Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/10/2023 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli gan adrodd fel a ganlyn :

 

1.1           Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan yr Uwch Swyddog Harbwr, ynghyd â'r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol newydd, Bryn Pritchard Jones, i ddiweddaru'r Côd Diogelwch ar gyfer pob harbwr yng Ngwynedd.  Atgoffwyd pawb eto, i gysylltu os oedd unrhyw drafferth.

 

1.2           Carthu’r Sianel

 

Adroddwyd bod carthu’r sianel yn parhau i fod yn her er bod gwaith cydweithio gyda YGC wedi ei wneud i gynnal gwerthusiad.  Yr opsiwn llawn fyddai i gynnal y basn, sianel a cheg yr Harbwr.  Nodwyd bod YGC wedi bod yn aflwyddiannus yn cael eu grant eleni a maethu Cerrig y Defaid.

 

Nodwyd mai un opsiwn fyddai gwagio y ‘stilling lagoon’ ond fod y gost o £1miliwn wedi ei rhoi trwy dendr ar y gwaith. Mae trafodaethau yn parhau gyda y cwmni i weld a oes datrysiad gwell.  Cadarnhawyd y bydd y tendr i garthu basn y marina allan yn fuan, ond mai y prif fater oedd ble i roi y gwaddod.  Er gwybodaeth, adroddwyd bod yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet wedi gofyn am adroddiad ar y sefyllfa.

 

Codwyd pryder na lwyddodd YGC i gael y grant eleni i faethu traeth Cerrig y Defaid, sydd yn meddwl fod y tywod ar geg yr harbwr i’w werthu yn ei gyfanrwydd.  Cadarnhawyd mai ar gyfer y flwyddyn hon maent wedi bod yn aflwyddiannus a’u bod yn edrych ar y Cynllun Llifogydd tymor hir, gan gadarnhau bod gwagio ceg yr Harbwr yn fater blynyddol ac yn gost niwtral i’r Hafan ar hyn o bryd.

 

Cwestiynwyd ymhellach y pryder o ran ceg yr Harbwr gan holi tybed a oes unrhyw un wedi edrych ar y sefyllfa yn greadigol?  Megis ei chwythu gyda phwmp ar hyd traeth megis Traeth Glandon? Mantais hyn fyddai y gost gan mai unwaith yn unig fyddai angen ei symud.

Atgoffodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli fod Traeth Glandon o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi gwrthod y tywod oherwydd nid oedd yn cyrraedd y safonau bioamrywiaeth, a bod eisoes cyd-weithio ar y Cynllun Risg Llifogydd.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bawb bod cyfarfod wedi ei drefnu yn Siambr y Cyngor Tref gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac estynnwyd gwahoddiad i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ac unrhyw aelod o’r Pwyllgor fynychu y cyfarfod ar 22/11/23.

 

Nodwyd bod y sefyllfa carthu yn rhwystredig a bod y basn mewn angen dirfawr o’i garthu a holiwyd beth yw y rhagolygon o ran gwneud y gwaith carthu?

 

Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod y Gwasanaeth yn gweithio mor galed â phosib ac yn ceisio gwneud gwaith.  Adroddodd bod lle bychan yn y lagwnau ac mae’r bwriad fyddai defnyddio y lagwnau tra bod y trafodaethau ar y gweill.

 

Roedd un Aelod yn teimlo bod llwyddiant yr Hafan a’r Harbwr yn dibynnu ar y gwaith carthu, gydag incwm o £1.8 miliwn, ac yn wirioneddol nad oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7