Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth A Roberts, Menna Baines, Dafydd Meurig a Gareth Coj Parry. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2026 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mai 2026 fel rhai cywir. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nodwyd
cydymdeimlad â theulu Robin Evans o Gaernarfon, yn wreiddiol o Eifionydd, a fu
farw yn ddiweddar. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i’r diwydiant teledu, yn un o
sylfaenwyr Ffilmiau’r Nant a Rondo yma yng Ngwynedd, yn ogystal â bod yn aelod
gwreiddiol o’r band Mynediad am Ddim.
Cydymdeimlwyd a theuluoedd Gwynedd sydd wedi colli rhai annwyl iddynt yn
ddiweddar. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Dawn Lynne Jones am ennill gwobr
Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu. Mynegwyd llongyfarchiadau i Lois Medi o Fangor
am ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Dafydd Llŷr Hughes o Lanbedrog
ar ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd a Katie Baddiley sydd yn
Swyddog Cefnogaeth Gymunedol yr Heddlu yn Nyffryn Nantlle am gipio Medal Bobi
Jones. Yn ogystal longyfarchwyd holl blant a phobl ifanc y sir a oedd yn
cystadlu ac yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod. Nodwyd llongyfarchiadau i Leisa Gwenllian a holl gast a thîm
cynhyrchu'r ffilm Effi o Blaenau. Dymunwyd pob lwc i holl athletwyr y sir a
fydd yn cynrychioli Cymru yn Gemau’r Gymanwlad dros yr haf. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn Y Cynghorydd
Huw Rowlands A ydy'r Aelod
Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymwybodol o rwystredigaeth gynyddol
y cyhoedd oherwydd yr oedi sylweddol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a
Grŵp Cynefin o ran sefydlu canolfan iechyd ym Mhenygroes,
sef Canolfan Lleu, a hefyd yr oedi sylweddol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o
ran sefydlu Canolfan Iechyd newydd yn Waunfawr? Ateb yr Aelod
Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan Diolchwyd am y
cwestiwn a'r cyfle i godi ymwybyddiaeth am faterion sydd yn effeithio’r
cyhoedd. O ganlyniad i’r negeseuon pwysig sydd yn yr ymateb ysgrifenedig nododd
i fod am ei ddarllen fel a ganlyn. Yn fy rôl fel
Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd rwyf yn cydweithio’n agos
gyda’r Bwrdd Iechyd ac yn cael adroddiadau cyson am y sefyllfa. Mae’r
adroddiadau hyn yn berthnasol i’r cynlluniau a nodwyd ond hefyd i gynlluniau
ehangach er mwyn gwella darpariaeth iechyd ar draws y rhanbarth. Cadarnhaf
felly fy mod yn ymwybodol o’r sefyllfa a deallaf y rhwystredigaethau. Fodd bynnag,
hoffwn gynnig sicrwydd i’r aelod o’r gwaith cadarnhaol a chydweithio cryf sydd
yn digwydd rhwng ein gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn Nyffryn Nantlle a
Waunfawr. Mae gweithwyr proffesiynol o’r ddau sefydliad yn cynnal cyfarfodydd
rheolaidd, ymweliadau ar y cyd, asesiadau cydweithredol a thrafodaethau
amlddisgyblaethol i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir ar yr adeg
gywir. Mae diwylliant cryf o ddatrys problemau ar y cyd wedi datblygu, ac mae
hyn yn wir ar draws y sir - nid dim ond i’r ardaloedd dan sylw, gyda staff yn
gweithio'n greadigol ac yn hyblyg i ddod o hyd i atebion ymarferol i anghenion
