Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Aled Evans, Dewi Owen, Eryl
Jones-Williams, Linda Ann Wyn Jones, Sion Wyn Jones a Peter Read. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 28 Ionawr 2016. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH ADDYSG PDF 694 KB I ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet Addysg ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg yn amlinellu
perfformiad y Gwasanaeth Addysg yn ystod y flwyddyn gan nodi cryfderau a
gwendidau y mae’r Gwasanaeth wedi eu hadnabod y mae angen rhoi sylw iddynt (a) Nododd yr Aelod Cabinet
Addysg bod y Gwasanaeth Addysg wedi profi cyfnod ansefydlog gyda nifer o swyddi
allweddol yn wag cyn penodiad y Pennaeth Addysg i’w swydd ac ymfalchïwyd bod y Gwasanaeth wedi ei adfer erbyn
hyn. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu
gymryd sylw o’r elfennau isod wrth gymharu perfformiad Gwynedd o safbwynt y dangosydd TL2+ gydag awdurdodau
eraill: ·
Bod ysgolion Gwynedd yn
llawer mwy cynhwysol ·
Bod y Gymraeg a’r
Saesneg yn gyfartal yng Ngwynedd Yn ogystal, tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol: ·
Mai arweinyddiaeth dda
sy’n gwella ysgolion ·
Bod gwaith yn mynd
rhagddo i weddnewid y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ·
Llwyddiant y Siarter
Iaith drwy ledaenu’r defnydd nid yn unig drwy Ogledd Cymru ond ar draws Cymru
gyfan (b) Gosododd y Pennaeth Addysg
gyd-destun yr adroddiad o dan dri phennawd sef safonau, darpariaeth ac ansawdd
arweinyddiaeth. Nodwyd bod yr adroddiad
wedi adnabod materion sydd angen sylw a fydd yn cael eu bwydo i’r cynlluniau
busnes 2016/17 ac ymhen blwyddyn o amser hyderir y gellir
dangos cynnydd. Tynnwyd sylw bod ESTYN yn adolygu fframwaith newydd o arolygu ar gyfer
pob sector ac y byddai’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion (GwE)
yn derbyn arolwg yn fuan. (c) Derbyniwyd cyflwyniad
byr ar lafar fel a ganlyn: A. Gan Uwch Ymgynghorydd
Her GwE Adroddwyd ar brif negeseuon o’r data perfformiad ysgolion gan nodi bod y
perfformiad yn gadarn ar draws pob Cyfnod Allweddol a bod y cynnydd treigl o
2013 – 2015 yn rhan fwyaf y meysydd yn fwy na chynnydd treigl
cenedlaethol. Mewn cymhariaeth a’r 22
awdurdod drwy Gymru nodwyd bod proffil Gwynedd yn dda
iawn o safbwynt CA3, yn lled gadarn yn CA2 a bod lle i wella yn y Cyfnod
Sylfaen. O safbwynt y rhaglen waith ar
gyfer y Cyfnodau Allweddol uchod bod angen: ·
Parhau i weithio gydag
ysgolion i sicrhau bod y ganran lle mae perfformiad yn yr hanner cant isaf o
fewn y teulu cinio am ddim yn cael ei leihau ·
Parhau i weithio gydag
ysgolion mewn perthynas â dibynadwyedd a grymuster asesiadau athrawon ·
Gwella a grymuso ansawdd
y cynllunio a’r ddarpariaeth yn CA2 a’r Cyfnod Sylfaen O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y perfformiad yn eithaf cadarn
ac yn broffil i ymfalchïo ynddo sef bod Gwynedd mewn cymhariaeth a’r 22
awdurdod ar draws Cymru yn y safle 1af yn TL1, 3ydd safle o safbwynt dangosydd
y pynciau craidd a 5ed yn ddangosyddion TL2 a TL2+. Atgoffwyd yr Aelodau bod perfformiad nifer o ysgolion wedi bod yn
pendilio ac yn dilyn gwaith penodol gyda
rhain braf ydoedd nodi bod cynnydd sylweddol mewn nifer o’r ysgolion wedi ei
gyflawni a chynnydd pellach i’w wneud. O safbwynt perfformiad yng nghyd-destun arolygiadau ESTYN sydd ychydig mwy pryderus, nodwyd bod 18 o ysgolion wedi eu harolygu gyda 3 ohonynt wedi eu gosod mewn categori statudol. Ym marn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD YR YMCHWILIAD CRAFFU O'R YSBYTY I'R CARTREF - RHAN 2 PDF 203 KB I ystyried adroddiad
