Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/11/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 Cais Rhif C20/0623/19/AC - Tir ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 350 KB

Cais i newid amodau 2 a 21 o ganiatad cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14 a 29 a symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a tynnu rhan o'r llwybr troed i'r 'hammerhead'

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

1.      Amser

2.      Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r holl adroddiadau

3.      Deunyddiau/llechi - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC

4.      Tirlunio a ffiniau'r safle - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC, C19/1082/19/RA ac C20/0226/19/RA

5.      Priffyrdd CEMP - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC

6.      Draenio

7.      Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC

8.      Archaeoleg - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/1082/19/RA

9.      Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.   Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai fforddiadwy

11.   Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod ffenestri ychwanegol a ffenestri to)

12.    Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd ar gefn plot 14 a chytuno dull agor

13.   Enw Cymraeg i’r stad a’r tai

14.   Manylion ac amserlen gosod offer o fewn y llecyn agored.

15.   Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy. - manylion yn unol â’r hyn a gytunwyd o dan C19/0994/19/AC

 

Nodyn

SUDS

Cofnod:

 

Cais i newid amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL er mwyn symud plot 14 a 29 a symud modurdy plot 17, lleihau lefel slab plotiau 18 a 26 a thynnu rhan o'r llwybr troed i'r 'hammerhead'

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

           

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid amodau 2 a 21 o ganiatâd cynllunio C19/0014/19/LL. Adroddwyd bod caniatâd cynllunio gwreiddiol C19/0014/19/LL ar gyfer codi 29 uned byw ynghyd â chreu mynedfa gerbydol newydd, llecynnau parcio, gwaith tirlunio a chreu ardal gyhoeddus agored.

 

Tynnwyd sylw bod cais ar gyfer newid di-faterol ar gyfer y newidiadau gerbron wedi ei gyflwyno o dan gyfeirnod C20/0198/19/DA ac wedi ei wrthod oherwydd bod symud plot 14 yn debygol o gael effaith ar eiddo cyfagos sydd angen ei asesu fel rhan o gais ffurfiol. Nodir fod gweddill y newidiadau yn ddi-faterol ac yn destun y cais yma o ran hwylustod delio gyda’r holl faterion gyda’i gilydd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yma eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio o dan C19/0014/19/LL, ac nad oedd y newidiadau i’r bwriad gerbron yn cael unrhyw effaith ar leoliad, cyfanswm nifer, y canran o dai fforddiadwy, cymysgedd tai na chynllun cyffredinol y safle ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn parhau i gydymffurfio gyda gofynion polisïau PS 16, PS 17, PCYFF 1, TAI 3 a TAI 15 o'r CDLL fel y cadarnhawyd yn y cais blaenorol. Ategwyd bod y gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar y safle

 

Amlygwyd bod y bwriad yn golygu symud plot 14 oddeutu 1m yn agosach i blot 15 (sydd union ddrws nesaf) er mwyn pellhau’r eiddo oddi wrth y gwrych sy’n ffinio o gwmpas y safle i gyd. Cyfeiriwyd at  eiddo ‘Tywyn’ sydd wedi ei leoli gydag ochr y safle ac  yn ffinio a chefnau plotiau 14, 15 ac 16, gyda chefn plot 14 yn wynebu gardd gefn Tywyn. Byddai symud plot 14 fel y cynigir yn y cais yma yn golygu y byddai’r ffenestr oriel ar gefn eiddo plot 14 yn edrych dros ran fechan o gornel ben draw ardd gefn eiddo Tywyn. Ystyriwyd fod yr ardal yma mor fychan â chan ei fod wedi ei leoli o fewn cornel ym mhen draw’r ardd (sydd yn ardd eang ac oddi wrth y rhannau union gerllaw tŷ ‘Tywyn’) ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar breifatrwydd eiddo Tywyn. Amlygwyd bod perchennog Tywyn yn gwrthwynebu’r bwriad ar sail unrhyw or-edrych dros ei eiddo. Er hynny, yn yr achos yma ystyriwyd fod y goredrych posib yn lleiafrifol ac o’i gymharu â’r ardal eang o ardd eiddo Tywyn, nad yw’n cael ei effeithio - ni fyddai’n rhesymol i wrthod y bwriad ar y sail yma. Nodwyd mai lleoliad eiddo plot 14 o fewn y plot yn unig oedd yn destun y cais, ac mae ei ddyluniad a lefel llawr yn unol â’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatáu o dan y cais blaenorol. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9