Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Nigel
Pickavance a Gareth A. Roberts. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a
gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr,
2020 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn
briffio ymlaen llaw gan y Swyddog
Monitro ynglŷn ag eitem 8 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau
a / neu Godi Premiwm 2021/22. Datganodd yr aelodau canlynol
fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau
a / neu Godi Premiwm 2021/22:- ·
Y Cynghorydd Aled Wyn Jones oherwydd bod teulu
agos yn berchnogion ail gartref a thai gwyliau yng Ngwynedd. ·
Y Cynghorydd Elfed Roberts oherwydd bod cyswllt
agos iddo yn talu’r dreth ar ail gartref. ·
Y Cynghorydd Menna Baines oherwydd ei bod yn gydberchennog ar dŷ gwag. ·
Y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams oherwydd bod gan gysylltiadau agos iddo dai
gwag ac ail gartrefi. ·
Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn
berchen ar ail gartref. ·
Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod ganddi
deulu sy’n berchen ar ail gartref a chyswllt gyda rhywun sy’n talu’r premiwm. ·
Y Cynghorydd Anwen Daniels oherwydd bod gan deulu
agos iddi ail gartref yn ei ward. ·
Y Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod
wedi cofrestru mewn dau gartref, sef Hafod a’r Hendre. ·
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod ganddo
gyswllt agos â rhywun sy’n talu’r premiwm ail gartref ac eiddo gwag. ·
Y Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod ganddo
gyswllt agos â rhywun sydd ag ail gartref. Roedd yr aelodau o’r
farn eu bod yn fuddiannau oedd
yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem
9 - Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2021/22 - ar
ran y prif swyddogion oedd yn bresennol,
gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. Ynghyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu Lucille
Hughes, cyn Bennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor
Sir Gwynedd a fu farw’n ddiweddar. Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged i Gwenan Parry, cyn Bennaeth Gofal
Cwsmer, a chyn Bennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant y Cyngor, a fu farw’n ddiweddar,
a mynegodd ei gydymdeimlad dwysaf â’i theulu yn
eu profedigaeth. Rhoddwyd teyrnged i’r diweddar
John B.Jenkins gan y Cynghorydd Owain Williams. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch
a choffadwriaeth. Croesawyd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i’r cyfarfod yn dilyn
anhwylder diweddar. Nodwyd, i ddathlu Diwrnod
Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, bod y Cyngor yn bwriadu lansio tudalen ar fewnrwyd y Cyngor, sy’n rhan o waith
y Grŵp Prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth,
lle byddai gwybodaeth berthnasol am y pwnc yn cael
ei rannu gyda staff y Cyngor.
Byddai Morwena Edwards, Cyfarwyddwr
Corfforaethol, yn gwneud fideo i
bwysleisio pwysigrwydd y dyddiad, a byddai’r Tîm Cyfathrebu yn cylchredeg fideo
i ddathlu cyflawniadau merched adnabyddus o’r sir. Nodwyd y byddai’r Cyngor yn dathlu ei ben-blwydd
yn bump ar hugain oed ddechrau mis
Ebrill, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n ffodus
iawn i gael
tri Phrif Weithredwr dawnus, sef Geraint R.Jones, Harry Thomas, a Dilwyn Williams, y Prif Weithredwr presennol. Ond gyda Mr Williams wedi datgan ei
fwriad i ymddeol, byddai’r Cyngor yn symud ymlaen
i’r pum mlynedd
ar hugain nesaf, dan arweiniad Prif
Weithredwr newydd. Rhoddodd yr Arweinydd air o ddiolch i Dilwyn Williams, ar ran
yr holl aelodau,
am ei wasanaeth ar hyd y blynyddoedd, a dymunwyd iddo bob hapusrwydd ar ei ymddeoliad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw
ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan
gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2021/22 PDF 673 KB Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ar
gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn: ·
Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth
A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. ·
Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100%
ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992. Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas,
adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 i beidio caniatáu
disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar anheddau gwag, ac i godi Premiwm
o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath. Manylodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnydd i gynyddu’r
Premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor
i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ynghyd â’r gofynion cyfreithiol. Tynnwyd sylw ganddo hefyd
at bwysigrwydd yr Asesiad Ardrawiad Cydraddoldeb, ac atgoffwyd yr aelodau fod
rhaid iddynt ei ystyried wrth
ddod i benderfyniad. Rhoddwyd esboniad ac arweiniad ar y canfyddiadau, gan dynnu sylw penodol
at honiad y gall y bwriad wahaniaethu yn anuniongyrchol ar grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig, a’r angen i’r aelodau
gydbwyso hyn wrth ddod eu
penderfyniad. Diolchwyd i aelodau o staff y Cyngor, o fwy nag un adran,
am sicrhau llwyddiant yr ymgynghoriad cyhoeddus. Nododd aelod, er y cytunai
â barn y Cabinet fod pwysau
cynyddol ar y stoc dai lleol
a bod gan berchnogion tai gwyliau'r modd i dalu ychydig
mwy, pryderai fod y bwriad i
gynyddu argaeledd tai fforddiadwy drwy gynyddu’r Premiwm yn golygu bod y Cabinet wedi camddeall y sefyllfa. Roedd risg y byddai
cynyddu’r Premiwm i 100% yn cymell
hyd yn oed
mwy o berchnogion ail gartrefi i drosglwyddo
i’r Dreth Fusnes, a olygai
golli’r tai hynny am byth, gan nad
oedd yna bwerau i’w cael
yn ôl i’r
Dreth Ddomestig. Ni chredai fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud
digon ynglŷn â’r sefyllfa, a chredai y dylai fod yn ofynnol
cael caniatâd cynllunio i drosi
tai i’r Dreth
Fusnes. Mynegodd ei bryder
y byddai’r Cyngor yn colli llawer iawn
o incwm yn y pen draw, ac roedd o’r farn
ei bod yn gynamserol i gynyddu’r
Premiwm i 100%, ac y byddai’n well aros i weld beth fyddai’r
sefyllfa yn dilyn Etholiad Senedd Cymru ym
mis Mai. Ar
sail hynny, cynigiodd welliant i ymlynu
at y drefn bresennol o godi Premiwm o 50% ar gyfer 2021/22, gan addasu ail a thrydedd pwynt bwled yr
argymhelliad yn yr adroddiad fel
a ganlyn:- “Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd
yn: ·
Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50%
ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992. ·
Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod
yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn
unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.” Eiliwyd y gwelliant. Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cefnogwyd y gwelliant gan aelodau
ar y sail:- · Mai twristiaeth yw un o brif gyflogwyr y sir, a byddai cynnydd pellach yn y Premiwm yn arwain at golli swyddi yn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2021/22 PDF 272 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro
yn syth i uchafswm o tua £70,000. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion adroddiad yn argymell
i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2020/21, yn cynnwys y penderfyniad
i godi cyflog
swydd y Swyddog Monitro yn syth
i uchafswm o tua £70,000, gan nad yw cyflog
presennol y swydd yn gystadleuol â swyddi sydd yn
ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol mewn awdurdodau lleol rhanbarthol eraill, a bod hynny yn cyflwyno risg
sydd yn annerbyniol
i weithrediad effeithiol y Cyngor. Nododd aelod na
chredai mai nawr oedd yr
amser i godi
cyflogau, gyda llawer o bobl y sir yn colli eu
gwaith, heb siawns o gael gwaith
arall. PENDERFYNWYD cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro
yn syth i uchafswm o tua £70,000. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021/22 PDF 360 KB Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn
ystod 2021/22. Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad
yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun
y Cyngor 2018-23: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei
weithredu yn ystod 2021/22. Diolchodd yr Arweinydd i
bob aelod o staff y Cyngor am gyfrannu
at yr ymateb i argyfwng y pandemig,
drwy fod mor barod i
addasu i ddulliau gwahanol o weithio, i newid
gwaith ac i ymroi i ymateb
ac i ddarparu gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Nododd fod y cynghorau
sir wedi ymateb yn arwrol ac yn
effeithiol i’r clefyd, a bod y llywodraethau bellach yn sylweddoli
pa mor hanfodol,
a pha mor barod i weithredu,
y mae awdurdodau lleol. PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd
2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn ystod 2021/22. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:- (a) Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer
2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%. (b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn
2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18 Tachwedd 2020, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):- (a) 51,885.56 yw’r swm a
gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn. (b) Rhan o ardal y Cyngor –
Sylfaen drethiannol Cymuned –
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol. 3. Bod y symiau a ganlyn
yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol ag
Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|