Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan: • Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr) • Y Cynghorydd Gwilym Jones
(Llywodraethwr Dwyfor: Ysgol Borthygest) • David Healey (Ysgol Friars) • Nia Puw (Ysgol Gynradd Llanrug) • Jano Owen (Ysgol Bro Idris) • Gwion Owens (Ffederasiwn Cefn Coch a Thalsarnau) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
I gadarnhau
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 02 Rhagfyr 2024. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 02 Rhagfyr, 2024 fel rhai cywir. |
|
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION I drafod
unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddangos ar y Rhaglen. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
GWASANAETH ANSAWDD ADDYSG I ystyried
data a gyflwynwyd ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Addysg. Eglurwyd
bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ar gais yr Aelodau er mwyn rhannu
gwybodaeth ar sut mae’r adran yn dyrannu cyllideb er mwyn cefnogi safonau mewn
ysgolion yng Ngwynedd. Cadarnhawyd
bod cyllideb o oddeutu £669,000 wedi ei osod ar gyfer materion rheolaethol yr
Adran ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26. Manylwyd bod y gyllideb hon yn
ariannu cyflogau nifer o swyddogion yr Adran yn ogystal â darparu cefnogaeth i
reolaeth gwasanaethau megis arlwyo, glanhau a moderneiddio. Tynnwyd
sylw at dair grant benodol gan nodi bod ansicrwydd wedi bod yn ddiweddar
ynghylch faint o arian y grantiau hyn byddai'n cyrraedd yr Adran gan y
Llywodraeth. Pwysleisiwyd eu bod yn grantiau pwysig gan eu bod yn cael eu
defnyddio i gefnogi ailstrwythuro, Gwasanaeth Gwella Ysgolion a’r model
cenedlaethol newydd i gefnogi ysgolion. Manylwyd ar y grantiau hyn gan
gadarnhau bod yr Adran wedi derbyn oddeutu £200,000 drwy’r Grant Safonau.
Eglurwyd bod yr arian yma yn cael ei glustnodi i GwE er mwyn cefnogi Gwasanaeth
Gwella Ysgolion. Ymhelaethwyd bod £110,000 wedi cael ei dderbyn drwy grant
Dysgu Proffesiynol, gan nodi bod y ffigwr hwn yn is na’r cyllid a ddarparwyd ar
gyfer 2024/25. Tynnwyd sylw bod y grant hwn wedi cael ei ddyrannu i GwE yn y
gorffennol ond cadarnhawyd bydd yr Adran yn dal ei afael arno yn ystod 2025/26.
Yn debyg, tynnwyd sylw at grant o oddeutu £345,000 a dderbyniwyd ar gyfer
cefnogi Cwricwlwm, gan gadarnhau bod yr arian hwn yn cynnwys oddeutu £98,000 er
mwyn cefnogi llythrennedd a rhifedd, sydd yn gyllideb newydd ar gyfer 2025/26. Adroddwyd
bod cyllideb o £1,990,706 er mwyn ariannu gwasanaethau cefnogi safonau ar gyfer
y flwyddyn ariannol 2025/26. Eglurwyd
bod Gwasanaeth Gwella ysgolion GwE yn dirwyn i ben a chadarnhawyd bod yr Adran
yn cynnig ymgynghoriad ar strwythur newydd i gefnogi ysgolion a fyddai’n
cynnwys rôl Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Ysgolion yn ogystal â Swyddogion
Cefnogi Ysgolion a fyddai’n cyflawni gwaith swyddog addysg gyffredinol yn
ogystal â gwaith ymgynghori cefnogi gwelliant. Pwysleisiwyd bod sylwadau wedi
cael eu derbyn gan aelodau staff a all newid y model hwn, megis sicrhau bod
arbenigeddau pwnc yn cael eu hystyried Materion yn
codi o’r drafodaeth: Gofynnwyd a oes cydweithio rhanbarthol yn digwydd o fewn y strwythur newydd. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg nad oes cynllun i sefydlu gwasanaeth ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod cytundeb cydweithio er mwyn sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu rhannu er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth gorau yn cael ei ddarparu i holl ysgolion. Ymhelaethwyd bod yr Adran mewn trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn datblygu cytundeb cyffelyb er bod modelau llywodraethiant yn amrywiol o sir i sir. |
|
|
I dderbyn diweddariad gan Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid)
ar Gyllideb 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid. Eglurwyd
bod y gyllideb ar gyfer 2025/26 wedi cael ei gyflwyno ar ffurf drafft i Aelodau
Etholedig mewn cyfres o seminarau anffurfiol. Nodwyd hefyd bod y gyllideb
drafft wedi cael ei graffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 06
Chwefror ac wedi derbyn ystyriaeth gan y Cabinet ar 11 Chwefror. Ychwanegwyd
bydd penderfyniad ffurfiol yn cael ei wneud ar y gyllideb wedi i’r Cyngor Llawn
rhoi ystyriaeth iddo yn y cyfarfod ar 06 Mawrth. Cadarnhawyd
bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 3.1% ar gyfer 2025/26.
