Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2025 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2025 Archwilio
Cymru i gyflwyno Penderfyniad: Derbyniwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd
yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Matthew Edwards (Archwilio Cymru) PENDERFYNWYD: Derbyniwyd adroddiad
Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer
2024. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
ddiolch am y cyfle i fod yma ac i gyflwyno cynllun archwilio olaf y Bwrdd
Uchelgais. Mynegwyd fod y cynllun yn cyfeirio at y cyfrifon drafft a oedd yn
cael eu trafod yn ystod y cyfarfod. Mynegwyd fod angen amlygu
rhai elfennau o’r cynllun o ran cyrraedd safonau archwilio rhyngwladol sef
amlygu’r gwaith archwilio ynghyd a’r amserlenni. Mynegwyd nad oes modd rhoi
sicrwydd pendant ynghylch gwirionedd a thegwch y datganiadau ond yn mabwysiadu
cysyniad o berthnasedd gwariant. Eglurwyd fod y lefel perthnasedd gwariant ar
2%, ond fod y cynllun wedi ei wreiddio ar sail gwariant llynedd. Wedi gweld y
datganiad ariannol diweddaraf mae’n amlygu fod cynnydd sylweddol mewn gwariant
wedi bod ac felly bydd angen diweddaru’r lefel perthnasol yn unol â hyn wrth
wneud y gwaith archwiliol. Nodwyd y prif risgiau ac un
o’r rhain oedd y risg y bydd rheolaethau yn cael eu gwrthwneud gan reolwyr ond
fod hyn yn berthnasol ym mhob endid. Risg arall a amlygwyd oedd prisio
rhwymedigaeth net/gwarged cronfa bensiwn ynghyd a gweithredu safon adrodd ariannol
rhyngwladol - Lesoedd. Mynegwyd fod y ffi archwilio
oddeutu £15,000. Cadarnhawyd fod aelodaeth o’r tîm archwilio yn annibynnol o’r
Cydbwyllgor ond nodwyd un bygythiad i annibyniaeth mewn perthynas â’r Rheolwr
Archwilio sy’n cydnabod i aelod o Grŵp Gweithredol y Cydbwyllgor. Bydd
camau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw wrthdaro posib yn cael ei
reoli. Diolchwyd am yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD O GYFRIFON Y BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU AM 2024/25 Dewi A
Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth
Cynorthwyol Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn Datganiad o Gyfrifon drafft y
BUEGC (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Dewi Aeron Morgan (Swyddog
Cyllid Statudol y CBC) PENDERFYNWYD Nodi a derbyn Datganiad o Gyfrifon drafft y BUEGC (yn amodol
ar archwiliad) am 2024/25 TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y ffigyrau a gyflwynwyd
yn gyson a’r hyn oedd wedi ei adrodd yn adroddiad alldro refeniw, a gyflwynwyd
yn ôl ym mis Mehefin. Nodwyd fod atodiadau yn amlygu fod cyfanswm y grantiau
sydd wedi ei dderbyn o flaen llaw a balans o £41.58m ar 31 Mawrth 2025. Eglurwyd fod gwerth yr asedau pensiwn yn parhau yn fwy na
gwerth yr ymrwymiadau, ac roedd sefyllfa ased net o £1m ar 31 Mawrth. Esboniwyd
mai’r rheswm dros hyn yw bod prisiad yr actwari yn defnyddio bondiau
corfforaethol, a gan fod cynnych y rhain wedi bod yn uchel, mae wedi arwain at
gyfraddau disgownt cyfrifyddu uchel sy’n rhoi gwerth is ar yr ymrwymiadau
pensiwn. Felly, yn unol â’r cyfarwyddyd gan yr actwari, roedd angen unwaith eto
addasu gwrth yr ased ar y fantolen a’i ddangos fel £0. Amlygwyd fod y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r
cyfrifon sydd yn tystio ei fod o’r farn fod y Datganiad o’r Cyfrifon wedi ei
baratoi yn unol â’r ymarfer priodol fel a osodir yn y Cod Ymarfer CIPFA/LASAAC
ar gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol. Cyhoeddwyd fod y swyddog o’r farn ei fod
yn cyflwyno darlun cywir a theg o’r sefyllfa ariannol am flwyddyn ariannol
