5.4 CAIS RHIF C24/0323/14/LL Tir ger Muriau Park Hotel, Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS
PDF 454 KB
Gorsaf
betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa
newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.
AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod
Rhesymau:
- Ystyriwyd
fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o
ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu
â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i
faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.
- Mae’r
prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi
effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol
leiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyniad i’w leoliad, y dystiolaeth fod
ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r ardal a bod y bwriad yn amharu ar y
gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth ddigonol
wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol
allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr
Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael
effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac
felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth
Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
- Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y
dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.
- Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i
unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad
yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na polisi PS6
y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
- Mae'r
safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon
ynghylch y datblygiad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i
drydydd parti. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r
cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn
galluogi gwaith cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol a darparu llwybr
llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na
ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4
polisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
- Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan
o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o
golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais
yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau
3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.
- Nid
yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n
ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid
yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 ... view the full Penderfyniad text for item 5.4