cymhleth. Gwelir enghreifftiau da o gydweithio
rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty,
hwyluso rhyddhau amserol pan fo unigolion yn barod i adael ysbyty, a sicrhau
bod y gefnogaeth briodol yn ei lle yn y gymuned. Mae cydweithio agos hefyd yn
digwydd gyda'r gwasanaeth Tuag Adref er mwyn sicrhau dilyniant gofal cymesur a
di-dor i unigolion wrth drosglwyddo o'r ysbyty yn ôl i'w cartrefi a'u
cymunedau. Mae'r trefniadau hyn yn brawf o’r cydweithio rhwng partneriaid lleol
gyda’r nod o wella canlyniadau i bobl leol ac i ddarparu gwasanaethau mwy
integredig ac effeithiol. Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Huw Rowlands Be all Cyngor
Gwynedd ei wneud i sicrhau gwireddu Canolfan Iechyd Waunfawr a Chanolfan Lleu
yn y dyfodol rhagweladwy? Ateb yr Aelod
Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan Diolchwyd am y
cwestiwn. Mynegodd wedi iddo dderbyn y cwestiwn gwreiddiol ei fod wedi cysylltu
â Chadeirydd y Bwrdd Iechyd yn bersonol, a bellach ei fod wedi derbyn amserlen
lawn ganddo o beth yw’r cynlluniau yn ddau leoliad. Nododd y bydd yn ei rannu
gyda’r Aelod a holodd y cwestiwn ynghyd a’r aelodau lleol i’r ardaloedd hynny. (2)
Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams Yn dilyn dyfarniad unfrydol y Goruchaf Lys yn achos For Women Scotland v Scotland Ministers (Ebrill 2025) ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2025/26 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgorau Safonau
adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Nododd ei bod wedi bod yn flwyddyn ddistaw gyda
dim un gwrandawiad wedi ei gynnal. Diolchwyd i’r Aelodau am eu gwaith i gadw
safonau uchel y Cyngor ac am eu cefnogaeth i’r Cynghorau Tref a Chymuned pan
galw yn codi. Nodwyd diolch i’r Swyddog Monitro a’i dîm am eu cefnogaeth ac i’r
Arweinwyr Grwpiau am roi blaenoriaeth i’r mater. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd o ran fframwaith cwynion beth oedd yr
amserlen. Ymatebwyd drwy gymryd fod y cwestiwn am gwynion i’r Ombwdsmon gan nad
yw’r Pwyllgor Safonau yn derbyn cwynion. Eglurwyd o ran y Pwyllgor Safonau os
yn derbyn cwyn gan yr Ombwdsmon eu bod yn cael ei delio mewn mater o wythnosau.
Wrth edrych ar yr Ombwtsmon mynegwyd fod yr amserlen
yn gallu bod hyd at flwyddyn i gael ymchwiliad llawn. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystod 2025/26.
Mynegwyd mai hwn oedd y pedwerydd tro i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn unol â
disgwyliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi
crynodeb o waith y Pwyllgor ynghyd a thystiolaeth ar effaith mae’n ei wneud. Nodwyd fod pob
Awdurdod Lleol mae’r Cyngor yn wynebu nifer o heriau ac mae pwysau parhaus ar
gyllidebau gwasanaethau statudol yn enwedig ym maes gofal. Eglurwyd ei bod yn
credu fod trefniadau llywodraethu’r Cyngor wedi parhau i ddangos gwydnwch.
Ategwyd yn wyneb yr heriau ariannol hyn fod rôl y Pwyllgor o ran craffu
ariannol wedi bod yn ganolog, ac wedi chwarae rhan flaenllaw wrth graffu ar y
gyllideb, monitro gorwariant ac i asesu risgiau i gynaliadwyedd ariannol y
Cyngor yn y tymor canolig a’r tymor hir. Diolchwyd i’r
holl swyddogion, yr Aelodau Etholedig ac Aelodau Lleyg am eu hymrwymiad a’u cyfraniad