2024-25. Mynegwyd fod y datganiad yn cael ei adolygu gan Archwilio
Cymru, a bydd cyfrifon terfynol yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD AELODAETH YR IS-BWYLLGOR Iwan Evans,
Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Claire Incledon (Dirprwy Swyddog
Monitro Dros Dro – CBC). PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd penodi’r Aelodau cyfetholedig ar yr
is-bwyllgorau cynllunio a thrafnidiaeth strategol. Nodwyd aelodaeth yr is-bwyllgorau fel a ganlyn:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi dros y flwyddyn ddiwethaf
fod y Cyngor wedi sefydlu dau o’r Is-bwyllgorau sef yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth
ac yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol, gydag aelodaeth yn dod o arweinwyr
portffolio perthnasol cynghorau’r gogledd. Mynegwyd fod y Swyddog Monitro wedi
cael yr hawl i addasu unrhyw aelodaeth ac i benodi Aelodau Lleyg ond ei fod yn
adrodd ar hyn yng nghyfarfod nesaf y CBC. Nodwyd for yr adroddiad yn adrodd
ar yr addasiadau sydd wedi bod i’r aelodaeth yn dilyn Cyfarfodydd Blynyddol yr
holl gynghorau. Tynnwyd sylw at yr addasiadau. Amlygodd y Cyng. Gary Pritchard ei fod yn aelod dros dro tan yn y Pwyllgor
Trafnidiaeth, tan y bydd Arweinydd Portffolio newydd wedi’i benodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Alwen
Williams, Prif Weithredwr ac
Andy Roberts, Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nododd yr Aelodau'r diweddariad ar y cynnydd
wrth baratoi Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer
Gogledd Cymru a'r prif faterion a amlygwyd a fydd angen eu datrys yn y dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr
y CBC ac Andy Roberts, Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD: Nododd yr Aelodau'r diweddariad ar y cynnydd wrth baratoi
Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Gogledd Cymru
a'r prif faterion a amlygwyd a fydd angen eu datrys yn y dyfodol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod creu Cynllun Datblygu
Strategol (CDS) ar gyfer Gogledd Cymru yn ofyniad statudol, ac amlygwyd fod yr
adroddiad yn nodi’r prif gamau ar gyfer creu’r Cynllun. Mynegodd Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol ei
bod yn bleser rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud. Pwysleisiwyd eu
bod yn y camau cychwynnol yn y broses o greu’r CDS. Nodwyd fod drafft
cychwynnol o’r Cytundeb Cyflawni wedi ei wneud ac wedi ei rannu gyda’r
Llywodraeth ynghyd a rhanddeiliad perthnasol ac
Is-bwyllgor Cynllunio Strategol y CBC. Mynegwyd fod yr is-bwyllgor wedi cytuno
yn ei hanfod ond wedi amlygu risgiau ariannol a fydd yn cael ei nodi yn hwyrach
yn yr adroddiad. Nodwyd fod y rhaglen ddrafft yn dilyn amserlen o 5 mlynedd,
a bod cyfnod y cynllun yn un 25 mlynedd. Mynegwyd ei farn bersonol fod yr
amserlen rhaglen ddrafft o 5 mlynedd braidd yn hir ond ei fod yn dilyn
canllawiau'r Llywodraeth, ac amlygwyd y gwir bryder yw sicrhau fod y Cynllun yn
cael ei wneud yn iawn. O ran y cynllun 25 mlynedd, nodwyd fod rhai o’r
cynlluniau wedi eu nodi i gychwyn mor fuan â phosib. Nodwyd o ran cyfathrebu ac ymgynghori, gydag ardal mor eang
bydd llawer o’r ymgynghori yn mynd i fod yn rhithiol yn rhanbarthol ond y bydd
modd cynnal digwyddiadau wyneb i wyneb yn lleol ynghyd a rhai rhanbarthol. Pwysleisiwyd mai’r risg mwyaf yw’r risg ariannol, gan fod y
ffigwr mor uchel, nid oes arian wedi ei gadarnhau ar gyfer y Cynllun ac o
ganlyniad bydd angen dod o hyd i’r bwlch ariannol. Eglurwyd fod y Cytundeb
Cyflawni wedi mynd i ymgynghoriad heddiw, a gobeithir y bydd modd ym mis Medi
cyflwyno’r Cytundeb i’r CBC fel yr un a fydd yn cael ei gyflwyno i’r
