Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/02/2026 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 CAIS RHIF C25/0686/11/LL Cae Incline Fields, Bangor, LL57 4HP pdf eicon PDF 515 KB

Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 

 

  1.    Amser 5 mlynedd
  2.    Yn unol â’r cynlluniau
  3.    Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy
  4.    Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig
  5.    Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir
  6.    Llechi
  7.    Cytuno gorffeniad
  8.    Amodau Tirlunio
  9.    Gweithredu amcanion Datganiad Seilwaith Gwyrdd
  10.    Cytuno manylion cyfarpar chwarae
  11.    Amod Dŵr Cymru
  12.    Amodau Priffyrdd
  13.    Amodau Gwarchod y Cyhoedd i gynnwys oriau gweithio
  14.    Amodau Cadw
  15.    Amod Archeolegol
  16.    Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad/tai       

 

 

Cofnod:

Cynnig i godi hyd at 48 o Anheddau a Datblygiad Cysylltiedig

 

         Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr

        

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio llawn ydoedd ar gyfer codi unedau preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig ar gae amaethyddol ar gyrion Dinas Bangor ar safle sydd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod y safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai a’i fod tu mewn i’r ffin datblygu cyfredol.

 

Adroddwyd bod prif elfennau’r bwriad yn cynnig  codi 48 o unedau preswyl, darparu mynedfa a ffordd ystâd safonol gysylltiedig, creu llecynnau parcio, mannau chwarae, gwaith tirlunio a darparu system ddraenio bwrpasol. Bydd y ddarpariaeth yn cynnwys 8 x fflat 1 llofft, 6 x fflat 2 llofft, 5 x byngalo 2 llofft, 1 x byngalo (byw a chymorth) 3 llofft, 13 x tŷ deulawr 2 llofft,12 x tŷ deulawr 3 llofft, 2 x tŷ deulawr 4 llofft ac 1 x tŷ deulawr 5 llofft; yn ddatblygiad 100% o dai fforddiadwy gan Gymdeithas Dai Cymdeithasol gyda bwriad o ddarparu cymysgedd o wahanol ddaliadaeth (e.e. rhent cymdeithasol a rhent fforddiadwy canolradd) i ddiwallu’r angen sydd wedi ei adnabod yn y Ddinas ac yng Ngwynedd.

 

Eglurwyd bod y safle gyferbyn ag Amlosgfa Bangor ac yn cael ei ystyried yn safle sensitif oherwydd bod Heneb Gofrestredig Rheilffordd Chwarel Penrhyn yn ffinio terfyn dwyreiniol y safle, dynodiad Safle Treftadaeth y Byd tu hwnt i hwnnw yn cynnwys tiroedd Parc Cofrestredig gradd II seren o amgylch Castell Penrhyn, ac adeilad rhestredig gradd 11 Bwthyn Incline sydd ar y terfyn dwyreiniol.

 

Nodwyd bod cais blaenorol wedi ei gyflwyno yn 2020 ar gyfer datblygiad 66 tŷ ar y safle, ond bod y cais wedi ei dynnu yn ôl yn sgil gwrthwynebiad gan CADW am yr effaith ar y dynodiadau treftadaeth. O’r dogfennau amrywiol a gyflwynwyd gyda’r cais yma, ymddengys bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda chyflwyniad datblygiad mwy ystyriol o’i leoliad sensitif.

 

Yn unol â threfniadau cynllun dirprwyo Gwasanaeth Cynllunio, cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn ddatblygiad dros 5 tŷ ac yn ddatblygiad a ddiffinnir fel “datblygiad mawr” oherwydd nifer yr unedau a gynigir. Yn unol â’r drefn briodol, derbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais a’r datblygwr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Wedi ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail:

 

·        Bod polisïau mabwysiedig yr Awdurdod yn datgan y bydd Cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y CDLl. Y bwriad yn paratoi datblygiad fyddai’n cynnwys 100% o unedau fforddiadwy gyda’r Uned Strategol Tai wedi dangos tystiolaeth o’r angen a chadarnhau fod y cynllun yn cyfarch angen yr ardal.

·        Bod y safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai, ac er bod y nifer unedau yn llai na’r 72 dwysedd uned a awgrymwyd yn y CDLl, ystyriwyd bod y rhesymeg dros warchod buddiannau’r dynodiadau treftadaeth sensitif yn cyfiawnhau dwysedd llai yn yr achos yma. 

·        Bod y materion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6