Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 29/04/2025 - Pwyllgor Iaith (eitem 8)

8 ADRODDIAD Y TIM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITIHOL AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023 - 2033 pdf eicon PDF 344 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd bod y Tim Arweinyddiaeth a’r Gwasanaethau Corfforaethol yn cydweithio gyda holl adrannau’r Cyngor a phartneriaid er mwyn cyfrannu at bolisïau, cynlluniau, prosiectau a ffrydiau gwaith sydd yn gwireddu amcanion y strategaeth iaith. Rhannwyd enghraifft o hyn wrth fanylu ar brosiect ‘Mwy Na Geiriau’ gan gadarnhau bod y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o fwrdd y prosiect ac wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y bwrdd ar gyfer rhanbarth y gogledd yn ddiweddar.

 

Adroddwyd bod y Prif Weithredwr yn cynrychioli Cyngor Gwynedd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn gyda chymorth y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Adroddwyd y gwelir newid amlwg mewn nifer o gyfarfodydd y Bwrdd sydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda’r mwyafrif helaeth o gyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg gyda gwasanaeth cyfieithu ar gael. Cadarnhawyd mai dyma’r unig Fwrdd o’i fath yng Nghymru sydd yn cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a dwyieithog.

 

Tynnwyd sylw bod Cyngor Gwynedd yn awdurdod lletya ar nifer o bartneriaethau rhanbarthol megis Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mynegwyd balchder bod y Cyngor yn llwyddo i gynnal pob agwedd o’r cyfrifoldeb hwn yn ddwyieithog gyda phwyslais yn cael ei roi ar yr iaith Gymraeg. Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol bod gwaith wedi mynd rhagddo i symud staff o Gynllun Twf Gogledd Cymru i’r gorfforaeth newydd ym mis Ebrill eleni. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol yn cydweithio gyda Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn datblygu ystod o gytundebau lefel gwasanaeth hir dymor. Pwysleisiwyd bydd hyn yn golygu bydd y Gwasanaeth Cyfreithiol yn symud i ffwrdd o drefniant presennol o benodi cyfreithwyr locwm, sydd ddim yn meddu a sgiliau’r Gymraeg ond yn cael eu penodi yn sgil eu harbenigedd penodol, er mwyn datblygu timau yng Ngwynedd a all gefnogi’r Cyd-bwyllgor Corfforedig tra hefyd yn ymrwymo i ofynion Polisi Iaith y Cyngor.

 

Esboniwyd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn Gadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol sydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau systemau digidol yn y dyfodol, fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd. Ymhelaethwyd bod Asesiad Addasrwydd Digidol yn gorfod cael ei gwblhau cyn ymgymryd â systemau digidol newydd, gan gadarnhau bod ystyriaeth i’r iaith yn rhan o’r asesiad hwn.

 

Mynegwyd balchder bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi bod yn cydweithio gyda CISCO / Webex ar gyfer datblygu system ffôn newydd i staff y Cyngor. Eglurwyd bod y system hon yn gyrru galwadau ymlaen i aelodau eraill o staff os bydd y derbynnydd mewn galwad neu gyfarfod rhithiol. Tynnwyd sylw bod y cwmni rhyngwladol hwn wedi cydweithio gyda’r Cyngor er mwyn datblygu darpariaeth Gymraeg o’r newydd ar gyfer defnydd staff y Cyngor. Pwysleisiwyd bydd y ddarpariaeth Gymraeg yma ar gael i sefydliadau a chwmnïau eraill sydd yn dymuno ymgymryd â’r system oherwydd cydweithrediad y cwmni gyda’r Cyngor.

