Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Craig ab Iago |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Penderfyniad: Datganwyd parodrwydd y Cabinet i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a
chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod
heriol presennol er gwrachod lles y preswylwyr. Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb
priodol gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau. Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant
mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a
Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau. Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed
Chwefror 2020 yn parhau ac yn cael ei
gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr Cofnod: Bu i’r Cadeirydd
nodi ei fod wedi cytuno mater brys i’w drafod. Roedd yn fodlon fod y cyd destun
yn golygu fod angen ystyried y mater yn y cyfarfod yma. Bu i’r aelodau
bleidleisio ar y penderfyniad i gau y allan y wasg a’r cyhoedd gan fod yr eitem
yn eithriedig. EITEM FRYS - SEFYLLFA
CARTREF Cyflwynwyd
yr ardoddiad gan Cyng. Dafydd Meurig yn adrodd ar yr amgylchiadau oedd yn
bodoli a’r opsiynnau ar gyfer ymateb. Rhoddwyd ystyriaeth i rol budd-ddeiliaid
a rol posib y Cyngor yn y sefyllfa. PENDERFYNIAD Datganwyd
parodrwydd y Cabinet i ariannu ymyrraeth
yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref
gofal dros y cyfnod heriol presennol
er gwrachod lles y preswylwyr. Nodwyd fod y
penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau. Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno
telerau. Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed
Chwefror 2020 yn parhau ac yn cael ei
gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
Penderfyniad: Penderfynwyd
comisiynu’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl i ystyried y canlynol - ¾ Y meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn nhermau'r hyn sy’n
bwysig i bobl Gwynedd yn y meysydd hynny y mae’r byrddau yn gyfrifol amdanynt,
gan gadw golwg ar y cyfeiriad yr oedd y byrddau eisoes yn ei ystyried cyn i’r
argyfwng godi; ¾ pa weithrediadau sydd angen eu cyflawni yn y meysydd hynny yn y
tymor byr a’r tymor canolig ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion, ¾ Yn unol â Chynllun Cydraddoldeb y Cyngor ein bod yn rhoi
ystyriaeth i anghenion grwpiau nodedig wrth wneud penderfyniadau yn y maes
adfer. Comisiynu’r
Grŵp Rheoli i ystyried pa faterion corfforaethol sydd angen ystyriaeth yn
y tymor byr a’r tymor canolig wrth i ni symud ymlaen at y “normal newydd” ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet os cyfyd yr
angen am benderfyniad fel yn berthnasol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams PENDERFYNIAD Penderfynwyd comisiynu’r Bwrdd
Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl i ystyried y canlynol - ¾ Y meysydd y dylid rhoi
blaenoriaeth iddynt yn nhermau'r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd yn y meysydd
hynny y mae’r byrddau yn gyfrifol amdanynt, gan gadw golwg ar y cyfeiriad yr
oedd y byrddau eisoes yn ei ystyried cyn i’r argyfwng godi; ¾ pa weithrediadau sydd angen eu
cyflawni yn y meysydd hynny yn y tymor byr a’r tymor canolig ac i adrodd yn ôl
i’r Cabinet gydag argymhellion, ¾ Yn unol â Chynllun Cydraddoldeb
y Cyngor ein bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion grwpiau nodedig wrth wneud
penderfyniadau yn y maes adfer. Comisiynu’r Grŵp Rheoli i
ystyried pa faterion corfforaethol sydd angen ystyriaeth yn y tymor byr a’r
tymor canolig wrth i ni symud ymlaen at y “normal newydd” ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet os cyfyd yr
angen am benderfyniad fel yn berthnasol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod llawer o wersi i’w dysgu yn dilyn y cyfnod hwn a heriau
mawr yn parhau os yw cyfyngiadau yn parhau. Nodwyd er bod y Cyngor yn parhau i
geisio dygymod ag ymateb i’r argyfwng mae angen trafod adfer yn ogystal.
Pwysleisiwyd y bydd y daith yn hir ar gyfer symud ymlaen i gyfnod ‘normal’
newydd i rai adrannau ac efallai y bydd y ‘normal’ newydd yn gwbl wahanol i’r
gorffennol yn dilyn dysgu gwersi yn ystod y cyfnod argyfwng. Mynegwyd fod rhai
meysydd angen eu blaenoriaethu er mwyn cael ffocws penodol fel yr economi gan
fod trawiad mawr wedi bod i’r economi leol. Nodwyd y bydd y Llywodraeth yn
edrych ar ffordd ymlaen ond fod angen i’r Cyngor fod yn dylanwadau ar y
cynlluniau yma. Ychwanegwyd fod y Grŵp Ymateb i’r Haint rhanbarthol yn
creu Grŵp Cydlynu Adferiad rhanbarthol a fydd yn cyd-gordio gwaith adfer
ond pwysleisiwyd mai mater i sefydliadau unigol fyddai cymryd penderfyniadau ar
yr hyn y roeddent yn dymuno ei wneud.
