Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:-
Anwen Davies, Alan Jones Evans, Dylan Fernley, Louise Hughes, Eric Merfyn
Jones, Peter Read, Mair Rowlands a Hefin Underwood. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd
ar 13 Mai, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Mai,
2021 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Prif
Weithredwr fuddiant personol yn eitem 10 – Swyddog Cofrestru Etholiadol /
Swyddog Canlyniadau – oherwydd bod yr adroddiad yn cyfeirio ato, a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estynnwyd dymuniadau gorau am wellhad buan i’r Cynghorydd Eric Merfyn
Jones yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar. Llongyfarchwyd a chroesawyd y Cynghorydd Gwynfor Owen, yr aelod newydd
dros Harlech / Talsarnau, i’r cyfarfod. Llongyfarchwyd pawb o Wynedd a fu’n cystadlu, a’r rhai a fu’n
llwyddiannus, yn Eisteddfod T yr Urdd eleni. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams “Pa ymateb mae
Cyngor Gwynedd am ei roi i’r datganiad haerllug gan Lywodraeth San Steffan, a’r
Blaid Dorïaid yn arbennig, sef ein gorchymyn i gyhwfan fflag ‘Jac yr Undeb’
uwchben ac ar ochrau adeiladau'r ‘Ymerodraeth’, sef y Deyrnas Unedig, yma yng
Nghymru?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys “Nid gorchmynion ydi’r rhain, ond canllawiau ac anogaeth i godi Baner yr
Undeb ar adeiladau yng Ngwledydd Prydain.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am hedfan baneri ar ei adeiladau ei hun, ac mae
gennym eisoes bolisi ar gyfer hynny.
Rwyf wedi anfon ymlaen fanylion y polisi hwnnw at yr aelodau er
gwybodaeth.” Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Owain Williams “Gofynnaf i’r Cyngor hwn gysylltu â Swyddfa Prif Weinidog y Deyrnas
Unedig a gofyn am esboniad ac ymddiheuriad am sarhau a bychanu ein cenedl.” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys “Rydw innau’n
cytuno hefyd bod yr agwedd yn haerllug ac yn sarhaus. Rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu
rwy’n meddwl o fewn y Cyngor yma. Er
enghraifft, yn ddiweddar roedd Gweinidogion Prydain eisiau ‘UK Day’ ac eisiau
i’r plant ganu ryw gân yn yr ysgolion am undeb a chryfder y Deyrnas Unedig. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Gymdeithas
Bêl-droed Cymru am gael y syniad bod plant yn ysgolion Cymru yn canu'r anthem
genedlaethol ar yr un diwrnod, ac roeddwn yn andros o falch o weld ar y
newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn arweiniad gan y Pennaeth
Addysg yng Ngwynedd, bod plant ar draws ysgolion Gwynedd yn gwneud hynny. Felly rwy’n meddwl ein bod ni fel Cyngor yn
gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ein diwylliant a’n hunaniaeth
Gymreig.” (2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd “Gan ystyried bod
y ‘Cynllun Gweithredu Tai’ yn labelu Cynllun Cymorth Prynu yn un “hynod
boblogaidd” a bod yr arian a fuddsoddir yn y cynllun yn gallu cael ei “ail
gylchu”, ac o ystyried y gost sydd ynghlwm ag adeiladu tai newydd, ac na fedrwn
ni adeiladu ein hunain allan o’r argyfwng cartrefi beth bynnag, onid yw’n
anghenraid i’r Cyngor hybu defnydd llawer ehangach o gynlluniau darparu
ecwiti fel cynllun ‘Prynu Cartref-Cymru’ sy’n llawer mwy cost effeithiol ac yn
fodd amgenach na dim byd arall i helpu pobl fyw yn eu cynefin?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago “Rydym ni ynghanol argyfwng tai go iawn, ac mae gan bawb ohonom straeon neu enghreifftiau yn ein wardiau o annhegwch a phrisiau tai rhy uchel, neu golli adeiladau i bobl o’r tu allan sy’n dymuno gwneud pres hawdd. Mae’r sefyllfa yn mynd yn fwy anobeithiol bob dydd. Roeddem yn clywed yn ddiweddar mai ein prisiau tai ni oedd wedi codi fwyaf ym Mhrydain. Mae’r rhain yn bethau rydym i gyd yn poeni amdanynt, ac mi fuaswn i’n dweud mai dyma’r flaenoriaeth uchaf i ni i gyd o ran y pethau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2020/21 PDF 205 KB Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Croesawyd Dr Einir
Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad
blynyddol y pwyllgor am 2020/21. Wrth gyflwyno’r
adroddiad, nodwyd na chyfeiriwyd unrhyw gŵyn o dorri’r Cod Ymddygiad at y
Pwyllgor Safonau, a bod hynny’n adlewyrchu’n dda ar y diwylliant ar draws y
sir. Deellid y byddai ambell un yn
siomedig nad oedd y trothwy ar gyfer ystyried achosion yn is, ond fel yr
esboniwyd wrth y Cyngor yn y gorffennol, nid y Pwyllgor Safonau oedd yn penderfynu
pa achosion oedd yn cael eu cyfeirio ato.