drwy’r flwyddyn. Ychwanegwyd fod 2025/26 wedi bod yn flwyddyn o gryfhau a
sefydlogi aelodaeth y Pwyllgor. Mynegwyd fod y flwyddyn wedi bod yn dilyn
cyfnod o golled sylweddol gyda marwolaeth y diweddar Sharon Warnes a’r
Cynghorydd Rob Triggs, ond fod eu cyfraniad i waith y Pwyllgor a'u hymroddiad i
wasanaeth cyhoeddus yn parhau i’w hysbrydoli wrth barhau a’r gwaith. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Tynnwyd sylw fod canllawiau CIPFA yn pwysleisio'r angen i ddangos
effaith y gwaith a gofynnwyd a oes modd cryfhau’r elfen hon drwy efallai dangos
enghreifftiau o newidiadau o ganlyniad i’r pwyllgor yn fwy clir. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y ddau aelod o staff, sydd wedi ei
amlygu yn y wasg yn ddiweddar, sydd wedi bod ar gyflog llawn am gyfnod o dros 9
mlynedd tra bod ymchwiliadau yn digwydd. Holwyd ar ba ricyn cyflog yr oeddent
arnynt ac os oes mwy o bobl ar gyflogau llawn dros gyfnod hir tra bod
ymchwiliadau yn digwydd. Ymatebwyd drwy nodi nad oes modd trafod staff unigol
mewn cyfarfod agored, ond eu bod yn deall rhwystredigaeth y Cynghorydd ond nad
oedd yn berthnasol i’r adroddiad hwn. Ychwanegwyd fod adolygiad ar y gweill ac
y bydd casgliadau ymhen amser. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros
Wasanaethau Cymdeithasol. I gychwyn ei gyflwyniad dangoswyd fideo am y cathod
electroneg sy’n cael ei gynnig i gynorthwyo pobl gydag unigedd ac arwahanrwydd. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gychwyn yn diolch i’r staff sydd gan y Cyfarwyddwr i’w gynorthwyo
gyda’r gwaith. Mynegwyd fod y fideo a ddangoswyd yn un o nifer sydd yn hybu ac
yn esbonio’r gwaith mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud, ac yn dathlu pan
mae gwaith da yn cael ei wneud. Er hynny nodwyd ei bod yn anodd sefyll yno yn
ymfalchïo ar ôl blwyddyn mor gythryblus. Amlygwyd pwysigrwydd adroddiad Cyfiawnder dros eu Dewrder er
pa mor anodd yw cydnabod beth sydd wedi digwydd ynghyd ar oblygiadau hir dymor
sydd i’r Cyngor a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mynegwyd balchder yn y gwaith cadarnhaol ac adeiladol sydd wedi ei
wneud er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu ac amddiffyn y Cyngor y gorau posib.
Nodwyd ei bod yn drasiedi i’r unigolion
ynghyd a staff a disgyblion Ysgol Friars sydd wedi’i
heffeithio. Ymhelaethwyd ar y gwaith diogelu sydd wedi ei wneud sydd yn mynd y
tu hwnt i Wasanaethau Cymdeithasol a bod gwaith yn cael ei wneud ar y cyd gyda
Gwasanaethau Corfforaethol i amlygu ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb. Ychwanegwyd
y bydd gwefan yn amlygu’r camau i adrodd ar unrhyw bryder, cefnogaeth a
gwybodaeth yn cael ei lansio yn fuan. Nodwyd fod maint yr adran yn ddychrynllyd o fawr gyda
gwariant o bron i £150miliwn, gyda 1500 o staff yn fewnol a bron i 3000 o
staff wrth edrych ar waith sy’n cael ei
gomisiynu. O ganlyniad, ategwyd fod maint ac anferthedd y gwasanaethau yn ei
gwneud yn heriol i Gynghorwyr herio’r gwasanaethau ar ei gwaith. Pwysleisiwyd
fod methiannau yn anorfod a'u bod wedi bod yn
amlwg iawn drwy Adroddiad Cyfiawnder drwy eu Dewrder ac yn fwy diweddar
achos Bryn Ffynnon, er hynny fod yr adran yn ceisio gwella gwasanaethau. Eglurwyd
ei bod yn system sylweddol o bwys ond dan bwysau a bod angen amddiffyn a
diogelu plant ac oedolion yn well, a'u bod dan bwysau i wella a bod angen
buddsoddi er mwyn gwneud hyn. Tynnwyd sylw at y faith fod llawer o arian wedi
ei fuddsoddi dros y misoedd diwethaf er mwyn gallu ymateb i heriau yn gynt. Pwysleisiwyd fod arian yn her. Esboniwyd fod gwaith mewnol
yn cael ei wario yn dryloyw ond fod costau allanol megis costau cartrefi plant
arbenigol yn uchel tu hwnt a bod y galw ar wasanaethau yn cynyddu. Tynnwyd sylw
i’r faith fod cyfeiriadau plant wedi bron iawn dyblu ers Covid
gyda bron i 8,000 o achosion dros y flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd fod gwaith
Llechen Lan wedi ei gyhoeddi sydd yn amlygu fod demograffeg Gwynedd yn heriol
gyda llai o bobl ifanc a mwy o bobl hyn ac o ganlyniad fod her o ddarparu
gwasanaethau i’r dyfodol. Ymhelaethwyd fod yr adroddiad yn rhoi rhai atebion
ond ei fod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth. Nodwyd fod buddsoddiad wedi bod mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETH DEMOCRATIAETH 2025/26 I gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaeth
Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth
Democratiaeth gan nodi ei bod yn ofynnol i gyflwyno adroddiad sy’n amlinellu'r
gwaith sydd wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchwyd i’r
Cyn-gadeirydd am ei gwaith a nodwyd llongyfarchiadau i’r Cyng. Dewi Owen em ei
ethol yn Gadeirydd. Mynegwyd diolch i’r Pwyllgor Gwasanaeth Democratiaeth am eu
mewnbwn ac i’r tîm am eu proffesiynoldeb drwy gydol y flwyddyn. Amlygwyd uchafbwyntiau’r flwyddyn
gan gyfeirio at y gwaith o ddechrau paratoi at Etholiad 2027 yngyd â cynlluniau i wella ddarpariaeth ddigidol yn
Siambrau. Tynnwyd sylw at yr wythfed maes caidd a
ychwanegwyd y maes hyfforddiant aelodau a gofynwyd i
aelodau gwblhau’r hyfforddiant sydd ar gael. Aethpwyd ati i nodi blaenoriaethau
eleni sydd yn barhad o waith y llynedd gyda’r Etholiad ar y gweill. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Tynnwyd sylw at y maesydd hyfforddiant craidd gan amlygu fod y niferoedd a
adroddwyd sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn parhau i fod yn isel gan amlygu
ffigyrau megis 3 aelod heb gwblhau dim un o’r wyth maes. Amlygwyd pwysigrwydd
yr hyfforddiant a’r ffaith eu bod ar gael ar lein unrhyw amser. Holwyd os oes trafodaeth am
gynghorwyr yn wynebu isetholiad os yn newid grŵp gwleidyddol yn ystod
tymor democrataidd. Ymatebwyd drwy nodi nad oes camau ar lefel Llywodraeth Leol
i ddod a gofyn o’r fath i mewn. Gofynwyd
ble mae’r wybodaeth ar gael am hyfforddiant aelodau, eglurwyd ei fod yn wybodaeth
gyhoeddus ar y wefan ac ar gael ar Hunanwasanaeth Aelodau, ond gofynwyd i Gynghorwyd gysylltu os angen cymorth. Diolch am yr holl hyfforddiant
sydd ar gael a bod budd mawr o’i
mynychu. Diolchwyd i Cara y cyn Swyddog Hyfforddiant Aelodau am ei gwaith dros
y blynyddoedd. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad. |
|
|
DATGANIAD CYNGOR GWYNEDD YNGHYLCH HYBU AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH I gyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol, Cyfreithiol a’r
Gymraeg Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth ar
ei newydd wedd ynghyd â’r rhaglen waith i gefnogi’r datganiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol gan nodi fod y Cyngor wedi
mabwysiadu Datganiad Amrywiaeth yn ôl yn Hydref 2021 yn unol â Deddf
Llywodraeth Leol 2021. Esboniwyd fod y datganiad yn amlygu ymrwymiad y Cyngor i
annog ac i hyrwyddo mwy o amrywiaeth cyn etholiad Llywodraeth Leol 2027. Mynegwyd gydag Etholiad
Lleol nesaf ar y gweill ei bod yn amserol i adolygu’r datganiad. Amlygwyd nad
oedd yn ofyniad statudol ond ei bod yn credu bod yr Aelodau yn awyddus i
sicrhau cynrychiolaeth deg o gymdeithas, ac i annog unigolion o bob cefndir i
sefyll i fod yn Gynghorydd. Nodwyd nad oes newid
sylweddol i’r datganiad ers 2021 dim ond ychydig o ddiweddariadau. Tynnwyd sylw
at y rhaglen waith fydd yn cyd-fynd a’r datganiad a oedd yn amlygu’r camau a
fydd yn cael ei gwneud gan y Tîm Democratiaeth a’r Tîm Etholiadau. Amlygwyd
fod y datganiad wedi derbyn cefnogaeth gan y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth a gyfarfu pythefnos yn ôl. Rhoddwyd
cyfle i aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Diolchwyd am yr adroddiad,
a chroesawyd y datganiad i gael Cynghorwyr sydd yn adlewyrchu’r cymunedau sy’n cael ei gwasanaethu ac i
ddileu rhwystrau sy’n sicrhau fod pobl o bobl cefndir ac oed yn rhan o
wleidyddiaeth leol. Mynegwyd cefnogaeth gan
amlygu ei bod yn hawdd dweud fod angen mwy o amrywiaeth ond bod rôl i’r Grwpiau
Gwleidyddol i fod yn hybu ac annog yr amrywiaeth yma. Nodwyd y buasai trefn
system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn ei gwneud yn haws. Ymatebwyd drwy nodi
fod gweithio gyda’r Arweinyddion Gwleidyddol yn rhan o’r rhaglen waith, ac mai
drwy anogaeth Grŵp Plaid Cymru i gael merched ifanc i mewn i wleidyddiaeth
y daeth yr Aelod Cabinet yn Gynghorydd. Gofynnwyd pa rwystrau sydd
wedi ei adnabod fel y prif rai i atal pobl rhag sefyll. Croesawyd sgwrs tu hwnt
i’r cyfarfod a’r aelod er mwyn rhoi ystyriaeth deg i’r mater. PENDERFYNWYD mabwysiadu Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth
ar ei newydd wedd ynghyd a’r rhaglen waith i gefnogi’r datganiad. |
|
|
POLISI ADRODD CYFRINACHOL ("CANU'R GLOCH") AELODAU I gyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol, Cyfreithiol a’r Gymraeg Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd Polisi Adrodd Cyfrinachol (“Canu’r Gloch”) Aelodau i’w osod yn y cyfansoddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Llio Elenid
Owen, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Mynegwyd yn ôl ym mis Ionawr bu i’r Cabinet fabwysiadu
Polisi Canu’r Gloch ddiwygiedig i Staff Cyngor Gwynedd a oedd yn gam pwysig i
gryfhau trefniadau’r Cyngor mewn ymateb i adroddiad Cyfiawnder Drwy ein
Dewrder. Eglurwyd fod galw am bolisi a fyddai’n caniatáu i aelodau etholedig a
chyfetholedig gal llwybr i ddod â phryderon am gamymddwyn difrifol i’r amlwg. Esboniwyd fod angen paratoi Polisi a fyddai’n addas a
priodol ar gyfer aelodau etholedig, gan fod trefn staff ynghlwm a deddfwriaeth
cyflogaeth gyda gwarchodaeth gyfreithiol o fewn y Ddeddf Datgelu er Budd y
Cyhoedd 1998. Nodwyd fod y polisi hwn yn cynnig arweiniad a llwybr clir i
aelodau ar sut i godi pryderon mewn gofod diogel, ac mae’n cydfodoli gyda
threfniadau eraill ar gyfer mathau penodol o bryderon fel y Cod Ymddygiad.
