Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679325

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Robin Williams yn dirprwyo.

·       Yr Athro Joe Yates (Prifysgol Wrecsam) gyda Richard Day yn dirprwyo.

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Paul Spencer yn dirprwyo.

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

·       Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo.

·       Gareth Ashman (Sylwedydd Llywodraeth DU) gyda John Hawkins yn dirprwyo.

·       Wendy Boddingrom (Llywodraeth Cymru)

·       Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

·       Yana Williams (Coleg Cambria).

·       Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru).

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Dave Hughes ar gael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn ddiweddar ac fe’i groesawyd i’w gyfarfod cyntaf o’r Bwrdd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai)  ar gyfer Eitem 9. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 165 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir.

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 523 KB

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya a Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais.

2.     Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

3.     Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais.

2.     Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

3.     Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

·       Nodi tanwariant a ragwelir o £5,966 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2024/25.

·       Nodi llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £14.28m yn 2024/25 o’i gymharu â chyllideb gymeradwy  £24.67m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw gyd at ddiwedd Awst 2024 ac hefyd yn amcanu’r sefyllfa hyd at y flwyddyn ariannol gyredol. Amcaniwyd tanwariant o £6,000 ebryn diwydd y flwyddyn ariannol 2024/25 ac manyliwyd ar wahanol elfennau o’r gyllideb fel a ganlyn:

 

·       Rhagwelwyd gorwariant net o £9,368 ar gyfer y ‘Swyddfa Rheoli Portffolio’ yn sgil gowariant ar gyflenwadau a gwasanaethau. Nodwyd bod y gorwariant hwn yn deillio o gostau systemau ac esboniwyd bydd angen adolygu’r pennawd cyllideb hwn ar gyfer y dyfodol.

·       Eglurwyd bydd yr £20,000 o danwariant ‘Cefnogaeth Gwasanaethau Cefnogol Cyllid Cyngor Gwynedd’ yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu’r gwariant ar gefnogaeth gyllidol allanol sy’n rhan o’r pennawd ‘Prosiectau’.

·       Cadarnhawyd y disgwylir i’r gwariant o dan y pennawd ‘Cyd-bwyllgor’ fod o fewn y gyllideb ar gyfer 2024/25.

·       Nodwyd bod y pennawd ‘Prosiectau’ yn dangos gowrariant net o £70,000. Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd cefnogaeth gyfreithiol allanol sydd ei angen ar nifer o brosiectau’r rhaglen gyfalaf.

·       Esboniwyd bod y pennawdGrantiauyn cynnwys gwariant ar brosiectau Ynni Ardal Leol a Chronfa Ffyniant Gyffredin. Cadarnhawyd bod estyniad nes Mawrth 2025 wedi ei dderbyn yn ddiweddar ar grant Ynni Ardal Leol felly bydd y gorwariant hwn yn cael ei ariannu gan y grant.

           

            Cyfeiriwyd at brif ffrydiau incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd bod rhain yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw ‘Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru’ grant Ynni Llywodraeth Cymru, Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gronfa wrth gefn.

 

            Adroddwyd ar sefyllfa cronfeydd y Bwrdd gan nodi yr amcanwyd balans o bron i £211,000 yn y gronfa wrth gefn gyffredinol. Amcanwyd balans o £152,000 yn y gronfa prosiectau a £7.2miliwn yn y gronfa llog. Esboniwyd bod y gronfa llog wedi ei neilltuo i ariannu costau benthyca yn y dyfodol. Nodwyd bod llogau uchel ar hyn o bryd yn golygu bod y Bwrdd yn derbyn swm sylweddol o log ar y balansau gydag amcan llog o £2.5miliwn ar gyfer 2024/25.

 

            Rhannwyd sefyllfa ddiweddaraf y rhaglen gyfalaf gan nodi gostyngiad net o £10.39miliwn yng ngwariant disgwyliedig ar gyfer 2024.25. Esboiwyd bod hyn oherwydd oediad ar bedwar prosiect sef ‘Ynni Lleol Blaengar’, ‘Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy’, ‘Porth Caergybi’ a ‘Safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru’. Fodd bynnag, nodwyd bod gwariant tebygol ar brosiectau ‘Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol’ ac ‘Rhwydwaith Talent Twristiaeth’ o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol. Ymhelaethwyd bod oediad tebygol o ddwy flynedd ar brosiectau ‘Stiwdio Kinmel’ac ‘Hwb Economi Wledig Glynllifon’.