Roedd y Pwyllgor wedi nodi’r pryder a godwyd yn flaenorol gan yr aelodau
etholedig ynglŷn â hyn, a phan fyddai Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd
Cymru yn ail-ymgynnull, byddai hyn yn fater i’w drafod yno. Diolchodd Dr Einir
Young i aelodau’r Pwyllgor, y Swyddog Monitro, yr Uwch Gyfreithiwr
Corfforaethol a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth am eu holl gymorth. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Mynegodd aelod ei
siomedigaeth o glywed na fu unrhyw ymchwiliad eto eleni, a chwestiynodd a oedd
Swyddfa’r Ombwdsmon yn cynnig gwerth am arian.
Awgrymodd hefyd y byddai’n fuddiol i gynghorau recordio’u cyfarfodydd,
fel bod tystiolaeth ar gael petai problem yn codi unrhyw dro. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn fater oedd yn
codi’n flynyddol yn y Cyngor a bod y prawf budd cyhoeddus dan ystyriaeth ar hyn
o bryd fel rhan o adolygiad o’r Cod Ymddygiad.
Eglurwyd bod y prawf yn caniatáu i’r Ombwdsmon briodoli ei adnoddau i
ymchwilio i faterion mewn meysydd, megis iechyd. Fodd bynnag, roedd hynny’n codi cwestiwn
ynglŷn ag addasrwydd y model ar gyfer cynghorau cymuned, oherwydd, os oedd
y rhiniog mor uchel, oni ddylai bod yna fodel gwahanol sy’n ymateb i ofynion
cynghorau cymuned, yn hytrach na’u bod ar linyn mesur cyngor sir neu awdurdod
iechyd? Roedd lle, gan hynny, i gael y
drafodaeth yma wrth i’r adolygiad fynd rhagddo. Diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei chyflwyniad. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2020/21 PDF 119 KB Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad fel
adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21,
a’i fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad
Perfformiad Cyngor Gwynedd 20120/21 fel darlun clir, cytbwys a chywir o
berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21. Diolchodd i bob
aelod o staff oedd wedi cyfrannu at y gwaith, ac yn arbennig i’r Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes y Cyngor a’r Swyddog Cefnogi Busnes am gasglu’r holl wybodaeth,
ac am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor ddealladwy a diddorol. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Gan gyfeirio at
dudalen 46 o’r rhaglen, sy’n nodi y bydd Cais Twf Gogledd Cymru yn arwain at
£1.1bn o fuddsoddiad yn rhanbarth y Gogledd dros y deg mlynedd nesaf, gan greu hyd
at 4,000 o swyddi ledled y Gogledd, holwyd faint o’r buddsoddiad hwn fyddai’n
debygol o ddod i Wynedd. Mewn ymateb,
nodwyd na chredid bod yna dargedau penodol ar gyfer Gwynedd, ond y bwriedid
cadw golwg ar y sefyllfa, gan adrodd yn ôl i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru ar yr hyn sy’n digwydd. Eglurwyd
bod nifer o brosiectau yn mynd ar draws y rhanbarth, megis y prosiectau digidol
sy’n ymestyn a gwella cysylltedd digidol ar draws yr holl ranbarth. Roedd niferoedd swyddi wedi’u pennu ar gyfer
prosiectau penodol ym Mhrifysgol Bangor a Glynllifon, a gellid darparu mwy o
fanylion i’r aelodau am rheini i’r dyfodol. ·
Yn wyneb y ffaith bod Wylfa B yn annhebygol
iawn o ddigwydd bellach, gofynnwyd o ble fyddai’r miloedd o swyddi newydd a
addawyd yn dod, a phwy fyddai’n dod i’r 8,000 o dai ychwanegol fyddai’n weddill
yng Ngwynedd a Môn. Mewn ymateb,
eglurwyd nad oedd Wylfa B yn rhan o brosiectau Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, nac wedi’i gynnwys yn eu ffigurau swyddi. Byddai’r newidiadau o ganlyniad i beth bynnag
fyddai’n digwydd i safle Wylfa B yn dod i mewn i’r adolygiad o’r Cynllun
Datblygu Lleol, ynghyd ag unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i ail-edrych
arnynt, megis niferoedd tai a niferoedd swyddi. ·
Gan gyfeirio at dudalen 49 o’r rhaglen, sy’n
cyfeirio at sicrhau arian Ewropeaidd i wireddu cynlluniau fel rhan o’r prosiect
Creu Swyddi Gwerth Uchel, holwyd beth fyddai effaith Brexit ar y buddsoddiadau
presennol, a buddsoddiadau i’r dyfodol.
