Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar
gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan
ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd,
Penygroes.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymeradwyo amodau er mwyn
ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10
Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes.
(a)
Atgoffodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a
Gwastraff bod y cais hwn wedi ei ohirio yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27
Tachwedd 2017 er mwyn cynnal trafodaeth yn lleol a derbyn gwybodaeth ychwanegol
gan yr ymgeisydd.
Nodwyd y cynhaliwyd
cyfarfod cyhoeddus lle'r oedd yr aelod lleol yn bresennol ond nid oedd unrhyw
un o’r gymuned leol yn bresennol. Eglurodd yr esboniwyd yn y cyfarfod sut oedd
y swyddogion wedi llunio’r amodau a argymhellir, gan bwysleisio bod yr amodau
yma yn fwy disgrifiadol a fwy caeth na’r rhai a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.
Adroddwyd bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno mwy o wybodaeth ac roedd crynodeb wedi ei gynnwys ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol. Tynnodd sylw bod yr ymgeisydd yn datgan bod cwmni
Vibrock yn brofiadol ac yn darparu cyngor arbenigol o ran sŵn ac ansawdd
aer ym Mhrydain a thramor. Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn cyfeirio at waith
glo brig ac astudiaeth ‘Newcastle’. Nododd bod Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer yn
cydnabod bod y rhan fwyaf o ddatblygiadau mwynau yn golygu llai o weithgareddau
cynhyrchu llwch na phwll glo brig.
Pwysleisiwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y
cais ac mai cytuno ar amodau newydd oedd gerbron yn unol â Deddf yr Amgylchedd 1995 gan fod y caniatâd cynllunio yn ddilys dan 2042.
Nododd bod y cynllun gwaith a gyflwynwyd yn un ai gwneud cais am gyfnod 4
mlynedd wrth ddefnyddio mynedfa newydd neu 8 mlynedd pe defnyddir y fynedfa
bresennol. Eglurodd mai’r cynllun a ffafrir gan y Cyngor oedd efo’r fynedfa
newydd a hefyd darparu bwnd acwstig di-dor ar ochr dwyreiniol a deheuol y
safle. Ymhelaethodd ar amodau’r Cyngor a oedd yn cynnwys cyfyngu ar lefel
cloddio, monitro sŵn, ansawdd aer a llwch a chyfyngu oriau gweithredu
ynghyd â materion technegol eraill.
Eglurwyd bod yr amodau a gynigir gan y Cyngor wedi eu
cytuno rhwng yr Awdurdod Cynllunio ac Uned Gwarchod y Cyhoedd. Ychwanegodd pe
gwrthodir y cais byddai amodau’r ymgeisydd yn dod yn weithredol.
(b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod gwrthwynebiad chwyrn o’r
bwriad i ail-agor y safle;
·
Byddai’r chwarel yn frawychus
o agos i gartrefi preswyl, tai cyfagos o fewn 30 medr i’r chwarel. Yn unol â gofynion presennol ni fyddai chwarel yn cael ei ganiatáu heb ei
fod 100 medr i ffwrdd o dai;
·
Gallai’r ymgeisydd wneud cais
pellach i ymestyn y cyfnod;
·
Bod safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd
yn bodoli yn 1951;
·
Nad oedd yr amodau a gynigir
yn lliniaru’r effaith yn ddigonol;
·
Bod yr asesiadau yn rhai hanesyddol a chyffredinol;
yn anghyson a chamarweiniol;
· Yng nghyd-destun llwch, yn ôl y World Health Organisation nid oedd lefel saff o ran gronynnau a oedd yn mynd i’r system resbiradu gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Deddf yr
Amgylchedd 1995. Cais i benderfynu ar amodau i ailgychwyn safle tywod a graean
segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr, 1951 - cae rhif 297,
Cae Efa Lwyd, Penygroes
(a)
Pwysleisiodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd am Adolygiad Safleoedd Mwynau o
dan Ddeddf Cynllunio yr Amgylchedd 1995 ar gyfer cymeradwyo cynllun gwaith a
rhestr o amodau ar safle mwynau segur. Ategwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor
Cynllunio wrthod y cais ac mai cytuno ar
amodau newydd oedd gerbron. Amlygwyd bod angen cymhwyso amodau llawn,
modern y dylai datblygiad y chwarel fod yn ddarostyngedig iddynt. Eglurwyd na
ellir yn gyfreithiol ailgychwyn caniatadau segur heb fod cais wedi ei wneud i’r
Awdurdod Cynllunio Mwynau (ACM) a bod amodau modern llawn wedi eu cymeradwyo.
Cynigiwyd rhestr o amodau cynllunio newydd gan yr ymgeisydd ynghyd a rhestr
diwygiedig o amodau gydag addasiadau gan yr ACM. Nodwyd bod yr ACM wedi herio
amodau’r ymgeisydd ac wedi cynnig amodau rhesymol oedd yn cynnwys rheolaethau
llwch, cyfyngiadau sŵn ynghyd a chyfyngu oriau gwaith.
Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr angen
iddynt hefyd wneud penderfyniad ar gais cynllunio perthnasol / arwahan ar gyfer
creu mynediad newydd i gerbydau wasanaethu’r pwll tywod a graen o dan gyfeirnod
C17/0455/22/LL. Yn ogystal â chymeradwyo'r cynllun gwaith a’r amodau gofynnwyd
hefyd i’r Pwyllgor ystyried amserlen y gwaith gyda dewis o 4 blynedd a chloddio
100,000 tpa a chreu mynedfa newydd, neu 8 mlynedd a chloddio 50,000tpa yn
defnyddio'r fynedfa bresennol.
Amlygwyd bod nifer o wrthwynebiadau
wedi eu derbyn ynghyd a deiseb yn gwrthwynebu ar sail effeithiau ar fwynderau
trigolion cyfagos.
(b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol:
·
NA
i ail agor y chwarel. NA i’r Pwll Gro
·
Anghysondebau
mawr yn yr adroddiad a’r asesiadau
·
Dylid
defnyddio synnwyr cyffredin
·
Bod
posib cloddio mewn tri chae arall cyfagos - hyn yn codi amheuon trigolion
·
Bod
tai cyfagos o fewn 30m i’r chwarel
·
Chwerthinllyd
yw defnyddio geiriau megis ‘limited
impact’
·
Derbyn
bod amodau ar gyfer golchi lorïau, ond beth am ddillad a byd natur
·
Bod
diogelwch iechyd dynol yn flaenoriaeth
(c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd, y pwyntiau canlynol:
·
Bod
y chwarel yn cyfrannu at yr economi leol
·
Byddai’r
gwaith yn cyflogi 15 swydd llawn amser
·
Bod
y graean o safon dda ac yn cael ei brosesu yn lleol
·
Bod
manteision i’r cais amgen fyddai yn cyfyngu cloddio i 4 mlynedd yn hytrach na 8
·
Bod
trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r ACM a bod cytundeb ar rai ohonynt
·
Bod
modd cydymffurfio yn effeithiol.
(ch) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau
canlynol:-
·
NA
i’r Pwll Gro ac NA i’r Fynedfa Newydd
·
Byddai
llygredd a sŵn am flynyddoedd
·
Esgor pryderon – effaith ar fwynderau a lles
trigolion cyfagos
·
Bod
safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd yn bodoli yn 1951
· Bod anghysondebau yn yr asesiadau ac yn yr ymchwiliadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7