Ategwyd mai beth sydd gerbron yw cyfundrefn lle gall aelodau ddod a materion
i’r amlwg, derbyn arweiniad ac adborth ar y camau ymateb. Amlygwyd y camau wrth lunio’r Polisi a oedd yn cynnwys
mewnbwn gan y Grŵp Tasg Ymholiadau Aelodau ynghyd ag ymgysylltu a pob
Aelod. Tynnwyd sylw am ymgynghoriadau gyda’r Pwyllgor Safonau, Pwyllgor Addysg
ac Economi ynghyd a sefydliad Protect sef corff elusennol sy’n arbennig mewn
materion canu’r gloch. Pwysleisiwyd fod addasiadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor
Craffu wedi eu hymgorffori yn y Polisi. Rhoddwyd cyfle i aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Nodwyd cefnogaeth i’r polisi a diolchwyd i’r Aelod
Cabinet a’r swyddogion am eu gwaith. Mynegwyd ei fod yn rhoi elfen o
warchodaeth i aelodau ac yn dangos ymrwymiad i ddiwylliant o onestrwydd ac
atebolrwydd ynghyd a hyder fod pryderon yn cael ei drin yn briodol ac yn
gyfrinachol. Gofynnwyd sut oes modd i aelodau wybod pryd y dylid defnyddio'r
polisi hwn yn hytrach ‘na gweithdrefnau eraill. Ymatebwyd drwy nodi mai hanfod
y polisi yw adrodd ar unrhyw bryder ac y bydd y Swyddog Monitro yn adnabod y
llwybr yn dilyn ei dderbyn. Holwyd sut mae’r polisi yn rhoi cytbwysedd rhwng
diogelu’r sawl sy’n codi’r pryder ac i atal y broses rhag cael ei ddefnyddio
mewn anghydfodau gwleidyddol. Mynegwyd fod pwrpas difrifol i’r polisi hwn a bod
disgwyliad i’r polisi gael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad difrifol, gan nad
oes modd i swyddogion ymwneud a materion gwleidyddol. PENDERFYNWYD
mabwysiadu Polisi Adrodd Cyfrinachol (“Canu’r Gloch”) Aelodau i’w osod yn y
cyfansoddiad |
|
|
NEWIDIADAU I'R CYFANSODDIAD ADRAN 22 - POLISI CANU'R GLOCH - STAFF I gyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth am y diwygiadau i Adran 22 o’r Cyfansoddiad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro gan nodi ei bod
yn adroddiad trefniadaethol. Eglurwyd ym mis Ebrill fod newid wedi bod yn
Neddfwriaeth Cyflogaeth ble ychwanegwyd at y categorïau ymddygiad annerbyniol i
gynnwys aflonyddu rhywiol o fewn diffiniad o ddatgeliadau gwarchodedig.
Eglurwyd fod y Swyddog Monitro yn unol â’i hawliau ddiwygio’r Cyfansoddiad yn
unol â hyn, o ganlyniad nodwyd ei fod yn adroddiad ffurfiol i nodi’r newid. Rhoddwyd
cyfle i aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd
os oes modd newid y gair “whistle blowing” yn Saesneg, gan ei fod yn ffordd
afiach o godi pryderon. Eglurwyd fod y term yn un cydnabyddedig sydd yn cael ei
ddefnyddio yn gyson ar draws bob sector. PENDERFYNWYD mabwysiadu Polisi Adrodd Cyfrinachol (“Canu’r
Gloch”) Aelodau i’w osod yn y cyfansoddiad |
|
|
TROTHWYON CAFFAEL AC ADDASIADAU I'R RHEOLIADAU GWEITHDREFN CONTRACTAU I gyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet
dros Wasanaethau
Corfforaethol, Cyfreithiol a’r
Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
·
Caffaeliadau
hyd at £10,000 dyfynbris sengl ·
Caffaeliadau
rhwng £10,000 a £100,000 gofyn am dri dyfynbris ·
Caffaeliadau
o dros £100,000 cais agored am ddyfynbrisiau neu dendrau
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Chyfreithiol. Nodwyd ei bod yn amserol
adolygu trothwyon tendro a dyfynbrisiau caffael y Cyngor yn dilyn newid
deddfwriaeth cytundebu a chaffael sylweddol ynghyd a newid Rheolau Gweithdrefn
Contractau mewnol y Cyngor yn dilyn penderfyniad y Cyngor hwn fis Mawrth y llynedd.
Eglurwyd fod y trothwyon presennol wedi bod yn eu lle ers 1996, a chynnydd mawr
wedi bod mewn chwyddiant a phrisiau dros y blynyddoedd. Amlygwyd fod man newidiadau
pellach wedi’i gyflwyno er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio a’r Ddeddf
ynghyd a thacluso trefniadau mewnol a rhoi eglurder o’r trefniadau priodol.