Llywodraeth. Ond amlygwyd y bydd angen dod o hyd i ateb i’r bwlch ariannol er
mwyn ei gwblhau. Mynegwyd fod Arweinydd y CBC yn y Gogledd ynghyd a’r CBC eraill
ar draws Cymru wedi codi’r mater yma gyda’r Llywodraeth. Tynnwyd sylw at adran 7 a oedd yn amlygu’r camau yn dilyn
cyflwyno’r Cytundeb Cyflawni gan nodi y bydd angen trafodaeth agored i greu
gweledigaeth lawn ar gyfer y Cynllun yn yr Hydref. Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi os oes problem gyllidol
gyda phroblemau i lenwi’r bwlch ariannol gofynnwyd iddo gael ei adrodd i’r CBC
yn syth. Mynegwyd gobaith y bydd modd cael ateb gan y Llywodraeth cyn yr
etholiad a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mai.
Nodwyd y bydd prif bryderon yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn cael
eu hadrodd yn syth i’r CBC. Gofynnwyd a fydd y Cynllun yn cael ei gyhoeddi i’r cyhoedd ar ffurf fwy syml, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - ÔL-YMGYNGHORI Alwen
Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.
Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun rhanbarthol pwysig yma. Am y rhesymau yma bydd rhai atodiadau yn eithriedig yn unol a Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r ddogfennaeth ategol
i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi gan y Gweinidogion
ym mis Medi 2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r
ddogfennaeth ategol i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo a'i gyhoeddi
gan y Gweinidogion ym mis Medi 2025. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad a’r
dogfennau yn garreg filltir i’r CBC ac yn enghraifft dda o gyd-ddatblygu gydag
amrywiol unigolion a mudiadau a grwpiau. Diolchwyd i bawb am ymateb i’r
ymgynghoriad. Mynegwyd fod hwn yn nodi’r cam cyntaf i weithredu’r prif
gynlluniau trafnidiaeth. Ategwyd fod y cynlluniau hyn nid yn unig yn mynd i
gynorthwyo i ffynnu’r economi ond ei fod yn cyd-fynd a chyfrifoldebau
amgylcheddol a cymdeithasol y CBC. Amlygwyd fod datblygu a gweithredu’r Cynllun Trafnidiaeth yn
swyddogaeth statudol ac amlygwyd fod cefndir ac ystyriaethau perthnasol am eu
creu wedi ei nodi yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau a godwyd yn ystod yr
ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cynnwys y canlynol. O ran y Cynllun
Trafnidiaeth Ranbarthol, tynnwyd sylw at
Rwydwaith Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn ôl ym mis Mai,
gan nodi fod y polisïau a’r cynllun trafnidiaeth wedi ei adeiladu i mewn iddo.
Nodwyd fod diweddariad wedi ei wneud er mwyn eglurdeb yn dilyn diweddariad ac
adborth Llywodraeth Cymru am eu cynllun 20 milltir yr awr sy’n amlygu’r eithriadau
ac addasiadau i’r Cynllun sydd am gael eu gwneud gan rai Awdurdodau Lleol.
Tynnwyd sylw at ddeheuad 3 o’r Rhwydwaith Lonydd Strategol, ei fod wedi ei
addasu yn benodol er mwyn rhoi budd ehangach i deithio cynaliadwy. Yn dilyn
cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn tynnu yn ôl o waith ar yr A55/A494 a
gyfeiriwyd ato yn gyffredin fel y Llwybr Coch, nodwyd yr angen i addasu’r elfen
hwn o’r Cynllun. Mynegwyd fod ymgynghoriad wedi nodi’r angen i amlygu
Trafnidiaeth Gymunedol a’i bwysigrwydd i bobl leol. Nodwyd fod angen amlygu
pwysigrwydd a defnydd o’r Iaith Gymraeg fwy nodi’r polisïau a’r strategaethau
iaith. Amlygwyd fod y dogfennau gan gynnwys y dogfennau syml i’w darllen wedi
eu diweddaru yn dilyn y diweddariadau. O ran y Cynllun Cyflawni, nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i
edrych ar yr holl gynlluniau a’i chostau cyfalaf, er mwyn amlygu sut mae’r
cynllun rhanbarthol yn cyd-fynd a’r cynlluniau a’r polisïau cenedlaethol.
