Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer y flwyddyn 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd Phil Wynn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Cydbwyllgor. Cofnod: Etholwyd Y
Cynghorydd Phil Wynn, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Cadeirydd ar gyfer y
cyfarfod hwn o’r Cydbwyllgor. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd Meirion Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer y
Pwyllgor hwn. Cofnod: Etholwyd Y Cynghorydd Meirion Jones, Cyngor Sir
Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor hwn. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y canlynol; Karen Evans (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dymunwyd yn dda i Annwen
Morgan ar ei hymddeoliad a diolchwyd am ei holl waith ymroddgar fel aelod o’r
Cyd-bwyllgor. Dymunwyd yn dda i Dafydd
Edwards ar ei ymddeoliad a diolchwyd iddo am ei waith amhrisiadwy dros y
blynyddoedd mewn perthynas â chyllid GwE. Ategodd Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE y byddai colli dau aelod pwysig iawn yn hanes sefydlu GwE yn un enfawr i’r
sefydliad. Nododd bod Annwen Morgan
wedi cynrychioli penaethiaid, fel pennaeth addysg ac fel prif weithredwraig, a
chynigiodd arweiniad doeth cyson a chadarn i GwE. Diolchodd i Dafydd Edwards
am ei gyngor cadarn a chlir ac am fod yn gyfaill da i GwE ar faterion tu hwnt i
arbenigedd swyddogion. Ategodd bod cyngor doeth Dafydd parthed trefniant
cyllidol yn ogystal â’i ragweliadau wedi bod yn arbennig i GwE. Tymor Arholiadau 2022 Nodwyd nad oedd Blwyddyn 12
wedi cael profiad o arholiadau allanol, a gyda lefelau Covid yn dal yn uchel,
awgrymwyd y dylid anfon llythyr at y Gweinidog Addysg, ar ran y Cyd-bwyllgor
hwn, yn pwyso am eglurder ynglŷn â thymor arholiadau 2022, a bod y
penderfyniad hwnnw’n cael ei adrodd i ysgolion a disgyblion cyn y
Nadolig. Ategwyd y sylwadau hyn gan
aelodau eraill. Nodwyd:- ·
Ei
bod yn bwysig cael penderfyniad cadarn ac amserol ar y mater. ·
Pe
na chynhelid arholiadau allanol yn 2022, bod angen bod yn glir beth yw’r gofynion
fel y gall yr ysgolion a’r bobl ifanc baratoi ar gyfer hynny. ·
Y
dylai’r mater gael ei godi gyda Chymwysterau Cymru a CBAC. Cytunwyd i lythyru’r
Gweinidog ar hyd y llinellau hyn, gan hefyd rannu pryder y Cyd-bwyllgor ymysg
aelodau a chyfarwyddwyr. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 378 KB (copy enclosed) Cofnod: Cadarnhawyd fod y
cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 22ain o Fedi 2021 yn gywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 338 KB I gyflwyno: · Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad; · Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru; · Llythyr Cynrychiolaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon
2020/21, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr
Cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwiliwr
Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2020/21, ac awdurdodi’r Cadeirydd i
lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor. TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Cyllid statudol
GwE gan nodi fod yr adroddiad yn
cwmpasu'r cyfrifon cyn archwiliad a gyflwynwyd i’r Cydbwyllgor ym mis Mai,
2021. Diolchwyd i staff Gwynedd, ac i Archwilio Cymru am archwilio GwE
am y tro cyntaf. Nododd ei fod yn adroddiad glan sydd i’w
groesawu. Mynegwyd nad oedd unrhyw newid sylweddol i’r cyfrifon yn dilyn y
cyfarfod hwnnw a bod y cywiriadau wedi eu cyfyngu i’r nodiadau. Ategodd nad
oedd y mân addasiadau yn newid y prif ddatganiadau. Cyflwynodd Sioned Owen (Archwilio
