni’r amser aros am asesiadau gan fod oedi efo
rhai asesiadau am ofal cartref. Cydnabuwyd hefyd y cryfderau a’r gwelliannau
clir yn y maes diogelu oedolion ac asesu galluedd meddyliol pobl. Derbyniwyd bod
heriau yn bodoli wrth geisio gweithio mewn partneriaeth efo’r Bwrdd Iechyd gan
gydnabod bod ymdrechion yn cael eu gwneud a phwysleisiwyd y pwysigrwydd i
barhau â’r ymdrechion hynny. Tynnwyd sylw at rai meysydd i’w gwella megis yr
heriau wrth gofnodi data am
asesiadau a chymorth i ofalwyr di-dâl gan nodi bod lle i wneud y data yn fwy
dibynadwy. Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru drosolwg
o’r Adroddiad Archwilio Cymru fel sydd wedi ei gynnwys yn y Rhaglen (tudalen
37). Eglurwyd bod y gwaith archwilio SAC yn canolbwyntio ar faterion yn
ymwneud â darparu a chomisiynu gofal cartref mewnol ac allanol. Diolchwyd am y
croeso yn ystod yr ymweliad ac am y cyd-weithio. Rhoddwyd canmoliaeth i adroddiad Llechen Lan a’r cynlluniau sydd ar y gweill gan nodi fod hyn yn dangos meddwl hir dymor ac ystyriaethau i drawsnewid yr Adran i fod yn fwy effeithiol. Nodwyd ei bod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cwestiynau i’w
gofyn i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd a’u hymatebion i
gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor. Cofnod: Croesawyd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i’r
cyfarfod. Gofynnwyd y cwestiynau a oedd wedi eu gofyn ymlaen llaw i’r Bwrdd
Iechyd yn y drefn yr oeddynt yn ymddangos ar Raglen y Pwyllgor gan roi cyfle i
gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd ymateb a’r Aelodau i holi cwestiynau pellach. Gweledigaeth Diolchwyd am y croeso cynnes a nodwyd ei bod
hi’n braf cael ymweld â’r Cyngor i ateb cwestiynau. Esboniwyd bod y cynllun
‘Gogledd Cymru Gwell’ yn un sydd wedi bod yn rhedeg ers cyfnod ond yn rhywbeth
mae’r Bwrdd Iechyd yn ail edrych arno. Eglurwyd bod o’n waith sydd wedi bod yn
digwydd gyda’r trydydd sector, hefo partneriaid yn y cynghorau sir ar draws
gogledd Cymru, ac yng Ngwynedd mae’n
rhoi cyfle i roi ffocws ar les. Ymhelaethwyd mai’r bwriad yw t ceisio helpu, yn
enwedig, y bobl mewn ardaloedd difreintiedig ac i fynd i’r afael ar y problemau
mawr sydd yn medru gwneud gwahaniaeth yn y cefndir. Cydnabuwyd fod problemau wedi codi gyda
lefelau staffio yn ysbytai cymunedol ar draws Wynedd. Eglurwyd mai gweledigaeth
y Bwrdd Iechyd i’r dyfodol ywsefydlu mwy o unedau mân
anafiadau i rwystro pobl rhag mynd i’r
Ysbytai mwy i gael triniaeth. Ymhellach eglurwyd mai’r nod yw sefydlu
ystafelloedd triniaeth yn yr ysbytai
cymunedol hefyd i rwystro pobl rhag gorfod teithio yn bell i gael
cyffuriau drwy eu gwythiennau. Adroddwyd fod y gwasanaeth ‘Tuag Adref’ wedi
cael dechrau positif. Nodwyd bod claf yn medru aros yn eu tai gydag ychydig
bach o gefnogaeth gan y Bwrdd Iechyd a’r nyrsys cymunedol i osgoi gorlenwi yn
yr ysbytai. Croesawyd y syniad o gael mwy o ysbytai
cymunedol sydd yn medru darparu mwy o wasanaethau i gleifion, ond yn sgil hynny
mynegwyd pryder gyda rhai gwasanaethau yn cael eu canoli, fel y gwasanaeth
fasgwlaidd. Eglurwyd fod arbenigedd
fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd o’r blaen, ond mae’r gwasanaeth bellach
wedi ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Mewn ymateb eglurwyd fod hwb y gwasanaeth
Fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd a bod rhai gwasanaethau eraill yn Ysbyty Gwynedd a Maelor. Nodwyd
hefyd fod hyn yn broblem ehangach gan nad yw hi'n bosib cynnal gwasanaethau
arbenigol ym mhob man yn y Gogledd oherwydd diffyg niferoedd. Doctoriaid a gwasanaethau dyddiol eraill
(sydd ddim yn wasanaethau brys): Adroddwyd mai yn y gofal cychwynnol mae’r
rhan fwyaf o waith y Bwrdd Iechyd yn cael ei wneud. Cyflwynwyd stateg oedd yn
dangos, dros gyfnod o chwe mis, fod hanner miliwn o apwyntiadau gofal
cychwynnol yng ngogledd gorllewin Cymru. Cydnabuwyd fod problemau gyda
recriwtio meddygon sydd yn rhoi straen ar y system ond gobeithiwyd bydd
agor ysgol feddygol ym Mangor yn helpu
hyn yn y dyfodol. O ran y mynediad i ofal cychwynnol, nodwyd eu bod yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol, gyda fferyllwyr sydd yn medru rhagnodi, therapyddion, nyrsys a pharafeddygon i gyd yn gweithio gyda’i gilydd. Soniwyd hefyd am y ‘Sialens 50 diwrnod’ sydd wedi galluogi’r Bwrdd Iechyd i roi arian ychwanegol i’r fferyllwyr ag i’r meddygon i edrych ar y cleifion bregus a fydd yn helpu i drio cadw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |