Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Simon Glyn yn gadeirydd am 2021/22. Darllenodd a llofnododd y Cynghorydd Simon
Glyn ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2021/22 ym
mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Is-gadeirydd am 2021/22. Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw
am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Jones a’r Cynghorydd Peter Read. PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Elwyn
Jones yn is-gadeirydd am
2021/22. Darllenodd y Cynghorydd Elwyn Jones ddatganiad
yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2021/22. Eglurodd y Swyddog Monitro, gan fod yr
Is-gadeirydd yn bresennol o bell, y rhoddid trefniadau mewn lle iddo arwyddo’r
datganiad ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, Dylan
Fernley, Peredur Jenkins, W.Roy Owen, Jason Parry,
Peter Read a Cemlyn Williams. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:- · 4 Mawrth, 2021 · 23 Ebrill, 2021 (Cyfarfod Arbennig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel
rhai cywir:- ·
4 Mawrth, 2021 ·
23 Ebrill, 2021 (Cyfarfod Arbennig) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddwyd teyrnged gan y Cynghorydd Selwyn Griffiths i’r diweddar
Maldwyn Lewis, Porthmadog – cyn
aelod o’r Cyngor hwn a chyn-Gyngor Sir Gwynedd. Nododd y Cadeirydd mai, gyda thristwch,
y clywyd hefyd am farwolaeth sydyn y cyn-Gynghorydd Dewi Llewelyn, fu’n
frwdfrydig iawn wrth gynrychioli pobl leol a’i
gymuned ym Mangor. Mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu a’i ffrindiau.
Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch
a choffadwriaeth. Gwahoddwyd yr Arweinydd i
ddweud gair ynglŷn â’r Etholiadau Senedd diweddar. Nododd:- ·
Mai dyma’r Cyfarfod
Blynyddol diwethaf o’r Cyngor cyn i’r aelodau wynebu etholiadau ym mis Mai y
flwyddyn nesaf, a daliodd ar y cyfle i ddiolch i bob aelod am eu cyfraniad
gwerthfawr i waith y Cyngor. Nododd
hefyd y bu’n bleser ac yn anrhydedd bod yn Arweinydd dros y 4 blynedd
ddiwethaf, ac y byddai’n gwneud ei orau eto dros y flwyddyn sy’n weddill o
dymor y Cyngor presennol. ·
Y dymunai longyfarch
Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor ar gael eu hethol i gynrychioli Arfon a
Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiadau Senedd diweddar. Mynegodd ei obaith y byddai’r ddau, fel
cyn-gynghorwyr sir, yn cofio am lywodraeth leol yn eu gwaith, ac yn cefnogi pob
ymdrech i rymuso ac amddiffyn llywodraeth leol, ac i sicrhau y byddwn yn derbyn
cyllid digonol i ymgymryd â’n dyletswyddau. ·
Y dymunai ddatgan
gwerthfawrogiad i’r aelodau hynny o’r Cyngor oedd wedi sefyll yn yr Etholiadau
Senedd, gan ddiolch iddynt am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. ·
Yr hoffai ddymuno’n
dda i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar ei ymddeoliad o’r Senedd ar ôl oes o
wasanaeth i Gymru, ac yn arbennig i Feirionnydd. Nododd y bu ei waith fel Llywydd y Cynulliad
yn allweddol i osod sylfeini cadarn ac i roi statws i’r
corff, a diolchodd iddo am ei holl waith, ac am ein cynrychioli cyhyd. ·
Bod pobl Cymru wedi
rhoi pleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, a bod llawer o’r diolch am hynny i’r
Prif Weinidog, Mark Drakeford, am y ffordd bwyllog a
gonest y bu iddo ein harwain drwy gyfnod hynod anodd. Roedd y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y
gallai Cymru weithio yn fwy effeithiol, ac yn ddoethach,
na Llywodraeth San Steffan, a dangoswyd hefyd yn glir yr angen am lawer iawn
mwy o bwerau i Gymru. Roedd her i’r
Blaid Lafur ddangos eu bod yn barod i sefyll yn gadarn dros Gymru, gan fynnu
mwy o bwerau, ac i sefydlu eu hunain fel plaid annibynnol Gymreig, gan dorri’n
rhydd oddi wrth eu cymheiriaid yn Lloegr.
Fel Arweinydd y Cyngor dros y flwyddyn nesaf, byddai’n manteisio ar bob
cyfle i fynegi’r her yma iddynt. ·
Y dymunai groesawu
Dafydd Gibbard i’w Gyngor llawn cyntaf fel Prif Weithredwr. Dymunodd iddo bob llwyddiant yn y swydd, gan
nodi ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y flwyddyn nesaf. Llongyfarchwyd Andy Dunbobbin ar gael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. [Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2021/22. Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer
2021/22. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth am 2021/22. Diolchodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones i’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth, y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith a staff y Gwasanaeth Democratiaeth am eu holl gefnogaeth
dros y flwyddyn ddiwethaf. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GAN Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH PDF 572 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth ei adroddiad blynyddol
ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth yng nghyswllt
cefnogaeth i aelodau. Diolchodd y Pennaeth i holl
aelodau’r pwyllgor, ac i swyddogion y Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith, am eu
cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd yn arbennig
at ymdrechion arwrol Arweinydd a staff y Tîm Cyfieithu
i sicrhau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol, nid yn
unig o fewn y Cyngor hwn, ond ar draws y rhanbarth hefyd gyda sefydliadau cyhoeddus eraill. Roedd gwaith y swyddogion Technoleg Gwybodaeth wedi bod yn allweddol
hefyd, ac wedi galluogi i bawb
gymryd y dechnoleg mor ganiataol bellach. Diolchodd hefyd i swyddogion
y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r
Sefydliad am gydgordio’r hyfforddiant, ac i aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Cynghorwyr Dewi Owen ac Anne Lloyd Jones fel cadeiryddion y pwyllgor dros gyfnod
yr adroddiad dan sylw. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mynegwyd pryder y
gallai’r gost ychwanegol o weithio’n rhithiol o gartref fod yn rhwystr i rai
sefyll etholiad i fod yn gynghorydd, ac y dylid sicrhau ein bod yn parhau i fod
yn gyngor cynhwysol. Mewn ymateb, nodwyd
bod y Gwasanaeth yn fyw i’r bygythiad hwn, ac y byddai’n destun trafodaeth
bellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym Mehefin. ·
Holwyd a roddwyd
ystyriaeth i gynnig gwasanaeth cyfieithu i awdurdodau eraill, fel ffordd o ddod
ag incwm ychwanegol i goffrau’r Cyngor.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfieithu eisoes yn darparu gwasanaeth
cyfieithu i nifer o sefydliadau eraill.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd y gwasanaeth hefyd wedi cynorthwyo
nifer o awdurdodau lleol eraill, ayb, er mwyn cyflwyno systemau sy’n caniatáu
cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol.
Roedd incwm yn dod i mewn eisoes gan sefydliadau am y gwasanaeth
cyfieithu a ddarperir gan Wynedd, ond roedd lle i ystyried ymestyn hynny
ymhellach. ·
Nodwyd bod Cyngor
Gwynedd wedi bod yn flaengar yn symud i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn
ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf, a’i fod yn esiampl i gyrff eraill ar draws
Cymru. ·
Nodwyd bod cynnal
cyfarfodydd yn rhithiol yn arbed llawer o gostau teithio i’r Cyngor ac amser
teithio i’r aelodau, ac y dylid ystyried hyn fel y ffordd ymlaen i’r dyfodol. ·
Mynegwyd y farn y
dylai’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cynnal ei statws fel
pwyllgor teg a chadarn. Nodwyd hefyd na
fu’n bosib’ i’r aelodau fynd ar ymweliadau safle, oedd mor bwysig o safbwynt
gwneud y penderfyniadau cywir ar geisiadau cynllunio. · Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor llawn a’r Pwyllgorau Craffu gyfarfod wyneb yn wyneb, ond y dylid rhoi’r dewis i aelodau fynychu cyfarfodydd eraill yn rhithiol neu wyneb yn wyneb. Mewn ymateb, eglurwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ymgorffori’r drefn rithiol o weithio, yn ogystal â hybrid a chyffredin, ac y byddai’n ofynnol i’r Cyngor fabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2020/21 PDF 190 KB Cyflwyno adroddiad y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn
perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y
flwyddyn flaenorol. Nododd y
Cyfarwyddwr, oherwydd y pandemig, fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn
i’r blynyddoedd a fu, ac yn flwyddyn na ddymunid gweld ei thebyg fyth eto. Cydymdeimlodd â phawb oedd wedi colli
anwyliaid i’r firws, a diolchodd i bob un o weithwyr gofal y sir, oedd wedi
mynd tu hwnt i’r gofyn i roi’r gofal gorau bosib’ i’r trigolion. Nododd hefyd fod y cydweithio ar draws
Gwynedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb, ac y gwelwyd y gorau o bobl yng
Ngwynedd, yn staff, gwirfoddolwyr, pencampwyr yn y cymunedau ac aelodau
etholedig. Nododd ymhellach,
er gwaetha’r heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, ei bod yn falch o nodi fod
perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn a fu wedi bod yn
