7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 396 KB
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad
Cofnod:
Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn :
1.1
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd
Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn
flaenoriaeth gan yr Uwch Swyddog Harbwr, ynghyd â'r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
newydd, Bryn Pritchard Jones, i ddiweddaru'r Côd
Diogelwch ar gyfer pob harbwr yng Ngwynedd.
Atgoffwyd pawb eto, i gysylltu os oedd unrhyw drafferth.
1.2
Carthu’r
Sianel
Adroddwyd bod carthu’r sianel yn parhau i
fod yn her er bod gwaith cydweithio gyda YGC wedi ei wneud i gynnal
gwerthusiad. Yr opsiwn llawn fyddai i
gynnal y basn, sianel a cheg yr Harbwr.
Nodwyd bod YGC wedi bod yn aflwyddiannus yn cael eu grant eleni a maethu
Cerrig y Defaid.
Nodwyd mai un opsiwn fyddai gwagio y ‘stilling lagoon’ ond fod y gost o
£1miliwn wedi ei rhoi trwy dendr ar y gwaith. Mae trafodaethau yn parhau gyda y
cwmni i weld a oes datrysiad gwell.
Cadarnhawyd y bydd y tendr i garthu basn y marina allan yn fuan, ond mai
y prif fater oedd ble i roi y gwaddod.
Er gwybodaeth, adroddwyd bod yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet wedi gofyn
am adroddiad ar y sefyllfa.
Codwyd pryder na lwyddodd YGC i gael y grant
eleni i faethu traeth Cerrig y Defaid, sydd yn meddwl fod y tywod ar geg yr
harbwr i’w werthu yn ei gyfanrwydd.
Cadarnhawyd mai ar gyfer y flwyddyn hon maent wedi bod yn aflwyddiannus
a’u bod yn edrych ar y Cynllun Llifogydd tymor hir, gan gadarnhau bod gwagio
ceg yr Harbwr yn fater blynyddol ac yn gost niwtral i’r Hafan ar hyn o bryd.
Cwestiynwyd ymhellach y pryder o ran ceg yr
Harbwr gan holi tybed a oes unrhyw un wedi edrych ar y sefyllfa yn
greadigol? Megis ei chwythu gyda phwmp
ar hyd traeth megis Traeth Glandon? Mantais hyn
fyddai y gost gan mai unwaith yn unig fyddai angen ei symud.
Atgoffodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli fod Traeth Glandon o dan reolaeth Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi gwrthod y tywod oherwydd nid oedd yn cyrraedd
y safonau bioamrywiaeth, a bod eisoes cyd-weithio ar y Cynllun Risg Llifogydd.
Atgoffodd y Cadeirydd bawb bod cyfarfod wedi
ei drefnu yn Siambr y Cyngor Tref gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac estynnwyd
gwahoddiad i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ac unrhyw aelod o’r
Pwyllgor fynychu y cyfarfod ar 22/11/23.
Nodwyd bod y sefyllfa carthu yn rhwystredig
a bod y basn mewn angen dirfawr o’i garthu a holiwyd beth yw y rhagolygon o ran
gwneud y gwaith carthu?
Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli bod y Gwasanaeth yn gweithio mor galed â phosib ac yn ceisio gwneud gwaith. Adroddodd bod lle bychan yn y lagwnau ac
mae’r bwriad fyddai defnyddio y lagwnau tra bod y trafodaethau ar y gweill.
Roedd un Aelod yn teimlo bod llwyddiant yr Hafan a’r Harbwr yn dibynnu ar y gwaith carthu, gydag incwm o £1.8 miliwn, ac yn wirioneddol nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7