Nodwyd mai’r argymhelliad yw dyblu’r trothwyon. Eglurwyd wrth bennu’r trothwyon
fod angen pwyso a mesur rhwng rhoi cyfleoedd agored, hybu cystadleuaeth a
chyfranogiad busnesau lleol. Pwysleisiwyd fod yr argymhelliad heddiw yn cefnogi
cadw’r budd yn lleol, gan fod trothwyon uwch yn gyfle i gefnogi busnesau lleol
wrth roi hyblygrwydd yn y gweithdrefnau i wahodd cwmnïau lleol i gyflwyno
dyfynbrisiau. Mynegwyd fod yr adroddiad
wedi'i gefnogi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn ei argymell i’r
Cyngor Llawn. Rhoddwyd
cyfle i aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Mynegwyd
nad oes unrhyw broblem gyda chynyddu’r trothwyon gan ei fod yn rhoi gwell galli
i ariannu prosiectau gan gwmnïau lleol, ond tynnwyd sylw at drothwyon Cyngor
Môn sydd llawer yn uwch. Gofynnwyd am y gyfran
llysiau a cig o Gymru mae’r Cyngor yn ei brynu. Ymatebwyd drwy nodi y bydd
ymatebiad yn cael ei roi gan yr Adran Addysg. Holwyd pa ystyriaeth sydd
wedi ei roi i ddefnyddio trothwy uwch i gadw’r gwaith yn lleol ac i ba raddau
mae modd i ddarnau bychan o waith i’r un cwmni yn cael ei gynnal. Ymatebwyd
drwy nodi ei fod yn falanas o gael cyfundrefn ymarferol o ran gwerthoedd ac ar
y llaw arall sicrhau priodoldeb o dan reoliadau. PENDERFYNWYD 1.
Cynyddu’r trothwyon caffael fel a ganlyn: ·
Caffaeliadau hyd at £10,000 dyfynbris
sengl ·
Caffaeliadau rhwng £10,000 a £100,000
gofyn am dri dyfynbris ·
Caffaeliadau o dros £100,000 cais agored
am ddyfynbrisiau neu dendrau 2.
Gwneud man newidiadau i Reolau Gweithdrefn
Gontract y Cyngor fel y nodir yn Atodiad 1. |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Huw Rowlands yn cynnig fel a ganlyn:- Gofynnir i
Gyngor Gwynedd gysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn:-
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gofynnir i Gyngor Gwynedd gysylltu â
Llywodraeth Cymru er mwyn:-
Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Huw Rowlands
o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd. Gosododd yr aelod y
cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:- ·
Deillio o rwystredigaeth methiannau bwrdd dros
nifer o flynyddoedd. ·
Mesurau arbennig dros 11 mlynedd a nad oes un
sefydliad gwladol yn holl hanes y Bwrdd Iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig
am gymaint o amser. ·
Amlygwyd fod Archwilio wedi amlygu wythnos
diwethaf nad oedd y Bwrdd wedi dangos yn glir sut gafod buddsoddiad gwerth
£461miliwn wedi ei wario nac ei werth o ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth
ddibynadwy. ·
Pwysleisiwyd fod hyn yn dangos nad yw taflu mwy
o arian yn llwyddiannus. ·
Nodwyd fod pob ymdrech i wella wedi methu. ·
Wrth edrych ar Ysbyty Gwynedd - fod y diffygion
yn glir heb fynd mewn i adeiladau drwy ddim lleoliadau parcio, biniau llawn a
bod esgeulustod o’r math yma am arian am esgeulustod mwy. ·
Mynegwyd balchder o weld Llywodraeth Cymru yn
rhoi un cynnig olaf i’r Bwrdd yr wythnos yma. Mynegwyd cefnogaeth
frwd i’r cynnig gan aelodau gan nodi: ·
Hyder yn
y Llywodraeth Cymru yn gweld pwysigrwydd i symud ymlaen at y mater. ·
Tynnwyd sylw at yr 16 gwely gwag yn Nhywyn. ·
Pwysleisiwyd fod pawb yn ymwybodol o’r straeon
hunllefus a bod y Llywodraeth wedi ei adael yn rhy hir i wneud rhywbeth am y
mater. ·
Diolchwyd i staff rheng flaen am eu holl waith
a'u bod yn gwneud gwaith gwych mewn sefyllfa mor anodd ac mai problem
strwythurol yw hon. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Gofynnir i Gyngor
Gwynedd gysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn: 1. Mynegi pryder fod Bwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr yn ddarostyngedig i fesurau arbennig ers 11 mlynedd. 2. Holi pa gamau a pha ymdrechion fydd
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn gwella’r ddarpariaeth iechyd yng
Ngogledd Cymru i bobl Gwynedd. |