Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (eitem 5)

5 PENDERFYNIAD Y CABINET - 28-09-21 - EITEM 8 - YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Bod y pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-

 

2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant. 

 

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai. 

 

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon. 

 

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w graffu, yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:-

 

Eitem 8: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet 28.9.21

 

“Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr, 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.”

 

Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Elwyn Jones a hithau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol.

 

Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, ac sydd o fewn gofynion Cyfansoddiadol, wedi eu nodi fel a ganlyn:

 

“1. Mae’r Adroddiad yn anghywir ac yn gamarweiniol rhan effaith ar y Gymuned, er enghraifft iaith a diwylliant Cymraeg - yn y tabl ar dudalen 714 mae yn dweud nad oes dim effaith ar yr Iaith.

 

2. Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref.

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant.

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai.

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon.

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.

 

3. Mae pryder wedi ei ddatgan rhan y ffordd droed rhwng Abersoch a Sarn Bach mae yr Adran addysg yn dweud fod cyswllt wedi bod gyda’r Adran Ffyrdd ond nid oes dim byd pendant wedi ei gyflwyno rhan datrys y risg yma sydd yn rhoi disgyblion mewn peryg. Mae’r Adran Addysg yn sôn am drefniadau cludiant sydd wrth gwrs yn ychwanegu at hinsawdd ac yn enghraifft ddrwg i’r plant ar sut mae’r Cyngor yn cymryd i ystyriaeth effaith ar hinsawdd.

 

4. Mae un plentyn yn disgyn allan o’r cynnig i gael cludiant oherwydd polisïau oed - yn y dyfodol pan fydd rhifau plant yn cynyddu oherwydd (a)  a (b) mae’n debyg bydd plant eraill yn cael gwrthod y cludiant yma ac felly yn dioddef rhan eu haddysg. 

 

5.Y penderfyniad ydi i gau yr ysgol yn ganol y flwyddyn ysgol a does dim amheuaeth fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Cabinet (eitem 8)

8 YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 462 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi fod yr adroddiad hwn yn benllanw proses sydd wedi cymryd rhai blynyddoedd. Amlygwyd fod 2 flynedd wedi bod ers i’r Cabinet gytuno i fynd i drafodaeth gyda’r corf llywodraethol.  Eglurwyd mai niferoedd isel, cyson a bregus yr ysgol yw sail y pryderon sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn. Eglurwyd heddiw mai pwrpas yr adroddiad yw i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau sydd wedi ei derbyn cyn penderfynu os y bydd angen cau’r ysgol a darparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r penderfyniad sydd yn cael ei drafod yn un hawdd ac amlygwyd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i pawb sydd ynghlwm ar ysgol ac diolchwyd i bawb sydd wedi cyfrannu i’r drafodaeth. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet wedi derbyn cais i ymweld a’r ysgol ond ei fod wedi mynychu’r ysgol o’r blaen fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol ac nid yr adeilad sydd tu o’r i’r argymhelliad ond yr heriau sydd yn wynebu’r ysgol. Cyfeiriwyd at rhai gwrthwynebiadau a oedd yn cwestiynu penderfyniadau y Cyngor ac os oes gwrandawiad teg wedi ei gynnig. Pwysleisiwyd nad oes dim sail i’r pryderon yma ac fod pwyso a mesur gwrthrychol wedi ei wneud cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adran hanes yr eitem. Mynegwyd fod penderfyniad wedi ei wneud ar y Rhybudd Statudol i gau yr ysgol ym mis Mehefin 2021 ond fod y drafodaeth wedi cychwyn ôl ym Medi 2019. Eglurwyd fod tri cyfarfod gyda’r corff llywodraethol wedi eu cynnal rhwng Hydref a Ionawr 2020 a oedd yn trafod yr opsiynau posib i’r ysgol. Ym Medi 2020, bu i’r Cabinet benderfynu ymgymryd a phroses ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysol Abersoch. Cadarnhawyd y penderfyniad ar y 3 Tachwedd yn dilyn i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei alw i mewn a’i gyfeirio yn ôl i’r Cabinet gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

Amlygwyd prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol a arweiniwyd at yr adolygiad. Eglurwyd fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn gyson ers 2016 a bellach mewn sefyllfa fregus. Mynegwyd fod yr ysgol o ganlyniad i hyn yn wynebu pwysau cyllidebol gynyddol. Amlygwyd fod yn holl blant yn cael ei dysgu mewn un ystafell ddosbarth, ynghyd a fod 21 plentyn o fewn y dalgylch yn mynychu ysgol arall gyda 5 disgybl yn mynychu’r ysgol o tu hwnt i’r dalgylch.  Nodwyd fod cost fesul disgybl yn Ysgol Abersoch yn £17,404 sydd yn llawer uwch nac yr ychydig dros £4000 sydd i’w gweld ar draws y sir. Pwysleisiwyd trwy gydol y cyfnod fod Egwyddorion Addysg i Bwrpas ynghyd a Strategaeth Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd wedi bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8

Awdur: Gwern ap Rhisiart