Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 15)

15 Cais Rhif C20/1056/25/LL Ty Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HJ pdf eicon PDF 430 KB

Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad, creu ffordd fynedfa, parcio bysus a llwybrau cerdded

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell fod yr apêl yn cael ei wrthod ar sail:-

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi ISA3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan dylid defnyddio’r prawf dilyniannol wrth bennu lleoliad datblygiadau addysg bellach ac uwch gyda blaenoriaeth yn gyntaf i safleoedd addysg bellach ac uwch bresennol neu, yn ail, i safleoedd a chanddynt gysylltiad agos gyda champws presennol. Ar y sail yma ni ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf 1 a 2 o Bolisi ISA3 o’r CDLL nac ychwaith gyda polisiau cenedlaethol ar sail gofynion y dogfennau ‘Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (2021)’ ac ‘Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair’ (Gorffennaf 2020).

 

  1. Mae’r bwriad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS13 a CYF1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan gwarchodir tir ac unedau ar safleoedd cyflogaeth presennol (mae Parc Menai wedi ei restru yn y Polisi) ar gyfer mentrau cyflogaeth/busnes.

 

  1. Mae'r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYF 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu (2021) sy'n datgan y bydd cynigion i ryddhau tir ar safleoedd cyflogaeth presennol a ddiogelir at ddefnydd Dosbarth B1, B2 neu B8 yn unol â Pholisi PCYF1 at ddefnydd amgen yn gael eu cymeradwyo mewn achosion arbennig yn unig. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais (a'r rheswm ar wahân dros wrthod, yn seiliedig ar Bolisi ISA 3) nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod amgylchiadau eithriadol wedi'u profi. Ymhellach, a heb weithgaredd marchnata cadarn a thystiolaeth gadarn ynglŷn â pham na all adeiladau gael eu haddasu i oresgyn y materion a adnabuwyd,

 

nid oes tystiolaeth fod y safle'n annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol neu'r diben a ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol hyfyw ar gyfer y safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth yn y cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar ddefnydd cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi'i ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a gynigiwyd.

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF2 o’r CDLL sy’n datgan gwrthodir cynigion os ydynt:- (i) yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddiannwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall neu nodweddion yr ardal leol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch swn, sbwriel neu ffurfiau eraill o lygredd neu aflonyddwch a (ii) tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiadau eraill.  Rhagwelir byddai natur defnydd y cyfleuster addysg bellach ac uwch yn cynyddu’r swn/aflonyddwch a symudiadau cerddwyr/myfyrwyr oddi fewn i’r safle ac o amgylch y safle e.e yn ystod oriau cinio neu ddarlithoedd rhydd

 

 

COFNODION:

Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad, creu ffordd fynedfa,  parcio bysus a llwybrau cerdded

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod cais i’r Pwyllgor gyflwyno barn ar yr adroddiad sy’n ffurfio datganiad apêl i’r arolygiaeth cynllunio i argymell gwrthod apêl cynllunio

 

Derbyniwyd cais llawn ar gyfer newid adeilad Tŷ Menai/Technium sydd wedi ei leoli ar safle Cyflogaeth Parc Menai ac sydd ar hyn o bryd yn wag o’i Ddosbarth Defnydd B1 (swyddfeydd) i Ddosbarth Defnydd D1 (sefydliad dibreswyl addysg) ynghyd a chreu ffordd fynedfa, parcio bysus, llwybrau cerdded a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad.

 

Adroddwyd bod y datblygiad ar raddfa sy'n golygu y byddai wedi ei gyflwyno’r i bwyllgor cynllunio 6 Medi, 2021 ond bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i'r arolygiaeth gynllunio ar sail diffyg penderfyniad. Eglurwyd, pan gyflwynir apêl am ddiffyg penderfyniad, mae cyfnod ychwanegol i awdurdod cynllunio lleol benderfynu cais yn ystod y 4 wythnos gyntaf o dyddiad cyflwyno’r apêl. Cyflwynwyd yr apêl ar 4 Awst 2021 ac felly daeth 4 wythnos i ben ar 1 Medi 2021. O ystyried yr amserlen a’r ffaith nad oedd cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ystod mis Awst, nid oedd modd penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod 4 wythnos. O dan amgylchiadau o'r fath, nid yw’r drefn yn caniatáu i’r Cyngor wneud penderfyniad ar y cais.

 

Ategwyd, fel rhan o’r broses apêl, mae’r arolygaeth cynllunio yn rhoi cyfle i'r awdurdod cynllunio lleol cyflwyno datganiad apêl, lle gall yr awdurdod fynegi barn ac argymell penderfyniad. Gan nad oes gan swyddogion hawl dirprwyedig i benderfynu’r cais, cyflwynwyd y cais i bwyllgor er mwyn derbyn eu barn. Bydd y farn yn cael ei gyflwyno i’r arolygiaeth cynllunio fel rhan o’r datganiad apêl.

 

Cyfeiriwyd at brif bryderon yr Awdurdod Cynllunio ynghyd ac Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys:

 

1.    Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor

 

Bod dinas Bangor yn wynebu sawl her gyda chyflwr a pherfformiad canol y ddinas yn tanseilio ei swyddogaeth fel canolfan ranbarthol. Nodwyd bod siopau mawr fel Debenhams wedi cau ac Aldi yn adleoli i Ffordd Caernarfon wedi cael effaith andwyol ar hyfywedd canol y ddinas. Rhan o gynllun Adfywio’r ddinas yw cynyddu gweithgareddau a defnydd yng nghanol y ddinas.

 

Bod Coleg Menai yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth pwysig i’r ddinas. Mae’r safle presennol o fewn cyrraedd canol y ddinas gyda mynediad a chysylltiadau hwylus. Mae pryderon y byddai ail-leoli’r campws i gyrion y ddinas yn debygol o danseilio prysurdeb a swyddogaeth canol y ddinas, a lleihau nifer o bobl yn ymweld â’r canol. O ganlyniad, ystyrir y byddai’r cais yn tanseilio egwyddor ‘Canol Trefi’n Gyntaf’

 

2.   Effaith ar Barc Menai

 

Bod safle Parc Menai yn un o safleoedd cyflogaeth fwyaf llwyddiannus Gwynedd. Mae’n cynnig amgylchedd o safon ac yn darparu safleoedd ac eiddo i ystod eang o gyflogwyr. Dylid sicrhau na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar batrwm defnydd y stad a thrwy hynny  ...  view the full COFNODION text for item 15