Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/05/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 11)

11 Cais Rhif C21/0215/45/LL 20 Yr Ala, Pwllheli, LL53 5BL pdf eicon PDF 440 KB

Trosi ty preswyl 3 llawr i ddau fflat

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn asesiad canlyniadau llifogydd derbyniol, cymeradwyaeth CNC i’r asesiad canlyniadau llifogydd

 

Amodau:

 

  1. Amser
  2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
  3. Cwblhau triniaeth ffin cyn trigo yn yr unedau
  4. Cytuno ar gynllun tai fforddiadwy safonol

 

Nodyn:

Dŵr Cymru

Gofynion Deddf Wal Rhannol

 

Cofnod:

Trosi tŷ preswyl 3 llawr i ddau fflat

           

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer trosi eiddo preswyl presennol i fod yn ddwy uned byw hunangynhaliol. Eglurwyd bod yr adeilad presennol, wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Pwllheli, yn un tri llawr ac ar ben rhes o dai cyffelyb.

 

Yn benodol mae'r gosodiad mewnol yn cynnig:

·         Uned Un

-    Llawr daear – cyntedd/mynediad wedi ei rannu, ystafell wely, lolfa, cegin, ystafell ymolchi

·         Uned Dau

-     Llawr cyntaf – lolfa/cegin, ystafell ymolchi, ystafell iwtiliti

-     Ail lawr – dwy ystafell wely

 

Nodwyd bod yr asesiad yn un helaeth, yn amlygu tystiolaeth a chyfiawnhad o’r angen, yn ogystal â’i fod yn cwrdd â gofynion polisi TAI 9 sydd yn caniatáu isrannu eiddo presennol yn unedau llai heb yr angen am estyniadau addasiadau allanol sylweddol.  Amlygwyd bod y datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrannu at geisio cyfarfod yr angen am dai i drigolion lleol ardal Pwllheli. Ategwyd bod cadarnhad o safbwynt y galw cydnabyddedig am unedau o’r math a maint yma yn yr ardal. Byddai’r unedau yn cael eu gosod i drigolion yn unol â pholisi gosod y Cyngor.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man prysur yn agos i ganol tref Pwllheli gyda thai annedd o’i amgylch. Mae edrychiad blaen presennol yr adeilad yn edrych dros y ffordd brysur gyhoeddus i'r blaen gyda bwriad o osod ffens 1.8m ar hyd ffiniau’r safle er mwyn sicrhau fod mwynderau preswyl yn cael eu gwarchod. Nid oes newidiadau allanol yn cael eu cynnal i’r adeilad ei hun fyddai’n creu unrhyw oredrych uniongyrchol newydd neu yn fwy na’r sefyllfa bresennol.

 

Adroddwyd bod pryder wedi ei amlygu am finiau fyddai yn cael eu cadw ar y tu blaen i’r tŷ fyddai’n effeithio'r palmant a symudiadau presennol. Wrth gyfeirio at y cynlluniau,  bwriedig, amlygwyd bod gofod penodol wedi ei ddynodi ar gyfer storio biniau yn yr iard sydd yn ffurfio rhan o’r safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol yn fwy na'r hyn a geir yn bresennol .

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad,  adroddwyd nad oedd man parcio presennol i'r tŷ ac na fwriedir cynnwys llecynnau i'r ddau fflat newydd ychwaith. Adroddwyd bod llecynnau parcio di rwystr ar hyd rhan helaeth o’r ffordd ynghyd a meysydd parcio cyhoeddus cymharol agos a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hwylus iawn. Ar y sail yma, ni wrthwynebwyd y bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth.

 

Cadarnhaodd yr Uned Iaith fod yr unedau yn cael eu gosod ar rent cymdeithasol fforddiadwy fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai, sydd yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i sicrhau cartrefi i drigolion y sir, a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelu a hybu’r iaith.

 

Amlygwyd bod y safle yn rhannol o fewn parth llifogydd C1 fel y nodir ar fapiau cyngor datblygu a ddaw gyda’r NCT15: Datblygu a Pherygl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11