Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint). Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Jonathan
Morgan, Pennaeth ysgol Y Gogarth, Llandudno ac aelod gweithgar o Gyd-bwyllgor
GwE, yn dilyn ei farwolaeth ddiweddar. Diolchwyd iddo am flynyddoedd o
ymroddiad drwy gydol ei yrfa fel athro ac fel aelod o’r Cyd-bwyllgor hwn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 208 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Cadarnhawyd fod y
cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 23ain o Dachwedd, 2022 yn gywir. |
|
CYLLIDEB 2022-2023: MONITRO CHWARTER 3 PDF 419 KB Diweddaru
aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad
ar gyfer y Trydydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran
Cyllid. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: - Rhagwelwyd bydd
sefyllfa lled-niwtral i gyllideb GwE ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol. - Cadarnhawyd bod
tanwariant o £27,400.00 o’r gyllideb lawn o £17,993,147.00 a bod GwE yn gwario
yn unol â’r gyllideb. - Nodwyd bod hyn yn
sylweddol llai nag adolygiad Chwarter 2 ble roedd tanwariant o tua £90,000.00.
Mae GwE wedi llwyddo i ostwng lefelau tanwariant drwy recriwtio staff i swyddi
gwag. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo’r
adroddiad ar gyfer y Trydydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol
2022/23. |
|
CYLLIDEB GwE 2023-2024 (CYLLIDEB SYLFAENOL) PDF 414 KB Cyflwyno i’r
Cyd-bwyllgor: · Cyllideb Sylfaenol GwE 2023/24
(Atodiad 1) · Cyfraniadau Ariannol yr Awdurdodau
(Atodiad 2) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r
gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gyllidebol 2023/24 fel y’i chyflwynir yn
Atodiad 1 o’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau
canlynol: -
Nodwyd
bod y gyllideb hon yn weithredol o 1af Ebrill 2023 hyd nes 31 Mawrth 2024. -
Awgrymwyd sefydlu cyllideb sylfaenol o’r un ffigwr
a’r gyllideb eleni. Mae hyn yn gyfanswm o £17,993,147.00. -
Cadarnhawyd
bod y gyllideb hon yn adlewyrchu penderfyniad y Cynghorau i beidio ychwanegu
chwyddiant yn llawn. Golyga hyn bod toriad o 5.25% i’r gyllideb o’i gymharu â
2022/23 yn dilyn cynnydd mewn costau. Manylwyd bod hyn yn gyfwerth â
£206,000.00. -
Eglurwyd
bod y Gronfa Bensiwn yn cael ei hadolygu bob tair blynedd a bod yr adolygiad
diweddaraf wedi cymryd lle ym mis Rhagfyr 2022. Oherwydd bod y gronfa mewn
sefyllfa iach ar hyn o bryd, bydd gostyngiad o £103,964.00 yng nghyfraniad y
cyflogwr. Cadarnhawyd bod hyn yn hanner y bwlch a grëwyd gan chwyddiant, gan
leihau’r toriad a wynebir i 2.60%. Bydd angen sicrhau bod arbedion yn cael eu
gwneud er mwyn cyfarch y bwlch o £102,112.00 sy’n weddill yn y gyllideb. -
Cyfeiriwyd
at y cyfraniadau gan y Cynghorau ar gyfer cyllideb GwE. Datganwyd bod y
cyfanswm a ddarparwyd yn £3,924,269.00 rhwng y chwe Cyngor. Cadarnhawyd bod hwn
yr un ffigwr a’r flwyddyn ariannol bresennol. Er hyn, mae dyraniad cyfraniad
unigol y gwahanol gynghorau wedi diwygio i gyd fynd â newidiadau mewn lefelau
poblogaeth. PENDERFYNWYD Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol
ar gyfer y flwyddyn gyllidebol 2023/24 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1 o’r