gadarnhaol unwaith eto. Fodd bynnag,
wrth ganolbwyntio ar ymdopi gyda’r argyfwng Cofid, roedd rhai blaenoriaethau
wedi llithro rhywfaint, neu wedi eu rhoi o’r neilltuo am y tro. O ganlyniad, roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y ffordd yr ymatebwyd i’r pandemig a’r modd y parhawyd i gynnal
a darparu’r gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â datblygu a darparu gwasanaethau
newydd. Eglurodd fod llu o staff a rheolwyr gweithgar ac ymroddedig y tu ôl i’r
perfformiad yma, yn ogystal â gofalwyr sy’n deulu neu ffrindiau, rhieni maeth a
gwirfoddolwyr. Roedd y pandemig wedi
dangos bod gwasanaethau gofal cadarn yn y cymunedau yn hollol hanfodol, a mawr
obeithid y byddai polisïau a threfniadau, ayb, i’r dyfodol yn amlygu bod y
sector gofal cyn bwysiced â’r gwasanaethau iechyd. Pwysleisiodd y byddai hi a’r penaethiaid yn cadw golwg barcud ar effaith
y flwyddyn ddiwethaf ar y staff yn yr hir dymor a’r tymor byr / canolig. Roedd cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i’r
staff, ac roedd rhaid bod yn byw i anghenion staff unigol, a cheisio rhagweld y
problemau i’r dyfodol. Roedd y pandemig
hefyd wedi gadael effaith ar boblogaeth y sir o ran cyflogaeth, unigrwydd,
iselder, ayb, ac roedd y Bwrdd Cefnogi Pobl yn edrych ar faterion llesiant, ac
wedi dysgu o’r profiadau Cofid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd
orau bosib’. Ychwanegodd nad oedd perfformiad da yn bosib’ heb y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol, a diolchodd i bawb o’r aelodau am eu gwaith drwy gydol bob blwyddyn yn cefnogi, herio a chynnig sylwadau a syniadau newydd. Diolchodd i’r ddau Aelod Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan, ac i’r Arweinydd a gweddill y Cabinet a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu cymorth parhaus a’u cefnogaeth i’r maes. Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Plant a Theuluoedd a’r uwch reolwyr a’r rheolwyr. Diolchodd hefyd i adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i gamu i mewn a chefnogi’r gwaith gofal cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchodd yn arbennig i Dilwyn Williams am ei arweiniad a’i gefnogaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
YMESTYN PENODIAD AELOD LLEYG O'R PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 140 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ymestyn penodiad Mrs Sharon
Warnes fel aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn
ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r
Cyngor ymestyn penodiad Mrs
Sharon Warnes fel aelod lleyg o’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022, gan fod y cyfnod llywodraeth
leol presennol yn dod i
ben yn 2022, a gyda newidiadau cyfansoddiadol yn golygu y bydd
newidiadau eithaf sylweddol i aelodaeth
y pwyllgor yn dod yn weithredol
o Fai 2022, yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ac aelodau o’r pwyllgor, fod
Mrs Sharon Warnes wedi bod yn aelod gweithgar
iawn dros y blynyddoedd. PENDERFYNWYD ymestyn
penodiad Mrs Sharon Warnes fel aelod lleyg
o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 509 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar
gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r
Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr
atodiad. (b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. (c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail
cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi Grŵp Annibynnol Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth adroddiad ar yr
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth fod y Cynghorydd
Freya Bentham, Aelod Harlech / Talsarnau,
wedi cyflwyno ei hymddiswyddiad ers cyhoeddi’r adroddiad, ac y bwriedid adrodd ymhellach ar unrhyw newid i’r
cydbwysedd gwleidyddol yn sgil hynny
i’r Cyngor ym mis Gorffennaf, yn dilyn cynnal
isetholiad. Nododd hefyd y cydnabyddid bod y fformiwla dyrannu seddau ar bwyllgorau yn gymhleth, ond
bod hyn yn drefn statudol oedd yn cael
ei gweithredu’n gyson ar draws cynghorau Cymru. Gan hynny, roedd
y Tîm Democratiaeth a’r Tîm Cyfathrebu yn y broses o gynhyrchu fideo byr er
mwyn cynorthwyo pawb i ddeall
y drefn yn well. PENDERFYNWYD (a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn
yr atodiad i’r cofnodion hyn,
ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r
hyn a nodir yn yr atodiad. (b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau
i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r
grwpiau gwleidyddol. (c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Grŵp
Annibynnol Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol |
|
YMATEB I RYBUDD O GYNNIG BLAENOROL PDF 173 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, llythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – llythyr gan Brif
Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb
i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref,
2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol. Nododd aelod ei anfodlonrwydd
ei bod wedi cymryd pum mis
a hanner i gyflwyno’r ymateb i aelodau’r Cyngor. |
|
Dogfennau ychwanegol: |