Nodwyd fod y Grŵp Cydlynu wedi cyfarfod wythnos diwethaf ac wedi
sefydlu maes llafur ac amcanion yn ymwneud a sicrhau rhaglen adfer dros y
gogledd. Mynegwyd fod angen sicrhau bod dyheadau lleol a phwysleisiwyd yn hynny
o beth y bydd rôl benodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. . O ran Trefniadau
Gwynedd amlygwyd opsiynau gwahanol gan fynegi y buasai modd gofyn i’r byrddau
rhaglen adfywio a chefnogi pobl sydd wedi bod yn edrych ar drawsffurfio
gwasanaethau i feddwl beth sydd angen i’r Cyngor ei wneud i’w alluogi i ddod yn ôl i’r ‘normal’
newydd. Pwysleisiwyd y bydd hyn yn gyfle i’r byrddau ganolbwyntio ar feysydd
adfywio a chefnogi pobl ac yna adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn gwneud unrhyw
benderfyniadau. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod y cyfnod wedi bod yn heriol sydd wedi amlygu ffyrdd gwahanol
o weithio. Mynegwyd ei bod yn sylfaenol fod y cyngor yn nodi beth sydd wedi ei
ddysgu a beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn y ‘normal’ newydd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ARGYFWNG COVID-19 : SEFYLLFA'R ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 117 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Penderfyniad: I nodi
a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD I nodi a derbyn y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer
o gartrefi preswyl wedi cael achosion uchel o’r haint Covid-19. Pwysleisiwyd
fod yr adran wedi bod yn awyddus i fod yn agored a tryloyw ond fod canllawiau
cenedlaethol wedi rhwystro'r adran i fod mor agored am rai achosion ar
ddechrau’r cyfnod argyfwng. Nodwyd yn ogystal ar ddechrau’r argyfwng fod
cael offer PPE wedi bod yn broblem ond bellach fod yr adran, gyda chymorth yr
Adran Tai ac Eiddo, a threfn gadarn yn ei le. O ran profi nodwyd ei bod wedi
cymryd amser i gael trefniadau yn ei lle gan fod derbyn y canlyniad wedi bod yn
broblem ar ddechrau’r argyfwng. Ychwanegwyd yn benodol wrth edrych ar gartrefi
gofal ble roedd profion preswylwyr a staff yn cael ei gwneud drwy ddwy drefn
wahanol. Bellach mae’r trefniadau yma wedi ei haddasu a pryderon yn lleihau.
Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod. Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion fod
pethau’n newid yn aml ond fod Gwynedd yn un o’r Cynghorau cyntaf i nodi nifer
uchel o achosion mewn cartrefi preswyl. Pwysleisiwyd fod angen bod yn hynod
wyliadwrus o’r cyfnod i ddod. Ychwanegwyd fod niferoedd sydd yn cael ei
chyfeirio at yr adran yn prysur ddod yn ôl i’r arferol yn dilyn cwymp yn ystod
y cyfnod ble mae’r cyfyngiadau wedi bod yn eu lle. Pwysleisiwyd fod staff wedi
sicrhau fod trefniadau mewn lle i ymateb i achosion ac mae staff wedi bwrw ati
i sicrhau fod gwasanaethau yn parhau. Ategwyd ei bod wedi bod yn gyfnod hir
gyda llawer o staff heb gymryd gwyliau ac mae y bydd hyn yn effeithio ar
unigolion. Wrth gynllunio ymlaen, nododd fod llawer o wersi wedi ei dysgu mewn
cyfnod byr o amser ac y bydd angen parhau i weithio'r un modd mewn rhai
achosion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i’w gwasanaeth am ei gwaith caled yn ystod y cyfnod y benodol
y staff rheng flaen. ¾ Diolchwyd am
gyfeirio at straen ar staff gan ei fod wedi bod yn straen ar bawb o fewn y sir.
Holwyd os bydd gwaith iechyd meddwl yn cael ei uchafu. Nodwyd nad yw’r adran ar
hyn o bryd yn ymwybodol o faint y gwaith
iechyd meddwl fydd angen ei wneud ond fod y gwasanaeth yn ceisio creu
rhwydweithiau a rhoi arweiniad i bobl mewn cyfnod anodd ond maent yno gystal yn
ymwybodol o’r heriau mawr fydd o’i blaenau. ¾ Diolchwyd yn
ogystal i staff gofal yn y sector breifat gan nodi fod y cyswllt rhwng cartrefi
preswyl preifat a’r Cyngor wedi gwella yn ystod y cyfnod gyda sgyrsiau parhaus
yn digwydd a gwybodaeth gadarn yn cael ei rannu. Ychwanegwyd fod manteision
wedi amlygu o ddatblygu’r berthynas fel mwy o gefnogaeth ar gael i ymateb i’r
argyfwng. ¾ Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei diolch i’r staff o fewn yr adran, yn y sector breifat ynghyd ag adrannau eraill o fewn y Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Aled Davies |