Nodwyd bod hyn yn uwch na’r gyfran a dybiwyd byddai’r Cyngor yn ei dderbyn ond
nad oedd y cynnydd hwn yn cyfarch y cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant dros y
blynyddoedd diwethaf. Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn ymgyrchu i’r Llywodraeth fel
eu bod yn gosod isafswm o lefelau grant yn flynyddol ar gyfer yr holl
awdurdodau lleol. Rhagwelwyd
bod cynnal gwasanaethau’r Cyngor yn costio £24.2miliwn yn fwy yn 2025/26 o’i
gymharu â’r flwyddyn ariannol gyfredol, gan gynnwys gwariant o £7.7miliwn er
mwyn cyfarch pwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau uwchlaw chwyddiant, sy’n
deillio o orwariant yn sgil diffyg cyllideb i gyfarch gwir alw am wasanaethau. Adroddwyd
bod pwysau ar wasanaethau a chwyddiant yn arwain at argymhelliad o gynnydd o
8.66% yn y Dreth Cyngor, yn ogystal â chyflwyno rhaglen o arbedion a thoriadau
er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26. Cydnabuwyd bod y Cyngor yn
ymwybodol bod hyn yn gynnydd sylweddol a fyddai’n effeithio aelwydydd Gwynedd. Pwysleisiwyd
bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo arbedion gwerth £5.2miliwn ar gyfer
cyllideb 2024/25, gyda £2,860,300 ohono wedi eu proffilio ar gyfer 2025/26.
Ymhelaethwyd bydd arbedion newydd yn cael eu cyflwyno o fewn y Cyngor. Tywyswyd
yr Aelodau drwy grynodeb o’r arbedion hyn ar gyfer holl adrannau’r Cyngor.
Tynnwyd sylw at arbedion gwerth £151,960 o fewn yr Adran Addysg gan bwysleisio
nad oes unrhyw doriad neu gynllun arbedion i’r Gwasanaeth Ysgolion o fewn y
flwyddyn ariannol 2025/26. Fodd bynnag, atgoffwyd bod demograffi yn effeithio
yn negyddol ar gyllidebau ysgolion dros y flwyddyn nesaf. Manylwyd ar
wahanol elfennau o’r gyllideb ysgolion gan nodi: • Cadarnhawyd bydd cynnydd arferol yn y
cwantwm ysgolion Gwynedd yn 2025/26, gan fod polisïau’r Cyngor yn nodi’r angen
i ariannu chwyddiant, incrementau cyflog a demograffi, yn wahanol i rai
awdurdodau lleol eraill. Er hyn, eglurwyd bod demograffi yn elfen negyddol yng
nghyllideb 2025/26 oherwydd lleihad mewn niferoedd disgyblion. • Eglurwyd bod cyllideb ysgolion yn
cynyddu £3.1miliwn yn 2025/26 er mwyn cyfarch cynnydd mewn chwyddiant yn
ogystal â chwyddiant cyfraddau tâl a lefelau pensiwn athrawon. Nodwyd bydd
cynnydd i lefelau cyflogau athrawon a staff ategol a all gael eu cadarnhau o
fewn y flwyddyn ariannol. • Ymhelaethwyd bod cynnydd mewn
cyfraniadau cyflogwr o 5% ar bensiynau athrawon ers Ebrill 2024. • Adroddwyd bod cynnydd o £1.9miliwn mewn cost yswiriant gwladol cyflogwr yn 2025/26. Eglurwyd bod hyn yn deillio o gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu’r gyfradd cyflogwr o 13.8% i 15.0%. Ymhelaethwyd bod trothwy Yswiriant Gwladol wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
GRANTIAU 2025/26 I dderbyn
diweddariad llafar ar faterion yn ymwneud â Grantiau yn 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad llafar gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi datgan grantiau ychwanegol ar gyfer 2024/25, ar
ddiwedd tymor y Nadolig. Ymfalchïwyd
bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd i bump o’r grantiau, sef: Grant Pensiwn
Athrawon, Grant Safonau, Grant Cefnogi Cydlynwyr ADY a Grant Darpariaeth ADY.
Adroddwyd bod cyfanswm y cynnydd hwn oddeutu £3.7miliwn. Eglurwyd bydd yr arian
yma yn gwella cynydd balansau ysgolion gan nad ydynt wedi cael y cyfle i
gynllunio ei wariant. Atgoffwyd
bod oddeutu £200,000 o arian grant Dyraniad Integreiddio wedi cael ei roi o’r
neilltu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau bod arian ar gael os
oes plant all-sirol yn symud i gael addysg yng Ngwynedd. Mynegwyd balchder bod
y mwyafrif o baneli integreiddio bellach wedi cael eu cynnal a bod oddeutu
£120,000 o’r arian hwn yn weddill, a fyddai’n cael ei rannu yn ôl i’r ysgolion. Cadarnhawyd
bod y codiad cyflog ar gyfer athrawon a staff ategol yn uwch na’r hyn a
rhagdybiwyd gan yr Adran ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd bod
oddeutu £713,000 o arian grant ar gael i ddigolledu ysgolion o’r cynnydd hwn yn
tâl athrawon ac oddeutu £324,000 ychwanegol ar gyfer digolledu tâl staff
ategol, er mwyn ymdrechu i sicrhau nad yw ysgolion yn gorwario ar y ffactorau
hyn o fewn eu cyllidebau unigol. Nodwyd
hefyd bod addasiad yn cael ei wneud yn dilyn lleihad mewn costau chwyddiant ar
gyfer costau nwy'r ysgolion. Eglurwyd bod mwy o arian wedi cael ei glustnodi
nag oedd ei angen oherwydd bod y prisiau a broffwydwyd ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol wedi bod yn uwch na’r wir gost. Ymhelaethwyd
ar wybodaeth a dderbyniwyd ar gyfer grantiau perthnasol ar gyfer 2025/26.
Adroddwyd bod pedair grant newydd yn cael eu cyflwyno gyflwynwyd i ysgolion o
2025/26 2024/25 ymlaen yn dilyn adolygiad gan y Llywodraeth, gan gynnwys
grantiau: - Safonau Ysgolion, Tegwch, Diwygio a Cymraeg 2050. Cadarnhawyd bod
cynnydd o oddeutu 9.4% yng nghyfanswm y grantiau rhwng 2024/25 a 2025/26 sydd
ychydig yn uwch na chyfraddau chwyddiant presennol. Eglurwyd na fydd nad ydi y
grant Tegwch yn cynnwys Grant Datblygu Disgyblion ar y pwynt yma. Ymhelaethwyd
bod y grant Safonau Ysgolion yn gynnydd o £245,292 o’r arian a ddarparwyd yn
2024/25 a fydd yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgolion. Adroddwyd bod y grant
Tegwch yn cael ei ddyrannu i’r Adran ac yn gosod cyfyngiadau ar sut gall yr
arian gael ei wario er mwyn cydymffurfio â thelerau’r grant. Manylwyd ar
y grant Diwygio sydd yn darparu arian grant ‘Darpariaeth ADY’. Manylwyd bod
cyfanswm y dyraniad grant yn llai na’r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 ond ei fod
yn lleihad bychan. Tynnwyd
sylw at y prif Grant Datblygu Disgyblion a oedd yn gyfanswm o £2,827,850 yn
ystod y flwyddyn ariannol 2024/25. Eglurwyd nad oes manylion wedi cael eu
rhannu ar gyfer y grantiau hyn ar gyfer 2025/26 ymlaen a bod y Cyngor yn
disgwyl arweiniad pellach ar gyfanswm y grantiau hyn yn y dyfodol agos. Diolchwyd i Lywodraeth Cymru am rannu’r wybodaeth am y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
UNRHYW FATER ARALL I godi unrhyw fater
perthnasol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I gadarnhau
dyddiad y cifarfod nesaf. Cofnod: Cadarnhawyd bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ddyddiad ym mis Mehefin neu Orffennaf, gyda dyddiad penodol i’w gadarnhau’n fuan. |