Cymru) y prif bwyntiau ar y cyfrifon a thynnwyd sylw’r Cydbwyllgor at eu bwriad
i gyhoeddi adroddiad archwilio yn ddiamod. Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu cymorth
yn archwilio am y tro cyntaf o dan amodau heriol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ganiatáu i’r Cadeirydd
ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE),
arwyddo’n electronig y Cyfrifon a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad
Archwiliwr Cyffredinol Cymru). Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Croesawyd
Archwilio Cymru i’w cyfarfod cyntaf o’r Cydbwyllgor. Hefyd, diolchwyd i’r tîm
cyllid. -
Diolchwyd
i Dafydd a’r tîm am eu gwaith gan nodi bod eu gwaith wedi bod yn gryfder gan GwE. |
|
CYLLIDEB GWE 2021-2022 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 PDF 419 KB ·
Diweddaru aelodau’r
Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn
gyllidol 2021/22. ·
Mae’r adroddiad yn
canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y
wybodaeth ariannol gyflawn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. TRAFODAETH: Diweddarwyd aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidebol 2021/22. Nodwyd fod
cyllideb 2021/22 GwE dan reolaeth, er gwaethaf effaith parhaus Covid-19. Nododd bod tanwariant o oddeutu £80,000. Eglurodd
bod effaith Covid-19 yn parhau yn nhermau ymweliadau ysgolion, ategodd bod y
rhain wedi ail gychwyn ond nad ydynt ar yr un raddfa. Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod y gronfa
tanwariant yn cynnwys oddeutu £643,000. Nododd y bydd cyfran helaeth o hwn yn
mynd i ysgolion er mwyn creu capasiti ynddynt i wynebu heriau'r agenda
trawsnewid. Byddai cynnwys y gwariant yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd Rheoli er
mwyn sicrhau bod y Cyfarwyddwyr yn gyfforddus gyda chyfeiriad y gwariant. |
|
GRANT DATBLYGU DISGYBLION 2021-22 PDF 273 KB Rhoi diweddariad i'r Cyd-bwyllgor ar y Cynllun Cymorth Grant Datblygu
Disgyblion am 2021/22 ar draws y rhanbarth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr
adroddiad TRAFODAETH: Cyflwynwyd
yr adroddiad er gwybodaeth gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Eglurodd na chafodd ei drafod
yn gynt yn y flwyddyn oherwydd yr etholiadau ym mis Mai. Cyfeiriwyd
at fanylder y cynlluniau sy’n barhad o gynlluniau a roddwyd mewn lle yn ystod y
flwyddyn academaidd ddiwethaf. Eglurodd bod y gwasanaeth yn gweithio mewn
partneriaeth agos gydag awdurdodau lleol i adnabod blaenoriaethau. Nododd bod cwestiynau yn aml
yn codi ar sail y dyraniad ac eglurwyd hyn i’r Cydbwyllgor. Aethpwyd ati i
egluro i’r Cydbwyllgor bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar lefel clwstwr ac i
ariannu prosiectau rhanbarthol. Cyfeiriodd at y dashfwrdd
sydd wedi ei osod ar gyfer y grantiau i helpu ysgolion efo cynllunio ac i
adrodd ar gynnydd. Eglurodd
eu bod yn annog yr ysgolion i gwblhau'r gwaith fel bod darlun o’r gwariant yn
ogystal ag i helpu i adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y gwariant. I gloi, nododd bod
trafodaeth ar y gweill i ystyried ai dyma’r model cyllido fwyaf priodol i
ariannu cinio am ddim. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: -
Mynegwyd
bod cynnydd yn y nifer o blant sy’n gymwys ar gyfer prydau am ddim dros y deunaw
mis diwethaf ac o ganlyniad, gofynnwyd i weld data mwy diweddar oherwydd hyn. -
Ategodd
at hyn gan nodi bod angen cynyddu’r dyraniad er mwyn ymdopi a’r cynnydd
niferoedd. Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: -
Bod hwn yn agenda cymhleth ac o safbwynt addysg mae ysgolion
yn dibynnu ar y cyllid i sicrhau darpariaeth e.e. i gyflogi staff cefnogol.
