Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  E-bost: jasminejones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

•           Cynghorydd Alan James (Cyngor Sir Ddinbych)

•           Iwan Evans (Swyddog Monitro)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 126 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04/09/2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 4 Medi 2025, fel cofnod cywir.

5.

CYFLWYNO CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL YN FFURFIOL pdf eicon PDF 229 KB

Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol.

 

Y RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sydd yn gyfrifol am baratoi'r Cytundeb Cyflawni drafft.  Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau cydlynu a chynllunio ynghylch pob cam tuag at gyflawni'r CDS.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol adroddiad yn crynhoi canlyniad cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026, a'r camau a arweiniodd at yr argymhelliad i gyflwyno Cytundeb Cyflawni y Cynllun Datblygu Strategol yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth weinidogol. Eglurwyd bod yr adroddiad yn gosod trywydd archwilio cynhwysfawr a oedd yn rhoi diweddariad i'r Is-bwyllgor ac yn tystiolaethu'r camau y mae'r Cytundeb Cyflawni wedi mynd drwyddynt. Cyfeiriwyd at adran gefndirol yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfarfodydd ble roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y Cytundeb Cyflawni yn y gorffennol ac ar ba sail yr oedd argymhellion yn cael eu gwneud.

Adroddwyd bod mis Medi 2025 wedi bod yn garreg filltir allweddol, gan fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried fersiwn ddrafft o'r Cytundeb Cyflawni a'r priodoldeb i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol, yn ddarostyngedig i gadarnhad y gallai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig osod cyllideb 2026-2027 ac adnabod y cyllid ychwanegol sydd ei angen i ddechrau'r Cynllun Datblygu Strategol a chynnal y gwaith cyflawni ar hyd y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi cadarnhau'r un safbwynt amodol ar 19⁠ Medi 2025, gan nodi'r pryderon ariannol a godwyd, ac na allai'r Cytundeb Cyflawni fynd yn ei flaen nes bod cyllideb 2026-2027 wedi'i gosod.

Eglurwyd, drwy'r broses o osod cyllideb yn yr Hydref, bod gwaith wedi'i gynnal gyda'r Prif Swyddog Cyllid a swyddogion cyllid i adnabod opsiynau oedd yn cyd-fynd â'r gofynion a nodwyd yn flaenorol, sef y dylid dod o hyd i'r adnoddau ychwanegol oedd eu hangen ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol, pan fo'n bosib, o fewn adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd ac na ddylid rhoi baich ychwanegol sylweddol ar gyllidebau awdurdod lleol drwy gynyddu'r ardoll yn sylweddol. Adroddwyd bod y broses gosod cyllideb wedi nodi ffordd o gwrdd â gofyniad cyllido y flwyddyn gyntaf heb greu pwysau ardoll ychwanegol a fyddai’n cael ei briodoli i'r Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd bod y cynnydd yn yr ardoll ar gyfer 2026-2027 wedi'i gyfyngu i gynnydd chwyddiannol o 3.5%.

Nodwyd mai oddeutu £655,000 y flwyddyn oedd yr amcangyfrif o ofyniad cyllido blynyddol ar gyfer cyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol dros y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod cyllideb blwyddyn un wedi'i gosod ar £597,000, oedd yn adlewyrchu'r gofyniad arfaethedig ar gyfer y flwyddyn gyntaf, yn hytrach na gofyn am y swm cyfartalog llawn, ac y bydd y gyllideb yn cael ei hadolygu a'i gosod yn flynyddol drwy'r cylch cyllideb arferol.

Adroddwyd bod y gallu i osod cyllideb blwyddyn un heb effaith sylweddol ar ardoll  wedi'i gyflawni drwy ddefnyddio adnoddau mewnol, gan gynnwys tanwariant yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AMSERLEN Y CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL 2026/27 A THASGAU ALLWEDDOL pdf eicon PDF 198 KB

Nodi cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd.