adroddiad. |
|
CYNLLUN BUSNES 2022-2023: MONITRO CHWARTER 3 PDF 268 KB Cyflwyno
Adroddiad monitro chwarter 3 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r
Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. · Trafodaeth bellach ar 'Strategaeth
i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’ o
fewn Amcan 4 y cynllun: ‘Ysgolion Cryf a Chynhwysol’, mewn cyfarfod o’r
Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd bod y cyfnod perthnasol hwn (Medi – Rhagfyr 2022) wedi bod yn gyfnod prysur
iawn gyda llawer o ysgolion yn gweld ychydig
o normalrwydd yn dychwelyd yn dilyn
cyfnod Cofid-19. -
Nodwyd bod gweithdrefnau
newydd wedi cael eu rhoi
mewn grym i sicrhau bod ysgolion
yn adolygu perfformiad ac yn hunanasesu atebolrwydd. -
Cyfeiriwyd at gynhadledd
bwysig a gynhaliwyd ar
draws y rhanbarth a oedd yn ffocysu
ar ail-gyflwyno systemau i bontio’r addysg
gynradd ac uwchradd. -
Cadarnhawyd mai
un o brif risgiau yn ddiweddar yw
diffyg arweinyddiaeth yn y gyfundrefn. Mae penaethiaid wedi bod yn brysur iawn
yn blaenoriaethu diogelwch staff a disgyblion ers rhai blynyddoedd.
Nodwyd bod chwarter penaethiaid ysgolion uwchradd Gogledd Cymru wedi ymddeol o fewn y flwyddyn ddiwethaf, gan greu problemau olynol. Nodwyd hefyd bod athrawon llanw yn brin ar hyn o bryd ac mae
ysgolion yn cael trafferth rhyddhau athrawon i fynychu hyfforddiant
allweddol. -
Pwysleisiwyd bod perthynas
GwE gydag ysgolion yn dda iawn
er y problemau staffio hyn. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cyd-bwyllgor i
rannu sylwadau a holi cwestiynau: - Manylwyd ar ‘Strategaeth
i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’ o fewn Amcan 4 y cynllun: Ysgolion Cryf a Chynhwysol’ gan ofyn pa waith
sy’n cael ei wneud i
sicrhau bod datblygiadau o fewn y strategaeth. o Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod
cydweithio agos yn digwydd rhwng
GwE, rhieni a dysgwyr er mwyn sicrhau bod deunyddiau ar gael iddynt. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael
ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio gweld
sut byddai’r cydweithio hyn yn digwydd yn
gymdeithasol gan nad yw hynny’n
glir ar hyn o bryd. Pwysleisir bod gwaith da yn cael
ei wneud o fewn ysgolion ar lefel unigol i
ddatblygu’r strategaeth hwn, ond bod angen
cynllun clir ar gyfer y dyfodol ar sut mae ei
weithredu ar lefel cymunedol a rhanbarthol. - Cynigwyd bod trafodaeth
bellach yn cael ei gynnal
ar y strategaeth hon rhwng yr Awdurdodau Lleol
er mwyn rhannu arferion da a syniadau. Byddai hyn yn
sicrhau bod y cynllun a’r strategaeth yn gryf ac effeithiol
iawn. o Mewn ymateb i’r cynnig hwn,
cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai modd trafod y mater hwn ymhellach erbyn
cyfnod yr haf gan y bydd
polisïau cliriach i’w gael i’w
hystyried bryd hynny. - Cytunwyd bod anghydraddoldeb a phresenoldeb yn faterion allweddol yn dilyn cyfnod
Cofid. Credir mai’r rhieni sydd
angen mwy o gyswllt gyda’r ysgolion ydi’r rhai ble mae
presenoldeb eu plant yn isel, ac yn
ffactor mawr gyda diogelwch plant. - Ymhelaethwyd mai un ffactor pam bod diffygion cynllunio wedi bod ar y strategaeth hon yw bod cyllideb yn dod gan Lywodraeth Cymru am gyfnodau penodol. Credir bod hyn yn achosi trafferthion recriwtio oherwydd nad oes modd cynllunio yn hirdymor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cyflwyno gwybodaeth
