5 Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir ger Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 324 KB
Cais i godi tŷ deulawr marchnad agored.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod
y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.
Cais i godi tŷ deulawr farchnad agored.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi nad oedd yn bosib trafod y cais yma yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd 2017 oherwydd nad oedd cworwm. Atgoffwyd y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er
mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 27
Tachwedd 2017.
Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar dir tu
mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog. Ystyriwyd
bod y bwriad yn cydymffurfio mewn egwyddor gyda gofynion polisïau a ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed i fwynderau’r gymdogaeth leol.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod wedi holi CCG ychydig o
flynyddoedd yn ôl o ran darparu llefydd parcio ar gyfer preswylwyr Bro Sion Wyn
ond mai na oedd yr ateb. Problemau parcio yn bodoli yn y stad a ni fyddai’r
datblygiad yn helpu’r sefyllfa;
·
Bod yr adroddiad yn nodi bod y
bwriad yn bodloni gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLl
a oedd yn ymwneud a pharcio a thrafnidiaeth. Tynnu sylw mai at safle’r cais yn
unig y cyfeirir ac nid at y trafferthion parcio yn yr ardal gyfagos;
·
Byddai’r tŷ yn fwgwd ac
yn effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos. Dim ond 17 medr i ffwrdd o’r tai
gyferbyn y byddai’r tŷ;
·
Cyfeirio at bolisi ISA4 o’r CDLl gan nodi y byddai’n bechod cael gwared â’r llecyn
agored;
·
Bod paragraff 5.10 o’r
adroddiad yn diystyru gwrthwynebiadau o ran mwynderau ond ei fod yn gofyn i’r
Pwyllgor roi ystyriaeth iddynt a gwrthod y cais.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Nododd y cynigydd y dylid gwrthod y cais oherwydd byddai’r
bwriad yn golygu colli llecyn
gwyrdd/rhandiroedd, gor-edrych, dim angen am dŷ arall gan
fod cynifer yn yr arfaeth
yn Chwilog ac y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle.
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Y byddai’n anodd
iawn amddiffyn gwrthodiad mewn apêl ar sail nad oedd angen am dai yn yr ardal;
·
Bod pryder o ran
effaith ar fwynderau preswyl yn rheswm y gellir ei ddefnyddio i wrthod y cais
ond roedd yr argymhelliad gerbron yn gadarn;
·
Nid oedd y llecyn
gwyrdd wedi ei warchod mewn unrhyw ffordd nac ar gyfer defnydd fel rhandiroedd;
·
O ran gor-edrych, mai’r canllaw pellter rhwng ffenest i ffenest
yw oddeutu 22 medr, roedd oddeutu 17 medr rhwng y tŷ a’r tai gyferbyn ond
nid oes ffenestr ar yr edrychiad perthnasol o’r tŷ arfaethedig;
· Bod yr adroddiad yn ymateb i bryderon o ran gor-ddatblygiad, pwysleisiwyd mai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
5 Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 244 KB
Cais i godi tŷ deulawr
marchnad agored.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais
i godi tŷ deulawr farchnad agored
Nid oedd modd trafod
y cais yma oherwydd nad oedd
cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor
nesaf
5 Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir ger Bro Sion Wyn, Chwilog PDF 243 KB
Cais i godi ty deulawr farchnad agored
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan
yr Is-gadeirydd.
Cais
i godi tŷ deulawr farchnad agored.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar
dir tu mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd.
Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig
yn cael ei leoli ar safle a oedd gyfochrog â ffordd gyhoeddus ag yn gymharol
agos i dai presennol. Cydnabuwyd bod ffenestri ar dalcenni’r adeilad
arfaethedig ble fyddant yn edrych tuag at dai presennol, ond roedd pellter o
oddeutu 17 medr rhwng y talcenni a’r tai agosaf gyda ffordd sirol heibio i un
ochr yn ogystal. Teimlir na fyddai effaith gor-edrych
ar y tai yma yn sylweddol nac yn amharu arnynt i raddau annerbyniol.
Derbyniwyd sylwadau gwreiddiol gan yr Uned Drafnidiaeth yn nodi pryder
ynglŷn â threfniant parcio a throi o fewn y cwrtil. Nodwyd yn dilyn derbyn
cynllun pellach gan yr asiant yn dangos diwygiad i’r gosodiad parcio a mynediad
ar gyfer y bwriad yn ogystal â lleihad yn y niferoedd o lofftydd o 4 i 3, bod
yr Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau bod y manylion diwygiedig yn dderbyniol.
Sylweddolir bod gwrthwynebiad wedi ei godi o safbwynt diogelwch ffyrdd ac
effaith ar drefniant parcio presennol. Fodd bynnag, ni wrthwynebir y bwriad gan
yr Uned Drafnidiaeth ac felly ni ystyriwyd bod y bwriad fel y diwygiwyd yn
groes i ofynion polisïau TRA 2 a TRA 4 CDLl.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Syndod bod Cartrefi Cymunedol
Gwynedd (CCG) yn defnyddio penseiri nad ydynt yn lleol;
·
Siom pe byddai’r safle yn cael
ei werthu ar y farchnad agored byddai’r arian yn mynd at godi tai fforddiadwy
eraill o fewn y Sir ar draul trigolion Bro Sion Wyn;
·
Problemau parcio yn bodoli yn
y stad a ni fyddai’r datblygiad yn helpu’r sefyllfa;
·
Byddai’r datblygiad yn
effeithio ar fwynderau trigolion y stad;
·
Y bwriad yn golygu colli
llecyn gwyrdd;
·
Gofyn i’r Pwyllgor fynd yn
groes i argymhelliad y swyddogion gan mai mater o farn a dim polisi oedd beth
oedd yn effeithio ar fwynderau pobl.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad
safle.
Nododd
aelod bod angen cadarnhad o ran trefniadau CCG i werthu’r safle
o ystyried y problemau parcio a oedd
yn bodoli ar y stad.
Mewn
ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr
y gellir rhoi ystyriaeth i’r sefyllfa parcio ond nad oedd bwriad yr
ymgeisydd yma o ran gwerthu’r safle yn berthnasol i’r
cais cynllunio a’i fod yn
fater oedd i’w ystyried mewn
fforwm arall.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.