 

            Cadarnhawyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2024 pdf eicon PDF 639 KB

I gyflwyno Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer Cyd-Bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a ddarparwyd gan Archwilio Cymru.

Penderfyniad:

Derbyniwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gynrychiolydd Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2024.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Archwilio datganiadau ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau y rhoddir cyfrif priodol am arian cyhoeddus.

 

Rhaid i’r Cyd-bwyllgor roi trefniadau ar waith i gael gwerth am arian am yr Adnoddau y mae’n eu defnyddio, a rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol fod wedi’i fodloni ei fod yn gwneud hyn.

 

TRAFODAETH

                                  

Tywyswyd drwy Gynllun Archwilio Manwl 2023-24 gan amlinellu’r ffi, risgiau cydnabydiedig, gwybodaeth am y tîm archwilio ac yr amser a gymerwyd i gwblhau’r archwiliad.

 

Cyhoeddwyd bod y lefel materol wedi ei nodi’n £83,000. Eglurwyd bod y ffigwr hwn wedi ei gyfrifo drwy ganfod 2% (canran perthnasedd) o’r gwariant gros ar hyd y flwyddyn ariannol 2023-24 (£4.159 miliwn). Nodwyd bod y ffi hwn yn uwch na’r flwyddyn flaenorol oherwydd cynnydd mewn gwariant gros. Ymhelaethwyd bod lefel perthnasedd is wedi ei bennu ar gyfer rhai meysydd o’r cyfrifon oherwydd gallent fod yn bwysicach i ddefnyddwyr y cyfrifon. Eglurwyd mai’r meysydd hynny yw ‘Tâl uwch swyddogion’ ac ‘Datgeliadau partïon cysylltiedig’.

 

Tynnwyd sylw at un risg sylweddol sydd wedi cael ei nodi yn dilyn asesiad o risg cynhenid. Cadarnhawyd mai’r risg yw y gall Rheolwr ddi-ystyrru rheolaethau. Esboniwyd bod y risg wedi ei nodi ar gyfer Arddangosyn 1: risgiau sylweddol i ddatganiadau ariannol, ac ei fod yn cael ei nodi ym mhob cynllun archwilio ar gyfer pob Corff yng Nghymru. Pwysleisiwyd nad yw hwn yn risg sydd wedi cael ei nodi ar gyfer y Bwrdd hwn yn unig. Sicrhawyd bydd Archwilio Cymru yn sicrhau bod eu gweithdrefnau yn ymateb i’r risg hwn.

 

Esboniwyd bod ‘Prisio rhwymedigaeth net cronfa bensiwn’ wedi cael ei nodi fel risg o fewn Arddangosyn 2: meysydd eraill y canolbwyntir arnynt, fel Risg Archwilio. Nodwyd bod y risg hwn yn gyffredinol ei natur ac bydd i’w weld mewn nifer o gynlluniau archwilio diweddar. Pwysleisiwyd nad yw’r risg hon wedi cael ei nodi ar gyfer  Bwrdd hwn yn unig.

 

Manylwyd ar amserlen yr archwiliad gan nodi bod y gwaith Cynllunio Archwilio Manwl wedi ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2024 ac bu i’r gwaith archwilio gael ei gyflawn ym mis Awst 2024. Nodwyd y bwriedir cyflwyno adroddiad pellach i’r Bwrdd ym mis Tachwedd.

 

Amlygwyd bod ffioedd ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu 6.4% o ganlyniad i chwyddiant. Amcangyfrifwyd bydd cyfamswm ffioedd archwilio yn £26,754 gan bwysleisio bydd ad-daliad yn cael ei gyflwyni i’r Bwrdd os bydd y gwir ffi yn is, gan nad oes modd i Archwilio Cymru wneud elw.