cynnydd gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Chadeirydd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yn erbyn prif argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref - Rhan 2. Gosodwyd y cefndir gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a
rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor graffu’r cynnwys. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol: (a)
Mewn ymateb i sylw wnaed
am brinder meddygon teulu a nyrsys yng Ngwynedd yn
enwedig yn ardal Dwyfor a Meirionnydd, esboniodd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a
Môn bod y prinder yn broblem genedlaethol ac o ran Gogledd Cymru nodwyd bod mwy
o broblem yn ardal Wrecsam. Nodwyd ymhellach bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn
arian yn y swm o £4.9m gan lywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cychwynnol sy’n
galluogi sefydlu timau amlddisgyblaethol o gwmpas y meddygon teulu fyddai’n
cynnwys nyrsys, therapyddion ychwanegol, cynnig awdioleg
allan i’r gymuned, yn ogystal â fferyllwyr ychwanegol. O safbwynt meddygon teulu, bod camau ar y
gweill i geisio cael ieuenctid yn ôl i’w cymunedau
fel rhan o gynllun “Outstanding GP Development Programme”. Llwyddwyd i ddenu 5 yn ôl i’r Bwrdd Iechyd
gyda dau feddyg teulu yn gweithio yng Ngwynedd - un
yn Nefyn a’r llall yng Nghaernarfon.
Hyderir y gellir denu mwy o ieuenctid ac y
byddai’n rhoi cyfle iddynt weithio hanner amser fel meddyg teulu a’r hanner
arall yn arbenigo mewn maes arbennig. (b)
Bod canmoliaeth i’r nyrs ychwanegol ym Motwnnog ynghyd âr fferyllwyr gyda phobl yn ymddiried
ynddynt. Ychwanegwyd am yr angen i
gydweithio gyda’r trydydd sector ac ni ddylid gweld dirywiad yn y
gwasanaeth. Mewn ymateb, nododd Prif Swyddog Iechyd Gwynedd a Môn bod
perthynas dda gyda Mantell Gwynedd a thrwy arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth
Cymru, hyderir y gellir gweithredu cynllun “Social Prescribing” gyda’r trydydd
sector. Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod gwell dealltwriaeth rhwng y
Cyngor a’r trydydd sector wedi datblygu erbyn hyn a bod yn rhaid ystyried ffurf
wahanol o weithio ar y cyd. Crybwyllwyd
prosiect Her Gofal sy’n gweithio hefo cymunedau a nodwyd pwysigrwydd o’r holl
waith integreiddio bod y trydydd sector yn rhan allweddol o’r tîm
integreiddio. (c)
Pwysigrwydd i hysbysebu
a rhoi gwell dealltwriaeth yn enwedig i’r bobl hŷn o’r cynllun “Advance Nurse Practitioner”. Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith datblygu ar y cynllun uchod dros y 2/3
blynedd nesaf. Cydnabuwyd bod angen ei
hyrwyddo ac yn enwedig i staff derbynfeydd y meddygfeydd teulu. Sicrhawyd hefyd
y byddir yn darparu erthygl bwrpasol ar gyfer y wasg leol ynghyd a’r cyfryngau
cymdeithasol am y Timau Aml-astianaethol. Hyderir y gellir
treialu mwy nag un model lle gall nyrsys ymweld a chynnal ymweliad i gartrefi
ac roedd cynllun yn cael ei dreialu ym Mhen Llŷn ers mis Ionawr. Byddir yn datblygu newyddion da (ch) Mewn ymateb i sylw wnaed ynglŷn ag unigolyn bregus yn mynd adref o’r ysbyty at oedolyn bregus arall, sicrhawyd bod y Bwrdd Iechyd yn ceisio datblygu cynllun “Discharge to assess” lle fyddir yn sicrhau bod unigolion yn cael eu hasesu o fewn diwrnod neu dda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |