Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 – 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I AIL-ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2023 /
2024 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 - 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR
Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023 Ystyried yr adroddiad i gymeradwyo
cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar
Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Cymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg,
‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis,
Rhosbodrual, Caernarfon |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: DECISION: To approve the introduction of 'no waiting at any
time' Double Yellow Lines on a Class 1 Road A4086 – Ffordd Llanberis,
Rhosbodrual, Caernarfon |
|
Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW Ail- gyflwyniad: Newid
defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol,
ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r
fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe Dolen
i ddogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i
ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:
|
|
Cais Rhif C23/0212/30/LL Pant Valley, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LF Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa
amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad) AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD YN UNOL
Â’R ARGYMHELLIAD RHESYMAU: 1.
Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio
Lleol wedi ei argyhoeddi yn ddiamheuol fod angen gwirioneddol i godi adeilad
amaethyddol o’r maint a’r raddfa a fwriedir yn y lleoliad hwn wedi cael ei
brofi'n ddiamheuol. Mae’r cais, felly’n, groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a PCYFF
2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 sy’n annog gwrthod
cynigion y tu allan i ffiniau datblygu oni bai bod cyfiawnhad yn dangos bod
lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ac sydd ddim yn cydymffurfio gyda pholisïau
eraill o fewn y Cynllun ei hun. 2.
Byddai graddfa'r bwriad yn
golygu codi adeilad sylweddol ei faint, wedi ei leoli mewn man amlwg, ynysig,
gerllaw ffordd a llwybr cyhoeddus ac o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig. Ni
fyddai’r datblygiad hwn yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol
ac o’r herwydd fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i fwynderau gweledol yr
ardal. Mae’r cais felly’n groes i ofynion meini prawf perthnasol polisïau PCYFF
2, PCYFF 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a'r cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar
gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a Nodyn Cyngor Technegol 12 : Dylunio sy’n
ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol lleol a'r amgylchedd |
|
Cais Rhif C23/0089/39/AM Garej Mynytho, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7RH Cais amlinellol gyda
rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel tŷ annedd a chyn fodurdy
fasnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol a chodi 5 tŷ deulawr marchnad leol,
gosod 16 uned gwyliau hunan wasanaeth, adeiladu tafarn/tŷ bwyta, tirlunio,
creu safleoedd parcio a gwaith i addasu mynedfa gerbydol bresennol AELOD LLEOL: Cynghorydd
Angela Russell Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL |
|
Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE Adeiladu tŷ menter
gwledig a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Arwyn Herald Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r
argymhelliad. O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at gyfnod o gnoi cil
cyn dychwelyd i’r Pwyllgor am benderfyniad terfynol. |