 

Diolchwyd i’r swyddogion sydd wedi bod yn cydweithio gydag Archwilio Cymru er mwyn ymateb i unrhyw ymholiadau drwy gydol y broses archwilio.

 

7.

DI-WIFR UWCH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL pdf eicon PDF 415 KB

Stuart Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.

 

2.     Dirprwywyd hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

 

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr y Rhaglen Ddigidol.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.

 

2.     Dirprwywyd hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

 

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol y Prosiect Di-wifr Uwch.

 

Fel prosiect sy’n cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth gan y Bwrdd i sefydlu’r fframweithiau fydd yn cyflawni’r prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau a chyrff cyhoeddus i fuddsoddi yn y dechnoleg di-wifr ddiweddaraf, gan gynnwys 5G ac wi-fi o’r radd flaenaf ar draws rhanbarth y Gogledd. Gobeithiwyd bydd hyn yn cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Nodwyd bod tystiolaeth i gefnogi bod buddsoddiad o’r math hwn yn arwain at ddatblgiad busnes, cynaliadwydd masnachol ac yn creu mwy o swyddi. Tynnwyd sylw bod nifer o gwmnïau mawr wedi manteisio ar y math hwn o dechnoleg ac mae’r prosiect yn gobeithio lleihau’r risgiau masnachol  i gwmnïau wrth iddynt ymdrin â’r datblygiad o’r newydd. Ysytriwyd bod y sectorau byddai’n elwa fwyaf o’r dechnoleg yma yn cynnwys gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, logisteg, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Rhannwyd enghreifftiau o fuddsoddiadau posib o fewn y meysydd hyn megis darparu offer ar gyfer llinellau cynhyrchu mewn ffatrïoedd, rhwydweithiau preifat 5G, uwchraddio rhwyweithiau i gefnogi gweithrediadau logisteg mewn canolfannau trafnidiaeth yn ogystal â cheisiadau Trefi Smart er mwyn gwella monitro a’r cyfathrebu yng nghanol ein trefi.

 

Adroddwyd bod y proesiect hon yw ail rhan y cynllun ‘Campysau Cysylltiedig’. Esboniwyd mai’r prosiect gyntaf oedd prosiect LPWAN a oedd yn ymsetyn darpariaeth Rhwydwaith Ardal Gyfan Pŵer Isel i gefnogi cywysiadau arloseol ‘Rhyngrwyd y pethau’ ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat drwy technoleg di-wift LoRaWAN. Atgoffwyd bod y cynllun hwn wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd eisoes.

 

Esboniwyd mai prif amcan gwariant y prosiect yw ‘Galluogi 100-200 o fusnesau a defnyddwyr sector cyhoeddus ymhob un o siroedd y gogledd i gymryd mantais o gysylltedd di-wifr uwch erbyn 2030’. Gobeithiwyd bydd hyn yn arwai at greu rhwng 130-200 o swyddi o fewn y rhanbarth a chreu GVA net ychwanegol o rhwng £41 miliwn a £62 miliwn erbyn 2036. Amcanwyd hefyd bydd cyfanswm buddsoddiad o rhwng £13miliwn ac £20  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 9 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

9.

PROSIECT RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH - ACHOS BUSNES LLAWN

Dafydd Owen Jones (Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) a Colin David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.

 

2.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llunio cytundeb ariannu gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, ar y sail bod Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r ‘materion sy’n weddill’ a nodir yn adran 7.1 yr adroddiad.

 

3.     Dirprwywyd cymeradwyaeth derfynol y caffaeliad sy’n weddill yng Ngham 1 i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau'r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.

 

4.     Dirprwywyd awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer Cam 2 y prosiect, y bedwaredd is-ganolfan lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau’r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth ac Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.

 

2.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llunio cytundeb ariannu gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, ar y sail bod Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r ‘materion sy’n weddill’ a nodir yn adran 7.1 yr adroddiad.

 

3.     Dirprwywyd cymeradwyaeth derfynol y caffaeliad sy’n weddill yng Ngham 1 i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau'r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.

 

4.     Dirprwywyd awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer Cam 2 y prosiect, y bedwaredd is-ganolfan lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau’r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cydnerth.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.