6 ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD PDF 147 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Cofnod:
·
Polisi Trwyddedu Gyrru Cerbyd Hacni
/ Hurio Preifat Cyfunol
·
Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni
/ Hurio Preifat
·
Polisi Trwyddedu Gweithredwyr Hurio Preifat
·
Polisi Meini Prawf Addasrwydd Gyrwyr a Gweithredwyr
Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd yn manylu ar wybodaeth gefndirol
polisïau cyfredol Gwynedd ynghyd a chyhoeddiadau gan Llywodraeth Cymru mewn
ymateb i geisio rheoli a chysoni’r diwydiant tacsi yn unol â’r Safonau Tacsi
Cenedlaethol.
Atgoffwyd yr
Aelodau bod y Pwyllgor Trwyddedu, yn Medi 2015 wedi awdurdodi Pennaeth yr
Amgylchedd i ddechrau adolygu’r polisïau gan gynnig polisi tacsi unedig i
Wynedd yn hytrach na thair dogfen bolisi ar wahân. Ystyriwyd y byddai cyflwyno
polisi unedig yn sicrhau gwasanaeth teg a chyson ac yn cwrdd ag anghenion y
diwydiant a’r defnyddwyr.
Amlygwyd, yng
nghyd-destun Safonau Cenedlaethol, bod amodau trwyddedu gyrwyr, cerbydau a
gweithredwyr tacsi yng Ngwynedd eisoes yn cyd-fynd gyda rhan helaeth o’r
disgwyliadau sydd yn cael eu cynnwys yn y Safonau, ond bod bwriad ychwanegu
rhai mesurau diogelu i’r broses ceisio am drwydded. Bydd mesurau megis sicrhau
bod ymgeisydd am drwydded yn derbyn ymchwiliad meddygol i safon Grŵp 2
DVLA, gyrwyr yn cwblhau Hyfforddiant Diogelu Plant fel rhan o’r broses ymgeisio
am drwydded a bod gwiriad ar system Intel troseddol cenedlaethol yn cael ei
wneud ar gyfer pob cais am drwydded gyrrwr o’r newydd, yn cael eu cynnwys yn
swyddogol yn y Polisi Unedig newydd.
Ategwyd y byddai’r
Pwyllgor, ymhen y 12 mis nesaf, yn cael cyfle i roi barn ar y polisi drafft
unedig, cyn y bydd ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn cael ei gynnal.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau:
·
Bod y polisïau wir angen eu diweddaru
·
Bod y newidiadau i’w croesawu ac yn cyfarch safonau
cenedlaethol
Mewn ymateb i
bryder bod gyrwyr o du allan i Wynedd gyda’r hawl i weithio yng Ngwynedd,
nodwyd bod trafodaeth genedlaethol wedi ei chynnal ar y pwnc gydag adolygiad
gan Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau rheolaeth dros ffiniau Cymru a Lloegr (Uber yn un enghraifft o hyn). Er hynny, nid oedd y drefn
bresennol yn caniatáu gwrthod gweithio trawsffiniol cyn belled a bod trefniant
ymlaen llaw wedi ei wneud. Ategwyd mai’r gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru yn
ail afael yn yr agenda ac yn ceisio rheolaeth drawsffiniol i’r dyfodol.
Mewn ymateb i
gwestiwn ategol bod angen cydweithio gyda siroedd ffiniol i sicrhau bod gyrwyr tu allan i Wynedd yn
cydymffurfio gyda pholisïau diogelwch Gwynedd, nodwyd bod Gwynedd yn rhan o
gyfundrefn rhannu gwybodaeth sy’n gweithredu gwiriadau yn genedlaethol. Mewn
ardaloedd gwledig, mynegwyd bod cytundebau cludiant ysgolion yn ddibynnol ar
weithredwyr o siroedd eraill, a bod rheolaeth dda o’r sefyllfa i sicrhau
bod gyrwyr a cherbydau yn cyd-fynd â’r
gofynion perthnasol. Pwysleisiwyd yr angen i gyfeirio unrhyw amheuon o
addasrwydd cerbydau a / neu yrwyr at yr Uned Trwyddedu a mynegwyd y byddai’r
gwaith o alinio polisïau ac amodau gyda siroedd eraill yn cyfrannu at wasanaeth
cyson a diogel.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â threfniadau cludo cleifion gan y Gwasanaeth Iechyd a bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6