i aelodau’r Cyd-bwyllgor ar gynnwys Datganiad Ysgrifenedig Y Gweinidog y
Gymraeg ac Addysg. Penderfyniad: Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth
ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i
gyfarfod arbennig o’r Cyd-bwyllgor i gael trafodaeth am addysg ar draws
rhanbarth y gogledd. Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: - Cadarnhawyd y cyhoeddodd Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad
ysgrifenedig: ‘Gwella ysgolion a’r
dirwedd o ran gwybodaeth’ ar 19 Ionawr 2023 a oedd yn amlinellu’r camau nesaf o
ran datblygu ecosystem / tirwedd data a gwybodaeth newydd. Cyflwynwyd y
diweddariad hwn er gwybodaeth i’r Aelodau. - Eglurwyd
bod y datganiad ysgrifenedig yn manylu ar system wybodaeth newydd ar gyfer
ysgolion ac yn rhannu argymhellion ar lefelau atebolrwydd ysgolion. - Atgoffwyd
yr aelodau o’r cyhoeddiad annisgwyl y bydd system ‘Capio 9’ yn dychwelyd fel
mesurydd atebolrwydd o haf 2023 ymlaen. Bydd y mesurydd hwn yn creu sgôr yn
seiliedig ar ganlyniadau 9 cymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol. Gobeithir
cael arweiniad ar y bwriad a cheisiwr wrth ail-gyflwyno’r trefniant yma pan
mae’r datganiad hefyd yn gobeithio ail edrych a dileu systemau atebolrwydd
presennol. - Ymhelaethwyd
bod y Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd dau weithgor yn cael eu sefydlu,
gydag ymarferwyr mewn ysgolion ac awdurdodau lleol i gydweithio ar weledigaeth
o sut ddylai atebolrwydd ysgolion edrych yn y dyfodol. - Cyfeiriwyd
bod system ‘samplo’ hefyd yn cael ei weithredu. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio
er mwyn i ysgolion a swyddogion rannu syniadau a chyfrannu i wella’r system
drwy enghreifftiau o arfer dda. - Nodwyd
bod rhaid gweithredu’n ofalus wrth i fesurau atebolrwydd gael eu cyflwyno gan
fod posibilrwydd bod ysgolion yn mynd i gystadleuaeth gyda’i gilydd yn hytrach
na chydweithio, rhannu syniadau a gweithredu ar arferion da. - Pwysleisiwyd
bod datganiad wedi cael ei ryddhau gan Brif Arolygydd ESTYN, yn cadarnhau bydd
arolygiadau yn gweithredu yn yr un modd a’r prosesau presennol ar hyn o bryd. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i
rannu sylwadau a holi cwestiynau: Mynegwyd siomiant a rhwystredigaeth nad y
Llywodraeth wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol nag ysgolion ar y diweddariadau
yma. Nid oedd modd gwneud gwaith i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn oherwydd
nid oedd neb yn ymwybodol o’r datblygiadau. Nodwyd bod amseriad y cyhoeddiad yn
peri gofid gan ei fod wedi cael ei gyflwyno yng nghanol blwyddyn academaidd a
hynny yn fuan ar ôl canlyniadau arholiadau cynnar. Pwysleisiwyd bod penaethiaid ac athrawon yn
teimlo pwysau yn ddiweddar oherwydd materion ymddygiad a phresenoldeb. Tybir
bod ail gyflwyno’r trefniant ‘Capio 9’ yn mynd i ychwanegu at hyn. Cadarnhawyd bod rhai o aelodau’r
Cyd-bwyllgor yn cyfarfod â’r Gweinidog ym mis Mawrth a bydd pryderon am y
sefyllfa yn cael eu rhannu bryd hynny. Cynigwyd cynnal cyfarfod ychwanegol o’r
