Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679325
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 PDF 523 KB Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya a Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Nodi
a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais. 2.
Nodi
a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais. 3.
Cytuno ar
broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais. |
|
CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2024 PDF 639 KB I gyflwyno Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer Cyd-Bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a ddarparwyd gan
Archwilio Cymru. Penderfyniad: Derbyniwyd
adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais
ar gyfer 2024. |
|
DI-WIFR UWCH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL PDF 415 KB Stuart
Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â
hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a
nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael
ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried. 2.
Dirprwywyd
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael. 3.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn
i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn
â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd
bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod
angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol
ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn
niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill
sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer
ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn
cyfansawdd gorau. |
|
PROSIECT RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH - ACHOS BUSNES LLAWN Dafydd Owen
Jones (Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) a Colin David Mathews
(Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth. 2.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llunio cytundeb ariannu gyda
Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, ar y sail bod
Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r ‘materion sy’n
weddill’ a nodir yn adran 7.1 yr adroddiad. 3.
Dirprwywyd
cymeradwyaeth derfynol y caffaeliad sy’n weddill yng Ngham 1 i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a’r Swyddog Monitro lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau'r Achos
Busnes Llawn a gyflwynwyd. 4.
Dirprwywyd
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo’r Achos
Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer Cam 2 y prosiect, y bedwaredd is-ganolfan
lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau’r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd. |