Esboniwyd fod adran ar fforddiadwyeth wedi ei gynnwys
a oedd yn elfen gafodd lawer o sylw yn yr ymgynghoriad. Mynegwyd er mwyn amlygu
fforddiadwyaeth yr holl gynlluniau eu bod wedi
amlygu’r cynlluniau blaenoriaeth uchel a’i amserlen, er mwyn sicrhau eu bod yn
cyd-fynd a chyllidebau trafnidiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y
cynlluniau sydd wedi eu diweddaru - megis dileu cynllun yn ymwneud a Phont Llannerch, wedi i Gabinet Cyngor Sir
Ddinbych wneud y penderfyniad i dynnu’r prosiect yn ei ôl. Tynnwyd sylw at yr Arfarniad Llesiant Integredig gan nodi ei fod wedi ei gynnwys yn dilyn sylwadau Llywodraeth Cymru, a'i fod yn amlygu sut mae’r Cynllun yn cyd-fynd a chanllawiau cenedlaethol. Mynegwyd fod Datganiad Ôl-fabwysiadu ar gyfer yr Arfarniad Llesiant Integredig wedi ei greu bellach sydd yn amlygu sut mae adborth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol.
Mae’r adroddiad ynglŷn a drafft Memorandwm Dealltwriaeth y Parth
Buddsoddi gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig sydd wedi ei
ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau
Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol
eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu
gwybodaeth gyfrinachol. Cofnod: Cytunwyd y cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth. Mae’r adroddiad ynglŷn â drafft Memorandwm
Dealltwriaeth y Parth Buddsoddi gyda Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig
sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer
darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n
ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu
gwybodaeth gyfrinachol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM – DIWEDDARIAD A MEMORANDWM O DDEALLTWRIAETH Alwen
Williams, Prif Weithredwr ac Iain Taylor, AMION Consulting i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad: Derbyniwyd yr
Adroddiad Diweddaru a nodi'r gwaith rhwng tîm y Parth Buddsoddi, Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU i benderfynu ar ddyraniad derbyniol o fewn y £160m ar
gyfer y gost rhyddhad treth sy'n gysylltiedig â meddiannu a datblygu Safleoedd
Treth Parth Buddsoddi. Cymeradwywyd
Memorandwm o Ddealltwriaeth drafft arfaethedig ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y
Fflint a Wrecsam gan ddirprwyo i Brif Weithredwr a Swyddog Monitro y CBC, mewn
ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y CBC i gytuno a chwblhau'r ddogfen
derfynol. Gofynnwyd am
adroddiad pellach i'r CBC ym mis Medi 2025 gyda chynigion manwl ar gyfer Bwrdd
Arloesi Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan PENDERFYNWYD: Derbyniwyd yr Adroddiad Diweddaru a nodi'r gwaith rhwng
tîm y Parth Buddsoddi, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i benderfynu ar
ddyraniad derbyniol o fewn y £160m ar gyfer y gost rhyddhad treth sy'n
gysylltiedig â meddiannu a datblygu Safleoedd Treth Parth
Buddsoddi. Cymeradwywyd Memorandwm o Ddealltwriaeth drafft
arfaethedig ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam gan ddirprwyo i
Brif Weithredwr a Swyddog Monitro'r CBC, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac
Is-gadeirydd y CBC i gytuno a chwblhau'r ddogfen derfynol. Gofynnwyd am adroddiad pellach i'r CBC ym mis Medi 2025
gyda chynigion manwl ar gyfer Bwrdd Arloesi Gogledd Cymru. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad.
|