Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

To receive any declarations of Personal Interest

3.

MATERION BRYS

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 165 KB

Bydd y Cadeirdd yn cynnig y dylid llonfodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2024, fel rhai cywir.

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 1 2024/25 pdf eicon PDF 244 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Ystyriwyd ac nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.

2.     Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llwyodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

6.

DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2023/24 pdf eicon PDF 507 KB

Dewi A Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Penneath Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon Drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.

 

7.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 228 KB

Hedd Vaughan Jones (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a cymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

8.

LPWAN (LOW-POWER, WIDE-AREA NETWORK) - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES pdf eicon PDF 417 KB

Stuart Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer y prosiect LPWAN ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gaffael a sefydlu’r ffamweithiau gofynnol i gyflawni’r prosiect, yn amodol ar y Swyddfa Rheoli Portffolio yn ymdrin â’r materion sy’n parhau fel nodir yn Adran 7.1 o’r adroddiad.

2.     Nodi’r broses ar gyfer cael mynediad at gyllid drwy’r fframweithiau yn cynnwys cyflwyno cynllun cyflawni ar gyfer pob ardal awdurdod lleol a dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Aelod Arweiniol ar gyfer y Rhaglen Ddigidol a’r Bwrdd Rhaglen Ddigidol i gymeradwyo’r cynlluniau cyflawni a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio yn unig y dyraniad cyllid dilynol drwy’r fframweithiau.

3.     Nodi bod yr Achos Cyfiawnhad Busnes LPWAN yn is-gyfres o’r prosiect Campysau Cysylltiedig mwy y bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ohono ac yn cytuno i’r egwyddor bod unrhyw danwariant yng nghyllideb y prosiect LPWAN yn cael ei glustnodi i’r prosiect Camysau Cysylltiedig yn y lle cyntaf.

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

10.

ACHOS FUSNES AMLINELLOL CYDNERTH

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Menter Môn Morlais Cyf yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7.1, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei pharatoi i’r Bwrdd ei ystyried.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r Adroddiad fel sail ar gyfer y trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail i’r cyllid gael ei gytuno gan y Bwrdd yn y cam Achos Busnes Llawn.

3.     Nodi fod y model ariannu arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 100% benthyciad masnachol yn ddarostyngedig i gadarnhad o’r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o’r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa i’w defnyddio i ariannu’r Swyddfa Rheoli Portffolion yn y blynyddoedd i ddod.

 

11.

CANOLFAN BIODECHNOLEG AMGYLCHEDDOL - ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan Biodechnoleg Amgylcheddol ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni’r prosiect, yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw i’r materion sy’n weddill fel  nodir yn Adran 7 o’r Adroddiad ac yn sicrhau’r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

2.     Nodi bydd dau gam caffael pellach ar gyfer cyflawni’r prosiect a dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo manylion caffael a dyfarnu cyn rhyddhau cyllid ar gyfer y camau hyn.