Penderfyniad:

Nodi cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd.

 

Y RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sy'n gyfrifol am weithredu Cytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau cydlynu a chynllunio ynghylch pob cam tuag at gyflawni'r SDP.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd amserlen rhaglen waith y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer 2026-2027, ac eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi golwg cynnar, gan dybio y byddai Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r Cynllun Cyflawni, gan osod y cerrig milltir a'r tasgau allweddol ym mlwyddyn un y rhaglen pum mlynedd. Adroddwyd bod y pum neu chwe cam cyntaf yn y tabl yn ymwneud yn bennaf â chamau gweithdrefnol yn dilyn cymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni, gan gynnwys trefniadau cymeradwyo, dechrau a chyhoeddi. Nodwyd hefyd bod recriwtio wedi ffurfio rhan o'r camau cynnar hyn, ac adroddwyd bod cyllideb gymeradwy y Cynllun Datblygu Strategol wedi galluogi recriwtio o leiaf un cynllunydd ychwanegol i gefnogi’r gwaith cyflawni ym mlwyddyn un. Pwysleisiwyd bod ychwanegu capasiti o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn bwysig i gadw at derfynau amser o fewn yr amserlen gyffredinol.

Adroddwyd bod yr eitemau hwyrach yn yr amserlen, yn benodol pwynt saith i ddeg, yn cynrychioli camau mwy sylweddol yn y broses flwyddyn un ac mai'r rhain fyddai'r meysydd fwyaf tebygol o fod angen adroddiadau i'r Is-bwyllgor eu hystyried, eu trafod a'u llywio, cyn i faterion gael eu hadrodd ymlaen i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Eglurwyd mai un allbwn sylweddol cynnar fyddai paratoi Adroddiad Prif Faterion. Nodwyd bod gwaith paratoi eisoes wedi dechrau i roi contract ymgynghoriaeth yn ei le i helpu datblygu'r sail dystiolaeth, ac adroddwyd y byddai hyn yn dechrau gydag archwiliad o'r seiliau tystiolaeth cyfredol a oedd yn cefnogi cynlluniau datblygu lleol o fewn pob ardal awdurdod cyfansoddol. Nodwyd mai bwriad y dull oedd osgoi dyblygu ac osgoi ailddyfeisio'r olwyn, gan adnabod bod awdurdodau lleol eisoes wedi buddsoddi llawer o amser ac arian i ddatblygu seiliau tystiolaeth a lle oedd tystiolaeth yn dal i fod yn gyfredol, byddai'n cael ei defnyddio yn hytrach na'i hailadrodd.

Adroddwyd y byddai'r archwiliad hefyd yn adnabod bylchau tystiolaeth a meysydd fydd angen eu diweddaru, yn benodol lle'r oedd tystiolaeth wedi dyddio, a byddai hyn yn llywio lle y gallai fod angen targedu ariannu cyfyngedig i sicrhau darlun rhanbarthol cyson. Nodwyd y byddai'r dull yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau a oedd eisoes yn bwriadu adnewyddu seiliau tystiolaeth, er mwyn alinio gweithgarwch a sicrhau'r gwerth gorau ar gyfer adnoddau cyhoeddus cyfyngedig. Adroddwyd y byddai'r Adroddiad Prif Faterion yn tynnu'r materion sylweddol rhanbarthol sy'n codi o'r archwiliad tystiolaeth hwn, i lywio sgôp a chyfeiriad y Cynllun Datblygu Strategol.

Nodwyd y bydd gwaith, ochr yn ochr â chasglu’r sail dystiolaeth, hefyd yn cael ei gynnal i brofi materion sy'n codi gyda'r dewisiadau lleol a rhanbarthol. Adroddwyd y byddai hyn yn cynnwys datblygu amcanion strategol, gweledigaeth a materion, a nodwyd y byddai angen hwyluso gwaith ymgysylltu gydag aelodau'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.