 

Cadarnhawyd bod y Tîm Arweinyddiaeth yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd Fforwm Iaith a ddatblygwyd gan Uned Iaith y Cyngor yn ogystal â’r Grŵp Llywio a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8


Cyfarfod: 28/01/2025 - Pwyllgor Iaith (eitem 6)

6 ADRODDIAD ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023 - 2033 pdf eicon PDF 319 KB

I ystyried yr Adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol a tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod enw’r Adran wedi cael ei newid o ‘Cefnogaeth Gorfforaethol’ i ‘Gwasanaethau Corfforaethol’ yn ddiweddar er mwyn cyfleu’r ystod o wasanaethau sy’n rhan o’r Adran.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn arwain ar chwe prosiect blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor 2023 -2028 ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar pob cyfle. Ychwanegwyd bod yr Adran hefyd yn cefnogi nifer o brosiectau eraill y Cynllun megis Blaenoriaethau Cynllun Ffordd Gwynedd 2023 -2028. Manylwyd bod yr Adran yn arwain a chyfrannu’n helaeth at wireddu blaenoriaethau megis:

 

·       Gweithlu Bodlon ac Iach

·       Cynllunio’r Gweithlu a Datblygu Talent

·       Cynllun Digidol y Cyngor

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth Ymchwil a gwybodaeth mewn trafodaethau rheolaidd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Eglurwyd bod y Swyddfa ystadegau Gwladol yn cysidro peidio cynnal Cyfrifiadau yn y dyfodol ac yn ystyried casglu data mewn ffyrdd eraill i gasglu gwybodaeth debyg. Nodwyd ystyrir y Gwasanaeth a’r Adran bod parhau gyda’r Cyfrifiad yn ei ffurf bresennol yn arferiad pwysig i’w barhau.

 

Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth Cefnogol yn parhau i ddatblygu modiwlau hyfforddiant staff yn ddwyieithog drwy’r system Hunanwasanaeth mewnol. Ychwanegwyd eu bod wedi bod mewn cyswllt gyda swyddfa’r Disclosure and Barring Service (DBS) yn Lerpwl i roi pwysau arnynt ddatblygu ffurflen gais ar-lein Cymraeg, gan ofyn am ddiweddariad at ba bryd bydd y ffurflen honno ar gael i’w defnyddio.

 

Cyfeiriwyd at waith y Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith gan sôn am sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith, Fforwm Iaith Gwynedd, Y Gymraeg mewn busnes, Byrddau partneriaethau, Prosiect Enwau Lleoedd ac Ymwelwyr Gwlad y Basg.

 

Mynegwyd balchder bod Cyngor Gwynedd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025, yn dilyn gwaith yr Adran i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a dylanwadu ar ddarparwyr i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg i hyfforddeion a phrentisiaid sy’n gyflogedig gan Cyngor Gwynedd.

 

Cadarnhawyd bod gwaith dylanwadol yn cael ei wneud yn y maes Caffael wrth i reoliadau Caffael newydd gael eu datblygu ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Caffael yn dylanwadu ar y trafodaethau hynny er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r broses Caffael i’r dyfodol.

 

Llongyfarchwyd swyddogion Menter Iaith Gwynedd am ddod i’r brig yng ngwobrau Mentrau Iaith Cymru yn ddiweddar. Eglurwyd bod y wobr yn ymwneud a’u gwaith ar ddatblygu Croeso Cymraeg.

 

Eglurwyd bod Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddatblygiad mae’r Adran yn ymwybodol ohono gan wneud defnydd pan yn briodol gan fod yn wyliadwrus o’r heriau o’i ddefnyddio. Nodwyd bydd y maes hwn yn cael ystyriaeth barhaus gan yr Adran wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf.

 

Adroddwyd bod 166 o’r 176 aelod o staff o fewn yr Adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Cadarnhawyd bod 119 o unigolion sydd wedi ei gyflawni yn cyrraedd Lefel Hyfedredd, 39 o unigolion ar Lefel Uwch ac 8 unigolyn yn cyrraedd Lefel Canolradd. Eglurwyd bod y 10 aelod o staff sydd heb gyflawni’r holiadur hyd yma yn newydd a bydd yn cwblhau’r holiadur cyn gynted a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6