Mewn ymateb, nodwyd bod nifer o brosiectau yn eu lle yn barod sy’n
manteisio ar gronfeydd Ewrop, a chredid y byddai'r rheini’n parhau tan
2023. Fodd bynnag, byddai’r arian i’r
dyfodol yn llawer llai na’r £350m yr wythnos a addawyd gan Lywodraeth Prydain,
ac er bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fod i wneud iawn am hynny, roedd yn
rhaid i’r holl gynghorau sir ar draws Prydain gystadlu am y symiau pitw oedd ar
gael. · Gan gyfeirio at dudalennau 122-123 o’r rhaglen, mynegwyd anfodlonrwydd bod ceisiadau cynllunio wedi cymryd 89 diwrnod ar gyfartaledd i gyrraedd penderfyniad yn ystod 2020/21, a bod un cais wedi cymryd blwyddyn gyfan. Ychwanegwyd, yn sgil codi’r mater gyda’r Adran, y daeth i’r amlwg bod y swyddog oedd yn delio â’r cais yn sâl, a holwyd i ba raddau roedd rheolwyr yn goruchwylio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 PDF 420 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) Mabwysiadu’r
trefniadau a’r protocol ar gyfer parhau i gyfarfod yn rhithiol hyd eu hadolygir
yn unol â’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor. (2) Cymeradwyo’r
newidiadau i’r Cyfansoddiad yn Atodiad B i’r adroddiad i’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i gymeradwyo trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor
er cyfarch gofynion newydd yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd ei bod yn bwysig sicrhau bod modd i
unrhyw un sydd â diddordeb arbennig mewn mater fynychu cyfarfod rhithiol a rhoi
eu barn, yn hytrach na gallu gwylio’r gwe-ddarllediad yn unig. Hefyd, mynegwyd dymuniad i symud yn ôl i
gyfarfodydd wyneb yn wyneb cyn gynted â phosib’ ar y sail nad yw cyfarfodydd
rhithiol yn hwylus ar gyfer gwneud penderfyniadau pwysig. Mewn ymateb, eglurwyd bod y dull o gyfarfod
yn anorfod yn mynd i newid oherwydd y ddeddf yma, a bod presenoldeb o bell yn
mynd i fod yn rhan o’r cyfarfodydd, gan fod gan yr aelodau etholedig hawl
statudol i hynny. Nid oedd y trefniadau
caniatáu i’r cyhoedd gyfranogi at bwyllgor yn rhan o’r mater dan ystyriaeth ar
hyn o bryd, ac roedd y trefniadau hynny yn aros yr un fath, ond yn
rhithiol. Roedd y gwaith o symud o’r
drefn interim yn golygu adnabod y patrwm sy’n gweithio orau ar draws yr ystod o
gyfarfodydd, ond pwysleisiwyd bod y gyfundrefn electronig a’r hawliau statudol
sy’n mynd law yn llaw â hynny yn golygu bod y dirwedd yma’n mynd i newid yn
anorfod ac yn barhaol y naill ffordd neu’r llall. ·
Gan y byddai
cyfarfodydd hybrid yn statudol i’r dyfodol, holwyd a fyddai Llywodraeth Cymru
yn cyfrannu’n ariannol tuag at y buddsoddiad sylweddol mewn Technoleg
Gwybodaeth fydd ei angen ar gyfer gwireddu hynny. Mewn ymateb, nodwyd y gellid holi’r Pennaeth
Cyllid a dod yn ôl at yr aelod gyda’r wybodaeth gyllidol. Nodwyd hefyd y bwriedid cychwyn treialu’r
offer hybrid yn ystod mis Awst er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn dechnegol
rhwydd i’w defnyddio ac yn ateb gofynion dwyieithrwydd, materion pleidleisio,