Ategodd os oes unrhyw newid, bydd effaith ar weithrediad yr ysgolion. -
Argymhellwyd y dylid gwahodd Yr athro David Egan i’r
Cydbwyllgor fel bod cyfle i fwydo mewn i’r gwaith. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-2022 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 PDF 368 KB Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 2 -
Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-2022 GwE i'r
Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 2. Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwyo a
derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 2. TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a diolchwyd i’r Rheolwr Rheoli Perfformiad am dynnu’r adroddiad at ei gilydd. Atgoffwyd y Cydbwyllgor bod 6 amcan i’r
cynllun busnes a chyfeiriwyd at yr atodiadau sy’n cynnwys naratif o gynnydd yn
erbyn yr amcanion ac atodiad 2 sy’n cynnwys data rhanbarthol ar ymgysylltu gan
yr ysgolion a’u staff. Ategodd bod cofnod lleol o’r data rhanbarthol
yn cael ei baratoi ar gyfer pob awdurdod yn unigol a gaiff ei rannu drwy’r
byrddau ansawdd sirol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: -
Diolchwyd
am yr adroddiad a mynegwyd hyder yn y cynnwys a roddwyd gerbron y Cydbwyllgor. |
|
Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor
ar ein dull gweithredu gyda datblygu rhwydweithiau lleol a rhanbarthol
Cwricwlwm i Gymru er mwyn cefnogi pob ysgol a lleoliad i weithredu'r Cwricwlwm
i Gymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn a
chymeradwyo'r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a chyfeiriodd at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y
Llywodraeth ar ddechrau’r tymor a oedd yn nodi’n glir iawn y dewis ar gyfer
disgyblion yn y sector Uwchradd. Ategodd eu bod yn
ymgynghori ar strategaeth GwE ac un o brif linynnau’r strategaeth yw cefnogaeth
ar gyfer y cwricwlwm. Nododd bod yr Athro Graham Donaldson yn eistedd yn y
grwpiau rhanbarthol yn cynghori ar gyfeiriad yr ymgynghoriad. Eglurodd bod ysgolion
yn amrywio o ran sut maent wedi ymgymryd â’r newidiadau ar gyfer y cwricwlwm a
bod y sefyllfa bresennol wedi rhoi cyfle i ganolbwyntio ar addysgeg a sgiliau
digidol. Ategodd bod tystiolaeth o gydweithio ardderchog ar draws y Gogledd ag
eglurodd bod gwahoddiad agored i ysgolion ar draws y rhanbarth i adnabod
aelodau blaenllaw yn eu cynghreiriau i fod yn rhan o rwydweithiau. Ategodd bod
y rhain ar gyfer y meysydd dysgu profiad, rhwydwaith arall ar ddylunio
cwricwlwm ac un arall ar gyfer asesu. Gan ymestyn ar y pwynt
yma, nododd bod oddeutu 600 o ymarferwyr yn rhan o’r rhwydweithiau a rhagwelir
bydd y niferoedd yn tyfu wedi i’r cyfnod cyntaf. Eglurodd y bydd angen modd o
gyllido hyn ac awgrymodd y dylai fod hyn yn brif fwriad defnydd arian wrth
gefn. Mewn perthynas â’r
drefn asesu, nododd eu bod yn aros am ganllaw pellach gan y Llywodraeth. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: -
Diolchwyd
am yr adroddiad diddorol, balch o weld Yr Athor Graham Donaldson yn rhan o’r
gwaith. -
Ategwyd
bod yr adroddiad yn dangos eglurder ar beth sydd angen ar ein disgyblion -
Holwyd
a ydi’r brwdfrydedd yn parhau yn weledol o fewn y rhwydweithiau, ymysg yr
ymarferwyr. -
Nodwyd
pryder gyda’r drefn o ddisgwyl i ysgolion darparu staff i fynychu’r sesiynau
fel rhan o’r rhwydweithiau os oes diffyg staff oherwydd Covid-19. -
Gofynnwyd
am eglurder ar asesiadau er mwyn sefydlu os yw ysgolion Uwchradd angen mwy o
amser i benderfynu pa bryd i gychwyn ar y cwricwlwm newydd. -
Ategodd
aelod y bwriedir i ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych gychwyn yn 2022. Mewn ymateb nododd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE y pwyntiau canlynol: -
Yn
gyffredinol mae ysgolion yn awyddus i fod yn rhan o’r agenda i’w symud yn ei
flaen. -
Ategodd
bod rhwystrau am godi o fod yn rhan o’r rhwydweithiau oherwydd amgylchiadau’r
pandemig yn yr ysgolion, yn arbennig ysgolion bach. Fodd bynnag, pwysleisiodd
bwysigrwydd bod y drafodaeth yn digwydd ar lefel clwstwr fel bod aelod sydd yn
mynychu yn adrodd yn ôl i’r rhai na ellir gwneud. -
Ar
yr un trywydd, ychwanegodd y rhagwelir y bydd mwy yn dod i mewn unwaith y
byddant yn gweld ymarferoldeb yr agenda. -
O
ran safbwynt cynllunio pa bryd i gychwyn, nododd bod modd i wneud yn 2022 neu
2023. Ategodd bod angen gweithio efo’r ysgolion fel bod modd esblygu’n raddol
i’r drefn newydd. - Cytunodd a’r aelod a nododd bod llawer o ysgolion Uwchradd wedi nodi eu dymuniad i gychwyn y cwricwlwm yn 2022, lle bo ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |