Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Cafwyd diweddariad
gan y Pennaeth Cyllid ar y camau sydd
wedi eu cymryd
i ganfod Aelod newydd i’r Bwrdd.
Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â’r cylch
gorchwyl, bydd y penodiad (fel cynrychiolydd
cyflogwr) wedi ei gyfyngu i
Aelodau a staff Cyngor Gwynedd yn unig.
Nodwyd bod un cais wedi dod i
law ac mai’r cam nesaf fydd trefnu cyfweliad. |
|
|
Cofnod: |
|
|
CYNLLUN HYFFORDDIANT I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2025/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r
Aelodau ar gynllun hyfforddiant 2024/25 a gosod cynllun hyfforddiant bras ar gyfer 2025/26. Ystyriwyd bod cynllun 2024/25 wedi bod yn llwyddiannus
a diolchwyd i aelodau’r Bwrdd am fynychu sesiynau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a’r Cynadleddau oedd yn cael
eu canmol fel rhai defnyddiol
ac amserol. Wrth drafod
cynllun hyfforddiant
2025/26, cyfeiriwyd at ganlyniadau
Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol
Hymans Robertson a gwblhawyd gan
yr Aelodau yn ddiweddar gan nodi bod Hymans Robertson wedi
adnabod rhai meysydd sydd angen
sylw pellach ynghyd â meysydd roedd yr Aelodau eu hunain wedi eu
dewis. Nodwyd bod sesiwn hyfforddiant ar ddulliau a rhagdybiaethau
actiwaraidd eisoes wedi ei gynnal
a bod hyfforddiant ar sero net a llywodraethu i’w gynnal yn
fuan. Ategwyd y bydd eitem gweinyddiaeth pensiwn yn cael
ei gyflwyno yn rheolaidd i’r
Bwrdd ac y bydd modd darparu hyfforddiant
yn ôl y galw
yn y Paneli Buddsoddi; bydd yr Aelodau hefyd yn parhau
i dderbyn sesiynau hyfforddiant gan PPC, mynychu a derbyn gwybodaeth mewn nifer o gynadleddau
a chael y cyfle i dderbyn hyfforddiant
ar lein. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod
y cynllun hyfforddiant yn cwmpasu nodweddion
yr asesiad ·
Bod y rhaglen
yn un gynhwysfawr ·
Bod
webinarau PPC a Hymans yn fuddiol iawn Mewn ymateb
i sylw ynglŷn
â webinarau PPC a’r posibilrwydd o dderbyn dyddiadau ymlaen llaw am y flwyddyn, nodwyd mai ar
gylchred chwarterol roeddynt yn cael
eu trefnu ac er derbyn bod hyn yn fyr rybudd
y byddai’r dyddiadau yn cael eu
rhannu fel yr oeddynt yn cael
eu cyhoeddi. Derbyniwyd y Cynllun Hyfforddiant
er gwybodaeth |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r
aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Nodwyd bod
yr adroddiad bellach yn un sy’n cael
ei gyflwyno yn rheolaidd i’r
Bwrdd ac yn elfen bwysig iawn
o Gronfa Bensiwn Gwynedd sydd bellach gyda
85% o’r gronfa wedi’i bwlio. Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr
Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd
y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i
fynd yn dda
ar faterion megis ymateb ceisiadau
rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd. Tynnwyd sylw
at y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad y cronfeydd ar y cyfan wedi bod tu ôl i’r
meincnod ers y dechrau a hyn yn
benodol gan fod y meincnod a
osodwyd yn heriol e.e. ar
gyfer y Gronfa sustainable
equity y meincnod yw MSCI
All Country World Index, sydd yn
cynnwys yr holl gwmnïau, ond bod cwmnïau y mae’r Gronfa yn gallu
buddsoddi ynddi wedi ei gyfyngu.
Eglurwyd bod Cronfa Global
Growth wedi bod mewn bodolaeth ers dros
5 mlynedd ac wedi tan berfformio'r meincnod. O ganlyniad, mae Russell Investments
wedi newid strwythur y gronfa yma ac wedi newid
y rheolwyr o fewn y portffolio - bydd swyddogion Gwynedd, ymgynghorwyr
y Gronfa, Hymans Robertson a swyddogion
PPC yn monitro’r cronfeydd yn fanwl
yn y dyfodol. Adroddwyd bod cronfeydd newydd
marchnadoedd preifat yn prysur gael
ei sefydlu gyda diweddariad i’w rannu pan fydd
perfformiad y cronfeydd yma yn cael
ei dderbyn. Yn yr un modd, nodwyd bod y Bartneriaeth yn sefydlu cronfeydd eiddo ac y bydd trafodaeth
yn cael ei
gynnal gyda Hymans
Robertson i drafod pa opsiwn y gellid manteisio arno. Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad ‘Addas i’r
Dyfodol’ a gafodd ei lansio gan
Lywodraeth y DU oedd yn trafod tri maes
allweddol: ·
Diwygio’r trefniadau pwlio asedau Cynlluniau
Pensiwn Llywodraeth Leol ·
Hybu buddsoddiadau lleol ·
Cryfhau llywodraethu o fewn y cronfeydd pensiwn. Amlygwyd bod ymateb i’r ymgynghoriad wedi ei gyflwyno gan
Gronfa Bensiwn Gwynedd ynghyd ag achos busnes sy’n awgrymu
mai’r ffordd ymlaen i PPC yw
i Gymru gadw
cronfa CPLlL annibynnol gan adeiladu ar lwyddiant
trefniadau cronni presennol. Ategwyd y byddai modd gwneud
hynny drwy greu cwmni buddsoddi
o dan yr enw ‘IM Co’; yr ail opsiwn
fyddai bod fel is bartner neu gleient mewn pŵl gyda
chronfeydd mwy yn rheoli, ynghyd
â chostau trosiannol. Nodwyd, petai Cronfa
Bensiwn Gwynedd eisiau parhau i gael llais mewn penderfyniadau,
siapio buddsoddiadau addas i’w proffil a sicrhau
buddsoddi yng Nghymru, bydd rhaid
datblygu WPP i fod yn IM Co ac er bydd costau ynghlwm
a gweithredu hyn, bod y sefyllfa yn cael
ei orfodi. Gobeithir y bydd dychweliadau yn parhau yn gryf
a’r costau buddsoddi yn îs
yn y pen draw. Ar y 1af o Ebrill 2025 adroddwyd bod Sioned Parry ac Osian Richards wedi mynychu cyfarfod Cadeiryddion y Bwrdd Pensiwn dros Gymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
SEMINAR BUDDSODDI LGC I ystyried a derbyn adborth a gwybodaeth o'r gynhadledd Cofnod: Derbyniwyd adborth ar lafar gan Mr Hywel Eifion Jones oedd wedi mynychu’r
Seminar ar ran y Bwrdd. Amlygodd bod trafodaethau am ddiwygio’r trefniadau pwlio asedau Cynlluniau
Pensiwn Llywodraeth Leol wedi taflu
cysgod ar y seminar, ond yn amlwg
hefyd bod mwy o drafodaethau eleni o gwmpas buddsoddi yn lleol ym
Mhrydain yn hytrach na buddsoddi
byd-eang. Ategwyd bod sesiynau trafod am y prisiad a’r pwyslais
ar ddechrau’r broses yn gynnar a hefyd
drafodaeth ar ‘or-fuddsoddi’ a thorri lawr ar gyfraniadau.
Nodwyd bod gwahaniaeth barn
ar y pwnc yma a chwestiynau yn codi ynglŷn
â sut i ddelio
a’r mater. Diolchwyd am yr adborth |
|
|
GOSOD RHAGDYBIAETHAU AR GYFER PRISIAD 2025 I ystyried a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Pensiynau yn amlinellu gosodiad rhagdybiaethau ar gyfer prisiad 2025
Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y disgwyliad oes
ariannol, disgwyliad oes, a rhagdybiaethau demograffig eraill sydd rhaid i'r
Gronfa eu gwneud, a bod y rhagdybiaethau hyn wedi eu gosod gan Actiwari'r
Gronfa wedi trafodaethau a sesiwn hyfforddi gyda Swyddogion, Aelodau’r Pwyllgor
ac Aelodau’r Bwrdd. Amlygwyd bod perthnasedd y rhagdybiaethau presennol wedi
cael eu hystyried cyn cyflwyno newidiadau fyddai’n adlewyrchu nodweddion
penodol y Gronfa a chymryd barn hirdymor iawn. Ategwyd bod y rhagdybiaethau
hefyd yn cadw at ganllawiau CPLlL sy'n gofyn am ddoethineb yn y gyfradd
ddisgownt, tra bod y rhagdybiaeth eraill yn amcangyfrifon gorau posib. Yng nghyd-destun
rhagdybiaethau ariannol, amlygwyd newidiadau sylweddol mewn amodau economaidd
ers prisiad 2022, oedd yn cynnwys cyfraddau llog uwch, chwyddiant uwch na'r
disgwyl, a mwy o anweddolrwydd (volatility) yn y farchnad. Nodwyd bod risgiau
gwleidyddol a hinsawdd hefyd yn cael eu crybwyll fel ffactorau dylanwadol.
Ategwyd bod y gyfradd disgownt (sydd yn cynrychioli cyfradd flynyddol
gyfartalog dychwelyd buddsoddiad yn y dyfodol), wedi gweld newid sylweddol yn
yr amgylchedd economaidd ers 2022, sydd o ganlyniad wedi arwain at enillion
buddsoddi disgwyliedig uwch yn y dyfodol, a lefelau cyllido, ond hefyd at
gynnydd mewn ansicrwydd. Amlygwyd mai argymhelliad yr Actiwari oedd cynyddu'r
lefel bwyll ar gyfer y gyfradd ddisgownt o 75% i 80%. Yng nghyd-destun codiadau i’r buddion ac ailbrisio
Cynllun Cyfartaledd Gyrfa, sy'n gysylltiedig â CPI, nodwyd bod y dull yn aros
yr un fath â phrisiad 2022, ond yn adlewyrchu disgwyliadau chwyddiant cyfredol.
Adroddwyd mai’r lefel gyfartalog o chwyddiant i’r dyfodol ar 30 Tachwedd 2024
oedd 2.3% y flwyddyn (o'i gymharu â 2.7% y flwyddyn ym mis Mawrth 2022) ac
felly argymhellwyd cynnal codiadau cyflog ar CPI + 0.5%, i adlewyrchu
ansicrwydd er gwaethaf disgwyliadau chwyddiant cyfredol. Cyfeiriwyd at ragdybiaethau
disgwyliad bywyd gan nodi mai’r argymhelliad oedd mabwysiadau rhagdybiaeth
gyffredinol o welliant ‘diofyn’ yn y dyfodol, a gyda rhagdybiaethau eraill
megis rhagdybiaethau demograffi, nodwyd bwriad o fabwysiadu rhagdybiaethau sy’n
seiliedig ar ddadansoddi gwybodaeth o’r Gronfa ynghyd â phrofiad aelodaeth
wirioneddol y Gronfa. Adroddwyd bod y Pwyllgor
Pensiynau, mewn cyfarfod ar 17 Mawrth 2025, wedi mabwysiadu’r rhagolygon. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn am ‘fwlch cyfraniad / taliadau’
(payment / contribution holiday) ac os dylid ystyried hyn fel risg, nodwyd bod
y Ddeddfwriaeth bellach yn cael ei haddasu i atal hyn. Ategwyd pe byddai unrhyw
ragdybiaethau sydd wedi eu derbyn angen eu hadolygu mewn ymateb i unrhyw
sefyllfa sydd yn codi, nodwyd bod modd gweithredu hyn ac y byddai’n cael ei
ystyried fel ymddygiad darbodus Mewn ymateb i sylw, o ystyried anweddolrwydd y
farchnad ar hyn o bryd, ac os byddai modd caniatáu prisiad dros dro, nodwyd bod
hyn wedi cael ei ganiatáu mewn achosion eithriadol, ond eto, y bwriad yw
addasu’r Ddeddf i atal hyn. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol, · Y Gronfa wedi ei hariannu yn dda, onid doeth fyddai cadw’r sefyllfa fel y mae yn hytrach na lleihau cyfranddaliadau? rhag ofn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
CRYNODEB O DDADANSODDIAD BWLCH PENSIWN RHYW I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr
Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno canfyddiadau dadansoddiad diweddar a
gynhaliwyd gan Hymans Robertson ar ddata aelodaeth Cronfa Bensiwn Gwynedd (data
2024/25) fel rhan o archwiliad Bwlch Pensiynau Rhywedd, sef y gwahaniaeth rhwng
incwm ymddeol dynion ac incwm ymddeol merched. Nodwyd bod y gwahaniaeth yn cael
ei fesur yn ôl y gwahaniaeth mewn cyfoeth ar ôl ymddeol, gan gynnwys eitemau
fel eiddo. Cyfeiriwyd at ganfyddiadau allweddol y dadansoddiad
oedd yn cadarnhau bodolaeth Bwlch Pensiwn Rhywedd ac anghyfartaledd mewn symiau
pensiwn pensiynwyr cyfredol ac Aelodau actif. Tynnwyd sylw at y ffactorau hynny
sydd yn cyfrannu at y bwlch ynghyd â’r argymhellion sydd yn cael eu hawgrymu i
fynd i’r afael â’r bwlch yn llawn. Nodwyd, er derbyn bod angen newidiadau a
gweithredu ar lefel genedlaethol, bod modd gweithredu rhai camau ar lefel lleol