gwe- ddarlledu, ayb. ·
Nodwyd ei bod yn
bwysig parhau i gynnal cyfarfodydd yn rhithiol ar ôl i’r cyfyngiadau lacio, gan
fod y drefn yma o gyfarfod yn arbed amser, costau teithio ac allyriadau
cerbydau, a hefyd yn caniatáu i aelodau fod yn bresennol o unrhyw leoliad. ·
I’r gwrthwyneb,
nodwyd ei bod yn fwy anodd i’r aelodau roi eu pwyntiau drosodd yn gryf mewn
cyfarfodydd rhithiol, ac anogwyd pawb i gefnogi mynd yn ôl i’r Siambr cyn
gynted â phosib’. ·
Awgrymwyd y dylid
parhau i gynnal cyfarfodydd yn rhithiol, ond nid drwy gydol yr amser, ac y
byddai’n dda i’r aelodau gyfarfod wyneb yn wyneb o bryd i’w gilydd. PENDERFYNWYD (1) Mabwysiadu’r trefniadau a’r protocol ar gyfer parhau i gyfarfod
yn rhithiol hyd eu hadolygir yn unol â’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor. (2) Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad yn Atodiad B i’r
adroddiad i’r Cyngor. |
|
SWYDDOG COFRESTRU ETHOLIADOL / SWYDDOG CANLYNIADAU PDF 258 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Penodi’r Prif
Weithredwr i fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob etholaeth a
rhannau o etholaeth o fewn y Sir, yn unol ag Adran 8(2A) Deddf Cynrychioli’r
Bobl 1983. (2) Penodi’r Prif
Weithredwr i fod yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer ethol cynghorwyr i’r Cyngor ac
ethol cynghorwyr cymuned o fewn y Sir, yn unol ag Adran 35(1A) Deddf
Cynrychioli’r Bobl 1983. Cofnod: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn gwahodd y Cyngor i benodi
Swyddog Cofrestru Etholiadol / Swyddog Canlyniadau, yn sgil ymddeoliad deilydd
presennol y swyddi hyn. PENDERFYNWYD (1) Penodi’r Prif Weithredwr i fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol
ar gyfer pob etholaeth a rhannau o etholaeth o fewn y Sir, yn unol ag Adran
8(2A) Deddf Cynrychioli’r Bobl 1983. (2) Penodi’r Prif Weithredwr i fod yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer
ethol cynghorwyr i’r Cyngor ac ethol cynghorwyr cymuned o fewn y Sir, yn unol
ag Adran 35(1A) Deddf Cynrychioli’r Bobl 1983. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2020/21 PDF 209 KB Cyflwyno Adroddiad
Blynyddol Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton,
adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2020/21.
Diolchodd i’r cadeiryddion ac is-gadeiryddion craffu a’r holl aelodau
craffu am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
Diolchodd hefyd i’r penaethiaid, ac i swyddogion y Gwasanaeth
Democratiaeth am gefnogi’r aelodau a llunio’r adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Nodwyd nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at yr Ymchwiliad Craffu Cynllunio
a’r Iaith Gymraeg, a gofynnwyd am gynnwys y wybodaeth ar wefan y Cyngor, gan
nad oedd yn ymddangos ei bod yno ar hyn o bryd. Ar ran yr Aelodau Cabinet, diolchodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl
Ifanc i aelodau’r pwyllgorau craffu, gan ddatgan pa mor bwysig yw eu rôl yn y
broses o gynnal y gwasanaethau o ddydd i ddydd.
