I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
I ystyried
yr Adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
2.
Gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
os oes modd i Aelodau’r Pwyllgor Iaith fynychu cyfarfod 13 Chwefror 2025 i wrando ar y drafodaeth wrth i ‘Bolisi Iaith Addysg’ gael ei graffu gan yr
Aelodau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd a’r Pennaeth Addysg.
Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
Adroddwyd ar
brosiect sydd yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a’r
Urdd sy’ anelu i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau
drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd mai nod y prosiect yw darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc defnyddio’r Gymraeg
y tu allan i’r ysgol gan gynyddu eu hyder yn yr iaith. Manylwyd bod 5 Aelwyd
Gymunedol wedi cael eu datblygu yn ardaloedd y Felinheli, Bangor, Caernarfon,
Ardudwy a’r Bala, sydd yn cynnig amrywiol weithgareddau y tu allan i oriau
ysgol. Cadarnhawyd mai mewn 6 ysgol uwchradd yn y sir mae’r gweithgareddau hyn
yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, ond pwysleisiwyd y gobeithir ehangu ar y
cynllun cydweithredol hwn i fwy o ysgolion uwchradd yn y dyfodol drwy
gydweithio ymhellach gyda’r Urdd, Cell B, Gisda a
Menter Iaith Gwynedd.
Eglurwyd bod
Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn derbyn grant gwerth £20,000 yn flynyddol gan
Lywodraeth Cymru er mwyn mynd ceisio cynyddu hyder pobl ifanc yn yr iaith
Gymraeg. Nodwyd bod ffocws y Gwasanaeth ar yr ardaloedd sy’n profi heriau
gyda’r iaith Gymraeg megis Bangor a Dolgellau. Cydnabuwyd bod y grant hwn yn
dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ac felly bydd angen sicrhau
bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy ddulliau amgen i’r dyfodol.
Cyfeiriwyd at
gynlluniau moderneiddio ac ehangu’r darpariaeth drochi ar gyfer dysgu Cymraeg i
blant gan gadarnhau bod gwaith adeiladu a moderneiddio Gwedd 1 wedi cael ei
gwblhau. Manylwyd bod y wedd hwn yn brosiect gwerth £1.1 miliwn er mwyn creu
unedau trochi sy’n pontio addysg Gynradd ac Uwchradd. Cadarnhawyd bod Uned
Drochi newydd wedi cael ei adeiladu yn Nhywyn ac ei fod wedi agor yn swyddogol
ar 20 Ionawr 2025. Cydnabuwyd bod llithriad byr wedi bod yn amserlen y
datblygiad hwn ond bod yr Uned yn barod i dderbyn dysgwyr Cymraeg newydd erbyn
hyn. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod Gwedd 2 y datblygiadau moderneiddio’r
ddarpariaeth drochi ar y gweill gyda unedau newydd yn cael eu datblygu yn
Nolgellau a Maesincla. Cadarnhawyd bod yr uned bresennol yn Llangybi yn symud i
fod ar safle Ysgol Cymerau, Pwllheli. Gobeithiwyd bydd y dair uned newydd yn
weithredol o dymor yr haf 2025.
Cadarnhawyd fod
prosiect TGCh rhithiol ‘Aberwla’ wedi ei gwblhau
erbyn hyn. Eglurwyd bod y prosiect yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fagu hyder
i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol mewn lleoliadau rhithiol cyn mynd ati i
gyfathrebu’n Gymraeg yn eu cymunedau. Esboniwyd bod y lleoliadau rhithiol hyn
yn cynnwys cae glampio, archfarchnad, garej, caffi, canolfan hamdden a
llyfrgell. Pwysleisiwyd bod y prosiect hwn yn un arloesol a bod gwaith yn cael
ei wneud er mwyn ei dreialu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru gan gynnwys
Wrecsam, Ynys Môn, Rhondda Cynon Taf, Sir Gâr, Bro Morgannwg a
Cheredigion.
Cadarnhawyd bod Prifysgol Bangor wedi cael eu comisiynu i gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng Ngwynedd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5