hefyd, gyda’r cyflogwyr, yn hytrach na’r Gronfa Bensiwn yn arwain ar y materion
hyn. Ategwyd, ymysg y gwaith sydd angen ei wneud, bod rhaid adolygu polisïau
megis polisi dychwelyd i’r gwaith, patrymau gwaith ac oriau gwaith ac addysgu
merched yn well ar oblygiadau cyfnod mamolaeth. Amlygwyd yn unol â chais y Pwyllgor Pensiynau, bydd y
mater yn cael ei gynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor Ymgynghorol
Lleol. Diolchwyd am yr adroddiad. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: ·
Osian Richards (fel Aelod
hefyd o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol) yn diolch am yr adroddiad ac yn
croesawu’r manylion trylwyr oedd wedi eu cynnwys ynddo. ·
Bod yr adroddiad yn un
cynhwysfawr a diddorol ac yn anffodus yn adlewyrchu patrwm cyffredinol
pensiynau ·
Yn
croesawu’r argymhellion a’r camau nesaf ·
Yn awgrymu i’r adroddiad
gael ei rannu gyda holl gyflogwyr y Gronfa ·
Awgrym i’r cyflogwyr gynnal
arolwg ymysg cyfranogwyr i geisio mwy o wybodaeth a chanfod ymwybyddiaeth
merched o’r gwahaniaethau Derbyniwyd y wybodaeth |
|
|
CYSYLLTU I'R DASHFWRDD PENSIYNAU I ystyried y diweddariad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Pensiynau yn amlinellu cynnydd a chynlluniau Cronfa Bensiwn Gwynedd ar
gyfer cysylltu â'r Dashfwrdd Pensiynau. Eglurwyd y byddai’r Dashfwrdd Pensiynau
yn caniatáu i aelodau weld gwybodaeth am eu pensiwn mewn un lle, gan wella
tryloywder ac ymgysylltu ar gyfer cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Tynnwyd sylw at yr amserlen cysylltu oedd yn cynnwys
dyddiadau allweddol i sicrhau bod y gwaith a’r cyswllt wedi ei gwblhau erbyn y
dyddiad cau, sef 31ain o Hydref 2025. Adroddwyd bod Heywood Pension Technologies wedi cael eu penodi
fel Darparwr Gwasanaeth Integredig (ISP) ar gyfer y Rhaglen Dashfwrdd
Pensiynau fydd yn gweithredu fel cyswllt
fydd yn cysylltu cynlluniau pensiynau a darparwyr gyda’r bensaernïaeth ddigidol
ganolog, gan sicrhau bod y data yn cael ei rannu'n ddiogel. Yn ogystal, adroddwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda
darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) i sicrhau bod y data yma
hefyd yn gysylltiedig â'r Dashfwrdd Pensiynau. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu â
phob darparwr AVC i gadarnhau eu dulliau cysylltu â'u parodrwydd, gyda
Chymdeithas Safonau Gweinyddu Pensiynau (PASA) wedi darparu rhestr wirio a
phecyn cymorth i gynorthwyo gyda'r broses hon. Ystyriwyd bod y Dashfwrdd Pensiynau yn gam sylweddol
ymlaen i wella profiad a gwasanaeth i aelodau’r Gronfa a gydag amserlen glir ar
waith, roedd y Rheolwr Buddsoddi yn hyderus y byddai’r gofynion yn cael eu
bodloni a'r dyddiad cau yn cael ei gyfarch. Ategwyd bod bwriad cyflwyno
diweddariadau ar y cynnydd ynghyd ag unrhyw ddatblygiadau pellach i gyfarfodydd
nesaf y Bwrdd. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Mai
da fydd cael y wybodaeth mewn un lle ·
Bod
y Llywodraeth wedi trafod y gwaith ers blynyddoedd – braf gweld bod gwaith ar
waith ·
Yn
croesawu sicrwydd bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn y targed ·
Bod angen ail drafod y
mater ar ôl i’r cyswllt gael ei gwblhau Derbyniwyd y wybodaeth |