Diolchodd hefyd i’r aelodau hynny sy’n rhan o’r cyfarfodydd herio
perfformiad am eu cefnogaeth a’u mewnbwn. Diolchwyd i Gadeirydd y Fforwm Craffu am ei holl waith a’i harweiniad,
ac am gyflwyno’r adroddiad ar ran y cadeiryddion craffu. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad. |
|
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 496 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Mabwysiadu’r
dyraniad seddau a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad i’r Cyngor. (2) Dirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail
cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor
yn dilyn:- ·
Is-etholiad
yn ward Harlech / Talsarnau yn sgil ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Freya
Bentham, Grŵp Annibynnol; ·
Ethol
y Cynghorydd Gwynfor Owen yn ward Harlech / Talsarnau, Grŵp Plaid Cymru. Nodwyd bod clip fideo byr i’w weld ar y fewnrwyd aelodau
yn egluro sut mae’r fformiwla dyrannu seddau ar bwyllgorau yn gweithio. PENDERFYNWYD (1) Mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn Atodiad A i’r cofnodion
hyn. (2) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel
a ganlyn:- “Bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi Cytundeb
y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.” Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod Cyngor Gwynedd yn
cefnogi Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear, a hefyd yn
galw ar Lywodraeth Prydain i ymrwymo i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd
Arfau Niwclear. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Bod Cyngor
Gwynedd yn cefnogi Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.” Nododd cynigydd y
cynnig fod sawl grŵp a mudiad gwrth-arfau niwclear wedi cyflwyno llythyrau
o gefnogaeth i’r cynnig. Gosododd
gyd-destun i’w cynnig, gan danlinellu bod y Deyrnas Gyfunol yn un o’r ychydig
wledydd oedd heb arwyddo Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau
Niwclear a ddaeth i rym ar 22 Ionawr, 2021.
Ychwanegodd y gallai Cyngor Gwynedd ddangos arweiniad dyngarol drwy
gefnogi’r cynnig er mwyn i Lywodraeth San Steffan a gwleidyddion o bleidiau
eraill ddeall bod yna wrthwynebiad egwyddorol a moesol i arfau niwclear yng
Nghymru. Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan aelodau ar y sail:- ·
Gan na fu i
Lywodraeth Prydain gymryd rhan yn y trafodaethau, na chawsant gyfle i siapio’r
Cytundeb, a’u bod yn gibddall iddo. ·
Bod y cymalau yn
Erthygl 1 o’r Cytundeb, sy’n ymwneud â rheolaeth a gwaharddiad, yn gwrthbrofi
dadl Llywodraeth Prydain na fyddai arwyddo’r Cytundeb yn dod â ni yn agosach at
fyd heb arfau niwclear. Petai pob gwlad
yn arwyddo, ac yn ymlynu at yr egwyddorion hyn, byddem yn byw mewn byd sy’n
rhydd o arfau niwclear. Yn wyneb safbwynt Llywodraeth Prydain ar y mater, cynigiwyd ac eiliwyd
gwelliant i ychwanegu cynffon at y cynnig, fel a ganlyn:- “... a hefyd yn galw ar
Lywodraeth Prydain i ymrwymo i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau
Niwclear.” Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y
Cyngor. Yn ystod y
drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd ein bod yn byw mewn byd ansefydlog, gydag
anghydraddoldeb byd eang yn tyfu. Roedd
Cofid wedi ein taro yn galed, a newid hinsawdd eisoes yn arwain at ddisodli
pobl a bygwth rhwydweithiau bwyd. Yn y
byd ansefydlog sydd ohoni, roedd angen i Lywodraethau barhau fwy nag erioed i
weithredu tuag at adeiladu heddwch, yn hytrach na chefnogi a buddsoddi mewn
arfau niwclear. Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd. Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y
cynnig gwreiddiol wedi’i addasu, a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y
gwelliant yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol.
Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar
Wahardd Arfau Niwclear, a hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i ymrwymo i
Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear. |
|
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 112 KB Cyflwyno, er gwybodaeth:- (a) Llythyrau gan Weinidog Cyflenwi Lles Llywodraeth y DG a
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o
gynnig y Cynghorydd Elin Walker-Jones i gyfarfod 4 Mawrth, 2021 ynglŷn ag
Incwm Sylfaenol Cyffredinol. (b) Llythyrau at Brif Weinidog Cymru (i) mewn ymateb i adroddiad Dr
Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru”, a (ii) yn galw am adolygiad cynharach o’r Cynllun Datblygu
Lleol yn dilyn Cyfarfod Arbennig y Cyngor ar 28 Mehefin, 2021. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth:- (a) Llythyrau
gan Weinidog Cyflenwi Lles Llywodraeth y DG a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Walker-Jones
i gyfarfod 4 Mawrth, 2021 ynglŷn ag Incwm Sylfaenol Cyffredinol. (b) Llythyrau
at Brif Weinidog Cymru (i) mewn ymateb i adroddiad Dr Simon Brooks “Ail-gartrefi
– Datblygiad Polisïau Newydd yng Nghymru”, a (ii) yn galw am adolygiad
cynharach o’r Cynllun Datblygu Lleol yn dilyn Cyfarfod Arbennig y Cyngor ar 28
Mehefin, 2021. |
|
Dogfennau ychwanegol: |