Cyd-bwyllgor yn dilyn y cyfarfod yma er mwyn cael trafodaeth bellach am addysg
yng Ngogledd Cymru gan sicrhau ystyriaethau i wella’r system a deall mesuriadau
atebolrwydd, gan wahodd y Gweinidog i’r cyfarfod am sylwadau. Yn dilyn y
cyfarfod hwnnw bydd y Cyd-bwyllgor yn gallu rhannu datganiad ar ran ysgolion y
rhanbarth os byddai’r aelodau yn credu i hynny fod yn briodol. PENDERFYNWYD Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i gyfarfod arbennig o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
PROSIECT EIN LLAIS NI PDF 322 KB Rhannu
Gwybodaeth gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor am lwyddiant prosiect Ein Llais Ni a’r
cynlluniau ar gyfer ehangu’r gwaith ymhellach. Penderfyniad: Cymeradwyo
cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau
a osodwyd gan Llywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: - Cadarnhawyd mai bwriad y
prosiect yw rhoi cymorth i ddisgyblion i ddatblygu sgiliau llafaredd yn y
Gymraeg drwy gynnig syniadau a strategaethau i feithrin sgiliau siarad a
darllen. - Datganwyd bod nifer o
ysgolion wedi datgan yr angen i ddatblygu sgiliau llafaredd Cymraeg eu disgyblion.
Mae hyn yn enwedig yn wir yn dilyn cyfnod Cofid ac yn benodol mewn teuluoedd
di-gymraeg gan nad oedd disgyblion wedi cael cyfle i ymarfer eu sgiliau. - Atgoffwyd bod gwaith
cychwynnol y prosiect wedi cael ei wneud mewn ymgynghoriaeth
ac ysgolion Cymraeg a dwyieithog a gyda’r Athro Enlli Thomas sy’n arbenigydd rhyngwladol ar addysg ddwyieithog. - Manylwyd bod y prosiect
wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy grant ym mis Hydref 2021. Nodwyd
hefyd bod bwrdd llywio wedi cael ei sefydlu ar gyfer y prosiect. Mae
penaethiaid ysgolion, cynrychiolwyr y Cyfarwyddwr Addysg, Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE, Cynghorydd Ian Roberts ar ran Cyd-bwyllgor GwE a’r Athro Enlli Thomas yn
rhan o’r bwrdd llywio hwnnw. - Rhannwyd balchder bod
ysgolion wedi rhannu llwyddiannau’r prosiect mewn gweithdai'r tymor diwethaf.
Roedd hyn yn dangos bod y strategaethau a gyflwynwyd fel rhan o’r prosiect yn
llwyddiannus i ddatblygu sgiliau’r plant. - Nodwyd yn dilyn
llwyddiannau’r prosiect, mae cais wedi cael ei wneud i ymestyn y prosiect i fwy
o ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig.
Bu i’r cais ei dderbyn ac mae grant o £272,000.00 wedi cael ei dderbyn gan
Lywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD
Cymeradwyo cynnwys yr
adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau a osodwyd
gan Lywodraeth Cymru. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2023-2024 PDF 266 KB Gwneud cais
i’r Cyd’bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: Cytunwyd
ar galendr cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2023-24. Cofnod: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE fel eitem er gwybodaeth yn unig. Gwahoddwyd yr aelodau i
fynychu swyddfeydd GwE ym Mae Colwyn er mwyn cael cyfarfodydd aml-leoliad yn y
flwyddyn nesaf pe baent yn credu y byddai’n fuddiol i’r trafodaethau. Ystyriwyd cynnal y cyfarfod nesaf o’r
Cyd-bwyllgor yn aml-leoliad ar Fai 24ain 2023. PENDERFYNWYD
Cytunwyd ar galendr
cyfarfodydd y Cydbwyllgor am y flwyddyn 2023-24. |